What to do after a death

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dylech gysylltu â’r bobl a oedd yn adnabod yr unigolyn a fu farw cyn gynted â phosibl. Mae hyn yn cynnwys ei gyflogwr.

Cyn pen ychydig ddiwrnodau ar ôl y farwolaeth, dylech wneud y pethau a ganlyn:

  • cofrestru’r farwolaeth – rhaid i chi wneud hyn cyn pen pum diwrnod

  • defnyddio’r gwasanaeth ‘Dywedwch Wrthym Unwaith’ i roi gwybod i’r llywodraeth am y farwolaeth

  • dechrau trefnu’r angladd

Cyn pen cwpl o wythnosau ar ôl y farwolaeth, gall fod angen i chi wneud y pethau a ganlyn:

  • rhoi gwybod i sefydliadau eraill, fel banciau a chwmnïau’r cyfleustodau

  • ailgyfeirio neu atal post yr unigolyn sydd wedi marw 

Ceir rheolau arbennig o ran ymdrin ag arian ac eiddo rhywun sydd wedi marw. Edrychwch i weld sut i ymdrin â materion ariannol rhywun sydd wedi marw.

If you need to check what you have coming in and going out, you can use our budgeting tool.

You should check if you can claim benefits or increase your current benefits. Check what benefits you can get. You could also get help with bills.

Edrychwch i weld beth i’w wneud yn syth ar ôl i rywun farw

Os yw’r unigolyn wedi marw yn yr ysbyty

Os bydd eich perthynas yn marw yn yr ysbyty, bydd y staff yn cysylltu â chi, yn paratoi’r corff ac yn trefnu iddo fynd i gorffdy’r ysbyty. Yna, gofynnir i chi drefnu i’r trefnydd angladdau gasglu’r corff. Fel arfer, bydd yn mynd â’r corff i’w gapel gorffwys. Ar yr un pryd, gofynnir i chi gasglu eiddo personol yr unigolyn.

Cyn bod modd cofrestru marwolaeth yn ffurfiol, bydd angen i feddyg roi tystysgrif feddygol yn nodi achos y farwolaeth. Bydd yr ysbyty fel arfer yn anfon y dystysgrif at y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau. Yna, bydd y cofrestrydd yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i gofrestru’r farwolaeth. Byddwch hefyd yn cael hysbysiad yn egluro sut i gofrestru’r farwolaeth. Nid oes tâl am y naill na’r llall o’r pethau hyn. Os nad oes meddyg ysbyty wedi gweld yr unigolyn, gall fod modd i’w feddyg teulu roi tystysgrif. 

Gallai’r ysbyty ofyn i chi am ganiatâd i gynnal archwiliad post-mortem i ddysgu mwy am achos y farwolaeth. Nid oes rhaid i chi gytuno i hyn.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd modd i feddyg roi tystysgrif feddygol yn nodi achos y farwolaeth. Gall fod sawl rheswm am hyn. Os nad yw’r meddyg yn gallu rhoi tystysgrif feddygol, bydd yn cyfeirio’r farwolaeth at grwner. Gallai’r crwner orchymyn bod archwiliad post-mortem yn cael ei gynnal. Nid oes gennych hawl i wrthwynebu archwiliad post-mortem y mae crwner yn gorchymyn ei gynnal, ond dylech roi gwybod i’r crwner os oes gennych wrthwynebiadau crefyddol neu wrthwynebiadau cryf eraill.

Dewch i wybod mwy am yr achosion lle y caiff marwolaethau eu cyfeirio at grwner drwy fynd i wefan GOV.UK. Os bwriedir cynnal amlosgiad, bydd angen i ail feddyg lofnodi tystysgrif i gadarnhau bod y corff wedi’i archwilio. Codir tâl am y dystysgrif hon.

Os yw’r unigolyn wedi marw gartref

Pan fydd rhywun yn marw gartref, dylid ffonio ei feddyg teulu cyn gynted â phosibl. Bydd y meddyg teulu fel arfer yn ymweld â’r cartref ac, os oedd disgwyl i’r unigolyn farw, dylai fod modd iddo/iddi roi tystysgrif yn nodi achos y farwolaeth.

Os nad ydych yn gwybod pwy yw meddyg teulu’r unigolyn neu os na allwch gysylltu â’r meddyg teulu, ffoniwch y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) ar 111.

