Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cael cymorth wrth y gwasanaethau cymdeithasol os ydych chi’n ddigartref

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn gallu dod o hyd i rywle i chi fyw os ydych chi’n ddigartref ac os oes unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed heb deulu y gallwch fyw gyda nhw

  • rydych chi’n gyfrifol am blentyn sydd fel arfer yn byw gyda chi

  • os ydych yn sâl, yn anabl neu ag anghenion iechyd meddwl

  • rydych rhwng 18 a 25 oed ac yn arfer byw mewn gofal

Os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed, gallwch ofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am gymorth ar unwaith.

Os ydych chi dros 18 oed, fel arfer bydd angen i chi ofyn i adran dai eich cyngor lleol am gymorth cyn gofyn am gymorth y gwasanaethau cymdeithasol. Gwiriwch sut i wneud cais digartrefedd i’r adran dai.

Gallwch ofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am gymorth os yw’r adran dai yn penderfynu na fyddan nhw’n rhoi cartref i chi – mae hyn fel arfer oherwydd eu bod yn meddwl eich bod yn fwriadol ddigartref.

Os ydych yn oedolyn a oedd yn arfer byw mewn gofal

Gall y gwasanaethau cymdeithasol eich helpu os oes unrhyw un o'r canlynol yn berthnasol:

  • rydych chi rhwng 18 ac 20 oed ac mewn gofal pan roeddech chi’n 16 neu’n 17 oed

  • rydych chi rhwng 21 a 25 oed, mewn addysg neu hyfforddiant, ac mewn gofal pan roeddech chi’n 16 neu’n 17 oed

Nid oes rhaid i chi ofyn i’r adran dai am gymorth gyntaf os ydych yn astudio mewn prifysgol.

Os na fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi cartref i chi, mae’n werth gwneud cais i adran dai eich cyngor lleol. Os ydych chi o dan 21 oed, byddwch mewn ‘angen blaenoriaethol’ yn awtomatig. Gwiriwch sut i wneud cais digartrefedd i’r adran dai. 

Os ydych chi’n cael trafferthion gyda’r gwasanaethau cymdeithasol

Efallai y bydd angen i chi gael cymorth cyfreithiwr. Efallai y gallwch gael cymorth cyfreithiol – sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am gyngor cyfreithiol. Gallwch ddod o hyd i gyfreithwyr cymorth cyfreithiol ar GOV.UK. Byddan nhw’n gwirio os ydych yn gallu cael cymorth cyfreithiol.

Mae’n werth chwilio am gyfreithwyr yn y categorïau ‘Tai’, ‘Teulu’, ‘Gofal yn y Gymuned’ a ‘Cyfraith gyhoeddus’. Bydd angen i chi edrych ar wefannau’r cwmnïau cyfreithiol i weld a allan nhw helpu pobl a oedd yn arfer byw mewn gofal, ac efallai y bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn.

Os nad ydych chi’n ddinesydd Prydeinig

Os ydych wedi bod yn cysgu allan, gallai eich hawl i aros yn y DU gael ei effeithio.

Cysgu tu allan dros nos yw cysgu allan. Nid yw’n cynnwys aros gyda ffrindiau neu aelodau’r teulu, hyd yn oed os mai dim ond dros dro y gallwch chi aros yno.

Os ydych chi’n gwneud cais i'r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, ni all eich cais gael ei wrthod oherwydd cysgu allan. Siaradwch â chynghorydd os ydych chi’n poeni y gallai cysgu allan effeithio ar eich statws mewnfudo.

Os nad oes hawl gennych chi fod yn y DU

Os byddwch yn gofyn i’r gwasanaethau cymdeithasol am gymorth, byddan nhw’n dweud wrth y Swyddfa Gartref os ydych chi yn y DU yn anghyfreithlon. Mae hyn yn cynnwys os nad oeddech chi erioed wedi cael caniatâd i ddod i mewn i'r DU.

Os oedd gennych fisa ond ei fod wedi dod i ben, mae'r rheolau'n dibynnu a wnaethoch chi gais i newid neu ymestyn eich fisa cyn iddo ddod i ben.

