Cymryd eich tâl gwyliau

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Fel arfer gallwch chi gymryd eich gwyliau pryd bynnag y dymunwch, ond mae rhai camau y bydd angen i chi eu dilyn i'w trefnu gyda'ch cyflogwr. I gymryd eich gwyliau, bydd angen i chi

  • gweld pryd y gallwch chi eu cymryd

  • rhoi'r maint cywir o rybudd i'ch cyflogwr - mae hynny'n golygu rhoi digon o rybudd ymlaen llaw iddyn nhw wybod pryd rydych chi am gymryd eich gwyliau

Os nad ydych chi'n siŵr a oes gennych chi hawl i wyliau â thâl, gallwch chi weld a ydych chi'n gymwys yma.

Ewch i weld pryd y gallwch gymeryd eich gwyliau

Bydd yn rhaid i chi edrych i weld:

  • pryd mae eich ‘blwyddyn gwyliau’ yn dechrau ac yn gorffen - dyma’r flwyddyn y mae’n rhaid i chi gymryd eich gwyliau ynddi

  • a yw eich cyflogwr wedi dweud bod yn rhaid i chi gymryd gwyliau ar amser penodol

Ewch i weld pryd mae eich blwyddyn gwyliau yn dechrau ac yn gorffen

Blwyddyn gwyliau yw'r flwyddyn y mae'n rhaid i chi gymryd eich gwyliau ynddi. Efallai na fydd yr un fath â'r flwyddyn galendr. Er enghraifft, gallai redeg o Ebrill y 1af un flwyddyn tan Fawrth 31ain y flwyddyn ganlynol. Fel arfer, mae'n rhaid i chi ddefnyddio'ch hawl i wyliau yn y flwyddyn wyliau sy’n berthnasol iddo. 

Gall eich cyflogwr wrthod eich cais am wyliau os ydych chi wedi defnyddio'ch holl hawl i wyliau ar gyfer y flwyddyn wyliau honno. 

Ewch i ddarllen eich cytundeb i ddarganfod beth yw eich blwyddyn wyliau. Os nad yw yn eich cytundeb, edrychwch ar fewnrwyd eich cwmni, neu gofynnwch i'ch adran Adnoddau Dynol. Gallai'r flwyddyn wyliau hefyd fod ym mholisi gwyliau eich cwmni neu mewn cytundeb sy'n cwmpasu eich gweithle. 

Os nad oes dim am eich blwyddyn wyliau yn eich cytundeb neu gytundeb gweithle, mae'n dechrau:

  • ar y diwrnod y dechreuoch weithio i'ch cyflogwr ac ar ben-blwydd y diwrnod hwnnw ym mhob blwyddyn ar ôl hynny

  • ar Hydref y 1af os dechreuoch weithio i'ch cyflogwr ar neu cyn Hydref y 1af 1998

Os ydych chi'n agosáu at ddiwedd y flwyddyn gwyliau

Efallai y byddwch yn colli eich gwyliau os nad ydych wedi rhoi digon o rybudd i gymryd y gwyliau sy'n weddill ganddoch cyn diwedd y flwyddyn wyliau. Gallwch ofyn amdano, ond nid oes rhaid i'ch cyflogwr ganiatáu i chi ei gymryd.

Os nad ydych wedi cymryd eich gwyliau oherwydd bod eich cyflogwr wedi gwrthod eich ceisiadau dro ar ôl tro, rydych yn debygol o fod mewn sefyllfa gryfach na phetaech heb fod yn ddigon trefnus i archebu eich gwyliau mewn digon o bryd.

Ceisiwch drafod gyda'ch cyflogwr - os na fyddan nhw yn gadael i chi gymryd y gwyliau cyfan, efallai y byddan nhw yn gadael i chi gario rhywfaint o wyliau drosodd i'ch blwyddyn wyliau nesaf.

