Delio â materion ariannol rhywun sydd wedi marw

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Sut mae delio ag eiddo rhywun sydd wedi marw

Mae popeth sy’n eiddo i unigolyn sydd wedi marw yn cael ei alw’n ystad. Gall yr ystad gynnwys y canlynol:

  • arian, boed yn arian parod neu’n arian mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

  • arian sy’n ddyledus i’r unigolyn sydd wedi marw

  • cyfranddaliadau

  • eiddo, er enghraifft, eu cartref

  • eiddo personol, er enghraifft, eu car neu eu gemwaith

Os oes gan yr unigolyn a fu farw ddyledion, er enghraifft, dyledion cerdyn credyd, tanwydd, rhent neu forgais, daw hyn allan o’r ystad.

Mae ystad yr unigolyn sydd wedi marw fel arfer yn cael ei throsglwyddo i berthnasau a ffrindiau sy’n dal yn fyw, naill ai’n unol â’r cyfarwyddiadau yn yr ewyllys, neu os yw’r unigolyn yn marw heb adael ewyllys, yn unol â rheolau cyfreithiol penodol a elwir yn rheolau diffyg ewyllys.

I gael gwybodaeth am ewyllysiau, gweler Ewyllysiau.

I gael gwybodaeth am reolau diffyg ewyllys, gweler Pwy all etifeddu os nad oes ewyllys – rheolau diffyg ewyllys.

Gelwir y sawl sy’n delio ag ystad yr unigolyn sydd wedi marw yn ysgutor neu’n weinyddwr. Ysgutor yw’r unigolyn sydd wedi’i enwi yn yr ewyllys fel rhywun sy’n gyfrifol am ddelio â’r ystad. Mae’n bosib y bydd rhaid i ysgutor wneud cais am awdurdod cyfreithiol arbennig cyn y gall ddelio â’r ystad. Profiant yw’r enw ar hyn.

Mae gweinyddwr yn rhywun sy’n gyfrifol am ddelio ag ystad dan amgylchiadau penodol, er enghraifft, os nad oes ewyllys neu os nad yw’r ysgutorion a enwir yn fodlon gweithredu. Mae’n rhaid i weinyddwr wneud cais am lythyrau gweinyddu cyn y gall ddelio ag ystad.

Er bod rhai eithriadau, fel arfer mae’n anghyfreithlon i chi ddechrau rhannu’r ystad neu gael arian o’r ystad, hyd nes cewch chi brofiant neu lythyrau gweinyddu.

Beth mae’r ysgutor neu’r gweinyddwr yn ei wneud

Mae’r ysgutor neu’r gweinyddwr (a elwir hefyd yn gynrychiolydd personol) yn gyfrifol am ddelio â’r holl ystad. Bydd hyn yn golygu:

  • dod o hyd i’r holl ddogfennau ariannol sy’n eiddo i’r unigolyn a fu farw

  • anfon copi o’r dystysgrif marwolaeth at y sefydliadau sy’n dal arian yr unigolyn sydd wedi marw. Gofynnwch iddynt gadarnhau gwerth yr arian a ddelir ar ddyddiad y farwolaeth a faint o incwm a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn dreth ddiwethaf hyd at ddyddiad y farwolaeth. Hefyd, gofynnwch iddynt rewi’r cyfrifon banc fel na all neb dynnu arian allan heb yr awdurdod cyfreithiol cywir

  • agor cyfrif banc ar ran yr ystad

  • cael gwybod am yr arian sy’n ddyledus i’r ystad

  • cael gwybod am arian sy’n ddyledus gan yr unigolyn sydd wedi marw

  • paratoi rhestr fanwl o eiddo, arian ac eiddo personol a dyledion yn yr ystad

  • cyfrifo faint o dreth etifeddiant sy’n ddyledus a threfnu i’w thalu

  • paratoi ac anfon y dogfennau sy’n ofynnol gan y gofrestrfa brofiant a Chyllid a Thollau EF

  • pan fydd profiant neu lythyrau gweinyddu wedi’u dyfarnu, casglu arian sy’n perthyn i’r ystad gan fanciau, cwmnïau yswiriant, cronfeydd pensiwn a chymdeithasau adeiladu

  • talu dyledion, treuliau a ffioedd, fel ffioedd cyfreithwyr a ffioedd profiant

  • rhannu’r ystad, fel y nodir yn yr ewyllys neu yn ôl rheolau diffyg ewyllys.