Os wnaethoch chi gais cyn i’ch fisa ddod i ben a’ch bod yn aros am benderfyniad, rydych chi’n dal yn y DU yn gyfreithiol.

Os na wnaethoch chi gais i newid neu ymestyn eich fisa mewn pryd, rydych yn y DU yn anghyfreithlon.

Gwiriwch eich opsiynau os ydych yn y DU yn anghyfreithlon.

Gweld pa gymorth y gallwch ei gael

Mae’n rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ymchwilio i'ch sefyllfa i weld beth yw eich anghenion a sut gallan nhw eich helpu. Mae hyn yn cael ei alw’n cynnal ‘asesiad o anghenion’. 

Bydd y cymorth y gallech ei dderbyn wrth y gwasanaethau cymdeithasol yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed heb deulu y gallwch chi fyw gyda nhw

Rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ddod o hyd i rywle i chi fyw.

 Efallai y byddan nhw’n cynnig cartref i chi mewn:

  • cartref maeth preswyl

  • cartref maeth gyda theulu – er enghraifft, byw gyda pherthnasau lle mae’r gwasanaethau cymdeithasol yn goruchwylio eich gofal 

  • tŷ â chymorth

Bydd eich rhent a’ch costau byw fel bwyd a dillad yn cael eu talu gan y gwasanaethau cymdeithasol.  Fel arfer, fe gewch gymorth nes eich bod yn 18 oed.

Os yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn dweud na fyddan nhw’n eich helpu chi, siaradwch â chynghorydd.

Os oes gennych blant

Rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol ddod o hyd i rywle i chi a’ch plant fyw.  Efallai y byddan nhw’n cynnig tŷ rhent preifat i chi – neu lety gwely a brecwast os nad oes unman arall ar gael.

Os na fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn dod o hyd i rywle i chi a’ch plant fyw, siaradwch â chynghorydd.

Os ydych chi’n sâl neu’n anabl

Rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol asesu pa anghenion gofal a chymorth sydd gennych os ydych chi’n ddigartref. Rhaid iddyn nhw wirio a allan nhw eich helpu gyda llety fel rhan o’r broses o ddiwallu eich anghenion. Rhaid i'ch anghenion gael effaith sylweddol arnoch chi.

Gall anghenion gofal a chymorth gynnwys angen help gyda phethau fel:

  • codi o’r gwely

  • golchi

  • gwisgo

  • coginio a bwyta

Dylech egluro wrth y gwasanaethau cymdeithasolmaidim ond drwy gael cymorth llety y gellir diwallu eich anghenion gofal a chymorth. Er enghraifft, ni fyddech yn gallu coginio pryd o fwyd a bwyta heb gael cartref.

Os gall y gwasanaethau cymdeithasol eich helpu gyda chartref, gallech gael cynnig:

  • lle mewn cartref gofal neu dŷ â chymorth 

  • cymorth ariannol i gael gofal a chymorth yn y cartref

  • help i aros yn y gymuned

Gwneud cais am gymorth oddi wrth y gwasanaethau cymdeithasol

Dylech gysylltu ag adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol - dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK. Eglurwch eich amgylchiadau a gofynnwch iddyn nhw asesu eich anghenion chi neu anghenion eich teulu o ran tai. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthyn nhw eich bod yn ddigartref. Os oes gennych broblemau iechyd, eglurwch sut maen nhw’n effeithio arnoch chi.

Nid oes angen i chi wneud cais am gymorth os ydych chi wedi cael eich atgyfeirio at y gwasanaethau cymdeithasol gan y cyngor. Ond mae dal yn werth gwirio y byddan nhw’n cynnal asesiad o anghenion.

