Os oes angen i chi ddod o hyd i rywle i fyw
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Gallai eich dewisiadau o ran tai fod yn bethau fel:
cael help os ydych chi'n ddigartref neu y gallech chi fod yn ddigartref cyn bo hir
rhentu tŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai
rhentu gan landlord preifat
Mae p'un ai a allwch chi gael help gan y cyngor ai peidio yn dibynnu ar bethau fel eich oedran, ydych chi'n ddigartref neu eich statws mewnfudo.
Os byddwch chi'n gwneud cais am dŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai, efallai y bydd yn rhaid i chi aros am amser hir – hyd yn oed os ydych chi'n flaenoriaeth uchel. Fel arfer, bydd angen i chi rentu'n breifat tra byddwch yn aros oni bai eich bod yn ddigartref.
Os oes angen i chi adael eich cartref oherwydd trais, bygythiadau neu gam-drin
Gallwch gael help gan:
Y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Cam-drin Domestig ar 0808 2000 247 unrhyw bryd
Y Llinell Gymorth i Ddynion ar 0808 801 0327 o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 5pm
Mae galwadau i’r rhifau hyn yn rhad ac am ddim.
Gallwch hefyd gysylltu â sefydliadau cam-drin domestig eraill ar-lein.
Os ydych chi’n berson ifanc
Gallwch holi eich cyngor lleol a oes unrhyw fudiadau yn eich ardal sy'n cynnig llety i bobl ifanc. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Gallai eich opsiynau gynnwys tai â chymorth.
Mae cynlluniau tai â chymorth fel arfer yn cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai a gallant helpu gyda'r canlynol:
gwneud cais am fudd-daliadau
cymorth i gael gwaith neu hyfforddiant
coginio a chyllidebu
Dylech hefyd holi i gael gwybod beth yw eich opsiynau eraill o ran tai, er enghraifft, gwneud cais fel person digartref neu rentu gan landlord preifat.
Gallwch ddod o hyd i fudiadau sy'n helpu pobl ifanc i ddod o hyd i rywle i fyw ar wefan Shelter Cymru.
Os ydych chi'n berson hŷn neu'n anabl
Os ydych chi eisiau symud tŷ gan nad yw eich un chi'n addas oherwydd eich oedran neu anabledd, gallwch ofyn i'ch cyngor lleol am asesiad o anghenion gofal.
Ar ôl eich asesiad, bydd y cyngor yn penderfynu pa fath o ofal cymdeithasol y gallai fod ei angen arnoch. Gallai hyn fod yn addasiadau i'ch cartref neu symud i gartref gofal.
Gallwch gael gwybod sut i wneud cais am asesiad o anghenion gofal gyda'ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Gallwch hefyd gael gwybod am wahanol fathau o dai ar gyfer pobl hŷn ar wefan y GIG.
Dylech hefyd edrych ar eich opsiynau eraill o ran tai, er enghraifft:
gwneud cais fel person digartref
rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai
rhentu gan landlord preifat
Os ydych chi’n gadael y lluoedd arfog
Gallwch weld pa opsiynau sydd ar gael i chi o ran tai os ydych chi'n gadael neu wedi gadael y lluoedd arfog.
Dylech hefyd edrych ar eich opsiynau eraill o ran tai, er enghraifft:
gwneud cais fel person digartref
rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai
rhentu gan landlord preifat
Os ydych chi'n weithiwr allweddol
Efallai y gallwch chi gael rhent rhatach os ydych chi'n byw mewn ardal sydd â chynllun 'gweithiwr allweddol'.
Mae gweithwyr allweddol fel arfer yn cynnwys:
nyrsys a rhai o staff y GIG
athrawon
swyddogion yr heddlu a rhai staff sy'n sifiliaid yng ngwasanaethau'r heddlu
staff y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf
gweithwyr cymdeithasol
Mae cynlluniau gweithwyr allweddol fel arfer yn cael eu rhedeg gan gymdeithasau tai. Efallai y gallwch wneud cais uniongyrchol i gymdeithas dai neu efallai y bydd angen i'ch cyngor lleol eich cyfeirio.
Dod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Gallwch hefyd gael gwybod am gynlluniau gweithwyr allweddol yn eich ardal chi drwy chwilio ar-lein neu holi eich adran Adnoddau Dynol.
Dylech hefyd edrych ar eich opsiynau eraill o ran tai, er enghraifft:
gwneud cais fel person digartref
rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai
rhentu gan landlord preifat
Os yw’ch statws mewnfudo yn golygu nad oes modd i chi gael help gyda thai
Efallai fod eich statws mewnfudo yn dweud ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’. Mae hyn yn golygu na allwch chi wneud y canlynol:
gwneud cais am y rhan fwyaf o fudd-daliadau
cael cymorth digartrefedd neu dŷ cyngor
Os nad oes gennych chi hawl i gyllid cyhoeddus, ni allwch wneud cais am dŷ cyngor na gwneud cais digartrefedd.
Edrychwch a yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi gael cymorth gyda thai.
Rhentu’n breifat
Fel arfer, bydd yn rhaid i chi rentu gan landlord preifat.