Ni chaniateir i feddyg roi tystysgrif os nad yw’n sicr o achos y farwolaeth. Pan fydd hyn yn digwydd, rhaid rhoi gwybod i grwner am y farwolaeth, a bydd y corff yn cael ei gludo i gorffdy’r ysbyty lle y gall fod angen cynnal archwiliad post-mortem.

Os yw’r unigolyn wedi marw dramor

Os bydd rhywun yn marw dramor, rhaid cofrestru’r farwolaeth yn unol â chyfraith y wlad honno. Dylid rhoi gwybod i Swyddfa Is-gennad Prydain am y farwolaeth hefyd. Mae’n bosibl y gall drefnu i’r farwolaeth gael ei chofrestru yn y Deyrnas Unedig (y DU) hefyd.

Mae dychwelyd corff i’r DU yn ddrud, ond mae’n bosibl y bydd y gost yn cael ei thalu gan unrhyw yswiriant teithio a drefnwyd gan yr unigolyn sydd wedi marw. Os bu’r unigolyn farw tra’r oedd ar wyliau pecyn, dylai fod modd i’r cwmni teithio gynorthwyo â’r trefniadau.

Pan fydd corff yn dychwelyd i’r DU, rhaid rhoi gwybod i Gofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau yr ardal lle y bwriedir cynnal yr angladd, a bydd angen i’r Cofrestrydd roi tystysgrif cyn bod modd cynnal claddedigaeth. Os bwriedir cynnal amlosgiad, rhaid i’r Swyddfa Gartref roi caniatâd hefyd.

Os nad yw’r unigolyn wedi marw o achosion naturiol, bydd angen rhoi gwybod i grwner yr ardal hefyd a gall fod angen cynnal cwest.

Cofrestru’r farwolaeth

Mae angen i rywun gofrestru’r farwolaeth cyn pen pum diwrnod – oni bai fod crwner yn ymchwilio i’r farwolaeth. Fel arfer, dylai perthynas gofrestru’r farwolaeth. Mae peidio â chofrestru marwolaeth yn drosedd.

Ewch i wefan GOV.UK i weld sut i gofrestru marwolaeth.

Bydd y cofrestrydd yn rhoi tystysgrif claddu neu amlosgi i chi. Os ydych wedi dewis trefnydd angladdau, gall y cofrestrydd anfon y dystysgrif ato’n uniongyrchol.

Edrychwch i weld a fydd crwner yn ymchwilio i’r farwolaeth

Meddyg neu gyfreithiwr a benodir gan awdurdod lleol i ymchwilio i farwolaethau penodol yw crwner.

Gall crwner ymchwilio i farwolaeth os yw’r corff yn ei ardal, hyd yn oed os yw’r farwolaeth wedi digwydd rywle arall, er enghraifft, dramor.

Bydd y sawl sy’n ardystio’r farwolaeth yn rhoi gwybod i chi a oes angen rhoi gwybod i’r crwner am y farwolaeth.

Rhaid rhoi gwybod i grwner am farwolaeth bob amser:

  • os nad yw achos y farwolaeth yn wybyddus neu’n sicr

  • os oedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol (er enghraifft, hunanladdiad, damwain neu orddos alcohol neu gyffuriau)

  • os oedd y farwolaeth yn amheus mewn unrhyw ffordd

  • os digwyddodd y farwolaeth yn y carchar neu yn nalfa’r heddlu

Fel arfer, bydd meddyg neu’r heddlu yn rhoi gwybod i’r crwner am y farwolaeth os oes angen iddo/iddi ymchwilio iddi.

Os nad ydych yn cytuno ag achos swyddogol marwolaeth, gallwch siarad â chrwner am hyn – efallai y byddwch am ofyn i’r crwner ymchwilio i’r farwolaeth. Gallwch ddod o hyd i uwch-grwner eich ardal ar wefan Barnwriaeth y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd.

Mewn rhai achosion, bydd angen i’r crwner orchymyn cynnal archwiliad post-mortem. Os felly, bydd y corff yn cael ei gludo i’r ysbyty er mwyn cynnal yr archwiliad post-mortem. Nid oes gennych hawl i wrthwynebu archwiliad post-mortem y mae crwner yn gorchymyn ei gynnal, ond dylech roi gwybod i’r crwner os oes gennych wrthwynebiadau crefyddol neu wrthwynebiadau cryf eraill. Mewn achosion lle y rhoddir gwybod i grwner am farwolaeth am nad yw’r unigolyn wedi gweld meddyg yn ystod y 28 diwrnod diwethaf, bydd y crwner yn ymgynghori â meddyg teulu’r unigolyn ac, fel arfer, ni fydd angen gorchymyn cynnal archwiliad post-mortem.

