Edrych i weld eich bod wedi cael swm cywir eich tâl gwyliau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Yr enw am y gwyliau â thâl y mae’r gyfraith yn nodi bod gennych chi yr hawl i’w gael yw’r ‘gwyliau â thâl statudol’. Am bob wythnos o wyliau â thâl statudol yr ydych chi’n ei chymryd, bydd gennych yr hawl i gael wythnos o dâl.
Bydd y swm y byddwch yn ei gael pan fyddwch ar wyliau yn dibynnu:
a ydych chi’n gweithio oriau sefydlog
a ydych chi’n cael yr un swm bob wythnos o ran tâl
Mae ‘oriau sefydlog’ yn golygu nifer benodedig yr oriau yr ydych chi wedi cytuno y byddwch yn eu gweithio – er enghraifft, 8 awr yr wythnos, 9am i 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, neu batrwm shifft gyda nifer benodedig o oriau.
Rydych chi’n gweithio oriau sefydlog ac yn cael yr un tâl bob wythnos
Dylech gael eich talu y swm yr ydych chi’n ei ennill fel arfer.
Nid oes gennych chi unrhyw oriau sefydlog neu rydych chi’n gweithio rhan o’r flwyddyn yn unig
Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi, er enghraifft, os ydych chi’n weithiwr dim oriau neu os ydych chi’n gweithio yn ystod y tymor ysgol yn unig.
Efallai y bydd eich cyflogwr:
yn eich talu chi pan fyddwch yn cymryd gwyliau
ddim yn talu unrhyw beth i chi pan fyddwch yn cymryd gwyliau, ond yn talu ‘tâl gwyliau cyfunol’ i chi yn lle hynny
Os bydd eich cyflogwr yn talu tâl gwyliau cyfunol i chi, byddwch yn cael 12.07% ychwanegol ar ben eich cyflog arferol bob diwrnod cyflog.
Os byddwch yn cael eich talu pan fyddwch yn cymryd gwyliau
Byddwch yn cael swm cyfartalog o’r hyn yr ydych chi wedi’i ennill yn ystod y 52 wythnos ddiwethaf.
Adiwch eich tâl am y 52 wythnos flaenorol – gan gynnwys unrhyw oramser, comisiwn neu daliadau bonws a gawsoch yn ystod y cyfnod hwnnw. Yna, rhannwch hwnnw gyda 52 er mwyn cael swm eich tâl wythnosol cyfartalog.
Dim ond wythnosau pan oeddech chi wedi gweithio y dylech chi eu defnyddio. Os na wnaethoch chi weithio yn ystod un o’r 52 wythnos ddiwethaf, dylech gyfrif yn ôl wythnos arall, fel bod gennych chi 52 wythnos at ei gilydd. Y pellaf yn ôl y gallwch ei gyfrif yw 104 wythnos.
Os byddwch chi wedi gweithio llai na 52 wythnos, dylech rannu’r swm yr ydych chi wedi’i ennill gyda nifer yr wythnosau yr ydych chi wedi gweithio. Er enghraifft, os weithioch chi 25 wythnos, dylech rannu’r swm yr ydych chi wedi’i ennill gyda 25 er mwyn cael eich tâl wythnosol cyfartalog.
Os byddwch yn cael tâl gwyliau cyfunol
Dim ond os oedd blwyddyn wyliau bresennol wedi cychwyn ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024 y gall eich cyflogwr ddefnyddio tâl gwyliau cyfunol. Eich blwyddyn wyliau yw’r flwyddyn pan fydd yn rhaid i chi gymryd eich gwyliau.
Bydd swm y tâl gwyliau cyfunol y byddwch yn ei gael yn dibynnu faint y byddwch yn ei ennill yn ystod pob ‘cyfnod tâl’. Cyfnod tâl yw pa mor aml yr ydych yn cael eich talu – er enghraifft, bob wythnos neu bob mis.
Er mwyn cyfrifo faint o dâl gwyliau y dylech ei gael ar gyfer cyfnod tâl penodol, dylech luosi’r swm yr oeddech wedi ei ennill gyda 12.07%.
Mae Ali yn gweithio oriau afreolaidd ac roedd ei blwyddyn wyliau wedi cychwyn ar 1 Ebrill 2024. Mae ei chyflogwr yn defnyddio tâl gwyliau cyfunol. Mae’n cael ei thalu unwaith y mis.
Talwyd £1,000 i Ali fis diwethaf. £1,000 x 12.07% yw £120.70. Dylai hi gael £120.70 fel tâl gwyliau cyfunol am y mis.
Y mis hwn, mae Ali yn cael ei thalu £800. £800 x 12.07% yw £96.56. Dylai hi gael £96.56 fel tâl gwyliau cyfunol y mis hwn.
Rydych chi’n gweithio oriau sefydlog ond mae eich tâl yn amrywio oherwydd goramser, comisiwn neu daliadau bonws
Dylai eich tâl gwyliau fod yr un peth ag yr ydych yn ei ennill fel arfer gan gynnwys unrhyw oramser, comisiwn neu daliad bonws yr ydych yn ei gael.
Nid yw hi’n debygol y bydd gwneud goramser ddwywaith mewn 6 mis yn ddigon rheolaidd. Ond os byddwch chi wedi gwneud gwaith goramser yn ystod 5 o’r 8 wythnos ddiwethaf, efallai y bydd.
Nid oes ffordd benodedig o gyfrifo faint i’w gynnwys os yw eich goramser, eich comisiwn neu eich taliad bonws yn wahanol bob wythnos.
