Penderfynu beth i’w wneud pan fyddwch chi’n gwahanu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pan fyddwch chi’n gwahanu wrth eich partner, mae yna bethau y bydd angen i chi eu datrys.

Gallai'r partner rydych chi'n gwahanu oddi wrtho neu wrthi fod yn ŵr, yn wraig neu’n bartner sifil i chi – hyd yn oed os nad ydych chi’n ysgaru neu’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben ar unwaith. Mae'n rhaid i chi fod wedi bod yn briod am flwyddyn o leiaf cyn y gallwch chi ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben.

Gallai hefyd fod yn bartner rydych chi'n byw gydag ef/hi neu mae gennych chi blant gydag ef/hi, ond nad yw'n ŵr, yn wraig nac yn bartner sifil i chi.

Pan fyddwch chi’n gwahanu wrth eich partner, efallai y bydd angen i chi ddatrys pethau fel:

  • ble fydd eich plant yn byw a pha mor aml y byddant yn gweld y rhiant nad ydynt yn byw gydag ef/hi

  • ble rydych chi’n mynd i fyw

  • sut i rannu unrhyw arian neu eiddo rydych chi'n eu rhannu

  • a fyddwch chi'n gallu fforddio talu'r biliau unwaith y byddwch chi’n byw ar wahân

Os ydych chi’n y DU fel dibynnydd ar fisa eich partner, bydd angen i chi hefyd wirio a allwch chi aros –  gwiriwch os gallwch chi aros yn y DU ar fisa ar ôl gwahanu neu ysgaru.

Peidiwch â theimlo dan bwysau i wneud penderfyniad nad yw'n iawn i chi. Bydd gennych siawns well o ddod i gytundeb os byddwch chi'n aros nes eich bod chi'n barod i siarad.

Pwysig

Os yw’ch partner yn gwneud i chi deimlo’n bryderus neu os ydych yn teimlo dan fygythiad, dylech gael cymorth

Peidiwch â cheisio cytuno beth i’w wneud am eich cartref heb siarad â rhywun yn gyntaf. 

Os ydych yn fenyw a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch chi, gallwch ffonio Refuge ar 0808 200 0247 neu ddefnyddio gwasanaeth sgwrsio ar-lein Cymorth i Fenywod unrhyw bryd. 

Os ydych yn ddyn a bod cam-drin domestig yn effeithio arnoch chi, gallwch ffonio’r Llinell Gyngor i Ddynion ar 0808 801 0327 rhwng 10am a 5pm o ddydd Llun tan ddydd Gwener.

Os nad ydych yn sicr beth i’w wneud nesa, cysylltwch â’ch swyddfa Cyngor ar Bopeth agosaf.

Cytuno ar eich trefniadau gwahanu

Does dim rhaid i chi fynd i’r llys i benderfynu beth i'w wneud pan fyddwch chi’n gwahanu oni bai eich bod chi wir yn methu cytuno â'ch gilydd.

Gall fod yn rhatach ac yn gyflymach i chi wneud y trefniadau eich hunain, ond hyd yn oed os ydych chi'n cytuno, mae'n syniad da siarad â chyfreithiwr.

Os ydych chi’n cytuno ar eich trefniadau gwahanu

Dylech chi nodi beth rydych chi'n penderfynu arno. Gall fod mewn unrhyw fformat, ond efallai yr hoffech chi ddweud eich bod chi'n cytuno i’r canlynol:

  • byw ar wahân

  • peidio â gwylltio neu aflonyddu eich cyn-bartner

  • talu cynhaliaeth neu gymorth ariannol i'ch cyn-bartner

  • talu cynhaliaeth plant tuag at gost gofalu am eich plant

  • gweld y plant ar ddiwrnodau penodol

Ar ôl i chi nodi eich cytundeb, mae'n syniad da sôn am y peth wrth gyfreithiwr. Gallwch ddod o hyd i gyfreithiwr ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.