Os yw’n ymddangos nad oes digon o asedau yn yr ystad i dalu am dreth, treuliau, biliau a rhwymedigaethau eraill sy’n ddyledus, dylech ofyn am gyngor cyfreithiwr. Gall gweinyddu ystad ansolfent fod yn gymhleth ac os mai chi yw’r ysgutor, chi sy’n gyfrifol am ei wneud yn gywir. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am unrhyw gamgymeriadau. 

Treth a budd-daliadau

Pan fydd rhywun yn marw, mae’n bwysig rhoi trefn ar ei fudd-daliadau, ei dreth a’i Yswiriant Gwladol cyn gynted â phosib. Efallai y bydd treth i’w thalu, neu efallai y bydd rhywfaint o dreth yn ddyledus i’r ystad.

Mae angen i chi ddweud wrth y swyddfa dreth, a phob un o swyddfeydd y llywodraeth a oedd yn talu budd-daliadau i’r unigolyn sydd wedi marw, am ei farwolaeth. Mae angen i chi wneud hyn cyn gynted â phosib ar ôl y farwolaeth.

Yn dibynnu lle’r oedd yr unigolyn sydd wedi marw yn byw, efallai y gallwch ddweud wrth nifer o wasanaethau’r llywodraeth am y farwolaeth drwy gysylltu unwaith â’r Gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, gweler Beth i’w wneud ar ôl marwolaeth.

Os oes angen i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y farwolaeth, gallwch ffonio Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran. Maen nhw’n gallu delio â holl fudd-daliadau’r Adran a oedd yn cael eu talu i’r unigolyn a fu farw. Gallant hefyd wirio a oes gan y perthynas agosaf hawl i unrhyw fudd-daliadau. I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth hwn, gweler Beth i’w wneud ar ôl marwolaeth.

Gwirio a fydd angen i chi dalu treth

Mae rhai asedau’n dal i gael eu trethu yn ystod y cyfnod gweinyddu.

Mae angen i’r ystad dalu treth incwm ar incwm y mae’n ei gael yn ystod y cyfnod hwn – er enghraifft llog banc neu rent. Os byddwch yn gwerthu ased, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu treth enillion cyfalaf. Holwch faint oedd gwerth yr ased mewn profiant. Os ydych chi’n gwerthu’r ased am fwy na’i werth profiant, bydd yn rhaid i chi dalu treth enillion cyfalaf.

Os oes angen help arnoch i baratoi cyfrifon ymddiriedolaeth neu ystad, dylech gael cyngor arbenigol ar drethi. Cymorth ar ddod o hyd i gyngor ar drethi.

Treth etifeddiant

Rhaid i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF am y farwolaeth, rhag ofn y bydd angen talu treth etifeddiaeth. Nid oes rhaid i chi wneud hyn os yw’r ystad yn ‘ystad eithriedig’. Gallwch wirio’r math o ystad yn GOV.UK.

Gwirio a fydd yn rhaid i chi dalu treth etifeddiaeth

Efallai y bydd yn rhaid talu treth etifeddiant os yw’r ystad yn werth mwy na £325,000. Mae rhai eithriadau i’r rheol hon, er enghraifft, os bydd y gŵr, y wraig neu’r partner sifil yn etifeddu’r ystad.

Os oedd yr unigolyn a fu farw yn berchen ar ei gartref, neu ar gyfran ohono, gallai £175,000 arall fod yn ddi-dreth. Mae’r £175,000 ychwanegol yn ddi-dreth os yw’r ystad yn werth llai na £2 filiwn a’i fod yn gadael ei gartref i’r canlynol:

  • ei blant – mae hyn yn cynnwys plant wedi’u mabwysiadu, plant maeth neu lysblant

  • wyrion neu wyresau

Os oes rhaid i chi dalu treth etifeddiant

Rhaid talu rhywfaint o’r dreth cyn dyfarnu profiant neu lythyrau gweinyddu. Ar ôl i brofiant neu lythyrau gweinyddu gael eu dyfarnu, bydd y bil treth terfynol yn cael ei gyfrifo.

