Tâl mamolaeth - yr hyn y mae gennych hawl iddo

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae siawns dda y byddwch yn gallu cael tâl mamolaeth os ydych chi'n cael babi a bod gennych chi swydd neu oedd gennych chi swydd yn ddiweddar. Gallech chi gael un o’r canlynol:

  • tâl mamolaeth statudol: y math safonol o dâl mamolaeth - os oes gennych hawl i hwn, dyma’r isafswm cyfreithiol y gall eich cyflogwr ei dalu i chi

  • tâl mamolaeth contractiol: mae rhai cyflogwyr yn cynnig hwn yn hytrach na thâl mamolaeth statudol - dylai contract neu bolisi mamolaeth eich cwmni ddweud os yw hyn yn berthnasol i chi

  • Lwfans Mamolaeth: efallai y cewch y lwfans hwn gan y llywodraeth os na allwch chi gael tâl mamolaeth statudol gan eich cyflogwr

Byddai'r taliadau hyn yn ychwanegol at unrhyw absenoldeb mamolaeth a gewch chi.

Mae hefyd yn werth gweld pa gymorth a budd-daliadau eraill y mae gennych hawl iddyn nhw - fel Credyd Cynhwysol, cerdyn Cychwyn Iach a grant mamolaeth Cychwyn Cadarn. Gallwch hawlio rhai budd-daliadau fel Credyd Cynhwysol cyn i chi roi genedigaeth, felly mae'n werth holi cyn gynted ag y gallwch.

Gwiriwch pa gymorth allwch chi ei gael os ydych chi’n feichiog neu os oes gennych blentyn.

Pryd allwch chi gael tâl mamolaeth statudol

Dyma’r math o dâl mamolaeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei gael. Rhaid i'ch cyflogwr dalu hwn i chi os ydi’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi'n gweithio i'ch cyflogwr yn y 15fed wythnos cyn y disgwylir i'ch babi gael ei eni a'ch bod wedi gweithio iddo am o leiaf 26 wythnos cyn hynny

  • mae eich cyflog cyfartalog, cyn treth, yn o leiaf £125 yr wythnos

Mae eich cyflog cyfartalog yn cael ei gyfrifo dros 8 wythnos, gan orffen tua 15 wythnos cyn y disgwylir i'ch babi gael ei eni. Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi'n agos at yr isafswm cyflog a bod angen i chi gyfrifo'ch union gyfartaledd.

Os ydy busnes arall yn dod yn gyfrifol am fusnes eich cyflogwr, bydd eich wythnosau gwaith yn cynnwys amser yn gweithio i'r ddau gyflogwr.

Os oes gennych hawl iddo, edrychwch hefyd i weld sut i gael tâl mamolaeth statudol, gan gynnwys beth i'w wneud os na fydd eich cyflogwr yn talu.

Gwiriwch a allwch chi gael tâl mamolaeth statudol, absenoldeb mamolaeth neu Lwfans Mamolaeth

Gallwch chi  wirio a oes modd i chi gael absenoldeb neu dâl mamolaeth drwy ddefnyddio’r gyfrifiannell ar GOV.UK.

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell i wirio pa ddyddiadau y bydd angen i chi eu gweithio i gael tâl mamolaeth statudol.

Bydd y gyfrifiannell hefyd yn dweud wrthych a allwch chi gael absenoldeb neu dâl tadolaeth neu Lwfans Mamolaeth.

Bydd arnoch angen y wybodaeth ganlynol i ddefnyddio’r gyfrifiannell:

  • y dyddiad y disgwylir i’ch babi gael ei eni

  • eich statws cyflogaeth, er enghraifft 'cyflogai' neu 'weithiwr'

  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau gweithio yn eich swydd 

  • y dyddiad gorffen, os yw eich swydd wedi dod i ben

  • faint o gyflog rydych chi’n ei gael

Problemau cyffredin

Ymddiswyddo, cael eich diswyddo neu eich swydd yn cael ei dileu

Cyn belled â'ch bod eisoes yn gymwys i gael tâl mamolaeth statudol, byddwch yn dal i gael taliadau os byddwch yn gadael eich swydd. Does dim ots am y rheswm rydych chi’n gadael – mae’r un fath p’un ai ydych chi’n ymddiswyddo, yn cael eich diswyddo neu mae eich swydd yn cael ei dileu.

Gallai hyn fod yn wahanol os ydych chi’n cael tâl mamolaeth contractiol. Gwiriwch eich contract neu gofynnwch i'ch cyflogwr am fanylion.

Os byddwch yn gadael eich swydd yn rhy gynnar i gael tâl mamolaeth statudol, efallai y byddwch yn dal i allu cael Lwfans Mamolaeth.

Nid yw cyflogwr yn gallu eich diswyddo am fod yn feichiog

Ni chaiff eich cyflogwr eich diswyddo am unrhyw reswm sy'n ymwneud â'ch beichiogrwydd neu'ch absenoldeb mamolaeth. Os gwnân nhw hynny, byddai’n achos o ddiswyddo annheg ar sail gwahaniaethu.

