Help with the cost of transport if you're disabled

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch wneud cais am bàs bws neu gerdyn rheilffordd i bobl anabl os oes gennych chi gyflwr sy’n ei gwneud yn anodd i chi fynd o le i le. Does dim angen i chi fod â phroblem iechyd gorfforol – gall pobl ag anableddau dysgu wneud cais hefyd. 

Gall rhywun arall wneud cais ar eich rhan, os oes angen help arnoch chi gyda’r cais.

Byddwch yn gallu teithio am ddim ar fws, neu gael 30% oddi ar bris eich tocynnau trên.

Gall eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol eich helpu gyda’r cais os oes angen. 

Cael cerdyn rheilffordd ar gyfer pobl anabl

Ewch i weld a ydych chi’n gymwys a sut mae gwneud cais ar wefan National Rail. Os nad ydych chi’n gymwys, bydd yn rhaid i chi dalu pris llawn am eich tocynnau trên. Fyddwch chi ddim yn gallu apelio os bydd eich cais yn cael ei wrthod.

Cael pàs bws ar gyfer pobl anabl 

Efallai y byddwch chi’n gallu cael pàs bws i deithio am ddim:

  • os ydych chi’n ddall neu’n rhannol ddall, yn fyddar neu’n methu siarad

  • os allwch chi ddim cerdded yn bell iawn oherwydd anabledd, salwch neu anaf

  • os nad oes gennych chi freichiau neu os nad ydych chi’n gallu defnyddio eich breichiau

  • os oes gennych chi anabledd dysgu difrifol

  • os gwrthodwyd rhoi trwydded yrru i chi oherwydd eich iechyd (ond nid oherwydd problemau gyda chyffuriau neu alcohol)

Cysylltwch â Trafnidiaeth Cymru i wneud cais am bàs bws.

Os na allwch chi gael pàs bws

Gallwch apelio i'ch cyngor os gwrthodwyd eich cais am bàs bws. Edrychwch ar wefan eich cyngor i gael gwybod sut i apelio.

Gallwch hefyd fynd i’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol – bydd cynghorwr yn trafod eich opsiynau gyda chi.

Cymorth arall y gallwch ei gael

Os ydych chi’n gymwys i gael pàs bws neu gerdyn rheilffordd, efallai y byddwch chi hefyd yn gallu cael:

Gallwch hefyd weld pa fudd-daliadau y gallwch chi eu cael.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.