Rhaid i chi dalu erbyn diwedd y chweched mis ar ôl i’r unigolyn farw. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb ariannol os nad ydych wedi talu ar ôl chwe mis. Er enghraifft, os bu farw’r unigolyn ym mis Ionawr, rhaid i chi dalu treth etifeddiant erbyn 31 Gorffennaf. 

Os na all yr ystad fforddio talu’r holl dreth ar unwaith, gallech ofyn am gael talu mewn rhandaliadau. 

Sut mae talu

Mae angen i chi gael rhif cyfeirnod treth etifeddiant ar GOV.UK. Dylech wneud hyn o leiaf 3 wythnos cyn bod angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF.

Os nad oes gennych chi gyfreithiwr, gallwch ofyn i Gyllid a Thollau EF gyfrifo faint o dreth etifeddiant sy’n ddyledus. Rhaid iddynt ddweud wrthych faint sy’n ddyledus cyn y gellir dyfarnu profiant.

Gellir talu treth yn uniongyrchol o gyfrif banc yr unigolyn a fu farw. I ofyn am hyn, bydd angen i chi lenwi Ffurflen IHT423. Cael Ffurflen IHT423 ar GOV.UK.

Dyledion

Mae’n bosib bod yr unigolyn sydd wedi marw wedi gadael dyledion, er enghraifft, gorddrafft ar ei gyfrif neu gytundeb credyd nad yw wedi ei dalu.

Pan fydd rhywun yn marw, dylech geisio cysylltu â’i holl gredydwyr. Dylech roi hysbysiad ar wefan y Gazette. Dyma’r cofnod cyhoeddus swyddogol o hysbysiadau cyfreithiol yn y DU. Dylech hefyd roi hysbysiad mewn papur lleol lle’r oedd yr unigolyn a fu farw’n byw neu’n gweithio. Mae’r hysbysiadau hyn yn dweud wrth gredydwyr y gallant wneud hawliad yn erbyn yr ystad i ad-dalu’r ddyled. Os na fyddwch yn rhoi hysbysiad a bod credydwyr yn dod i’r wyneb ar ôl i chi dalu’r ystad, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu gweddill y ddyled gyda’ch arian eich hun.

Yn gyffredinol, os nad oes digon o arian yn ystad yr unigolyn sydd wedi marw i dalu ei ddyledion, ni all ei gredydwyr adennill y swm sy’n dal yn ddyledus gan unrhyw un arall, gan gynnwys perthnasau byw yr unigolyn hwnnw. Dylech holi a oedd gan yr unigolyn hwnnw unrhyw fath o bolisi yswiriant a fyddai’n talu unrhyw rai o’i ddyledion ar ei farwolaeth, er enghraifft, polisi yswiriant diogelu taliadau a drefnwyd ar yr un pryd â benthyciad.

Mewn rhai achosion, gallai’r ddyled fod wedi bod yn un ar y cyd, er enghraifft, gorddrafft ar gyfrif ar y cyd neu swm sy’n ddyledus ar gytundeb credyd a drefnwyd ar y cyd. Os yw hyn yn wir, gellir adennill y ddyled o hyd gan yr unigolyn sy’n dal yn fyw. Hefyd, os oeddech chi’n byw gyda rhywun sydd wedi marw, mae’n bosib y byddwch chi’n dal i fod yn atebol am ddyledion sy’n ymwneud â’r eiddo, fel y dreth gyngor neu filiau dŵr.

Profiant a llythyrau gweinyddu

Profiant

Os cewch eich enwi yn ewyllys rhywun fel ysgutor, efallai y bydd yn rhaid i chi wneud cais am brofiant. Dogfen gyfreithiol yw hon sy’n rhoi’r awdurdod i chi rannu ystad yr unigolyn sydd wedi marw yn unol â’r cyfarwyddiadau yn yr ewyllys. Nid oes angen profiant arnoch bob amser i allu delio â’r ystad.

