Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Dechrau cais digartrefedd

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Fel arfer, mae’n werth gwneud cais i’ch cyngor lleol am gymorth os ydych chi’n ddigartref - neu os byddwch chi’n ddigartref cyn bo hir. Mae hyn yn cael ei alw’n gwneud cais digartrefedd.

Cyn i chi ddechrau eich cais, gwiriwch eich bod yn gallu cael cymorth digartrefedd oddi wrth y cyngor.

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, mae’n bwysig gwirio hyn yn gyntaf. Os ydych chi’n gwneud cais pan nad oes hawl i chi wneud hynny, gall y Swyddfa Dramor wrthod unrhyw geisiadau mewnfudo y byddwch chi’n eu gwneud yn y dyfodol. Mewn achosion prin, efallai y byddan nhw’n mynd â chi i'r llys neu'n dod â'ch fisa i ben yn gynnar.

Os ydych yn 16 neu’n 17 oed

Fel arfer, mae’n werth gwneud cais i’r gwasanaethau cymdeithasol am gymorth digartrefedd. Mae’r gwasanaethau cymdeithasolyn fwy tebygol o’ch helpu, a byddan nhw fel arfer yn rhoi mwy o help i chi.

Os ydych chi wedi bod yn byw mewn gofal yn ddiweddar, fel arfer mae'n rhaid i chi wneud cais i'r gwasanaethau cymdeithasol yn hytrach na'ch cyngor lleol.

Gwiriwch sut i gael cymorth digartrefedd wrth y gwasanaethau cymdeithasol

Pan fyddwch yn gwneud cais, bydd y cyngor yn ymchwilio i'ch sefyllfa i benderfynu pa gymorth y gallen nhw ei roi i chi. Nid oes amser penodol i gael penderfyniad, ond ni ddylai fod oedi afresymol o hir.

Os ydych chi’n ddigartref yn barod, efallai y bydd y cyngor yn rhoi llety brys i chi ar unwaith wrth iddyn nhw edrych ar eich cais – dylech wastad ofyn am hyn.

Os na fydd y cyngor yn fodlon i chi wneud cais digartrefedd neu’n gwrthod rhoi llety brys i chi, siaradwch â chynghorydd.

Os oes angen i chi adael cartref oherwydd trais, bygythiadau neu gamdriniaeth

Gallwch wneud cais am gymorth digartrefedd. Gallwch gael help hefyd wrth:

Mae’r galwadau i’r rhifau hyn am ddim.

Gwneud cais i’r cyngor

Gallwch wirio sut i wneud cais am gymorth digartrefedd ar wefan eich cyngor lleol. Fel arfer, gallwch ddod o hyd i'r ddolen ar gyfer tudalen ddigartrefedd y cyngor ar wefan Llywodraeth Cymru. Gallwch hefyd ddefnyddio Google i chwilio am enw’r cyngor gyda’r gair ‘digartrefedd’ i ddilyn - er enghraifft ‘Casnewydd digartrefedd’.

Mae’n well mynd yn bersonol neu ffonio adran dai eich cyngor lleol cyn gynted â phosib, oherwydd gall gymryd amser hir i ddelio ag ef. Dywedwch wrthyn nhw eich bod chi eisiau gwneud cais digartrefedd.

Bydd yr adran dai yn trefnu i swyddog tai gyfweld â chi - fel arfer bydd hyn ar yr un diwrnod os nad oes gennych unrhyw le i aros y noson honno.

Os yw swyddfa’r cyngor ar gau, edrychwch ar eu gwefan – dylai fod rhif argyfwng y gallwch ei ffonio.

Os na allwch chi wneud cais am gymorth ar eich pen eich hun, gall rhywun arall wneud cais ar eich rhan. Er enghraifft, os ydych chi’n sâl, gallech roi caniatâd i aelod o’r teulu neu weithiwr cymorth wneud cais ar eich rhan.

Paratoi i siarad â’r cyngor

Pan fyddwch chi’n siarad â’r cyngor, bydd angen i chi egluro pam eich bod yn ddigartref neu ar fin dod yn ddigartref.

Yn gyntaf, mae'n werth ysgrifennu'r hyn rydych chi'n bwriadu ei ddweud. Os byddwch chi’n cael trafferth i’w ysgrifennu, gofynnwch i rywun eich helpu.

Mae’n werth ysgrifennu:

  • pam rydych chi’n ddigartref neu pam na allwch chi aros lle rydych chi’n byw – er enghraifft pam na allwch chi fforddio aros

  • pam eich bod mewn ‘angen blaenoriaethol’

Gallwch wirio’r rheolau ynglŷn â sut bydd y cyngor yn penderfynu os oes rhaid iddyn nhw eich helpu.

