Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 2: llenwi’r ffurflen amddiffyniad

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Bydd y llys yn anfon ffurflen amddiffyniad a chopïau o'r dogfennau a lenwyd gan eich landlord atoch chi. Mae hyn yn cynnwys 'manylion yr hawliad' sy'n rhoi manylion achos eich landlord yn eich erbyn chi.

Mae'n syniad da cael cyngor cyfreithiol cyn gynted ag y gallwch chi - os oes angen cymorth arnoch chi, siaradwch â chynghorydd unrhyw bryd - gall y broses fod yn gymhleth.

Bydd angen i chi lenwi ac anfon y ffurflen amddiffyniad cyn gynted â phosib - dylai gyrraedd y llys o fewn 14 diwrnod i chi dderbyn papurau'r llys.

Mae yna wahanol ffurflenni amddiffyniad yn dibynnu ar eich sefyllfa. Byddwch chi naill ai'n cael ffurflen N11, N11B neu N11R - gallwch weld pa un yw hi yn y gornel chwith isaf. Efallai bydd rhaid i chi ateb cwestiynau ar wahân neu esbonio eich sefyllfa mewn un man. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n llenwi pob adran ar eich ffurflen.

Dechreuwch drwy ysgrifennu'r manylion hyn, os nad yw'r llys wedi’u llenwi nhw:

  • eich enw a'ch cyfeiriad llawn yn yr adran 'diffynnydd' ar y ffurflen
  • enw a chyfeiriad eich landlord yn adran 'hawlydd' y ffurflen
  • enw'r llys a rhif yr hawliad - gallwch chi eu cael nhw o'r copi o ffurflen hawlio eich landlord

Dweud beth ddigwyddodd

Dywedwch pam rydych chi'n anghytuno â'r troi allan a beth rydych chi eisiau, er enghraifft cael aros yn eich cartref. Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch chi i egluro beth ddigwyddodd. Bydd angen i chi ddefnyddio'r dystiolaeth rydych chi wedi'i chasglu i brofi'r ffeithiau hyn yn y llys.

Dylech chi gynnwys manylion unrhyw resymau eraill pam nad ydych chi’n cytuno â'r troi allan hefyd - er enghraifft, nad yw'r hysbysiad yn ddilys. Bydd y math o ddadl y gallwch chi ei gwneud yn dibynnu ar y math o denantiaeth sydd gennych chi a'r rhesymau dros eich troi allan.

Os oes gennych chi ffurflen N11

Esboniwch beth ddigwyddodd yn y blwch sy'n dechrau gyda’r geiriau 'Rwy'n gwrthwynebu hawliad yr hawlydd oherwydd:'

Mae'n rhaid i chi roi'ch dadleuon i gyd yma, rhesymau sy’n ymwneud â gwahaniaethu ac unrhyw resymau sydd ddim yn ymwneud â gwahaniaethu sydd gennych i herio’r troi allan.

Mae angen i chi lenwi gweddill y ffurflen hefyd. Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w roi, gallwch chi weld enghraifft o ffurflen N11 wedi’i chwblhau [ 420 kb].

Os na allwch chi weld yr enghraifft ac nad ydych chi’n siŵr beth i'w roi ar eich ffurflen gallwch chi gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Peidiwch â chopïo'r enghraifft hon fel y mae hi - bydd ffeithiau eich achos chi’n wahanol. Os ydych chi'n copïo manylion sydd ddim yn berthnasol i'ch achos chi, gallai'r llys ei wrthod.


Os oes gennych chi ffurflen N11R

Eglurwch beth ddigwyddodd drwy ateb y cwestiynau o dan y pennawd 'Gwrthwynebu’r hawliad' (cwestiynau 2 i 6). Mae angen i chi egluro'ch amddiffyniad yng nghwestiwn 29 hefyd.

Wrth ateb y cwestiynau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn sôn hefyd am unrhyw resymau eraill sydd gennych chi i herio’r troi allan ar wahân i wahaniaethu.