Gallwch ddod i wybod mwy am archwiliadau post-mortem a’ch hawliau drwy fynd i wefan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol.

Ni ellir cofrestru marwolaeth y rhoddwyd gwybod i’r crwner amdani hyd nes bod ymchwiliadau’r crwner wedi’u cwblhau a bod tystysgrif wedi’i rhoi yn caniatáu i’r farwolaeth gael ei chofrestru. Fel arfer, mae hyn yn golygu y bydd oedi cyn cynnal yr angladd hefyd. Pan fo archwiliad post-mortem wedi’i gynnal, rhaid i’r crwner roi caniatâd i gynnal amlosgiad.

Cwestau

Ymchwiliad cyfreithiol i farwolaeth yw cwest. Dim ond crwner all orchymyn cynnal cwest ac nid oes gan berthnasau hawl i fynnu bod cwest yn cael ei gynnal.

Fe’i cynhelir yn gyhoeddus gan grwner (weithiau gyda rheithgor) mewn achosion lle’r oedd y farwolaeth yn dreisgar neu’n annaturiol neu lle y bu iddi ddigwydd yn y carchar neu yn nalfa’r heddlu neu lle y mae ei hachos yn dal i fod yn ansicr ar ôl cynnal archwiliad post-mortem. 

Gellir cynnal cwest i farwolaeth a ddigwyddodd dramor os yw’r corff wedi ei ddychwelyd i’r DU.

Caiff perthnasau fynd i’r cwest a gofyn cwestiynau i’r tystion. Gall fod cymorth cyfreithiol ar gael er mwyn cael cyngor cyfreithiol ynghylch cwest. Weithiau, gall sefydliad o’r enw INQUEST drefnu cynrychiolaeth gyfreithiol, naill ai am ddim neu am dâl gostyngedig. Cyfeiriad INQUEST yw:

Inquest

89-93 Fonthill Road

London

N4 3JH

Tel: 020 7263 1111

Fax: 020 7561 0799

Email: inquest@inquest.org.uk

Website: www.inquest.org.uk

Dylai’r cwest ddarparu mwy o wybodaeth am sut a pham y digwyddodd y farwolaeth ac a oedd unrhyw un arall yn gyfrifol amdani. Mewn rhai achosion, gall erlyniad troseddol ddigwydd yn ddiweddarach.

Pan fydd y cwest wedi’i’ gynnal, gellir cofrestru’r farwolaeth a gellir cynnal yr angladd. Mewn rhai achosion, gallai’r crwner ganiatáu i’r angladd gael ei chynnal cyn i’r cwest ddod i ben.

Trefnu’r angladd

Gellir cynnal angladd unrhyw bryd ar ôl marwolaeth. Gall unrhyw un sy’n agos at yr unigolyn drefnu’r angladd.

Dewch i wybod sut i drefnu angladd a sut i gael cymorth i dalu costau angladd.

Rhoi organau i’w trawsblannu neu roi corff ar gyfer ymchwil feddygol

Rhoi organau

Mae’n bosibl y bydd yr unigolyn sydd wedi marw am roi ei organau i’w trawsblannu. Bydd hyn yn haws os oedd yr unigolyn wedi’i restru ar Gofrestr Rhoddwyr Organau’r GIG, yn cario cerdyn rhoddwr ac wedi trafod y cynlluniau i roi organau â’i deulu. Gofynnir o hyd i’r perthnasau gydsynio cyn rhoi’r organau. Bydd y rhan fwyaf o’r organau a roddir i’w trawsblannu’n dod gan bobl sydd wedi marw tra maent yn cael cymorth anadlu mewn uned gofal dwys yr ysbyty. I gael mwy o wybodaeth am roi organau a thrawsblannu, cysylltwch â:

NHS Organ Donor Register

NHS Blood and Transplant

Organ Donation and Transplantation Directorate

Fox Den Road

Stoke Gifford

Bristol

BS34 8RR

Organ Donor Line: 0300 123 2323 (24 hours a day, every day)

Tel: 0117 975 7575 (admin)

Fax: 0117 975 7577

Email: enquiries@nhsbt.nhs.uk

Website: www.organdonation.nhs.uk/

If you live in Wales and haven't registered a decision to opt in (or opt out) of organ donation, you will be treated as if you have opted in. This is called 'deemed consent'.