Os ydych chi'n geisiwr lloches ac yn methu fforddio rhentu'n breifat, gallwch gael llety gan y Swyddfa Gartref. Mae rhagor o wybodaeth am gymorth lloches y Swyddfa Gartref ar gael ar wefan NRPF Network.
Cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol
Efallai y gallwch gael cymorth ym maes tai gan y gwasanaethau cymdeithasol os ydych chi’n ddigartref a bod gennych chi blant neu os oes gennych chi anghenion gofal a chymorth.
Os ydych chi'n geisiwr lloches, efallai y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn eich helpu i ddod o hyd i le i fyw.
Gweld a allwch chi gael help gan y gwasanaethau cymdeithasol os ydych chi'n ddigartref.
Gallai gwneud cais am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol effeithio ar eich statws mewnfudo – dylech siarad â chynghorwr.
Os ydych chi'n ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref
Fel arfer, mae'n werth gwneud cais i'ch cyngor lleol am help os ydych chi'n ddigartref – neu os byddwch chi'n ddigartref yn fuan.
Yn dibynnu ar eich sefyllfa, gallai'r cyngor wneud y pethau hyn:
dod o hyd i rywle i chi aros yn y tymor byr
eich helpu i aros yn lle rydych chi'n byw ar hyn o bryd – er enghraifft drwy siarad â'ch landlord
dod o hyd i rywle i chi fyw yn y tymor hir – er enghraifft, tŷ cyngor neu rentu gan landlord preifat
Gweld a allwch chi wneud cais am gymorth digartrefedd oddi wrth y cyngor.
Os nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig neu Wyddelig
Cyn i chi gysylltu â'ch cyngor lleol, mae'n bwysig holi a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi wneud cais am gymorth digartrefedd.
Os byddwch chi'n gwneud cais pan na chaniateir i chi wneud hynny, efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn gwrthod unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch chi yn y dyfodol. Mewn achosion prin, efallai y bydd yn mynd â chi i'r llys neu'n dod â'ch fisa i ben yn gynnar.
Gweld a allwch chi wneud cais am gymorth digartrefedd oddi wrth y cyngor.
Os ydych chi'n ddigartref ac na fydd y cyngor yn dod o hyd i gartref i chi
Bydd angen i chi ystyried dod o hyd i le i aros dros dro os nad oes gennych chi le i aros heno.
Mae'n werth gofyn i ffrindiau neu aelodau o'r teulu gewch chi aros gyda nhw tra byddwch chi'n chwilio am rywle arall.
Os ydych chi wedi cysgu allan dros nos neu’n bwriadu cysgu allan heno
Gallwch gael help gan Streetlink. Byddant yn eich helpu i gael cymorth gan eich cyngor lleol neu elusennau. Bydd angen i chi ddweud wrth Streetlink ble rydych chi'n cysgu ar eu gwefan. Byddant yn dod o hyd i chi ac yn eich helpu i ddod o hyd i rywle i aros.
Efallai y gallwch gael lle i aros mewn hostel, lloches nos, lloches neu wely a brecwast. Gallwch ofyn i'ch cyngor lleol am fanylion cyswllt llefydd i aros – gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.
Os yw'r cyngor wedi penderfynu nad yw’n mynd i’ch helpu a'ch bod yn meddwl ei fod yn anghywir, holwch a allwch chi herio penderfyniad digartrefedd y cyngor.
Cael help gan y gwasanaethau cymdeithasol
Rhaid i'r gwasanaethau cymdeithasol eich helpu i ddod o hyd i rywle i fyw os ydych chi'n 16 neu'n 17 oed a heb deulu na ffrindiau i fyw'n ddiogel gyda nhw.
Efallai y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi cymorth i chi ym maes tai os gwrthodwyd eich cais digartrefedd a bod unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:
rydych chi'n gyfrifol am blentyn sy’n byw gyda chi fel arfer
rydych chi'n sâl, yn anabl neu mae gennych chi anghenion iechyd meddwl
rydych chi rhwng 18 a 25 oed ac roeddech chi'n arfer byw mewn gofal
Os ydych chi yn un o'r sefyllfaoedd hyn a bod angen fisa arnoch i fod yn y DU, gallwch wneud cais am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol o hyd – hyd yn oed os nad oes gennych chi hawl i gyllid cyhoeddus. Does dim rhaid i chi fod wedi gwneud cais digartrefedd.
Gallai gwneud cais am gymorth gan y gwasanaethau cymdeithasol effeithio ar eich statws mewnfudo – dylech siarad â chynghorwr.
Rhentu gan y cyngor neu gan gymdeithas dai
Gallwch wneud cais am dŷ drwy eich cyngor lleol. Efallai y gelwir hyn yn 'dai cymdeithasol'.
Os caiff eich cais ei dderbyn, byddwch yn cael eich rhoi ar restr aros o bobl sydd angen cartref. Bydd eich cyngor wedyn yn blaenoriaethu ceisiadau ar sail pwy sydd angen cartref fwyaf brys. Bydd cynllun dyraniadau'r cyngor yn rhoi manylion pwy sy'n cael blaenoriaeth ar gyfer cartrefi yn yr ardal.