Mae angen i chi lenwi gweddill y ffurflen hefyd. Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w roi, gallwch chi weld enghraifft o ffurflen N11R wedi’i llenwi [ 440 kb].

Os na allwch chi weld yr enghraifft ac nad ydych chi’n siŵr beth i'w roi ar eich ffurflen gallwch chi gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Peidiwch â chopïo'r enghraifft hon fel y mae hi - bydd ffeithiau eich achos chi’n wahanol. Os ydych chi'n copïo manylion sydd ddim yn berthnasol i'ch achos chi, gallai'r llys ei wrthod.

Os oes gennych chi ffurflen N11B

Mae angen i chi roi eich amddiffyniad gwahaniaethu yn y bocs ar ôl cwestiwn 12, lle mae'n dweud: 'Os oes gennych unrhyw reswm arall, na sonnir amdano uchod, dros honni nad oes gan yr hawlydd yr hawl i adennill meddiant o’r eiddo, eglurwch isod'.

Dylech chi hefyd roi unrhyw resymau eraill sydd gennych chi i herio’r troi allan nad ydych chi wedi'u crybwyll eisoes yn rhywle arall ar y ffurflen.

Mae angen i chi lenwi gweddill y ffurflen hefyd. Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w roi, gallwch chi weld enghraifft o ffurflen N11B wedi’i chwblhau [ 1.6 mb].

Os na allwch chi weld yr enghraifft ac nad ydych chi’n siŵr beth i'w roi ar eich ffurflen gallwch chi gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.

Peidiwch â chopïo'r enghraifft hon fel y mae hi - bydd ffeithiau eich achos chi’n wahanol. Os ydych chi'n copïo manylion sydd ddim yn berthnasol i'ch achos chi, gallai'r llys ei wrthod.

Os yw 'manylion yr hawliad' eich landlord mewn paragraffau wedi'u rhifo, defnyddiwch yr un strwythur ar gyfer eich amddiffyniad chi - ystyriwch bob paragraff ac ymateb iddo. Dylech chi ddweud pa rannau o'r paragraff rydych chi'n cytuno â nhw a pha rannau rydych chi'n anghytuno â nhw. Os na fyddwch chi’n ymateb i bwynt, efallai bydd y llys yn tybio eich bod chi’n cytuno ag ef a fyddwch chi ddim yn gallu anghytuno ag ef maes o law.

Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi'n cytuno neu'n anghytuno â rhywbeth, dywedwch nad yw'r paragraff yn cael ei 'dderbyn na'i wrthod'. Mae hyn yn golygu nad ydych chi’n gwybod a yw'n wir ai peidio, a bydd rhaid i'ch landlord ei brofi yn y llys.

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n sôn am:

  • pam rydych chi'n meddwl eich bod chi wedi dioddef gwahaniaethu - bydd angen i chi roi’r nodwedd warchodedig
  • yr holl fathau gwahanol o wahaniaethu rydych chi'n eu hawlio - darllenwch hwn os nad ydych chi’n siŵr 
  • yr effaith mae wedi’i chael arnoch chi - gallai hyn fod yn arian rydych chi wedi'i golli neu'r effaith emosiynol
  • rhesymau eraill dros herio'r troi allan, er enghraifft os nad oedd yr hysbysiad yn gofyn i chi adael yn ddilys

Os yw'n wahaniaethu uniongyrchol

Mae'n well sôn am eich cymharydd - edrychwch i weld pwy allai fod yn gymharydd.

Caiff gwahaniaethu uniongyrchol ei drafod yn adran 13 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.


Os yw'n wahaniaethu anuniongyrchol

Mae angen i chi grybwyll y ddarpariaeth, y maen prawf neu'r arfer sy'n wahaniaethol hefyd a pham ei fod yn eich rhoi chi a phobl eraill sydd â'ch nodwedd warchodedig chi dan anfantais arbennig o gymharu â phobl eraill.

Os nad ydych chi'n siŵr gallwch chi ddarllen rhagor am sut i ddangos eich tystiolaeth.

