Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 5: mynd i'r llys

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gorau oll os allwch chi gael cyfreithiwr i'ch cynrychioli chi.

Efallai gallwch chi ddod o hyd i gymorth cyfreithiol am ddim neu fwy fforddiadwy cyn yr achos. Os na allwch chi gael cymorth cyfreithiol neu fforddio cyfreithiwr, gallwch chi gynrychioli'ch hun yn y llys.

Bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn y llys sirol fel arfer.

Gallwch chi gael ffrind neu gynghorydd i ddod gyda chi i'ch cefnogi chi yn y gwrandawiad. Dysgwch fwy am fynd i’r llys heb gyfreithiwr neu fargyfreithiwr.

Beth fydd yn digwydd yn y llys

Efallai bydd rhaid i chi fynd i'r llys fwy nag unwaith. Efallai bydd y llys am ddelio â rhai materion cyn y treial ei hun er mwyn helpu'r achos i fynd rhagddo’n ddidrafferth. 'Materion rhagarweiniol' yw’r rhain.

Os oes angen gwrandawiad i benderfynu ar y materion hynny, enw'r gwrandawiad hwn yw 'gwrandawiad rhagarweiniol'. Gallwch ofyn i'r llys drin y gwrandawiad cyntaf fel 'gwrandawiad cyfarwyddiadau'.

Gwrandawiad cyfarwyddiadau

Bydd y barnwr yn penderfynu beth yw'r camau nesaf gorau - bydd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau fel sut a phryd mae angen i chi anfon tystiolaeth.  ‘Gwrandawiad cyfarwyddiadau’ yw’r gwrandawiad hwn.

Bydd y cyfarwyddiadau'n dibynnu ar bethau fel:

  • pa fath o achos yw’r achos - gan gynnwys pa mor gymhleth ydyw
  • beth mae'r ddau barti yn ei ddweud - pa rannau o'r achos rydych chi'ch dau'n cytuno arnyn nhw a pha rannau rydych chi’n anghytuno yn eu cylch
  • beth rydych chi'n gofyn i'r llys amdano
  • faint o amser fydd pethau'n cymryd i'w gwneud
  • faint o dystion sy’n debygol o fod gennych chi

Os na wnaethoch chi anfon eich ffurflen amddiffyniad i'r llys o fewn 14 diwrnod, bydd angen i chi esbonio i'r llys pam ei bod yn hwyr a rhoi manylion am eich amddiffyniad. Bydd y llys yn penderfynu a fydd yn rhoi cyfle i chi amddiffyn eich achos.

Os wnaethoch chi fethu'r dyddiad cau ar gyfer gwneud gwrth-hawliad, bydd angen i'r llys benderfynu a yw am ganiatáu i chi gyflwyno'r gwrth-hawliad. Os bydd y llys yn penderfynu peidio â chaniatáu i chi wneud gwrth-hawliad hwyr, ni fydd angen iddo roi unrhyw gyfarwyddiadau am y gwrth-hawliad a bydd y rhan honno o'ch achos chi’n dod i ben bryd hynny. Bydd y llys yn dal i roi cyfarwyddiadau ar gyfer treial llawn am weddill eich achos chi.

Gwrandawiad rheoli achos ac adolygiadau cyn-treial

Efallai y bydd rhaid i chi fynd i'r llys eto er mwyn i'r barnwr weld a yw'r achos yn barod ar gyfer y gwrandawiad terfynol. Yn y gwrandawiad hwn, gallai'r barnwr roi mwy o gyfarwyddiadau - 'gwrandawiad rheoli achos' yw’r math hwn o wrandawiad.

Gallai fod yna wrandawiad arall, sef 'adolygiad cyn-treial'. Diben y gwrandawiad hwn yw gwneud yn siŵr bod y partïon a'r llys yn gwybod pa faterion sydd dal angen sylw er mwyn caniatáu i'r achos fynd rhagddo’n ddidrafferth. Fel arall, gallai'r llys anfon 'rhestr wirio cyn-treial' atoch chi i'w llenwi er mwyn cael yr un wybodaeth a pharatoi ar gyfer y treial.