Os byddwch chi'n mynd ar y rhestr aros, does dim sicrwydd y byddwch chi'n cael cartref – neu fe allai gymryd blynyddoedd lawer.
Gallech gael cynnig cartref sy'n eiddo i'ch cymdeithas dai neu’ch cyngor lleol.
Efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais i rai cymdeithasau tai yn uniongyrchol yn hytrach na drwy'r cyngor – gofynnwch i'ch cyngor a oes unrhyw rai yn eich ardal chi.
Os oes gan eich cyngor restr aros hir, efallai y bydd yn gofyn a ydych chi'n dymuno gwneud cais am gartrefi mewn ardaloedd eraill hefyd. Gallwch fod ar sawl rhestr aros ar yr un pryd a gallai hyn gynyddu eich siawns o gael tŷ.
Gweld a allwch chi fynd ar y rhestr aros am dŷ cyngor.
Os ydych chi neu aelod o'r teulu yn anabl
Bydd gan eich cyngor lleol dai cymdeithasol sy'n addas. Efallai fod ganddo restr aros, sef 'cofrestr tai hygyrch’ y gallwch ymuno â hi.
Mae’n bosibl y bydd gan gartrefi hygyrch bethau fel:
mynediad heb risiau
lifft grisiau
fframiau drws lletach
cownteri is yn y gegin
Gallwch wneud cais i ymuno â chofrestr tai hygyrch yn unrhyw le yn y wlad. Gallwch hefyd gofrestru mewn mwy nag un ardal.
Hyd yn oed os nad oes gan eich cyngor lleol gofrestr tai hygyrch, dylai bod ganddo dai hygyrch.
Symud i dŷ cyngor gwahanol
Os ydych chi’n byw mewn tŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai, efallai y bydd modd i chi ei gyfnewid am dŷ mwy addas gyda rhywun arall. Weithiau, yr enw a roddir ar hyn yw ‘cydgyfnewid’.
Efallai y byddwch am gyfnewid:
os yw eich cartref yn rhy fach i chi
os nad yw eich cartref yn diwallu eich anghenion o ran iechyd neu anabledd
os yw eich budd-daliadau wedi cael eu lleihau ac nad ydych chi'n gallu fforddio eich rhent
os oes angen i chi symud i ardal wahanol
Holi am symud i dŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai arall.
Rhentu gan landlord preifat
Y ffordd gyflymaf o ddod o hyd i eiddo yw ar wefannau chwilio am eiddo. Gallwch chwilio am yr union ardal o'ch dewis a chysylltu â'r asiant gosod tai os ydych chi'n dymuno gweld eiddo. Gallwch hefyd chwilio ar-lein os ydych chi'n dymuno rhentu'n uniongyrchol gan landlord preifat.
Os yw'n anodd i chi chwilio am eiddo ar-lein, fe allech chi ymweld â gwerthwyr tai lleol.
Gall dechrau rhentu gan landlord preifat fod yn ddrud. Fel arfer, bydd angen i chi dalu blaendal a rhent ymlaen llaw.
Os na allwch chi fforddio blaendal rhent neu rent ymlaen llaw, efallai y bydd modd i chi gael help gan eich cyngor lleol.
Gweld beth yw costau dechrau rhentu gan landlord preifat.
Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd rhentu'n breifat, gallwch edrych ar gronfa ddata Help to Rent ar wefan Crisis.
Os byddwch chi’n penderfynu rhentu'n breifat, efallai y byddai'n werth holi a oes modd i chi wneud cais am dŷ cyngor.
Os ydych chi'n mynd i fod yn byw gyda'ch landlord
Os ydych chi'n byw ac yn rhannu lle byw gyda’ch landlord – rydych chi'n lojer.
Gallai hyn fod yn ffordd ratach o rentu ond does gennych chi ddim llawer o hawliau cyfreithiol.
Cael gwybod pa hawliau sydd gan lojer.
Rhent fforddiadwy os ydych chi'n cynilo er mwyn prynu tŷ
Efallai y bydd modd i chi dalu llai o rent i'ch helpu i gynilo ar gyfer blaendal tŷ.
Gallwch ddysgu mwy am Rhentu i Berchnogi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Os yw pethau’n anodd i chi
Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â’ch iechyd corfforol. Cofiwch siarad â’ch meddyg teulu os yw’ch problemau tai yn effeithio ar eich iechyd meddwl.
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda’ch iechyd meddwl ar wefan.
Angen siarad â rhywun?
Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.
Y Samariaid
Llinell gymorth: 116 123 (unrhyw bryd o ddydd Llun i ddydd Sul)
Y Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 7pm ac 11pm)
Mae galwadau i’r Samariaid am ddim.
Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â'r Samariaid ar eu gwefan.
Shout
Gallwch hefyd decstio 'SHOUT' i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr hyfforddedig. Gallwch anfon negeseuon testun yn rhad ac am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.
Os ydych chi’n meddwl ei fod yn argyfwng
Os ydych chi’n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.
Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.