Cael tystiolaeth i’w rhoi i’r cyngor

Dylech geisio mynd â’r canlynol pan fyddwch chi’n siarad â'r cyngor:

  • prawf o’ch hunaniaeth, er enghraifft eich pasbort neu dystysgrif geni

  • eich cytundeb rhentu, os oes gennych un

  • tystiolaeth pam mae'n rhaid i chi adael eich cartref, er enghraifft gorchymyn troi allan – neu lythyr wrth ffrind neu aelod o’r teulu sy’n dweud na allwch chi barhau i aros gyda nhw

  • gwybodaeth feddygol, os oes gennych broblemau iechyd  

Gallwch dal wneud cais am gymorth os nad yw’r dogfennau hyn gennych – fel arfer mae angen i chi roi dogfennau eraill. Gofynnwch i'r cyngor pa ddogfennau allwch chi eu rhoi yn lle hynny.

Os yw eich ffrind neu aelod o'ch teulu wedi ysgrifennu llythyr, efallai y bydd y cyngor yn cysylltu â nhw ac yn ceisio gwneud iddyn nhw deimlo’n euog, fel eu bod yn cytuno i adael i chi aros. Mae’n werth rhybuddio eich ffrind neu aelod o’ch teulu y gallai hyn ddigwydd ac y gallan nhw ddweud na.

Os ydych chi wedi gwneud cais am gymorth o’r blaen

Gallwch wneud cais eto os oes gennych rywbeth newydd i'w gynnwys yn eich cais. Bydd gennych rywbeth newydd naill ai os yw:

  • eich sefyllfa wedi newid ers i chi wneud cais y tro diwethaf – er enghraifft, os ydych chi wedi cael plentyn  

  • os cawsoch dystiolaeth newydd ers i chi wneud cais y tro diwethaf - er enghraifft, adroddiad meddygol wrth eich meddyg

Dylai’r cyngor dderbyn eich cais os ydych yn cynnwys rhywbeth newydd. Siaradwch â chynghorydd os yw’r cyngor yn gwrthod derbyn eich cais.

Siarad â swyddog tai

Dywedwch wrth y swyddog tai pam eich bod yn ddigartref. Er enghraifft, dywedwch wrthyn nhw os yw eich landlord wedi rhoi rhybudd i chi adael.

Ceisiwch roi cymaint o fanylion â phosib am eich sefyllfa. Maen nhw eisiau gwybod mwy am eich sefyllfa fel y gallan nhw benderfynu a yw'r cyngor yn gorfod eich helpu chi.

Dylen nhw esbonio'r broses ar gyfer gwneud cais, gan gynnwys sut bydd y cyngor yn penderfynu a allan nhw helpu a pha gymorth y gallan nhw ei roi i chi.

Bydd y swyddog tai hefyd eisiau gwybod 

  • os ydych chi’n byw yn y DU yn barhaol

  • pwy sy’n byw gyda chi, er enghraifft, os oes gennych blant

  • os oes gennych chi neu bobl eraill sy’n byw gyda chi unrhyw anghenion cymorth, er enghraifft, os ydych chi’n anabl neu â salwch hirdymor

Os ydych chi’n cael cynllun cartref personol

Pan fyddwch yn gwneud cais, efallai y bydd y cyngor yn rhoi ‘cynllun cartref personol’ i chi. Mae hyn yn dweud beth fyddan nhw'n ei wneud a beth sydd angen i chi ei wneud. Er enghraifft, efallai y bydd yn rhaid i chi gytuno i gael cyngor am ôl-ddyledion rhent.

Mae’n bwysig dilyn eich cynllun cartref. Os na fyddwch yn ei ddilyn, efallai na fydd y cyngor yn rhoi unrhyw gymorth pellach i chi.

Gwirio beth sy’n digwydd nesaf

Bydd y cyngor yn penderfynu pa gymorth y byddan nhw’n ei roi i chi. Dylen nhw roi ‘llythyrau penderfyniad’ i chi yn egluro eu penderfyniadau.

Os nad ydych chi’n ddigartref eto, bydd y cyngor yn anfon llythyr penderfyniad atoch yn y post. Bydd y llythyr yn dweud os byddan nhw’n ceisio eich atal rhag dod yn ddigartref.

Os ydych chi’n ddigartref yn barod, dylai’r cyngor roi’r llythyr penderfyniad i chi pan fyddwch chi’n gwneud cais. Bydd y llythyr yn dweud os byddan nhw’n dod o hyd i rywle i chi aros yn y byr dymor - weithiau mae hyn cael ei alw’n ‘llety brys’.

Yna bydd y cyngor yn ystyried a oes rhaid iddyn nhw ddod o hyd i rywle i chi fyw yn yr hirdymor ac yn anfon llythyr penderfyniad arall atoch chi. Gwiriwch beth syn digwydd os yw’r cyngor yn rhoi cartref i chi oherwydd eich bod yn ddigartref.

Os yw’r cyngor yn gwrthod rhoi cartref i chi

Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad y cyngor, gallwch wirio sut i herio penderfyniad am gais digartrefedd.

Os nad ydych yn meddwl y byddwch yn gallu herio’r penderfyniad, gwiriwch beth allwch chi ei wneud os ydych chi’n ddigartref ac nad yw’r cyngor yn fodlon rhoi cartref i chi.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.