Os ydych chi wedi cael eich enwi mewn ewyllys fel ysgutor, does dim rhaid i chi weithredu os nad ydych chi eisiau gwneud hynny. Gwirio beth i’w wneud os nad ydych chi eisiau bod yn ysgutor ar GOV.UK.

Llythyrau gweinyddu

Mewn rhai amgylchiadau, bydd yn rhaid i rywun sydd am ddelio ag ystad unigolyn sydd wedi marw wneud cais am lythyrau gweinyddu, yn hytrach na phrofiant. Gelwir yr unigolyn hwn yn weinyddwr. Rhaid i chi wneud cais am lythyrau gweinyddu os:

  • nad oes ewyllys

  • nad yw ewyllys yn ddilys

  • nad oes ysgutorion wedi’u henwi yn yr ewyllys

  • nad yw’r ysgutorion yn gallu gweithredu neu’n fodlon gweithredu.

Mae rheolau llym ynghylch pwy sy’n cael bod yn weinyddwr. Os oes ewyllys ddilys, gallwch wneud cais am lythyrau gweinyddu os:

  • yw’r unigolyn a fu farw yn gadael ei ystad gyfan i chi yn yr ewyllys, ac

  • nad yw’r ysgutorion wedi’u henwi, neu os nad ydynt yn gallu gweithredu neu’n fodlon gweithredu.

Os nad oes ewyllys ddilys, a chi yw’r perthynas agosaf, gallwch wneud cais i fod yn weinyddwr yn y drefn flaenoriaeth ganlynol:

  • chi yw partner priod neu bartner sifil yr unigolyn sydd wedi marw

  • chi yw plentyn yr unigolyn sydd wedi marw

  • chi yw ŵyr/wyres yr unigolyn sydd wedi marw

  • chi yw rhiant yr unigolyn sydd wedi marw

  • chi yw brawd neu chwaer yr unigolyn sydd wedi marw

  • chi yw nai neu nith yr unigolyn sydd wedi marw

  • rydych chi’n berthynas arall i’r unigolyn sydd wedi marw.

Os ydych chi’n bartner di-briod, neu’n bartner o’r un rhyw sydd heb gofrestru partneriaeth sifil ac sydd heb gael eich enwi mewn ewyllys fel ysgutor, ni fyddwch fel arfer yn gallu gweithredu fel gweinyddwr.

Nid oes angen i chi gael llythyrau gweinyddu bob tro er mwyn gallu delio ag ystad rhywun sydd wedi marw.

Gwirio a oes angen profiant neu lythyrau gweinyddu arnoch

Fel arfer, bydd angen i chi gael profiant neu lythyrau gweinyddu i ddelio ag ystad os yw’n cynnwys eiddo fel fflat neu dŷ. Fel arall, efallai na fydd angen profiant na llythyrau gweinyddu arnoch os:

  • yw’r ystad yn cynnwys arian parod yn unig (hynny yw, arian papur a darnau arian) ac eiddo personol fel car, dodrefn a gemwaith

  • yw’r holl eiddo yn yr ystad yn eiddo i gyd-denantiaid buddiannol. Daw’r eiddo hwn yn eiddo’n llwyr i’r perchennog arall yn awtomatig

  • oedd gennych chi gyfrif banc ar y cyd

  • yr swm yr arian yn fach

  • ydych chi’n sylweddoli bod yr ystad yn ansolfent, hynny yw, does dim digon o arian yn yr ystad i dalu’r holl ddyledion, trethi a threuliau

  • yw rhai polisïau yswiriant bywyd a buddion pensiwn yn yr ystad.

Eiddo preswyl

Pan fydd unigolyn yn marw, bydd rhywun arall yn etifeddu neu’n prynu ei eiddo. Bydd angen i chi ddiweddaru’r cofnodion eiddo i ddangos pwy sy’n berchen ar yr eiddo nawr. Gallwch ddiweddaru cofnodion eiddo ar GOV.UK.