Caiff gwahaniaethu anuniongyrchol ei drafod yn adran 19 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.


Os yw'n wahaniaethu sy'n deillio o anabledd

Mae angen i chi esbonio hefyd sut rydych chi'n cael eich trin yn anffafriol oherwydd rhywbeth sy'n codi o ganlyniad i'ch anabledd.

Os nad ydych chi'n siŵr gallwch chi ddarllen rhagor am sut i ddangos eich tystiolaeth.

Caiff gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd ei drafod yn adran 15 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Disgrifio'r amgylchiadau

Mae angen i chi ddweud pa ran o'r gyfraith sy'n berthnasol i'ch amgylchiadau chi - gallai fod mwy nag un rhan.

Mae angen i chi ddweud eich bod yn amddiffyn hawliad eich landlord o dan adran 35 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Dylech chi ddweud hefyd bod y gwahaniaethu wedi digwydd yn ystod gwaith 'rheoli eiddo'. Hwn yw’r term cyfreithiol sy'n cynnwys y rhan fwyaf o bethau mae landlordiaid yn eu gwneud, fel casglu rhent a delio â gwaith atgyweirio.

Yna bydd angen i chi ddweud beth ddigwyddodd a pham ei fod yn erbyn y gyfraith.

Os yw'r gwahaniaethu’n ymwneud â methiant i wneud addasiadau rhesymol

Dylech ddweud hefyd bod eich landlord wedi methu â gwneud addasiadau rhesymol o dan adrannau 20, 21 a 36 ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a'i fod yn 'rheolydd yr eiddo'. Rhywun yw hwn sydd â rheolaeth dros yr eiddo a gallai fod yr un person â’r sawl sy'n ei osod ar rent neu’n ei reoli.

Bydd angen i chi esbonio sut mae eu methiant yn gysylltiedig â'r troi allan.

Dylech chi ddweud beth sy'n eich rhoi dan anfantais sylweddol a sut. Gallai wedi bod yn:

  • ddarpariaeth
  • maen prawf
  • arfer
  • nodwedd o’r eiddo
  • diffyg cymhorthyn ategol

Er enghraifft, efallai bod eich landlord wedi gwrthod eich helpu chi i lenwi ffurflen dalu ar-lein oherwydd ei bolisi a dyma beth achosodd chi i fynd i ôl-ddyledion rhent.

Bydd angen i chi ddweud hefyd pryd wnaethoch chi ofyn i'r rheolydd wneud yr addasiad rhesymol.

Os ydych chi'n gwneud gwrth-hawliad am iawndal oherwydd bod eich landlord wedi methu â gwneud addasiadau rhesymol, bydd angen i chi ddweud hefyd ei fod yn rheolydd a’ch bod chi’n gwneud gwrth-hawliad o dan adrannau 20, 21 a 36 ac Atodlen 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os ydych chi'n mynd yn brin o le

Gallwch ysgrifennu rhagor ar dudalen ar wahân os na allwch roi’r manylion i gyd yn y bocs. Dywedwch yn y bocs eich bod wedi atodi'r manylion - gallwch ysgrifennu 'gweler y taflenni ynghlwm'.

Ysgrifennwch:

  • 'amddiffyniad' neu 'amddiffyniad a gwrth-hawliad' ar y brig
  • enw'r achos - gallwch ei gopïo oddi ar y ffurflen a lenwyd gan eich landlord a bydd yn cynnwys eich enw chi ac enw’ch landlord
  • rhif yr hawliad ac enw'r llys - gallwch ei gopïo oddi ar y ffurflen a lenwyd gan eich landlord

Nodi pa ran o’r gyfraith sy’n berthnasol i’ch hawliad

Dylech ddweud eich bod chi’n amddiffyn y troi allan o dan 'Ran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010'.