Cael rhestr wirio cyn-treial

Fel arfer, bydd rhestr wirio cyn-treial (neu 'holiadur rhestru' fel mae'n cael ei alw weithiau) yn cael ei hanfon atoch pan fyddwch chi wedi gorffen gyda'r cyfarwyddiadau. Bydd eich atebion i'r rhestr wirio yn helpu'r llys i benderfynu pa dystiolaeth sy'n debygol o gael ei defnyddio yn y treial fel y gallan nhw sicrhau eu bod nhw’n barod.

Gallwch chi lawrlwytho’r rhestr wirio cyn-treial (sef Ffurflen N170) o wefan GOV.UK neu gael un yn bersonol gan y llys.

Os yw'ch achos ar yr amldrac, dylech chi roi 'amserlen ar gyfer treial' ynghlwm wrth y rhestr wirio pan fyddwch chi’n ei dychwelyd i'r llys. Mae hyn yn dweud am faint ddylai pob rhan o'r treial bara, er enghraifft areithiau agor a chloi.

Mae angen i chi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau ac amserlen y treial. Os na wnewch chi, gallai'r llys:

  • gymryd hyn yn eich erbyn chi pan fydd yn gwneud ei benderfyniad terfynol
  • penderfynu peidio â chlywed eich achos chi
  • gwrthod gadael i chi ddefnyddio tystiolaeth neu ddadleuon penodol

Os na fyddwch chi’n dilyn amserlen y treial a bod y treial yn cael ei ohirio, gallai'r llys eich gorchymyn i dalu costau'r ochr arall.

Y gwrandawiad terfynol

Os oes rhaid i chi fynd i'r llys ar gyfer treial llawn, bydd y barnwr yn dechrau drwy benderfynu ar unrhyw beth sy'n dylanwadu ar sut fydd gweddill y treial yn mynd rhagddo. 'Materion rhagarweiniol' yw’r rhain. Er enghraifft, efallai y bydd un ochr wedi methu â dilyn y cyfarwyddiadau neu'r rheolau roedden nhw i fod i'w dilyn cyn y treial.

Er enghraifft, efallai byddwch chi’n gofyn i'r llys adael i chi ennill heb wrando ar dystiolaeth yr ochr arall oherwydd nad ydyn nhw wedi cydymffurfio ag unrhyw un o gyfarwyddiadau neu reolau'r llys. 'Cais i wrthod datganiad achos yr ochr arall' yw hyn.

Fel arfer bydd angen i chi wneud cais i'r llys yn unol â rheolau'r llys (gweler Rhan 3 a Rhan 24 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil am fwy o fanylion am sut i wneud hyn). Efallai bydd rhaid i chi dalu ffi i'r llys.

Os bydd y llys yn cytuno â'ch cais chi ac 'yn dileu' hawliad eich landlord am feddiant, ni fydd unrhyw dystiolaeth yn cael ei chlywed a chewch chi ddim eich troi allan. Os oes gennych chi wrth-hawliad, yna bydd angen i chi brofi'r rhan honno o'ch achos o hyd.

Y treial yw'r gwrandawiad terfynol a dyna pan fydd y llys yn gwrando ar dystiolaeth y ddwy ochr ac yn gwneud penderfyniad am eich achos chi. Gan mai chi sy’n amddiffyn yr hawliad, bydd y llys yn gofyn i'ch landlord neu ei gynrychiolydd gyflwyno ei dystiolaeth gyntaf.

Os ydych chi'n cynrychioli'ch hun, bydd angen i chi fod yn barod i ymdrin â'ch tystion chi a thystion yr ochr arall.

Rhoi'ch tystiolaeth - 'y dystiolaeth flaenaf'

Bydd rhaid i chi ac unrhyw un sydd wedi rhoi datganiad tyst roi tystiolaeth yn y bocs tystion ar lw.

Os na all tyst fod yn bresennol a'ch bod chi eisiau dibynnu ar ei ddatganiad tyst, bydd angen i chi ofyn i'r llys am gael dibynnu arno. Dibynnu ar 'dystiolaeth ail-law' yw hyn. Fel arfer bydd angen i chi ofyn i'r llys o leiaf 7 diwrnod cyn y treial. Mae'r rheolau ynghylch hyn yn Rhan 33 o’r Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Bydd gofyn i chi ac unrhyw dyst gadarnhau eich enw, eich cyfeiriad, eich llofnod a chadarnhau bod cynnwys eich datganiad tyst. Y 'dystiolaeth flaenaf' yw hyn.