Os yw eich cyflogwr yn eich diswyddo i osgoi talu'ch tâl mamolaeth, byddwch yn dal i gael eich tâl mamolaeth cyn belled â’ch bod wedi gweithio iddyn nhw am o leiaf 8 wythnos.  

Os ydych chi'n hunangyflogedig

Ni allwch chi gael tâl mamolaeth statudol os ydych chi'n unig fasnachwr, ond efallai y gallwch hawlio Lwfans Mamolaeth yn lle hynny.

Efallai y gallwch chi gael tâl mamolaeth statudol os ydych chi'n hunangyflogedig gyda'ch cwmni cyfyngedig eich hun. Gallai eich cwmni dalu eich tâl mamolaeth statudol, ac yna ei hawlio'n ôl gan CThEF.

Os ydych chi’n weithiwr asiantaeth

Mae’n dal yn bosib i chi gael tâl mamolaeth statudol fel gweithiwr asiantaeth, er nad ydych chi’n gallu cymryd absenoldeb mamolaeth. Efallai y byddwch am wirio eich hawliau mamolaeth eraill fel gweithiwr asiantaeth.

Os ydych chi'n gymwys i gael tâl mamolaeth statudol, dylai eich asiantaeth dalu hwn i chi hyd yn oed os nad ydych chi wedi cofrestru â nhw mwyach. 

Efallai y bydd rhai asiantaethau'n ceisio osgoi talu tâl mamolaeth statudol i chi drwy ddweud wrthych eich bod yn hunangyflogedig. Ond nid yw hyn yn gywir - mae’n dal yn bosib i chi gael tâl mamolaeth statudol fel gweithiwr asiantaeth.

Os yw eich asiantaeth yn gwrthod talu tâl mamolaeth statudol i chi, cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf  i gael help. 

Os oes gennych fwy nag un cyflogwr

Efallai y gallwch gael tâl mamolaeth statudol gan fwy nag un cyflogwr. Mae’r rheolau ar gyfer pob cyflogwr yr un fath â phe bai gennych ddim ond un cyflogwr.

Os byddwch yn beichiogi eto wrth gael tâl mamolaeth statudol

Rydych yn dal i gael eich cyflogi tra byddwch ar absenoldeb mamolaeth neu'n cael tâl mamolaeth statudol. Mae hyn yn golygu y gallwch gael tâl mamolaeth statudol eto os ydych chi’n bodloni’r amodau arferol:

  • yn gweithio i'ch cyflogwr am 26 wythnos hyd at y 15fed wythnos cyn y disgwylir i'ch babi gael ei eni - mae'r 26 wythnos yn cynnwys amser pan fyddwch ar absenoldeb mamolaeth

  • yn ennill o leiaf £125 yr wythnos, ar gyfartaledd, cyn treth - os ydych chi eisoes ar absenoldeb mamolaeth, mae eich cyflog cyfartalog yn debygol o fod yn seiliedig ar eich tâl mamolaeth, yn hytrach na'ch cyflog llawn.

Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os hoffech chi gael help i weld a allwch chi gael tâl mamolaeth statudol eto.

Pryd allwch chi gael tâl mamolaeth contractiol

Mae rhai swyddi yn rhoi tâl mamolaeth contractiol i chi fel mantais o weithio yno. Mae'r hyn a gewch yn dibynnu ar eich cyflogwr, ond ni ddylech fyth gael llai na’r tâl mamolaeth statudol  sy’n ddyledus i chi.

Gwiriwch bolisi mamolaeth eich contract neu’ch cwmni, neu gofynnwch i’ch cyflogwr a ydych chi’n cael tâl mamolaeth contractiol.

Efallai y cewch dâl mamolaeth contractiol hyd yn oed os na fyddech yn gallu cael tâl mamolaeth statudol. Yn yr achos hwn, efallai y bydd modd i chi gael Lwfans Mamolaeth hefyd.

Pryd allwch chi gael tâl Lwfans Mamolaeth

Efallai y gallwch gael Lwfans Mamolaeth os na allwch gael tâl mamolaeth statudol. Mae’n dod gan y llywodraeth yn hytrach na’ch cyflogwr.

Fel arfer, gallwch gael Lwfans Mamolaeth os ydych wedi bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig am 26 wythnos yn y 66 wythnos cyn y dyddiad y disgwylir i’ch babi gael ei eni.

Bydd angen i chi fod wedi ennill o leiaf £30 yr wythnos am o leiaf 13 o'r wythnosau hynny.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael Lwfans Mamolaeth os nad ydych wedi bod yn gyflogedig neu'n hunangyflogedig, ond bod eich priod neu'ch partner sifil yn rhedeg busnes a'ch bod wedi bod yn helpu gyda’r busnes hwnnw.

Gall y rheolau ynghylch Lwfans Mamolaeth fod yn gymhleth. Y ffyrdd gorau o weld beth allwch chi ei gael yw defnyddio’r gyfrifiannell ar GOV.UK neu drwy gysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i gael help.

Os nad ydych yn gallu cael tâl mamolaeth

Efallai eich bod yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu cael.

 

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.