Rhoi’r corff ar gyfer addysg neu ymchwil feddygol

Os hoffech adael eich corff ar gyfer addysg neu ymchwil feddygol, rhaid i chi drefnu i roi cydsyniad cyn i chi farw. Gallwch gael ffurflen gydsyniad gan eich ysgol feddygol agosaf. Dylech gadw copi o’r ffurflen gydsyniad gyda chi a dylech ddweud wrth eich teulu, eich ffrindiau agos a’ch meddyg teulu eich bod am roi’ch corff. I ddod i wybod ble mae’ch ysgol feddygol agosaf, ewch i wefan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol yn www.hta.gov.uk.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am roi’ch corff drwy fynd i wefan yr Awdurdod Meinweoedd Dynol.

Os caiff y corff ei dderbyn, bydd yr ysgol feddygol yn trefnu i amlosgi neu i gladdu’r corff yn y pen draw.

Camesgoriadau, marw-enedigaethau, marwolaethau newyddenedigol ac amenedigol

Camesgoriadau

Colli babi cyn 24ain wythnos y beichiogrwydd yw camesgoriad. Nid oes angen cofrestru hyn. Ond, os bydd y babi’n byw ar ôl ei eni, hyd yn oed am amser byr, gall fod angen i chi gofrestru’r enedigaeth a’r farwolaeth. I gael mwy o wybodaeth, darllenwch Marwolaethau newyddenedigol ac amenedigol.

Marw-enedigaethau

Marwolaeth ar ôl 24ain wythnos y beichiogrwydd lle nad yw’r plentyn yn cael ei eni’n fyw yw marw-enedigaeth. Bydd meddyg neu fydwraig yn rhoi tystysgrif feddygol o’r farw-enedigaeth, yn nodi ei hachos.

Rhaid i’r rhieni roi’r dystysgrif i’r Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau cyn pen 42 diwrnod ar ôl geni’r babi. Yn yr Alban, rhaid gwneud hyn cyn pen 21 diwrnod. 

Os yw’r rhieni’n briod, bydd angen manylion y ddau riant ar y cofrestrydd. Os nad yw’r rhieni’n briod, dim ond manylion y fam sy’n ofynnol, ond gall y tad roi ei fanylion.

Os ydych mewn partneriaeth sifil fenywaidd a bod y plentyn wedi’i eni drwy atgenhedlu â chymorth, bydd angen manylion y ddau bartner ar y cofrestrydd.

Gall y cofrestrydd roi tystysgrif marwolaeth, ond dim ond i’r fam, i’r tad neu i bartner sifil y fam os yw eu manylion yn ymddangos yn y cofrestriad, neu i’r brodyr a/neu chwiorydd os yw’r rhieni wedi marw.

Ni fydd llawer o drefnwyr angladdau’n codi tâl am drefnu angladd babi marw-anedig, ac ni fydd llawer o fynwentydd ac amlosgfeydd yn codi tâl am gladdedigaeth neu amlosgiad ychwaith.

Marwolaethau newyddenedigol ac amenedigol

Os bydd y babi’n byw, hyd yn oed am amser byr, ar ôl ei eni ac yna’n marw, gelwir hon yn farwolaeth newyddenedigol neu amenedigol.

Marwolaeth newyddenedigol yw marwolaeth lle y mae’r babi’n marw cyn pen 28 diwrnod ar ôl ei eni, ni waeth beth oedd hyd y beichiogrwydd.

Marwolaeth amenedigol yw marwolaeth lle y mae’r babi’n cael ei eni ar ôl 24ain wythnos y beichiogrwydd, ond yn marw cyn pen saith diwrnod ar ôl ei eni.  

Os ceir marwolaeth newyddenedigol neu amenedigol, rhaid cofrestru’r enedigaeth a’r farwolaeth. Pan fydd babi wedi marw cyn pen mis ar ôl ei eni, gellir cofrestru’r enedigaeth a’r farwolaeth yr un pryd.