Os nad ydych chi’n ysgaru neu’n dod â’ch partneriaeth sifil i ben ar unwaith

Efallai y byddwch chi'n gallu gofyn i'ch cyfreithiwr ysgrifennu eich trefniant fel ‘cytundeb gwahanu’.

Gallwch chi gael cytundeb gwahanu os nad ydych chi wedi dechrau ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben. Gallai hyn fod oherwydd:

  • dydych chi a'ch cyn-bartner ddim eisiau ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben ar hyn o bryd

  • ni allwch chi ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben eto – er enghraifft, oherwydd eich bod wedi bod gyda'ch gilydd am lai na blwyddyn

Mae cytundeb gwahanu yn ffordd dda o wneud yn siŵr eich bod yn glir ynglŷn â thelerau’r gwahanu nes i chi ysgaru neu ddod â'ch partneriaeth sifil i ben.

Nid yw cytundeb gwahanu yn gyfreithiol rwymol pan fyddwch chi’n ysgaru neu’n dod â'ch partneriaeth sifil i ben.

Mae hyn yn golygu efallai na fyddwch chi’n gallu gwneud i'ch cyn-bartner lynu wrth rywbeth y cytunoch arno.

Serch hynny, yn ystod y broses o ysgaru neu ddod â’ch partneriaeth sifil i ben, bydd barnwr fel arfer yn ei gydnabod fel cytundeb ffurfiol os:

  • yw’n deg, ac y gallwch chi a’ch cyn-bartner ddangos eich bod chi'n deall beth roeddech chi'n cytuno iddo - er enghraifft, os cawsoch chi gyngor cyfreithiol 

  • yw wedi'i ddrafftio'n iawn gan gyfreithiwr

  • yw eich sefyllfaoedd ariannol chi a'ch cyn-bartner yr un fath ag yr oeddent pan wnaethoch chi'r cytundeb

Yna gall cyfreithiwr wneud eich cytundeb gwahanu yn gyfreithiol rwymol drwy ei droi’n ‘orchymyn cydsynio’ – cyn belled â’ch bod chi a’ch cyn-bartner yn cytuno i wneud hyn.

Os na allwch chi gytuno â’ch cyn-bartner

Dylech chi roi cynnig ar gyfryngu i weld a allwch chi ddod i gytundeb gyda chymorth cyfryngwr.

Cyfryngwr yw rhywun sy’n gallu’ch helpu i ddatrys unrhyw anghydfod sydd gennych gyda'ch cyn-bartner ynglŷn ag arian, eiddo neu blant.

Fel arfer, bydd angen i chi ddangos eich bod chi wedi rhoi cynnig ar gyfryngu os ydych chi'n gwneud cais i'r llys i:

  • benderfynu sut mae’r arian yn cael ei rannu rhyngoch chi a’ch cyn-bartner pan fyddwch yn gwahanu

  • wneud penderfyniad ynglŷn â'ch plant – er enghraifft, gyda phwy y byddant yn byw neu faint o gyswllt fydd gennych chi â nhw

Mae rhai eithriadau sy'n golygu nad oes rhaid i chi roi cynnig ar gyfryngu cyn gwneud cais i’r llys - er enghraifft, os ydych chi wedi profi cam-drin domestig.

Darllenwch sut mae cyfryngu yn gweithio.

Os oes gennych blant

Mae'n well cadw trefniadau ynglŷn â phlant yn anffurfiol os gallwch chi.

Mae hyn oherwydd na fydd llysoedd fel arfer yn penderfynu gyda phwy mae plentyn yn byw neu'n treulio amser os ydyn nhw'n credu y gall y rhieni ddatrys pethau rhyngddynt. Caiff hyn ei alw’n 'egwyddor dim gorchymyn'.

