Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cymorth gyda dyled ac ôl-ddyledion rhent ar Gredyd Cynhwysol

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol os ydych chi’n cael trafferth gydag arian a’ch bod ar Gredyd Cynhwysol neu eich bod wedi gwneud cais amdano’n ddiweddar.

Cael arian yn gynnar os ydych chi newydd wneud cais

Fel arfer byddwch yn cael eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf 5 wythnos ar ôl gwneud cais.

Gallwch ofyn am gael eich taliad cyntaf yn gynt os ydych chi’n poeni na fydd gennych chi ddigon o arian i fyw - ‘taliad ymlaen llaw’ yw’r enw ar hyn.

Benthyciad yw’r taliad ymlaen llaw - mae’r ad-daliadau’n cael eu cymryd o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn awtomatig tan y byddwch chi wedi eu talu’n ôl. Dyma sut mae cael taliad ymlaen llaw.

Os ydych chi’n ad-dalu dyled

Os ydych chi’n talu credydwyr neu gwmni rheoli dyledion yn ôl, cysylltwch â nhw i egluro’r sefyllfa.

Dywedwch wrthyn nhw eich bod wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, ond na fyddwch yn cael eich taliad cyntaf am dipyn - dywedwch pryd os gallwch chi. Gofynnwch iddynt a fyddent yn fodlon derbyn taliad hwyr.

Mae’n syniad da gofyn iddynt rewi’r llog ar eich dyledion tan i chi gael eich talu.

Os ydych chi'n ad-dalu dyled, gall llunio cyllideb fod o gymorth. Defnyddiwch declyn cyllidebu i'ch helpu.

Gallwch hefyd weld a oes modd cael cymorth gyda'ch dyledion neu siarad siarad â  chynghoryddam gyngor ar ddyledion.

Newid sut rydych chi’n cael eich talu

Gallwch wneud cais i’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu’n wahanol i’ch helpu i reoli eich arian - ‘trefniadau talu amgen’ yw’r enw ar hyn. Efallai y byddwch chi’n gallu:

  • trefnu i’ch costau tai gael eu talu’n syth i’ch landlord yn hytrach nag fel rhan o’ch taliad Credyd Cynhwysol

  • cael taliad Credyd Cynhwysol ddwywaith y mis yn hytrach nag unwaith y mis

  • cael taliadau Credyd Cynhwysol ar wahân i’ch partner

Pryd allwch chi gael trefniant talu amgen

Efallai y gallwch gael trefniant talu amgen os:

  • ydych chi mewn dyled neu os oes gennych ôl-ddyledion rhent

  • oes gennych chi anabledd - gan gynnwys cyflwr iechyd meddwl

  • ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o golli eich cartref

  • ydych chi wedi profi trais domestig

  • oes gennych chi anhawster dysgu, fel problemau darllen neu ysgrifennu

  • ydych chi mewn llety dros dro neu lety â chymorth

  • ydych chi’n 16 neu’n 17 oed neu’n gadael gofal

  • ydych chi’n gaeth i gyffuriau, alcohol neu gamblo

Os ydych chi’n cael anhawster ymdopi am resymau eraill, efallai y byddwch yn dal i gael eich ystyried - cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth.

Gofyn am drefniant talu amgen

Os ydych chi’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol neu os ydych chi ar fin gwneud cais, dylech ofyn am y trefniant rydych chi am ei gael yn ystod eich cyfweliad.

Os ydych chi eisoes yn cael Credyd Cynhwysol, dylech ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Os ydych chi ar ei hôl hi gyda’ch rhent

Gofynnwch am gyngor ar ddelio â'ch ôl-ddyledion rhent cyn gynted â phosibl – os oes arnoch chi lawer o arian, gallai’ch landlord geisio’ch troi allan.

Os ydych chi 2 fis neu fwy ar ei hôl hi gyda’ch rhent, gall eich landlord wneud cais i rywfaint o’ch Credyd Cynhwysol gael ei dalu’n uniongyrchol iddo. Bydd hyn yn eich helpu i dalu’ch dyled. Bydd angen i chi barhau i wneud eich taliadau rhent arferol hefyd.

Os yw’r toriadau hyn yn eich taliad yn golygu na allwch chi fforddio eitemau o ddydd i ddydd fel bwyd neu filiau, ffoniwch linell gymorth Credyd Cynhwysol. Efallai y byddant yn gallu rhoi llai o arian i’ch landlord ar gyfer ôl-ddyledion rhent.

Os ydych chi'n ystyried gostwng y taliadau ôl-ddyledion rhent o'ch Credyd Cynhwysol, dylech siarad â chynghorydd yn gyntaf. Efallai y bydd eich landlord yn ceisio cymryd camau pellach i'ch troi allan os nad yw’n derbyn y taliad mae’n ei ddisgwyl - mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'r math o gontract meddiannaeth sydd gennych.

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol
Rhif ffôn: 0800 328 5644
Ffôn testun: 0800 328 1344
Rhif ffôn (Cymraeg): 0800 012 1888
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 328 5644
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 6pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Dylech ddweud wrth y llinell gymorth pa filiau sydd gennych a faint maen nhw’n ei gostio - cofiwch gynnwys biliau bwyd a rhent hefyd.

Gwirio pryd gewch chi Daliadau Costau Byw

Os ydych chi’n gymwys, bydd y llywodraeth yn anfon taliad o £299 atoch yn ystod y gwanwyn 2024. Byddwch yn cael y taliad rhwng 6 a 22 Chwefror 2024.

I gael y taliad o £299, mae’n rhaid i chi fod wedi cael Credyd Cynhwysol ar gyfer y cyfnod asesu a ddaeth i ben rhwng 13 Tachwedd a 12 Rhagfyr 2023.

Byddwch yn dal i gael y taliad hyd yn oed os cafodd eich Credyd Cynhwysol ei dalu i'ch landlord neu os na chawsoch eich talu oherwydd didyniadau.

Os na chawsoch y taliad diwethaf

Anfonodd y llywodraeth y Taliad Costau Byw diwethaf o £300 yn ystod yr hydref 2023 - dylech fod wedi’i dderbyn erbyn 19 Tachwedd. 

Dylech fod wedi cael y taliad hwn os oeddech chi’n cael Credyd Cynhwysol ar gyfer y cyfnod asesu a ddaeth i ben rhwng 18 Awst a 17 Medi 2023.

Os ydych chi’n credu y dylech fod wedi cael Taliad Costau Byw, gallwch roi gwybod am daliad coll ar GOV.UK.

Os ydych chi’n dal i aros am benderfyniad am eich hawliad

Os gwnaethoch chi ddechrau hawliad Credyd Cynhwysol erbyn 18 Awst a'ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch o hyd gael y Taliad Costau Byw. Ni fyddwch yn ei dderbyn nes bydd eich hawliad yn llwyddiannus.

Cael mwy o gymorth gyda’ch rhent

Efallai y gallwch chi gael arian ychwanegol gan eich cyngor i helpu - gelwir hyn yn ‘daliad disgresiwn at gostau tai’. Bydd angen i chi gael y rhan costau tai o’r Credyd Cynhwysol.

Mae’n werth gweld a allwch chi gael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai os ydych chi’n rhentu’n breifat. Mae ffordd wahanol o weld a allwch chi gael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai gyda thai cymdeithasol.

Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian

Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i arbed arian ar eich costau byw rheolaidd. Gwiriwch i weld beth i'w wneud os oes angen help arnoch gyda chostau byw.

Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau, gallwch gael help. Rhagor o wybodaeth am gael help gyda'ch biliau.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.