Cofrestrir yr enedigaeth yn y ffordd arferol. Cofrestrir y farwolaeth drwy fynd â thystysgrif feddygol y farwolaeth at y Cofrestrydd Genedigaethau a Marwolaethau cyn pen pum diwrnod ar ôl y farwolaeth (wyth diwrnod yn yr Alban). Os nad yw hyn yn bosibl, dylai’r ysbyty neu riant ffonio’r cofrestrydd ac egluro’r sefyllfa, er enghraifft, bod y fam yn rhy sâl i fynd at y cofrestrydd.

Os yw’r rhieni’n briod, bydd angen manylion y ddau riant ar y cofrestrydd. Os nad yw’r rhieni’n briod, dim ond manylion y fam sy’n ofynnol, ond gall y tad roi ei fanylion.

Os ydych mewn partneriaeth sifil fenywaidd a bod y plentyn wedi’i eni drwy atgenhedlu â chymorth, bydd angen manylion y ddau bartner ar y cofrestrydd.

Gall fod modd o hyd i’r rhieni gael budd-daliadau, fel y Budd-dal Plant, am wyth wythnos ar ôl marwolaeth y babi.

Dewch i wybod beth sy’n digwydd i’ch Budd-dal Plant pan fydd eich babi’n marw drwy fynd i wefan GOV.UK.

Os yw’r rhieni’n cael Credyd Cynhwysol, gallai fod modd iddynt gael yr elfen plentyn hefyd am ddau gyfnod asesu ar ôl marwolaeth y babi. Os oes angen cymorth arnoch i weld beth byddant yn ei gael, gallwch siarad â chynghorydd.

Rhoi gwybod i’r llywodraeth am y farwolaeth

Pan fydd rhywun yn marw, bydd fel arfer rhaid i chi roi gwybod i sawl un o adrannau’r llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog, yn ogystal ag asiantaethau eraill y llywodraeth, er mwyn iddynt ddiweddaru eu cofnodion.

Yng Nghymru a Lloegr, gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith i roi gwybod i sawl un o adrannau’r llywodraeth, asiantaethau’r llywodraeth a’r awdurdod lleol am y farwolaeth yr un pryd. Er enghraifft, bydd y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith yn eich cynorthwyo i roi gwybod am y farwolaeth i’r rhan fwyaf o’r swyddfeydd a oedd yn talu budd-daliadau i’r unigolyn sydd wedi marw, yn ogystal ag asiantaethau eraill y llywodraeth, fel y Gwasanaeth Pasbort a’r DVLA.

Pan fyddwch yn cofrestru marwolaeth, gall y cofrestrydd eich cynorthwyo i ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith neu gall roi rhif cyfeirnod i chi er mwyn i chi ddefnyddio’r gwasanaeth eich hun.

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith ar-lein ar wefan GOV.UK. Bydd arnoch angen y rhif cyfeirnod a roddwyd gan y cofrestrydd. Gallwch hefyd ffonio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith – gallwch gael y rhif ffôn gan y cofrestrydd.

Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau

Os oedd yr unigolyn sydd wedi marw’n cael unrhyw fudd-daliadau, dylech roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am y farwolaeth. Dylech wneud hyn hyd yn oed os ydych wedi defnyddio’r gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith.

Mae Gwasanaeth Profedigaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn caniatáu i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau am farwolaeth drwy un alwad ffôn a fydd yn trafod yr holl fudd-daliadau yr oedd yr unigolyn sydd wedi marw yn eu cael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ar yr un pryd, gall y Gwasanaeth Profedigaeth wneud gwiriad budd-daliadau i ddod i wybod a all y perthynas agosaf hawlio unrhyw fudd-daliadau. Gall hefyd gymryd hawliad i gael budd-daliadau profedigaeth neu daliad angladd dros y ffôn.

Dyma fanylion cyswllt y Gwasanaeth Profedigaeth:

Bereavement Service helpline

Telephone: 0800 151 2012

Welsh language: 0800 731 0453

Textphone: 0800 731 0464

Welsh language textphone: 0800 731 0456

Relay UK - if you can't hear or speak on the phone, you can type what you want to say: 18001 then 0800 151 2012

You can use Relay UK with an app or a textphone. There’s no extra charge to use it. Find out how to use Relay UK on the Relay UK website.

Video relay - if you use British Sign Language (BSL). There’s no extra charge to use video relay. 

You can find out how to use video relay on YouTube.

Monday to Friday, 9.30am to 3:30pm 

Mae galwadau ffôn i’r rhif hwn am ddim.