Os na allwch chi gymryd eich holl wyliau yn ystod y flwyddyn wyliau

Edrychwch ar eich cytundeb neu bolisi gwyliau eich cyflogwr i weld beth mae'n ei ddweud am gario gwyliau drosodd o un flwyddyn wyliau i'r llall. Os nad oes dim yno, ni allwch gario’r gwyliau drosodd onibai:

  • eich bod ar absenoldeb salwch

  • eich bod ar absenoldeb statudol - fel cyfnod mamolaeth

  • na wnaeth eich cyflogwr eich annog i gymryd eich gwyliau

  • nad yw eich cyflogwr wedi caniatáu i chi gymryd gwyliau â thâl

  • nid yw eich cyflogwr wedi caniatáu ichi gymryd gwyliau â thâl

Os yw un o'r eithriadau hyn yn berthnasol, efallai y byddwch yn gallu defnyddio'ch gwyliau yn eich blwyddyn gwyliau nesaf - gelwir hyn yn 'gario eich gwyliau drosodd'.

Os oeddech ar wyliau statudol, gallwch gario drosodd hyd at 5.6 wythnos. Os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu ddim ond am ran o'r flwyddyn yn unig, gallwch gario drosodd yr holl wyliau rydych chi wedi'u casglu.

Os oeddech chi ar absenoldeb salwch, gallwch gario drosodd hyd at 4 wythnos. Os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu am ran o'r flwyddyn yn unig, gallwch gario drosodd hyd at 5.6 wythnos. Rhaid i chi ddefnyddio'r gwyliau hyn o fewn 18 mis o ddechrau'r flwyddyn wyliau newydd. Os na wnewch chi, byddwch chi'n eu colli.

Os wnaeth eich cyflogwr chi eich atal rhag cymryd gwyliau, gallwch gario drosodd hyd at 4 wythnos. Os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu am ran o'r flwyddyn yn unig, gallwch gario drosodd hyd at 5.6 wythnos. Gallwch gario'ch gwyliau drosodd i flynyddoedd gwyliau yn y dyfodol nes bod eich cyflogwr yn caniatáu ichi eu defnyddio.

Ewch i weld a yw eich cyflogwr wedi dweud pryd y dylech chi gymryd gwyliau

Gall eich cyflogwr ddweud fod yn rhaid i chi gymryd eich gwyliau ar amser penodol. Er enghraifft:

  • gallent ddweud yn eich cytundeb pryd y gallwch chi gymryd gwyliau - fel yn ystod gwyliau ysgol os ydych chi'n athro/athrawes

  • gallent ddweud wrthych chi am gymryd gwyliau pan fydd y gweithle ar gau - fel adeg y Nadolig

  • gallent ddweud wrthych chi am gymryd gwyliau os nad ydych chi wedi cymryd digon – er enghraifft, os yw'n agos at ddiwedd y flwyddyn wyliau a bod gennych chi wyliau i'w cymryd o hyd

Rhaid i'ch cyflogwr roi rhybudd i chi os ydyn nhw eisiau i chi gymryd eich gwyliau. Rhaid i'r rhybudd fod o leiaf ddwywaith hyd y gwyliau maen nhw eisiau i chi eu cymryd. Er enghraifft, os ydyn nhw eisiau cau am wythnos dros y Nadolig rhaid iddyn nhw roi o leiaf bythefnos o rybudd.

Efallai bod yr hysbysiad eisoes yn eich cytundeb - er enghraifft, gallai ddweud bod y cwmni ar gau ar wyliau cyhoeddus.

Edrychwch faint o rybudd sydd angen i chi ei roi

Ar ôl i chi weld os oes gennych chi wyliau ar gael i'w cymryd, mae angen i chi roi'r cyfnod cywir o rybudd i'ch cyflogwr. 

Gall y cyfnod cywir o rybudd y mae'n rhaid i chi ei roi fod yn eich cytundeb, ym mholisi gwyliau eich cyflogwr neu yng nghytundeb eich gweithle.

Os nad ydyw, mae'r rhybudd y mae'n rhaid i chi ei roi yn ddwywaith hyd y gwyliau yr hoffech eu cymryd. Er enghraifft, os ydych chi am gymryd wythnos o wyliau, mae'n rhaid i chi roi pythefnos o rybudd i'ch cyflogwr. 

Gallwch holi eich cyflogwr sut i ofyn am absenoldeb. Mae'n well os oes cofnod o bryd y gwnaethoch chi roi eich rhybudd, i osgoi unrhyw anghydfod yn ddiweddarach. Os byddwch chi'n gwneud cais trwy system electronig, bydd hynny'n cofnodi pryd y gwnaethoch chi eich cais. Fel arall, gwnewch eich cais yn ysgrifenedig.