Fel arfer, allwch chi ddim gofyn unrhyw gwestiynau i'ch tystion chi eich hun oherwydd bydd y llys yn ystyried y dylai'r holl wybodaeth fod yn y datganiad tyst, felly mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod eich datganiadau’n cynnwys popeth sydd ei angen arnoch chi.

Os oes unrhyw gamgymeriadau yn y datganiadau tystion, gallwch chi ofyn i'r barnwr adael i'r tyst egluro'r pwynt - fel dweud beth yw'r camgymeriad, pam gafodd ei wneud a beth yw'r sefyllfa gywir.

Croesholi

Ar ôl i chi neu'ch tyst gadarnhau eich datganiad tyst, bydd yr ochr arall neu gynrychiolydd yr ochr arall yn gallu'ch holi. ‘Croesholi' yw hyn.

Bydd cyfle i chi neu'ch cynrychiolydd ofyn cwestiynau i dystion yr ochr arall hefyd. Eich nod yw cefnogi'ch achos chi'ch hun, dangos unrhyw gamgymeriadau y gallai'r ochr arall fod wedi’u gwneud a dangos pwyntiau mae anghydfod yn eu cylch.

Cael penderfyniad gan y llys

Efallai y cewch chi benderfyniad ar yr un diwrnod, neu ar ddiwrnod arall os yw'r llys yn credu bod angen mwy o amser i benderfynu. Bydd y llys yn gwneud y benderfyniad ar sail tystiolaeth y ddwy ochr.

Beth fydd y llys yn gwneud penderfyniadau yn ei gylch

Bydd y llys yn dweud wrthych chi beth yw'r penderfyniad am wahanol agweddau ar eich achos chi, er enghraifft:

  • oes gennych chi nodwedd warchodedig
  • os i chi ddioddef gwahaniaethu
  • oes gan yr ochr arall amddiffyniad effeithiol - ar gyfer gwahaniaethu anuniongyrchol neu wahaniaethu sy'n deillio o anabledd, mae hyn yn cynnwys a oes modd cyfiawnhau'r gwahaniaethu

Bydd y llys yn penderfynu ar bob rhan o'r achos, nid dim ond y gwahaniaethu. Bydd yn penderfynu a yw'ch landlord wedi gallu profi bod ganddo'r hawl i'ch troi allan - gallai hyn gynnwys pethau fel a yw'r hysbysiad gawsoch chi’n ddilys ac a yw'n rhesymol eich troi allan.

Bydd y llys yn penderfynu a yw pob rhan wahanol o'ch achos yn fwy tebygol o fod wedi digwydd neu fod yn wir na pheidio. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i'r llys benderfynu a ydych chi'n fwy tebygol o fod ag anabledd na pheidio. Profi 'yn ôl pwysau tebygolrwydd' yw hyn.

Pa benderfyniadau allai'r llys eu gwneud

Gallai'r llys benderfynu eich bod chi'n:

  • gallu aros yn eich cartref oherwydd nad oedd achos eich landlord yn ddigon cryf - 'gwrthod yr achos' yw hyn
  • gallu aros yn eich cartref os ydych chi’n cadw at rai amodau arbennig - gelwir hyn yn 'gorchymyn meddiant gohiriedig' yw hyn
  • gorfod gadael eich cartref erbyn dyddiad penodol am nad oedd eich achos chi’n ddigon cryf - 'gorchymyn meddiant llwyr' yw hyn

Gallai'r llys orchymyn hefyd:

  • eich bod yn cael iawndal
  • bod rhaid i'ch landlord newid rhywbeth, er enghraifft ei bolisi ar denantiaid anabl
  • bod rhaid i un ochr dalu costau'r ochr arall

Os ydych chi'n hawlio arian, bydd y llys yn penderfynu ar y swm - gallai fod yn wahanol i beth wnaethoch chi ofyn amdano. Bydd y llys dweud wrthych chi pryd a sut gewch chi'ch talu. Efallai bydd rhaid i chi dalu ôl-ddyledion rhent i’ch landlord os yw'r swm a roddir i chi yn llai na'r swm sy'n ddyledus gennych chi.