Budd-daliadau profedigaeth

Mae budd-daliadau profedigaeth yn daliadau a wneir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i wragedd gweddw a gwŷr gweddw neu i bartner sifil sy’n goroesi.

I gael mwy o wybodaeth am fudd-daliadau profedigaeth, darllenwch Arian ychwanegol y gallwch ei gael pan fydd rhywun yn marw.

Os oedd gan yr unigolyn sydd wedi marw atwrneiaeth arhosol

Mae’r atwrneiaeth yn dod i ben pan fydd yr unigolyn yn marw. Dylech gysylltu ag unrhyw fan lle’r oedd yr atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru – er enghraifft, banciau neu feddygfeydd.

Ailgyfeirio’r post ar ôl i rywun farw

Gallwch ailgyfeirio post rhywun sydd wedi marw drwy lenwi ffurflen ‘amgylchiadau arbennig’. Gallwch wneud hyn drwy fynd i swyddfa’r post neu drwy gael gafael ar ffurflen amgylchiadau arbennig ar wefan y Post Brenhinol. Cliciwch ar ‘Ffurflen gais arallgyfeirio mewn amgylchiadau arbennig’ i gael hyd i’r ffurflen. Anfonwch y ffurflen i’r cyfeiriad isod:

Royal Mail Redirection Centre Cooper House Lakeside Festival Way Stoke on Trent ST1 5RY

Bydd rhaid i chi dalu i ailgyfeirio’r post. Gallwch edrych i weld beth yw cost y gwasanaeth drwy fynd i wefan y Post Brenhinol.

Atal post nad oes ei eisiau

Gallwch atal post na ofynnwyd amdano rhag cael ei anfon at rywun sydd wedi marw drwy gofrestru â’r Gwasanaeth Dewis Post (MPS) a’r Gofrestr Profedigaeth am ddim.

O gofrestru â’r Gwasanaeth Dewis Post, byddwch yn atal post rhag cael ei anfon at rywun sydd wedi marw gan gwmnïau sy’n aelodau o’r Gymdeithas Marchnata Uniongyrchol.

Gallwch gofrestru â’r Gwasanaeth Dewis Post ar-lein neu drwy ysgrifennu ato – rhowch enw a chyfeiriad yr unigolyn sydd wedi marw.

Mailing Preference Service

FREEPOST 29 LON20771

London

W1E 0ZT

MPS Registration Line: 0845 703 4599

Fax: 020 7323 4226

Email: mps@dma.org.uk

Website: www.mpsonline.org.uk

Gallwch ymuno â’r Gofrestr Profedigaeth drwy lenwi ffurflen gofrestru a’i hanfon drwy’r post. Bydd cwmnïau sy’n gwirio’r gofrestr hon yn rhoi’r gorau i anfon post a thaflenni at unrhyw un sydd wedi’i enwi ar y gofrestr.

The Bereavement Register

Freepost

1 Newhams Row

London

SE1 3UZ

Bydd yn cymryd rhyw bedwar mis i swm y post diangen sy’n dod i law leihau.

Bydd angen i chi gysylltu â chwmnïau’n uniongyrchol i roi’r gorau i gael post y mae’r unigolyn sydd wedi marw wedi gofyn amdano.

Edrychwch i weld pwy arall y mae angen rhoi gwybod iddo

Dylech siarad ag unrhyw sefydliadau yr oedd yr unigolyn sydd wedi marw yn eu defnyddio i roi gwybod iddynt ei fod wedi marw. Gall hyn gynnwys: 

  • banc yr unigolyn

  • cwmnïau’r cyfleustodau – er enghraifft, ynni, dŵr, ffôn, a’r rhyngrwyd

  • cwmnïau yswiriant

  • meddyg teulu, deintydd, optegydd ac unrhyw un arall sy’n darparu gofal meddygol 

  • gwasanaethau tanysgrifio – er enghraifft, Netflix

Os ydych yn rheoli arian ac eiddo’r unigolyn sydd wedi marw, gofynnwch am i’r cyfrifon gael eu cau o’r diwrnod y bu farw. Bydd angen i chi ddefnyddio arian neu asedau’r unigolyn sydd wedi marw i dalu unrhyw beth sy’n ddyledus gan yr unigolyn. Os byddwch yn etifeddu eiddo, byddwch yn gyfrifol am y biliau o’r diwrnod ar ôl i’r unigolyn farw.