Os byddwch yn gwerthu’r eiddo, mae’n debyg y bydd angen help trawsgludwr arnoch. Mae trawsgludwr yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol sy’n arbenigo mewn trosglwyddo eiddo. Gallwch wneud y canlynol:

Os oedd un unigolyn yn berchen ar yr eiddo

Gallai rhywun etifeddu’r eiddo neu gellid ei werthu.

Gelwir yr unigolyn sy’n etifeddu’r eiddo yn ‘y buddiolwr’.  Os byddwch yn etifeddu’r eiddo, bydd angen i chi ddiweddaru cofnodion yr eiddo i fod yn berchennog.

I ddiweddaru’r cofnodion, mae angen i chi lenwi:

  • ffurflen ‘newid y gofrestr’, a elwir hefyd yn ffurflen AP1

  • ffurflen ‘Teitl cofrestredig cyfan: cydsynio’, a elwir hefyd yn ffurflen AS1

  • ffurflen ‘Cadarnhau hunaniaeth: dinesydd’, a elwir hefyd yn ffurflen ID1

Lawrlwythwch y ffurflenni hyn a gwirio pa ddogfennau eraill sydd eu hangen arnoch ar GOV.UK.

Pwy sy’n etifeddu os oedd yr eiddo mewn cyd-berchnogaeth

Gall cyplau fod yn berchen ar eu cartref ar y cyd. Mae dwy ffordd wahanol o fod yn berchen ar dŷ ar y cyd. Mae’r rhain yn gyd-denantiaethau neu’n denantiaethau ar y cyd.

Os oedd y partneriaid yn gyd-denantiaid buddiannol adeg y farwolaeth, bydd y partner sy’n dal yn fyw yn etifeddu cyfran y partner arall o’r eiddo yn awtomatig. Nid oes angen profiant na llythyrau gweinyddu oni bai fod asedau eraill nad ydynt yn eiddo ar y cyd. Efallai fod morgais ar yr eiddo.

Fodd bynnag, os yw’r partneriaid yn denantiaid ar y cyd, nid yw’r partner sy’n dal yn fyw yn etifeddu cyfran y partner arall yn awtomatig. Bydd angen profiant neu lythyrau gweinyddu er mwyn i’r cynrychiolydd personol allu trosglwyddo i bwy bynnag fydd yn etifeddu’r gyfran o’r eiddo, yn unol â’r ewyllys neu reolau diffyg ewyllys. Efallai fod morgais ar yr eiddo.

Enghraifft

Ayodele and Olujimi are not married. They have one grown-up daughter called Ife. Ayodele and Olujimi own their home as tenants in common. Ayodele dies without leaving a will. Olujimi doesn't have the right to apply for letters of administration but Ife does. She inherits the half share of the home under the rules of intestacy. Olujimi keeps his half share.

I gael rhagor o wybodaeth am gyd-denantiaeth fuddiannol a thenantiaeth ar y cyd, ewch i ‘Prynu gyda rhywun arall’ yn Prynu cartref.  I gael rhagor o wybodaeth am reolau diffyg ewyllys, gweler Pwy all etifeddu os nad oes ewyllys – rheolau diffyg ewyllys.

Os oes morgais ar yr eiddo

Os yw’r eiddo yn mynd i gael ei etifeddu gan rywun a bod morgais yn weddill arno, bydd y cwmni morgais naill ai’n mynnu bod y morgais yn cael ei dalu ar unwaith, neu’n gofyn i’r unigolyn sy’n etifeddu’r eiddo gymryd drosodd y morgais.

Os oes morgais ar yr eiddo, mae’n bosib bod polisi yswiriant bywyd, polisi gwaddol neu bolisi diogelu morgais ar waith a fydd yn talu’r morgais sy’n weddill os bydd yr unigolyn a drefnodd y morgais yn marw. Yn yr achos hwn, dylech ysgrifennu at y cwmni yn gofyn am ddatganiad terfynol.

Os bydd yr eiddo’n cael ei werthu, bydd y morgais yn cael ei dalu o werthiant yr eiddo.

