Ar ôl i chi gael eich diswyddo
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Yn aml, dod o hyd i swydd newydd cyn gynted â phosibl yw’r ffordd orau o symud ymlaen ar ôl cael eich diswyddo.
Os oedd eich diswyddiad yn wirioneddol annheg, efallai y gallwch chi fynd â’ch cyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth. Ewch i weld a oedd eich diswyddiad yn annheg.
Efallai na fydd gennych chi lawer o arian am gyfnod felly dylech chi holi a oes gennych chi hawl i fudd-daliadau a dylech chi gael cyngor ar reoli unrhyw ddyledion sydd gennych.
Gall cael eich diswyddo cael effaith emosiynol fawr, felly mae hefyd yn bwysig cael cymorth gan deulu a ffrindiau, neu hyd yn oed gan eich meddyg teulu.
Gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael yr holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddyn nhw
Pan fyddwch yn cael eich cyflog terfynol, gwnewch yn siŵr bod y canlynol gennych:
yr holl gyflog a oedd yn ddyledus i chi
unrhyw ‘dâl yn lle rhybudd’ os nad ydych chi’n gweithio’ch cyfnod rhybudd llawn
tâl am unrhyw wyliau na wnaethoch chi eu cymryd cyn i chi gael eich diswyddo
unrhyw fonws, comisiwn neu dreuliau y mae gennych chi hawl iddynt
Os cawsoch chi unrhyw fuddiannau megis car cwmni neu ffôn ac roedd gennych chi ganiatâd i’w defnyddio at ddibenion personol, mae gennych chi hawl i’w cadw tan ddiwedd eich cyfnod rhybudd. Os oeddent i’w defnyddio at ddibenion gwaith yn unig ac nad ydych chi’n gweithio eich cyfnod rhybudd (a elwir yn ‘absenoldeb garddio’), rhaid i chi eu rhoi’n ôl ar unwaith.
Darllenwch fwy am gael eich talu pan fyddwch yn gadael eich swydd.
Dod o hyd i swydd newydd
Fel arfer, dod o hyd i swydd newydd yw’r ffordd orau o roi hwb i’ch hyder ac atal unrhyw bryderon ariannol.
Yn aml, mae’n gynt dod o hyd i swyddi dros dro ac efallai na fydd cyflogwr newydd yn gofyn pam y daeth eich swydd ddiwethaf i ben.
Gallwch chi ddefnyddio’r gwasanaeth Dod o hyd i swydd ar GOV.UK i chwilio am swydd newydd.
Mae’n bosibl y gallwch chi gael rhywfaint o arian i’ch helpu i ddod o hyd i swydd newydd. Darllenwch fwy am grantiau Mynediad i Waith ar gyfer pobl ag anabledd, cyflwr iechyd neu gyflwr iechyd meddwl.
Esbonio’ch diswyddiad i gyflogwr newydd
Mae’n well bod yn onest gyda chyflogwr newydd os ydyn nhw’n gofyn pam eich bod wedi gadael rôl.
Os ydynt yn gwybod eich bod wedi cael eich diswyddo am berfformiad gwael neu am ‘gamymddwyn’ (pan fydd eich cyflogwr yn dweud eich bod wedi gwneud rhywbeth o’i le), mae perygl na fyddant yn cynnig swydd i chi.
Ond os nad ydych yn rhoi gwybod iddynt beth yw’r gwir reswm dros eich diswyddo a’u bod yn cael gwybod yn ddiweddarach, gallech chi golli’ch swydd.
Meddyliwch yn ofalus am sut i esbonio’r sefyllfa – cadwch eich esboniad mor fyr a phroffesiynol â phosibl.
Cael geirda
Does dim rhaid i’ch hen gyflogwr roi geirda i chi - ond os ydych chi’n cael un, rhaid iddo fod yn onest ac yn deg.
Efallai bydd yr eirda a roddir i chi yn un gwael os cawsoch chi eich diswyddo am berfformiad gwael neu am gamymddwyn. Mae hyn oherwydd y gall eich hen gyflogwr cael ei erlyn os na fydd yn sôn am rywbeth amdanoch chi sy’n achosi problemau i gyflogwr newydd yn nes ymlaen.