Serch hynny, fel arfer bydd angen i chi fynd i’r llys os: 

  • ydych chi’n poeni am ddiogelwch eich plant

  • ydych chi neu’ch plant wedi wynebu cam-drin domestig

  • ydych chi'n teimlo'n fregus neu'n cael eich rheoli gan eich cyn-bartner

  • ydych chi wedi rhoi cynnig ar gyfryngu a dal yn methu â chytuno 

  • nad yw’ch cyn-bartner yn gadael i chi weld eich plant

Cynhaliaeth plant

Mae’r ddau ohonoch chi’n gyfrifol am gost gofalu am eich plant ar ôl i chi wahanu – hyd yn oed os nad ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil.

Os mai chi yw'r rhiant sy'n symud allan, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cynhaliaeth i'r rhiant sy'n gofalu am y plant.

Fel arfer, mae'n well os gallwch chi drefnu hyn rhyngoch – caiff hyn ei alw’n ‘drefniant plant teuluol’.

Gallwch chi ddarllen mwy am wneud trefniant cynhaliaeth plant ar GOV.UK. Os ydych chi'n ei chael hi'n anodd dod i gytundeb, gallwch chi ddefnyddio cyfryngwr teulu.

Os na allwch chi ddod i gytundeb eich hunain, gallwch gael help i drefnu cynhaliaeth plant drwy ddefnyddio’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant ar GOV.UK.

Darllenwch fwy am gynhaliaeth plant.

Penderfynu beth i’w wneud â’ch cartref

Ychydig iawn o amgylchiadau sydd lle gall eich partner eich gorfodi i adael eich cartref. Ni allant newid y cloeon na’ch gorfodi i adael, felly ceisiwch gymryd amser i weld beth rydych chi'ch dau ei eisiau a'i angen.

Darllenwch beth i’w wneud os yw eich partner yn ceisio eich gorfodi i adael.

Fel arfer, bydd angen i chi benderfynu os:

  • oes un ohonoch chi’n aros yn y cartref tra bod y llall yn symud allan

  • yw’r ddau ohonoch chi’n symud allan ac yn dod â'ch contract meddiannaeth i ben, neu'n gwerthu'ch cartref

  • oes un ohonoch chi’n prynu cyfran y llall fel eu bod nhw'n berchen ar y cartref

  • yw’r ddau ohonoch chi’n aros yn y cartref ac yn byw bywydau ar wahân

Bydd yr hyn a wnewch yn dibynnu ar yr hyn y gallwch ei fforddio ac os oes gennych blant.

Gallai hefyd ddibynnu ar a oes gennych hawliau i aros yn y cartref ar ôl i chi wahanu.

Darllenwch fwy ynglŷn â beth sy’n digwydd i’ch cartref pan fyddwch chi’n gwahanu.

Rheoli eich arian

Efallai y byddwch chi a'ch cyn-bartner yn gallu cytuno rhyngoch sut i rannu eich arian. Hyd yn oed os gwnewch chi hynny, mae'n syniad da siarad â chyfreithiwr ar ôl i chi benderfynu beth rydych chi eisiau ei wneud.

Pan fyddwch chi'n penderfynu sut i rannu'ch arian, bydd angen i chi gyfrif faint o arian sydd gennych chi mewn cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu, cynilion neu fuddsoddiadau.

Bydd angen i chi hefyd gynnwys unrhyw ddyledion rydych chi'n eu rhannu, fel cardiau credyd neu fenthyciadau.

Darllenwch sut i rannu eich arian a’ch eiddo pan fyddwch chi’n gwahanu.

Os nad ydych chi’n credu bod gennych ddigon o arian

Efallai y byddwch chi’n gallu hawlio budd-daliadau i helpu gyda'ch costau byw. Er enghraifft, gallech gael help i dalu'ch treth gyngor, rhent neu forgais.

Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu derbyn.