Cyfrifon banc ar y cyd

Gall cyplau hefyd fod â chyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu ar y cyd. Os bydd un yn marw, bydd yr holl arian yn mynd i’r partner sy’n dal yn fyw heb fod angen profiant na llythyrau gweinyddu. Efallai y bydd angen i’r banc weld y dystysgrif marwolaeth er mwyn trosglwyddo’r arian i’r cyd-berchennog arall.

Efallai y bydd angen profiant neu lythyrau gweinyddu o hyd os oes asedau eraill nad ydynt mewn cyd-berchnogaeth.

Os yw swm yr arian yn fach

Gall yr ystad gynnwys swm cymharol fach o arian a ddelir:

  • mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu

  • mewn cronfa bensiwn

  • gan gwmni yswiriant.

Os yw swm yr arian a ddelir gan y sefydliad o dan swm penodol, ar ôl i gostau’r angladd gael eu talu, efallai y byddant yn barod i’w ryddhau i chi heb i chi orfod gwneud cais am brofiant neu lythyrau gweinyddu. Gall y swm hwn amrywio o un sefydliad i’r llall, felly bydd angen i chi gadarnhau gyda phob un.

Bydd rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn rhyddhau symiau eithaf mawr heb fod angen llythyrau profiant na llythyrau gweinyddu. Hefyd, bydd rhai banciau a chymdeithasau adeiladu yn rhyddhau arian sydd ei angen i dalu am angladd, ffioedd profiant a threth etifeddiant ond dim byd arall hyd nes dyfernir profiant neu lythyrau gweinyddu i chi.

Mae hyn yn dibynnu’n llwyr ar bolisi’r sefydliad dan sylw. Nid oes rhaid iddynt ryddhau unrhyw beth, waeth pa mor fach yw swm yr arian.  Os yw’r sefydliad yn gwrthod rhyddhau arian heb brofiant neu lythyrau gweinyddu, rhaid i chi wneud cais am brofiant neu lythyrau gweinyddu hyd yn oed os nad oes arnoch eu hangen fel arall.

A oes angen cyfreithiwr arnoch

Mae llawer o ysgutorion a gweinyddwyr yn gweithredu heb gyfreithiwr. Fodd bynnag, os yw’r ystad yn gymhleth, mae’n well cael cyngor cyfreithiol. Dylech bob amser gael cyngor cyfreithiol os, er enghraifft:

  • nad yw telerau ewyllys yn glir

  • bydd rhan o’r ystad yn cael ei throsglwyddo i blant o dan 18 oed

  • yw’r unigolyn a fu farw wedi gadael arian neu eiddo mewn ymddiriedolaeth

  • yw’r unigolyn a fu farw yn berchen ar dir neu eiddo dramor

  • oedd yr unigolyn a fu farw yn berchen ar fusnes

  • yw unrhyw un yn debygol o herio’r ewyllys.

Gellir talu am y ffioedd cyfreithiol o’r ystad.

Os oes unrhyw broblemau gyda’r ffordd y mae ysgutorion neu weinyddwyr yn delio â’r ystad, er enghraifft, os oes oedi afresymol neu os yw’r ysgutorion neu’r gweinyddwyr yn camddefnyddio eu pwerau cyfreithiol, bydd angen cyngor cyfreithiol arnoch.

Sut mae cael gafael ar gyngor cyfreithiol fforddiadwy neu am ddim.

Faint o amser mae’n ei gymryd i gael profiant neu lythyrau gweinyddu

Fel arfer, byddwch yn cael profiant o fewn 16 wythnos i wneud cais. Gallai gymryd mwy o amser os oes angen i chi roi mwy o wybodaeth. Mae gwneud cais drwy’r post yn cymryd mwy o amser na gwneud cais ar-lein.

Efallai y bydd angen i chi wneud cais i Gyllid a Thollau EF cyn gwneud cais am brofiant, hyd yn oed os nad yw’r ystad yn drethadwy. Bydd hyn yn oedi eich cais am brofiant. Rhaid i chi aros 20 diwrnod gwaith ar ôl cyflwyno eich cais i Gyllid a Thollau EF cyn i chi allu gwneud cais am brofiant.