Os ydych chi’n poeni am gael geirda gwael, gallwch chi ofyn i’ch hen gyflogwr am eirda sylfaenol - dim ond teitl eich swydd, eich cyflog a dyddiadau eich cyflogaeth y mae hwn yn ei roi. Mae llawer o gyflogwyr yn gwneud hyn, felly ni fydd yn edrych yn rhyfedd i gyflogwr newydd.
Darllenwch fwy am eich hawl i gael cyfeirnod teg a chywir ar GOV.UK.
Hawlio budd-daliadau
Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio budd-daliadau, fel Credyd Cynhwysol, tra byddwch chi’n chwilio am swydd newydd. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael mwy o arian o’r budd-daliadau yr ydych chi eisoes yn eu cael, er enghraifft:
Credyd Cynhwysol
Budd-dal Tai
Gostyngiad Treth Cyngor
Lwfans Ceisio Gwaith
credydau treth
Gweld pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael.
Os ydych chi’n cael eich diswyddo am gamymddwyn, mae’n bosibl y caiff eich budd-daliadau eu dal yn ôl am 13 wythnos neu hyd yn oed yn hirach mewn rhai achosion. Gelwir hyn yn ’sancsiwn ar fudd-daliadau’.
The rules about benefit sanctions are complicated so contact your nearest Citizens Advice immediately if you’re worried your benefits might be sanctioned.
Gall cynghorwr eich helpu i wneud cais am daliad caledi neu’ch helpu i herio’ch sancsiwn. Ewch i weld beth allwch chi ei wneud os bydd sancsiwn yn cael ei rhoi arnoch chi wrth gael Credyd Cynhwysol.
Darllenwch fwy am fanciau bwyd a help brys arall sydd gael i chi os bydd eich budd-daliadau yn cael eu dal yn ôl.
Hawlio ad-daliad treth
Os bydd eich incwm yn gostwng oherwydd eich bod yn ddi-waith am gyfnod, mae’n debyg y byddwch yn talu llai o dreth. Efallai y cewch chi ad-daliad treth hyd yn oed.
Mae gan GOV.UK ragor o wybodaeth am sut i hawlio ad-daliad treth.
Cael cyngor am ddyledion
Dylech chi gael cyngor ar unwaith am unrhyw ddyledion sydd gennych chi eisoes.
Ewch i’n tudalen help gyda dyled, neu sgwrsiwch â ni ar-lein am ddyled.
Os ydych chi’n poeni am fynd i ddyled, defnyddiwch adnodd cyllidebu i weld yn union faint o arian rydych chi’n ei wario bob mis.
Newid gyrfa
Gallwch chi gael cyngor gan Gyrfa Cymru os ydych chi am gael cymhwyster newydd neu os ydych chi am gael newid gyrfa, megis dechrau busnes eich hun.
Gyrfa Cymru
Gwefan: gyrfacymru.llyw.cymru
Ffôn: 0800 100 900
Ar agor rhwng 9am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener
Efallai y gallwch chi gael help i dalu am hyfforddiant a chymwysterau. Darllenwch fwy ar GOV.UK am:
grantiau a bwrsarïau - i helpu i dalu am gyrsiau a hyfforddiant
benthyciadau myfyrwyr - i’ch helpu i dalu am radd
Cael help os ydych chi’n cael trafferth ymdopi â’ch diswyddiad
Gall cael eich diswyddo beri gofid a straen, yn enwedig os cafodd y broses ei thrin yn wael.
Os ydych chi’n cael trafferth ymdopi gyda’ch diswyddiad, siaradwch â’ch meddyg teulu - efallai y byddant yn gallu cynnig cymorth neu eich cyfeirio at wasanaeth cwnsela am ddim.
Gallwch chi hefyd ffonio llinell gymorth am ddim y Samariaid - gallwch chi siarad â’u gwirfoddolwyr hyfforddedig am unrhyw beth.
Y Samariaid
Ffôn: 116 123
E-bost: jo@samaritans.org
Ar agor 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn. Mae galwadau am ddim o bob ffôn symudol a llinell dir.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.