Dechreuwch trwy gyfrifo faint oedd eich tâl wythnosol cyfartalog dros y 52 wythnos ddiwethaf. Adiwch eich tâl am y 52 wythnos flaenorol – gan gynnwys unrhyw oramser, comisiwn neu daliadau bonws a gawsoch yn ystod y cyfnod hwnnw. Yna rhannwch hwnnw gyda 52 er mwyn cael eich tâl cyfartalog wythnosol.
Os nad ydych chi’n credu bod y swm tua’r un peth ag y byddech wedi ei ennill pe na baech ar wyliau, gofynnwch i’ch cyflogwr ddefnyddio’r cyfartaledd am gyfnod gwahanol. Yr amser pellaf yn ôl y gallwch fynd i ddod o hyd i gyfnod gwahanol yw 104 wythnos.
Rhaid i’ch cyflogwr gynnwys goramser, comisiwn neu daliadau bonws am 4 wythnos gyntaf eich tâl gwyliau. Bydd eich tâl gwyliau am yr 8 diwrnod sy’n weddill yn cael ei dalu ar eich cyfradd sylfaenol.
Mae gennych chi oriau gwaith sefydlog ond mae eich tâl yn amrywio oherwydd eich bod yn gweithio oriau gwahanol
Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi os ydych chi’n gweithio shifftiau neu os ydych ar rota.
Dilynwch y camau hyn i weld faint o dâl gwyliau y dylech ei gael:
Cam 1: adiwch eich tâl am y 52 wythnos flaenorol – gan gynnwys unrhyw oramser, comisiwn neu daliadau bonws a gawsoch yn ystod y cyfnod hwnnw. Yna rhannwch hwnnw gyda 52 er mwyn cael eich tâl cyfartalog wythnosol.
Cam 2: adiwch nifer yr oriau sefydlog a wnaethoch yn ystod y 52 wythnos ddiwethaf a rhannwch hwnnw gyda 52 er mwyn cael swm cyfartalog eich oriau wythnosol.
Cam 3: rhannwch yr ateb a gawsoch yn ystod Cam 1 gyda’r ateb a gawsoch ar gyfer Cam 2. Mae hyn yn rhoi eich tâl yr awr cyfartalog i chi.
Cam 4: lluoswch yr ateb a gawsoch yng Ngham 3 gyda nifer yr oriau gwyliau a gymroch. Bydd hyn yn rhoi’r swm y dylech gael eich talu am eich gwyliau.
Rydych yn gweithio oriau sefydlog ond mae eich tâl yn amrywio gan ddibynnu faint o waith yr ydych chi’n ei wneud
Efallai y bydd hyn yn berthnasol i chi os ydych chi’n gwneud ‘gwaith ar dasg’ – mae hyn yn golygu bod y swm y byddwch yn cael eich talu yn dibynnu ar sawl eitem neu dasg y byddwch yn eu cwblhau. Er enghraifft, os ydych chi’n gweithio mewn lle golchi ceir, ac rydych yn cael eich talu yn ôl faint o geir y byddwch yn eu golchi.
Dilynwch y camau hyn i weld faint o dâl gwyliau y dylech ei gael:
Cam 1: adiwch yr holl dâl a gawsoch yn ystod y 52 wythnos flaenorol.
Cam 2: rhannwch yr ateb a gawsoch yn ystod Cam 1 gyda 52. Mae hyn yn rhoi eich tâl wythnosol cyfartalog i chi.
Cam 3: rhannwch yr ateb a gawsoch yng Ngham 2 gyda’ch oriau gwaith sefydlog. Bydd hyn yn rhoi eich cyfradd yr awr gyfartalog i chi.
Cam 4: lluoswch yr ateb a gawsoch yng Ngham 3 gyda nifer yr oriau gwyliau a gymroch. Bydd hyn yn rhoi’r swm y dylech gael eich talu am eich gwyliau.
Os nad ydych chi wedi gweithio am 52 wythnos neu os nad oeddech chi wedi gweithio yn ystod pob wythnos o’r 52 wythnos flaenorol
Os nad ydych chi wedi gweithio am 52 wythnos eto, dylech gyfrifo cyfartaledd dros y cyfnod yr ydych chi wedi gweithio.
Os na wnaethoch weithio am wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos, defnyddiwch yr wythnos cyn hynny i fantoli’r gwahaniaeth. Er enghraifft, os oeddech chi i ffwrdd yn sâl neu os oes gennych chi gontract dim oriau ac ni roddwyd unrhyw waith i chi.
Y cyfnod pellaf yn ôl y gallwch fynd i chwilio am gyfnod hirach yw 104 wythnos.
Os oes angen help arnoch i gyfrifo eich tâl gwyliau, siaradwch gyda chynghorwr.
Os na fydd eich cyflogwr wedi talu swm cywir y tâl gwyliau i chi
Ceisio datrys y mater gyda’ch cyflogwr yn uniongyrchol, yw’r cam cyntaf y dylech ei gymryd, os allwch wneud hynny.
Bydd angen eich slipiau cyflog arnoch i brofi faint y talwyd i chi a thystiolaeth i gefnogi’ch honiad nad yw’r tâl gwyliau yn ddigon. Er enghraifft, os nad yw eich cyflogwr wedi cynnwys goramser yn y cyfrifiad, bydd angen i chi ddangos faint o oramser yr ydych chi wedi’i weithio.
Os bydd angen help arnoch i gael eich holl dâl gwyliau, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 26 Gorffennaf 2019