Gwirio sut mae gwneud cais am brofiant neu lythyrau gweinyddu

Fel arfer, gallwch wneud cais am brofiant ar-lein neu drwy’r post. 

Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai mai dim ond drwy’r post y gallwch wneud cais. Bydd y broses gwneud cais ar-lein yn dweud wrthych a oes rhaid i chi wneud cais drwy’r post.

Gwneud cais am brofiant ar-lein

Gallwch wneud cais ar-lein os mai chi yw ysgutor yr ewyllys a:

  • roedd yr unigolyn a fu farw yn byw yn barhaol yng Nghymru neu yn Lloegr neu’n bwriadu dychwelyd yno  

  • bod gennych chi’r ewyllys wreiddiol a’r dystysgrif marwolaeth (neu dystysgrif marwolaeth interim) gan y crwner

  • rydych eisoes wedi rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EF am werth ystad yr unigolyn a fu farw (mae hyn yn cynnwys ei arian, ei eiddo a’i eiddo personol)

Os oes angen i chi roi gwybod i Gyllid a Thollau EF am werth ystad yr unigolyn a fu farw, rhaid i chi wneud hyn cyn gwneud cais ar-lein.

Gallwch wneud cais am brofiant ar-lein yn GOV.UK. Bydd angen i chi lofnodi datganiad gwirionedd ar-lein ac anfon dogfennau i’r gofrestrfa brofiant ar ôl i chi orffen y cais. Byddwch yn cael gwybod beth sydd angen i chi ei anfon.

Gwneud cais am brofiant neu lythyrau gweinyddu drwy’r post

I wneud cais am brofiant neu lythyrau gweinyddu drwy’r post, bydd angen i chi lenwi nifer o ffurflenni. 

Bydd angen PA1P arnoch chi os yw’r unigolyn wedi gadael ewyllys a PA1A os nad yw wedi gwneud hynny. Mae’r ffurflenni hyn yn gofyn am fanylion yr unigolyn a fu farw, ei berthnasau sy’n dal yn fyw a’r cynrychiolydd personol. Os ydych chi’n llenwi ffurflen PA1P, bydd angen i chi ateb rhai cwestiynau am yr ewyllys.

Bydd angen i chi lenwi ffurflenni eraill yn dibynnu ar beth sydd yn yr ystad a beth yw ei gwerth.

Gallwch gael y ffurflenni PA1P a PA1A ar GOV.UK. Gallwch hefyd gael gafael arnynt drwy ffonio Llinell Gymorth Profiant a Threth Etifeddiaeth Cyllid a Thollau EF. Ffoniwch i gael help i lenwi’r ffurflen.

Treth Etifeddiant a phrofiant

Ffôn: 0300 303 0648

Llinell gymorth Gymraeg: 0300 303 065

Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm

Anfon eich ffurflenni

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadw copïau o’r ffurflenni ac unrhyw beth arall rydych chi wedi gorfod ei anfon gyda’r ffurflenni.

Bydd angen i chi anfon rhai dogfennau gyda’r ffurflenni, gan gynnwys:

  • yr ewyllys wreiddiol (os oes un) a thri chopi

  • y dystysgrif marwolaeth

  • y ffi profiant

Anfonwch y ffurflenni a’r dogfennau i’r gofrestrfa brofiant yn:

HMCTS Probate PO Box 12625 Harlow CM20 9QE

Fyddan nhw ddim yn anfon yr ewyllys yn ôl atoch chi. Os hoffech gael copi ardystiedig o’r ewyllys, gallwch ofyn i’r gofrestrfa brofiant am un.

Ffi profiant

Mae’r ffi am wneud cais am brofiant neu lythyrau gweinyddu yn dibynnu ar werth yr ystad. Ni fyddwch yn talu ffi os yw gwerth yr ystad yn llai na £5,000.

Os yw’r ystad yn werth £5,000 neu fwy, £300 yw’r ffi.  Ychwanegir ffi ychwanegol o £1.50 am bob copi o’r grant sydd ei angen arnoch. Mae hyn yr un fath ar gyfer ceisiadau drwy’r post ac ar-lein.  