Nesaf, ysgrifennwch pa fath o wahaniaethu ddigwyddodd:

Beth rydych chi'n hawlio amdano Pa ran o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 sy'n berthnasol
Gwahaniaethu uniongyrchol  adran 13
Gwahaniaethu oherwydd anabledd  adran 15

Gwahaniaethu anuniongyrchol

Methiant i wneud addasiadau rhesymol 

adran 19

adrannau 20, 21 a 36 ac Atodlen 4

Aflonyddu

Erledigaeth

adran 26

adran 27

Os ydych chi’n gwneud gwrth-hawliad

Bydd angen i chi esbonio'r rheswm dros eich gwrth-hawliad. Er enghraifft, gallwch chi ddweud eich bod chi’n hawlio iawndal am wahaniaethu a bydd hyn yn cael ei ddefnyddio i ad-dalu rhan neu'r cyfan o'r ôl-ddyledion rhent. 'Gwrthbwyso'r' ôl-ddyledion rhent yw’r enw cyfreithiol ar hyn.

Gallwch chi ofyn bod y gwahaniaethu'n dod i ben trwy ddweud eich bod chi am gael 'gwaharddeb'. Dyma ffordd o ofyn i'r llys orchymyn eich landlord i naill ai wneud rhywbeth neu roi'r gorau i wneud rhywbeth. Er enghraifft, efallai y cewch chi waharddeb yn dweud bod yn rhaid i'ch landlord wneud addasiad i'ch cartref.

Penderfynu faint o arian i ofyn amdano

Gallwch chi ofyn am:

  • arian os yw'r gwahaniaethu wedi achosi gofid neu loes i chi - 'brifo teimladau' yw hyn
  • arian i wneud iawn am unrhyw arian rydych chi wedi'i golli o ganlyniad i'r gwahaniaethu
  • iawndal am anaf personol - bydd rhaid i chi brofi eich bod chi wedi cael yr anaf ac mai’r gwahaniaethu ai achosodd
  • ymddygiad arbennig o wael gan yr ochr arall - 'iawndal gwaethygedig' yw hyn.

Bydd angen i chi gyfrifo faint o arian i’w hawlio.

Llofnodi’r ‘datganiad gwirionedd’

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n llofnodi'r 'datganiad gwirionedd' ar waelod y ffurflen. Mae hyn yn golygu eich bod chi’n cytuno bod popeth rydych chi wedi'i ysgrifennu’n wir.

Os wnaethoch chi ddefnyddio taflen ychwanegol gyda’r ffurflen amddiffyniad, ysgrifennwch ddatganiad gwirionedd arall arni a'i lofnodi. Copïwch y geiriad o'r brif ffurflen amddiffyniad.

Enghraifft o ffurflen amddiffyniad a gwrth-hawliad ychwanegol

Os nad ydych chi’n siŵr beth i'w ysgrifennu, gallwch chi weld enghraifft o ffurflen amddiffyniad a gwrth-hawlia [ 78 kb]d [ 78 kb]. Os na allwch chi agor y ddogfen, gallwch chi weld y fersiwn hon, ond nid yw’n dangos y fformat sy'n cael ei ddefnyddio gan y llys. Os na fyddwch chi'n defnyddio'r fformat a roddir yn rheolau'r llys, gallai gael effaith negyddol ar eich achos. Gallwch chi gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych chi'n poeni am fformat eich dogfen.

Mae'r enghraifft hon yn cynnwys gwahaniaethu anuniongyrchol a gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd. Mae’n trafod dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus hefyd.

Yn yr achos hwn, mae'r landlord yn ceisio troi’r tenant allan oherwydd bod ganddo ddyled rhent. Os oes angen cyngor ac arweiniad manylach arnoch chi, gallwch chi gael mwy o help.

Os ydych chi'n gweithredu fel cynrychiolydd cyfreithiol cleient, dylech gyfeirio ato fel 'y Diffynnydd' ym Manylion yr Hawliad yn hytrach na defnyddio'r person cyntaf.

Peidiwch â chopïo'r enghraifft hon fel y mae hi - efallai na fydd y ffeithiau'n addas i'ch sefyllfa benodol chi.

Previous Step 3
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.