Os yw cartref yr unigolyn yn mynd i fod yn wag

Dylech wneud yn siŵr bod y cartref yn parhau i fod wedi’i yswirio a bod cyfleustodau sylfaenol, fel trydan a dŵr, yn parhau i gael eu cyflenwi. 

Siaradwch â’r cwmni sy’n darparu’r yswiriant cartref cyn gynted ag y gallwch. Rhowch wybod iddo fod yr unigolyn wedi marw a gofynnwch iddo barhau i yswirio’r eiddo. Os nad yw’n fodlon yswirio’r cartref oni bai fod rhywun yn byw ynddo, dylech gael hyd i gwmni yswiriant arall a fydd yn fodlon gwneud hynny. Mae cwmnïau yswiriant ar gael sy’n arbenigo mewn yswirio cartrefi nad oes neb yn byw ynddynt.

Fel arfer, ni fydd rhaid i neb dalu’r dreth gyngor ar gartref yr unigolyn am gyfnod. Bydd hyd y cyfnod hwn yn dibynnu ar y cyngor. Gallwch ddod o hyd i’r cyngor lleol drwy fynd i wefan GOV.UK. Bydd cwmnïau’r cyfleustodau’n parhau i ddarparu gwasanaethau tra mae trefn yn cael ei rhoi ar arian ac eiddo’r unigolyn. Nid ydynt fel arfer yn disgwyl cael eu talu yn ystod y cyfnod hwn, oni bai fod rhywun arall yn dechrau byw yn y cartref neu’i fod yn cael ei werthu.

Os ydych yn ymdrin ag arian ac eiddo’r unigolyn sydd wedi marw, bydd angen i chi ddarllen y mesuryddion i gael bil terfynol. Bydd angen i chi ddefnyddio arian neu asedau’r unigolyn sydd wedi marw i dalu’r swm terfynol.

Os oedd gan yr unigolyn sydd wedi marw gar

Dylech ddatgan bod y car oddi ar y ffordd neu ddiweddaru yswiriant y car i ddweud bod y perchennog wedi marw. Dewch i wybod sut i ddatgan bod car oddi ar y ffordd drwy fynd i wefan GOV.UK.

Os ydych am ddefnyddio’r car neu’i werthu, bydd angen i chi roi gwybod i’r DVLA. Bydd angen i chi ychwanegu manylion y perchennog newydd at lyfr log y car. Weithiau, gelwir y llyfr log yn dystysgrif V5C.

Os ydych yn ei chael yn anodd

Mae’ch iechyd meddwl yr un mor bwysig â’ch iechyd corfforol. Dylech siarad â’ch meddyg teulu os ydych yn wynebu anawsterau â’ch iechyd meddwl. 

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gael cymorth â’ch iechyd meddwl drwy fynd i wefan Mind.

Os oes angen cymorth arnoch â’ch galar

Gallwch ffonio llinell gymorth gwasanaeth gofal profedigaeth Cruse neu fynd i’w wefan i gael cymorth.

Helpline: 0808 808 1677 

Monday 9.30am to 5pm

Tuesday, 1pm to 8pm

Wednesday to Friday, 9.30am to 5pm

www.cruse.org.uk

Os oes arnoch angen rhywun i siarad ag ef

Gallwch siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig drwy gysylltu â sefydliadau fel y Samariaid neu Shout.

Y Samariaid

Llinell gymorth: 116 123 (dydd Llun tan ddydd Sul unrhyw bryd)

Llinell gymorth Gymraeg: 0808 164 0123 (dydd Llun tan ddydd Sul 7pm tan 11pm)

Mae galwadau i’r Samariaid am ddim.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd eraill o gysylltu â’r Samariaid drwy fynd i wefan y sefydliad.

Shout

Gallwch hefyd anfon neges destun sy’n dweud ‘SHOUT’ at 85258 i ddechrau sgwrs ag un o wirfoddolwyr hyfforddedig Shout. Gallwch anfon negeseuon testun o unrhyw fan yn y DU am ddim, yn ddienw ac yn gyfrinachol.

Os ydych yn meddwl bod y sefyllfa’n argyfwng

Os ydych yn meddwl bod eich bywyd chi neu fywyd rhywun arall mewn perygl, dylech ffonio 999 neu fynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys os gallwch chi.

Gallwch hefyd ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd meddwl brys ar wefan Mind.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.