Os ydych chi’n briod neu mewn partneriaeth sifil

Gallwch chi ofyn am gymorth ariannol wrth eich cyn-bartner cyn gynted ag y byddwch yn gwahanu. Caiff hyn ei alw’n ‘gynhaliaeth briodasol’ sef taliad rheolaidd i'ch helpu i dalu biliau a chostau byw eraill. Ni allwch gael cynhaliaeth briodasol os nad oeddech chi'n briod neu mewn partneriaeth sifil.   

Dysgwch fwy am sut i drefnu cynhaliaeth briodasol

Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael help i dalu eich rhent neu forgais.  

Pwy sydd angen gwybod eich bod chi wedi gwahanu

Os ydych chi'n talu’r dreth gyngor, dylech chi ddweud wrth eich cyngor lleol - byddwch chi'n talu llai os ydych chi'n byw ar eich pen eich hun.

Bydd angen i chi hefyd ddweud wrth eich cyngor lleol eich bod chi wedi gwahanu os ydych chi'n cael Budd-dal Tai neu ostyngiad y dreth gyngor.

Os ydych chi'n derbyn budd-daliadau, gallai bod yn rhan o gwpwl effeithio ar faint rydych chi'n ei dderbyn. Dylech chi ddweud wrth y swyddfa sy'n delio â'ch hawliad eich bod chi wedi gwahanu cyn gynted â phosib - mae gan y rhan fwyaf o fudd-daliadau ddyddiad cau o 30 diwrnod.

Os ydych chi'n derbyn credydau treth, dylech chi ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Fawrhydi o fewn 30 diwrnod.

Talu am gyfreithwyr

Fel arfer, bydd angen i chi siarad â chyfreithiwr rywbryd wrth i chi wahanu. I helpu i gadw eich biliau cyfreithiol yn is, dylech chi wneud y canlynol:

  • ceisio cytuno gymaint ag y gallwch â'ch cyn-bartner cyn i chi fynd at gyfreithiwr

  • darllen gymaint ag y gallwch am wahanu – gallwch edrych ar-lein neu fynd i’r llyfrgell

  • edrych i weld os oes unrhyw gyfreithwyr lleol i chi sy’n cynnig cyngor am ddim

  • gofyn i’ch cyfreithiwr a fyddant yn gweithio am ffi sefydlog - fel hyn, byddwch chi wastad yn gwybod yn union faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu

Darllenwch fwy am yr help y gallwch ei gael gyda chostau cyfreithiol. 

Cymorth cyfreithiol

Efallai y byddwch chi’n gallu cael cymorth cyfreithiol i dalu am gyfryngu pan fyddwch chi’n gwahanu, ond mae’n anodd ei gael ar gyfer ffioedd cyfreithwyr – hyd yn oed os ydych chi ar fudd-daliadau.

Fel arfer dim ond os ydych chi neu'ch plant wedi dioddef cam-drin domestig y gallwch chi gael cymorth cyfreithiol. Mae cam-drin domestig yn cynnwys ymddygiad sy’n rheoli, fel eich atal rhag tynnu eich arian eich hun allan.

Gwiriwch os gallwch chi gael cymorth cyfreithiol ar GOV.UK

Os ydych chi’n barod i ddod â’ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben

Gallwch chi ddechrau ysgariad neu ddod â phartneriaeth sifil i ben os ydych chi wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil ers blwyddyn o leiaf.

Pan fyddwch chi’n ysgaru, bydd yn helpu os ydych chi a’ch cyn-bartner eisoes wedi cytuno ar beth fydd yn digwydd i’ch plant, eich arian a’ch eiddo.

Os nad ydych chi’n cytuno, efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys er mwyn i farnwr wneud penderfyniad ynglŷn â'r hyn y dylech chi ei wneud. Caiff hyn ei alw’n ‘wrandawiad llys’.

Gallwch ddod o hyd i ffyrdd o ddod â’ch priodas neu bartneriaeth sifil i ben.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 23 Gorffennaf 2019