Os yw'ch achos chi’n ymwneud â gwahaniaethu anuniongyrchol

Os yw'ch landlord chi’n profi nad oedd wedi bwriadu eich trin chi’n anffafriol, yna ni all y llys ystyried rhoi iawndal i chi nes ei fod wedi ystyried yr atebion eraill sydd ar gael iddo. Er enghraifft, gallai'r llys ystyried cael y landlord i newid y rheol neu'r arfer oedd yn wahaniaethol.

Mae'r rheolau ar hyn yn adran 119 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os nad yw'ch landlord yn eich talu chi, bydd rhaid i chi fynd i'r llys i ofyn iddyn nhw 'orfodi'r dyfarniad'. Mae rhagor o wybodaeth am ‘orfodi dyfarniad’ ar GOV.UK.

Os ydych chi'n gofyn am waharddeb, bydd y llys yn penderfynu

  • a ddylid gwneud y waharddeb
  • pa delerau i'w cynnwys
  • am faint y dylai bara

Er enghraifft, efallai bydd yn rhaid i'ch landlord wneud addasiadau o fewn 14 diwrnod.

Costau

Bydd y llys yn penderfynu:

  • oes rhaid i un parti dalu costau'r llall
  • swm y costau
  • pryd mae'n rhaid eu talu

Gan amlaf caiff y parti sy'n colli ei orchymyn i dalu costau'r parti sy’n ennill ond gall y llys benderfynu gwneud gorchymyn gwahanol.

Wrth benderfynu pa gostau i'w gorchymyn bydd y llys yn ystyried:

  • eich ymddygiad chi a’r landlord, gan gynnwys a wnaethoch chi ddilyn unrhyw gyfarwyddiadau cyn y treial
  • yw parti wedi llwyddo i brofi rhan o'i achos, hyd yn oed os na wnaeth lwyddo gyda'r achos cyfan
  • unrhyw gynnig i setlo a wnaed gan barti a gaiff ei ddwyn i sylw'r llys ac na chafodd ei wneud 'heb ymrwymiad'

Mae ymddygiad y partïon yn cynnwys:

  • sut wnaethon nhw ymddwyn cyn ac yn ystod yr achos ac a wnaethon nhw ddilyn rheolau'r llys
  • oedd hi’n rhesymol i barti godi, fynd ar ôl neu wadu honiad neu fater penodol
  • sut mae parti wedi mynd ar ar ôl neu amddiffyn ei achos neu honiad neu fater penodol
  • os yw hawlydd sydd wedi ennill ei hawliad cyfan neu ran ohono, wedi gorliwio rhan ohono

Gall y llys orchymyn hefyd bod un parti yn talu rhan o gostau'r ochr arall neu ddim ond y costau sy'n berthnasol i ran benodol o'r achos.

Caiff y rheolau ar gostau eu trafod yn Rheol Trefniadaeth Sifil 44.

Gallwch chi wylio fideos am beth i’w ddisgwyl yn y llys gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Os nad ydych chi’n hapus â phenderfyniad y llys

Efallai gallwch chi apelio - bydd angen i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod i benderfyniad y llys a thalu ffi.

Dim ond os yw’r barnwr wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol y bydd yr apêl yn cael ei hystyried. Allwch chi ddim cyflwyno tystiolaeth newydd fel arfer.

Mae angen i chi ofyn am ganiatâd y llys i apelio. Bydd y llys gwrthod os nad yw'n credu bod gennych chi siawns da o lwyddo. Mae'r rheolau ar apeliadau yn Rheol Trefniadaeth Sifil 52.

Dylech chi gael cyngor cyfreithiol gan arbenigwr cyn gynted â phosib os ydych chi eisiau apelio - mae'n gymhleth iawn a dylech chi ofyn i gynghorydd cyfreithiol os oes gennych chi achos da.

Previous
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.