Edrych a oes gennych hawl i wyliau â thâl
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae gennych hawl i wyliau â thâl os ydych chi'n gyflogai neu'n weithiwr - gan gynnwys gweithiwr asiantaeth.
Efallai y byddwch chi'n gyflogai neu'n weithiwr hyd yn oed os yw'ch contract yn dweud eich bod chi'n hunangyflogedig. Nid oes gennych hawl i wyliau â thâl os ydych chi'n rhedeg busnes a’ch bod chi'n gweithio i gleient.
Os nad ydych chi'n siŵr os ydych chi'n gyflogai neu'n weithiwr, edrychwch ar eich statws cyflogaeth.
Edrych faint o wyliau â thâl y dylech eu cael
Os ydych chi'n gweithio oriau rheolaidd ar hyd y flwyddyn, mae'n rhaid i'ch cyflogwr roi 5.6 wythnos o wyliau i chi bob blwyddyn. Mae hyn yn cael ei alw’n 'hawl statudol'. Efallai y bydd eich cyflogwr yn rhoi mwy na hyn i chi ond mae i fyny iddyn nhw – edrychwch ar eich contract.
Os yw'ch contract yn rhoi mwy na 5.6 wythnos o wyliau i chi, y 5.6 wythnos gyntaf yw eich hawl statudol, mae unrhyw wyliau arall yn cael ei alw’n wyliau 'contractiol'.
Nid yw gwyliau banc yn ychwanegol at eich hawl statudol - gall eich cyflogwr ofyn i chi gymryd gwyliau banc i ffwrdd gan ddefnyddio'ch gwyliau â thâl. Edrychwch ar eich contract neu ar bolisi gwyliau eich cyflogwr i weld a ydych chi'n cael eich gwyliau banc yn ychwanegol at eich hawl gwyliau. Darllenwch fwy am weithio ar wyliau banc.
Os ydych chi'n gweithio'r un nifer o ddiwrnodau bob wythnos, mae 5.6 wythnos yn golygu eich bod yn cael y diwrnodau gwyliau canlynol y flwyddyn:
Diwrnodau rydych chi'n gweithio yr wythnos | Diwrnodau o wyliau â thâl y mae gennych hawl iddynt mewn blwyddyn |
---|---|
Diwrnodau rydych chi'n gweithio yr wythnos
5 neu fwy |
Diwrnodau o wyliau â thâl y mae gennych hawl iddynt mewn blwyddyn
28 |
Diwrnodau rydych chi'n gweithio yr wythnos
4 |
Diwrnodau o wyliau â thâl y mae gennych hawl iddynt mewn blwyddyn
22.4 |
Diwrnodau rydych chi'n gweithio yr wythnos
3 |
Diwrnodau o wyliau â thâl y mae gennych hawl iddynt mewn blwyddyn
16.8 |
Diwrnodau rydych chi'n gweithio yr wythnos
2 |
Diwrnodau o wyliau â thâl y mae gennych hawl iddynt mewn blwyddyn
11.2 |
Diwrnodau rydych chi'n gweithio yr wythnos
1 |
Diwrnodau o wyliau â thâl y mae gennych hawl iddynt mewn blwyddyn
5.6 |
Os ydych chi yn y lluoedd arfog, yr heddlu neu'r gwasanaethau amddiffyn sifil, bydd eich contract yn dweud wrthych faint o wyliau â thâl y byddwch chi'n ei gael. Mae gwasanaethau amddiffyn sifil yn cynnwys diffoddwyr tân a gwylwyr y glannau.
Os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu ran o'r flwyddyn yn unig
Efallai y bydd eich gwyliau â thâl yn anos ei gyfrifo.
Mae gennych hawl o hyd i gymryd gwyliau. Mae'n cael ei gyfrifo fel 12.07% o'r oriau rydych chi wedi gweithio mewn cyfnod cyflog - er enghraifft, bob mis. Mae hyn yn cael ei dalgrynnu i'r awr agosaf.