Os ydych chi ar incwm isel neu’n cael problemau ariannol, gallwch wneud cais i dalu ffi ostyngol neu ddim ffi o gwbl. Gallwch wneud cais ar-lein neu lawrlwytho ffurflen i’w hargraffu ar GOV.UK yn www.gov.uk.

Ar ôl dyfarnu profiant neu lythyrau gweinyddu

Unwaith y bydd y dreth wedi’i thalu, anfonir profiant neu lythyrau gweinyddu atoch yn y post. Byddant yn cynnwys manylion yr ystad gros a net – gwerth yr ystad cyn ac ar ôl didynnu dyledion.

Mae’r profiant/llythyrau gweinyddu a’r ewyllys yn ddogfennau cyhoeddus a gall unrhyw un eu gweld, os dymunant.

Unwaith y byddwch wedi cael profiant neu lythyrau gweinyddu, gallwch ddechrau delio â’r ystad a rhannu’r eiddo. Mae gwybodaeth am beth i’w wneud ar ôl i chi gael profiant (a elwir hefyd yn grant cynrychiolaeth) ar gael ar GOV.UK.

Os nad ydych chi eisiau bod yn ysgutor

Hyd yn oed os ydych chi wedi cael eich enwi’n ysgutor yn ewyllys rhywun, efallai na fyddwch yn gallu gweithredu neu’n awyddus i weithredu fel ysgutor. Gwirio beth i’w wneud os nad ydych chi eisiau bod yn ysgutor ar GOV.UK.

Os byddwch yn dewis peidio â bod yn ysgutor, ni ddylech wneud unrhyw beth sy’n gyfrifoldeb i’r ysgutor. Er enghraifft, ddylech chi ddim gwerthu asedau’r unigolyn a fu farw na rhedeg ei fusnes. Gallwch drefnu’r angladd o hyd.

Herio ysgutor

Efallai y byddwch yn meddwl nad yw ysgutor yn gwneud pethau’n iawn, er enghraifft am nad yw’n dilyn yr ewyllys yn gywir.

Yn gyntaf, siaradwch â’r ysgutor a dweud wrtho beth yw’r broblem. Mae’n well gwneud hyn yn ysgrifenedig. Cadwch gopi o’r llythyr rhag ofn y bydd ei angen arnoch fel tystiolaeth yn ddiweddarach.

Os na allwch chi gytuno, gallech roi cynnig ar gyfryngu. Mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu ffi am hyn. Gallwch ddod o hyd i gyfryngwr ar wefan y Cyngor Cyfryngu Sifil.

Os yw pethau’n anodd i chi

Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â’ch iechyd corfforol. Dylech chi siarad â’ch meddyg teulu os ydych chi’n cael trafferth gyda’ch iechyd meddwl.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael help gyda’ch iechyd meddwl ar wefan Mind.

Os bydd angen help arnoch i ymdopi â galar

Gallwch ffonio llinell gymorth Cruse Bereavement Care neu gael help ar eu gwefan.

Cruse Bereavement Care

Llinell gymorth: 0808 808 1677 

Dydd Llun: 9.30am – 5pm

Dydd Mawrth: 1pm – 8pm

Dydd Mercher i ddydd Gwener: 9.30am – 5pm

www.cruse.org.uk

Os oes angen i chi siarad â rhywun

Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig mewn sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.

Y Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (unrhyw bryd o ddydd Llun i ddydd Sul)

Y Llinell Gymraeg: 0808 164 0123 (o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 7pm ac 11pm)

Gallwch ffonio’r Samariaid yn rhad ac am ddim.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â’r Samariaid ar eu gwefan.

Shout

Gallwch hefyd decstio ‘SHOUT’ i 85258 i ddechrau sgwrs gyda gwirfoddolwr hyfforddedig. Gallwch anfon negeseuon testun yn rhad ac am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol o unrhyw le yn y DU.

Os ydych chi’n meddwl ei fod yn argyfwng

Os ydych chi’n meddwl bod eich bywyd chi neu rywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.