Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Sgwrsiwch â ni ar-lein am ddyled

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Gallwch siarad am eich problem ddyled gyda chynghorydd hyfforddedig ar-lein. Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu wneud cynnydd da tuag at hynny. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i ni eich anfon at eich Cyngor ar Bopeth lleol neu sefydliad arbenigol.

Mae'r gwasanaeth ar gael fel arfer rhwng 9am ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a 9.30am i 1pm ar ddydd Sadwrn. Nid yw ar gael ar wyliau banc.

Os nad yw eich problem yn ymwneud ag arian neu ddyled, gallwch siarad â ni ar ein prif dudalen sgwrsio.

I’ch cysylltu â’r cynghorydd cywir, byddwn yn gofyn i chi am ychydig o fanylion, gan gynnwys eich cod post.

Os nad oes unrhyw un ar gael, byddwn yn ceisio cymryd neges fel y gallwn gysylltu â chi trwy e-bost. Yn anffodus ni allwn wneud hyn bob amser pan fydd yn arbennig o brysur.

Darllenwch ein polisi preifatrwydd i gael gwybod sut rydym yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol.

Mae gan ein staff yr hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - darganfod sut rydym yn delio ag ymddygiad annerbyniol

Problemau gyda’r gwasanaeth sgwrsio

Efallai y bydd yn cymryd ychydig funudau i’ch cysylltu â chynghorydd. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os nad yw’r math cywir o gynghorydd ar gael.

Os byddwn yn gofyn i chi adael neges, dylai cynghorydd ateb o fewn 4 diwrnod gwaith. Os na chewch ateb, gwiriwch eich ffolder sbam.

Mae rhai meddalwedd 'atalydd hysbysebion' yn atal y rhaglen rhag gweithio. Os ydych chi'n defnyddio atalydd hysbysebion, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n ychwanegu citizensadvice.org.uk fel gwefan ddibynadwy - y gellir ymddiried ynddo. 

Cwyno am y gwasanaeth sgwrsio 

Gallwch wneud cwyn am ein gwasanaeth sgwrsio.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.