Mae Rowan yn cael ei dalu unwaith bob mis. Bu’n gweithio i'w gyflogwr am 100 awr y mis diwethaf. Cronnwyd 12 awr o wyliau ar gyfer y cyfnod cyflog hwn. Mae 100 x 12.07% yn 12.07 awr - mae hyn wedi'i dalgrynnu i 12 awr.
Os nad ydych chi'n siŵr faint o wyliau y dylech ei gael, gallwch ddefnyddio'r gyfrifiannell hawliau gwyliau ar GOV.UK.
Os dechreuodd eich blwyddyn wyliau bresennol ar neu ar ôl 1 Ebrill 2024, gall eich cyflogwr ddewis:
ei fod yn dal i’ch talu pan fyddwch chi'n mynd ar wyliau
peidio â’ch talu pan fyddwch chi'n mynd ar wyliau, ond ei fod yn talu 'tâl gwyliau cyfunol' yn lle hynny
Os yw'ch cyflogwr yn talu tâl gwyliau cyfunol i chi, byddwch yn cael 12.07% ychwanegol ar ben eich cyflog arferol bob diwrnod cyflog.
Gallwch weld a yw eich tâl gwyliau’n gywir.
Pryd y gallwch chi fynd ar eich gwyliau
Mae'n rhaid i chi gymryd eich gwyliau mewn cyfnod o'r enw 'blwyddyn wyliau'. Bydd eich contract neu ddatganiad ysgrifenedig yn dweud pryd y mae'n dechrau ac yn gorffen. Efallai na fydd yr un fath â'r flwyddyn galendr. Darllenwch fwy am flwyddyn wyliau.
Mae'n rhaid i chi hefyd roi rhybudd i'ch cyflogwr pryd rydych chi am fynd ar wyliau. Os ydych chi'n rhoi'r rhybudd cywir iddynt, gallwch gymryd cymaint o wyliau ag y mae gennych hawl i’w cymryd - oni bai eich bod wedi bod yn eich swydd am lai na blwyddyn. Darllenwch fwy am faint o rybudd y mae angen i chi ei roi i'ch cyflogwr.
Os ydych chi wedi dechrau eich swydd lai na blwyddyn yn ôl
Dim ond y gwyliau rydych chi wedi'u cronni ers i chi ddechrau eich swydd y gallwch chi eu cymryd fel gwyliau. Byddwch yn cronni hawl gwyliau ar gyfer pob mis rydych chi'n gweithio - mae hyn yn golygu os ydych chi wedi bod yn eich swydd am fis, gallwch gymryd 1/12fed o'ch hawl.
Os ydych chi wedi gweithio am ran o flwyddyn wyliau yn unig
Os ydych chi'n dechrau neu'n rhoi'r gorau i weithio hanner ffordd trwy flwyddyn wyliau, mae eich hawl gwyliau yn dibynnu ar faint o'r flwyddyn rydych chi wedi gweithio. Defnyddiwch y gyfrifiannell ar GOV.UK i weld faint o wyliau y mae gennych chi hawl i’w cymryd.
Os byddwch chi'n gadael eich swydd hanner ffordd trwy flwyddyn wyliau, mae gennych hawl i gael eich talu am unrhyw wyliau nad ydych wedi'u cymryd. Defnyddiwch y gyfrifiannell gwyliau ar GOV.UK i weithio allan faint o wyliau sy'n ddyledus i chi.
Os nad ydych chi'n cael eich talu amdano, dylech ysgrifennu at eich cyn-gyflogwr i ofyn amdano. Rhowch derfyn amser iddyn nhw dalu i chi - fel 2 wythnos.
Os nad ydyn nhw'n talu, cysylltwch â gwasanaethau camau cymodi cynnar Acas gan ddweud eich bod am wneud hawliad am dynnu swm anghyfreithlon o’ch cyflog. Rhaid i chi gysylltu ag Acas o fewn 3 mis (llai un diwrnod) o'r dyddiad y dylai eich cyn-gyflogwr fod wedi eich talu.