Paratoi ar gyfer eich asesiad o anghenion

Mae’n rhaid i’ch asesiad gael ei wneud mewn ffordd addas ar gyfer eich amgylchiadau chi ac amgylchiadau eich plentyn os ydych chi wedi gofyn i’w hanghenion nhw gael eu hasesu. Er enghraifft, gall gael ei wneud drwy’r dulliau canlynol:

  • cwblhau ffurflen

  • cyfweliad dros y ffôn

  • cael cyfarfod wyneb yn wyneb gyda gweithiwr cymdeithasol

Dylech gael tystiolaeth o’ch sefyllfa chi neu sefyllfa eich plentyn os yw eu hanghenion nhw’n cael eu hasesu. Bydd angen i chi anfon y wybodaeth at swyddfa gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol neu fynd â’r dystiolaeth i'r asesiad, os yn bosib. Er enghraifft, gallech gael llythyr wrth eich meddyg neu weithiwr cymorth i esbonio sut byddai peidio â chael cartref yn effeithio arnoch chi a'ch aelwyd.

Gallwch anfon y dystiolaeth at swyddfa eich gwasanaethau cymdeithasol lleol ar ôl yr asesiad os nad yw’r dystiolaeth wrth law cyn hynny.

Fel arfer bydd y gwasanaethau cymdeithasol hefyd yn gofyn i’ch meddyg a phobl eraill sy’n eich adnabod chi am eich anghenion neu anghenion eich plentyn, os ydych chi’n cytuno.

Nid oes dyddiad cau i’r gwasanaethau cymdeithasol gynnal asesiad o anghenion os ydych yn oedolyn, ond dylen nhw roi syniad i chi o ba mor hir y bydd yn ei gymryd.

Os oes angen asesiad arnoch chi ar gyfer eich plentyn neu os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac angen un, dylid ei gynnal o fewn 42 diwrnod gwaith o wneud y  cais. Os nad yw’r gwasanaethau cymdeithasol yn bodloni’r dyddiad cau, rhaid iddyn nhw egluro pam.

Ar ôl yr asesiad, cewch benderfyniad ysgrifenedig yn dweud os all y gwasanaethau cymdeithasol roi cartref i chi.

Os yw’r llety sy’n cael ei gynnig yn anaddas

Eglurwch wrth y gwasanaethau cymdeithasol pam rydych chi’n credu ei fod yn anaddas a gofynnwch am lety arall.

Rhowch unrhyw dystiolaeth iddyn nhw i gefnogi eich achos, er enghraifft llythyr oddi wrth eich meddyg yn egluro y bydd y llety yn niweidiol i’ch iechyd.

Os na fydd y gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi rhywle arall i chi aros, gallwch herio’r penderfyniad.

Herio penderfyniad y gwasanaethau cymdeithasol

Rhaid i’r gwasanaethau cymdeithasol roi rheswm clir i chi am eu penderfyniad.

Os ydych chi’n anghytuno â’u penderfyniad gallwch gwyno drwy ddilyn gweithdrefn gwyno eich cyngor lleol. Dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK

Os nad ydych chi’n hapus o hyd gydag ymateb y gwasanaethau cymdeithasol 

Gallwch gymryd camau pellach drwy gwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus. Gwiriwch sut i gwyno wrth yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus ar eu gwefan. ‘Darparwr gwasanaeth cyhoeddus’ yw’r gwasanaethau cymdeithasol.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu cymryd camau cyfreithiol mewn rhai achosion lle na fyddai gwneud cŵyn yn briodol. Er enghraifft, os ydych chi’n 16 neu’n 17 oed ac yn ddigartref a bod y gwasanaethau cymdeithasol wedi gwrthod helpu heb reswm da.

Efallai y bydd angen i chi gael cymorth cyfreithiwr i gymryd camau cyfreithiol. Efallai y gallwch chi gael cymorth cyfreithiol – sy’n golygu na fydd yn rhaid i chi dalu am gyngor cyfreithiol. Gallwch chi ddod o hyd i gyfreithwyr cymorth cyfreithiol ar GOV.UK. Byddan nhw’n gwirio os ydych yn gallu cael cymorth cyfreithiol.

Mae’n werth chwilio am gyfreithwyr yn y categorïau ‘Tai’, ‘Gofal yn y Gymuned’ a ‘Cyfraith gyhoeddus’. Bydd angen i chi edrych ar wefannau’r cwmnïau cyfreithiol i weld a allan nhw helpu pobl a oedd yn arfer byw mewn gofal, ac efallai y bydd angen i chi gysylltu â nhw i ofyn.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.