Taliadau uniongyrchol – beth ydyn nhw?

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae taliadau uniongyrchol yn eich galluogi chi i dderbyn budd-daliadau fel arian parod gan eich awdurdod lleol yn hytrach na gwasanaethau gofal. Gall hyn roi llawer mwy o hyblygrwydd a mwy o reolaeth i chi ar eich pecyn cymorth. Mae gwybodaeth ar y dudalen hon sy’n dweud beth yw taliadau uniongyrchol ac yn dangos ble i fynd i gael rhagor o wybodaeth fanwl.

Beth yw taliadau uniongyrchol?

Os yw’r awdurdod lleol wedi penderfynu bod gennych chi hawl i gael gwasanaethau gofal cymunedol, mwy na thebyg y byddwch yn gallu dewis i dderbyn taliadau mewn arian yn hytrach na gwasanaethau. Yr enw am hyn yw taliadau uniongyrchol a gallwch ddefnyddio’r arian i drefnu eich gwasanaethau gofal eich hun.

Gallwch ddefnyddio taliadau uniongyrchol i’ch helpu chi i brynu gwasanaethau ar gyfer:

• oedolion

• plant

• gofalwyr

Pa ddewisiadau sydd gen i?

Os ydych chi’n gymwys ar gyfer taliadau uniongyrchol, gallwch ddewis cael:

• taliadau uniongyrchol

• gwasanaethau sy’n cael eu darparu neu eu trefnu gan yr awdurdod lleol

• cymysgedd o daliadau uniongyrchol a gwasanaethau y mae’r awdurdod lleol wedi eu darparu neu eu trefnu.

Gallwch ddewis cael taliadau unionyrchol, ond dydy’r awdurdod lleol ddim yn gallu’ch gorfodi i dderbyn taliadau uniongyrchol yn hytrach na gwasanaethau’r cyngor.

Os ydych chi am gael rhagor o wybodaeth am daliadau uniongyrchol ewch i:

Pwy sy’n gallu cael taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal? – mae’n egluro pwy sy’n cael hawlio taliadau uniongyrchol, pwy allai eu hawlio o bosib a phwy sy’n methu eu hawlio

Cytuno i dderbyn taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal – mae’n egluro bod angen i rywun allu cydsynio i dderbyn taliadau uniongyrchol

Defnyddio taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal – mae’n egluro ar gyfer beth mae modd i chi ddefnyddio taliadau uniongyrchol

Faint ddylech chi ei dderbyn – taliadau uniongyrchol ar gyfer gofal? – mae’n dweud beth y dylai’r taliad dalu amdano

Monitro ac adolygu taliadau uniongyrchol – mae’n egluro sut bydd yr awdurdod lleol yn cadw llygad ar eich taliadau uniongyrchol

Cymorth i bobl sy’n defnyddio taliadau uniongyrchol - mae’n dweud pwy sy’n gallu’ch helpu chi i reoli’ch taliadau uniongyrchol

Problemau gyda thaliadau uniongyrchol – mae’n cynnwys gwybodaeth am ad-daliadau, taliadau uniongyrchol yn dod i ben a chwynion

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.