Os nad ydych wedi defnyddio'ch holl hawl i wyliau mewn blwyddyn wyliau
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi ddefnyddio eich hawl i wyliau yn y flwyddyn wyliau berthnasol. Mae yna eithriadau os nad ydych chi wedi gallu eu cymryd cyn diwedd y flwyddyn wyliau:
am eich bod wedi bod ar absenoldeb statudol - fel absenoldeb mamolaeth
am nad yw eich cyflogwr wedi eich annog i gymryd eich gwyliau
am nad yw'ch cyflogwr wedi eich rhybuddio y byddwch chi'n colli'ch gwyliau os na fyddwch chi'n eu cymryd
bod eich cyflogwr wedi eich atal yn fwriadol rhag mynd ar wyliau - er enghraifft, trwy wrthod eich ceisiadau gwyliau dro ar ôl tro neu ddweud nad oedd gennych hawl iddynt
Os yw un o'r eithriadau hyn yn berthnasol, efallai y byddwch yn gallu cymryd eich gwyliau yn eich blwyddyn wyliau nesaf – 'cario drosodd' eich gwyliau yw’r enw ar hyn.
Os oeddech chi ar wyliau statudol, gallwch gario drosodd hyd at 5.6 wythnos. Os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu am ran o'r flwyddyn yn unig, gallwch gario drosodd yr holl wyliau rydych chi wedi'u cronni.
Os oeddech chi ar absenoldeb salwch, gallwch gario drosodd hyd at 4 wythnos. Os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu am ran o'r flwyddyn yn unig, gallwch gario drosodd hyd at 5.6 wythnos. Rhaid i chi gymryd y gwyliau hyn o fewn 18 mis o ddechrau'r flwyddyn wyliau newydd. Os nad ydych chi'n eu cymryd, byddwch chi'n eu colli.
Os yw'ch cyflogwr wedi eich atal rhag mynd ar wyliau, gallwch gario drosodd hyd at 4 wythnos. Os ydych chi'n gweithio oriau afreolaidd neu am ran o'r flwyddyn yn unig, gallwch gario drosodd hyd at 5.6 wythnos. Gallwch gario'ch gwyliau drosodd i flynyddoedd gwyliau yn y dyfodol nes bod eich cyflogwr yn gadael i chi eu cymryd.
Os yw'ch cyflogwr yn dweud nad oes gennych hawl i wyliau â thâl
Gallai hyn ddigwydd os yw'ch cyflogwr wedi dweud wrthych ar gam nad oes gennych hawl i unrhyw wyliau â thâl oherwydd eich bod yn hunangyflogedig ac nid yn gyflogai neu'n weithiwr.
Os ydych chi wedi cael eich galw'n hunangyflogedig ar gam, neu os yw'ch cyflogwr wedi eich atal rhag cymryd eich hawl gwyliau llawn, gallwch gymryd hyd at 4 wythnos o wyliau statudol yn y flwyddyn wyliau nesaf. 'Cario drosodd' eich gwyliau yw’r enw ar hyn. Os yw'ch cyflogwr yn dal i’ch atal rhag eu cymryd, gallwch barhau i gario hyd at 4 wythnos drosodd i'ch blynyddoedd gwyliau nesaf. Gallwch wneud hyn hyd yn oed os ydych chi wedi cymryd gwyliau di-dâl.
Os byddwch chi'n gadael eich swydd, mae gennych hawl i gael eich talu am unrhyw wyliau nad ydych wedi'u cymryd. Gall hyn gynnwys gwyliau rydych chi wedi'u cario drosodd o flynyddoedd gwyliau blaenorol.
Os na fydd eich cyflogwr yn eich talu am wyliau nad ydych wedi'u cymryd, siaradwch â chynghorwr.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 26 Gorffennaf 2019