Os yw eich cyflogwr wedi gwrthod eich cais am wyliau

Nid oes rhaid i'ch cyflogwr adael i chi gymryd eich gwyliau pryd bynnag y dymunwch chi. Fe allan nhw wrthod - er enghraifft, os bydd prinder staff neu os ydych chi eisoes wedi archebu'ch holl wyliau ar gyfer y flwyddyn wyliau honno. Rhaid iddyn nhw roi rhybudd i chi os ydynt yn gwrthod eich cais.

Edrychwch i weld os yw eich cyflogwr wedi gwrthod eich cais mewn pryd

Rhaid i'ch cyflogwr roi o leiaf yr un faint o rybudd i chi â hyd y gwyliau rydych chi am eu cymryd. 

Os na wnânt hynny, mae gennych hawl i gymryd y gwyliau a chael eich talu amdano. Dylech esbonio wrthynt eich bod chi'n meddwl bod gennych chi hawl i'r gwyliau oherwydd eich bod chi wedi rhoi'r rhybudd cywir, ac o’r farn nad ydyn nhw wedi rhoi'r rhybudd cywir i’w wrthod. 

Gwnewch yn siŵr eu bod nhw'n gwybod eich bod chi'n cymryd gwyliau. Os ydych chi'n iawn, mae'n rhaid iddyn nhw eich talu am y gwyliau, ac ni ddylent eich cosbi mewn unrhyw ffordd am eu cymryd - ond fe allai effeithio ar eich perthynas waith.

Enghraifft

Mae Mee eisiau cymryd wythnos o wyliau ac mae'n rhoi rhybudd o bythefnos i'w chyflogwr. Mae ei chyflogwr yn gwrthod y cais hwnnw oherwydd y bydd prinder staff. Rhaid iddynt wrthod ei chais o leiaf wythnos cyn iddi gynllunio mynd ar wyliau.

Siaradwch gyda'ch cyflogwr os ydyn nhw yn gwrthod gadael i chi gymryd gwyliau. Efallai y byddwch chi'n gallu dod i gytundeb. 

Peidiwch â mynd ar wyliau os yw'ch cyflogwr yn gwrthod eich cais ac wedi rhoi'r rhybudd cywir i chi - bydd hyn yn gamymddwyn os gwnewch chi hynny.

Os yw'ch cyflogwr yn parhau i wrthod eich cais am wyliau

Gall eich cyflogwr wrthod eich cais am wyliau os ydyn nhw'n rhoi'r rhybudd cywir i chi. Os ydyn nhw'n parhau i wrthod a hynny’n eich atal rhag cymryd eich gwyliau, mae'n werth siarad â nhw i ddarganfod pam. Darllenwch fwy am ddatrys problem gyda'ch cyflogwr yn uniongyrchol. Os na allwch chi, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Os ydyn nhw'n parhau i wrthod eich cais fel na allwch chi gymryd eich gwyliau yn y flwyddyn wyliau gyfredol, gallwch chi wneud honiad eu bod nhw wedi gwrthod caniatáu i chi gymryd gwyliau. Byddai'n rhaid i chi gychwyn cymodi buan o fewn 3 mis namyn un diwrnod o'r dyddiad yr oeddech chi eisiau i'ch gwyliau ddechrau.

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu gwneud hawliad am wahaniaethuos ydych chi'n meddwl bod y rheswm maen nhw wedi gwrthod eich cais am wyliau yn wahaniaethol - fel pe bae nhw wedi eich trin yn annheg neu'n wahanol oherwydd eich hil. Gallwch chi fynd i weld os yw’r broblem yn achos o wahaniaethu

Efallai y byddwch chi’n gallu defnyddio’ch gwyliau mewn blynyddoedd gwyliau yn y dyfodol - gelwir hyn yn ‘gario’ch gwyliau drosodd’. Fel arfer gallwch chi gario hyd at 4 wythnos o wyliau drosodd. Os ydych chi’n gweithio oriau afreolaidd neu am ran o’r flwyddyn yn unig, gallwch chi gario hyd at 5.6 wythnos drosodd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 26 Gorffennaf 2019