Cysylltu â’r llinell gymorth defnyddwyr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Cysylltwch â gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth os oes angen rhagor o help arnoch gyda phroblem defnyddwyr. Er enghraifft, gallant helpu gyda phethau fel nwyddau wedi torri neu ddiffygiol, neu broblemau gydag ynni neu bost.
Gallwch naill ai:
ffonio'r llinell gymorth
sgwrsio â chynghorydd ar-lein
Gall ein cynghorwyr:
rhoi cyngor ymarferol a diduedd i chi ar sut i ddatrys eich problem defnyddiwr
dweud wrthych beth yw'r gyfraith sy'n berthnasol i'ch sefyllfa
trosglwyddo gwybodaeth am gwynion i Safonau Masnach (ni allwch wneud hyn eich hun)
trosglwyddo cwyn i'ch cyflenwr ynni
Fodd bynnag, ni all ein cynghorwyr wneud cwyn ar eich rhan na chymryd camau cyfreithiol ar eich rhan.
Gwiriwch yr hyn fydd ei angen arnoch pan fyddwch yn cysylltu â'r gwasanaeth defnyddwyr
Cyn i chi gysylltu â’r llinell gymorth, dylech fod yn barod i nodi rhywfaint o wybodaeth.
Er mwyn helpu’r cynghorydd i roi’r cyngor mwyaf perthnasol i chi, dylech fod yn barod i roi cymaint o’r wybodaeth ganlynol ag y gallwch iddo:
manylion cryno am eich problem, e.e. pryd wnaethoch chi dalu am yr eitem neu’r gwasanaeth, faint wnaethoch chi ei dalu, sut gwnaethoch chi dalu amdano, p’un a wnaethoch chi hynny mewn siop neu ar-lein
enw a chyfeiriad y gwerthwr neu’r masnachwr
yr hyn yr ydych wedi ei wneud hyd yn hyn i geisio datrys y mater
eich rhif cyfeirnod (os ydych eisoes wedi cysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr ynglŷn â’r un broblem)
Peidiwch â phoeni os nad oes gennych yr holl wybodaeth hon. Dim ond yr hyn rydych chi’n ei wybod bydd angen i chi ei ddweud wrth y cynghorydd.
Ffoniwch ein llinell gymorth defnyddwyr
Llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth: 0808 223 1133
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 ac yna 0808 223 1133
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu decstffon. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Mae’r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm. Mae llinellau ar gau ar wyliau banc.
I gysylltu â chynghorydd sy'n siarad Cymraeg: 0808 223 1144
Bydd cynghorydd yn ateb eich galwad cyn gynted â phosibl, fel arfer o fewn ychydig funudau. Unwaith y byddwch yn siarad â chynghorydd, dylai eich galwad gymryd 8 i 10 munud ar gyfartaledd.
Mae galwadau o ffonau symudol a llinellau tir am ddim.
Cychwyn sgwrs
Gallwch drafod eich problem defnyddiwr ar-lein gyda chynghorydd profiadol.
Ni all ein cynghorwyr sgwrs helpu gyda phroblemau sy'n ymwneud â'ch post.
Siaradwch â ni am broblem ynni
Dewch i wybod sut i sgwrsio â ni ar-lein am broblem ynni.
Siaradwch â ni am fath arall o broblem defnyddwyr
Mae sgwrs fel arfer ar gael rhwng 9am a 5pm, Dydd Llun i Ddydd Gwener – nid yw ar gael ar wyliau cyhoeddus.
Byddwn yn ceisio eich helpu i ddatrys eich problem neu i weithio tuag at hynny.
I ddechrau sgwrs, pwyswch y botwm sgwrs crwn yng nghornel dde isaf eich sgrin.
Os ydych chi'n defnyddio darllenydd sgrin, bydd y botwm 'Dechrau sgwrs' wedi ei gynnwys yn eich rhestr ffurflenni neu ar ddiwedd y dudalen hon.
Er mwyn eich cysylltu â'r cynghorydd priodol, byddwn yn gofyn am ychydig o fanylion, gan gynnwys:
yr hyn rydych chi angen cyngor amdano
eich cod post
Os nad yw'r llinell gymorth a sgwrs ar gael
Gallwch ddefnyddio un o'n ffurflenni ar-lein i ddweud wrthym am fater defnyddiwr. Dim ond ar y penwythnos y mae rhai o'r ffurflenni ar gael.
Mae’n bwysig defnyddio’r ffurflen gywir er mwyn i ni allu cysylltu â chi. Os ydych yn defnyddio ffurflen wahanol, efallai na fyddwn yn gallu eich helpu.
Os oes gennych broblem gyda'ch nwy neu drydan
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein unrhyw bryd. Defnyddiwch ein ffurflen i ddweud wrthym am fater ynni.
Os oes gennych broblem gyda'ch post
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein dros y penwythnos, o 5pm ar ddydd Gwener i 9am ar ddydd Llun. Defnyddiwch ein ffurflen i roi gwybod i ni am fater post.
Os oes gennych unrhyw broblem defnyddiwr arall
Gallwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein dros y penwythnos, o 5pm ar ddydd Gwener i 9am ar ddydd Llun. Defnyddiwch ein ffurflen i ddweud wrthym am broblem gyffredinol defnyddwyr.
Beth rydym yn ei wneud gyda'ch gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i rhoi i ni i ateb eich ymholiad. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i gael eich adborth ar ein gwasanaeth.
Byddwn hefyd yn rhannu eich gwybodaeth gyda Safonau Masnach a sefydliadau dibynadwy eraill rydym yn gweithio gyda nhw i helpu eu gwaith diogelu defnyddwyr. Gallent gysylltu â chi gyda rhagor o gyngor, neu i ofyn am ragor o wybodaeth a fydd yn eu helpu gyda’u gwaith.
Dywedwch wrthym pan fyddwch yn cysylltu â’r gwasanaeth defnyddwyr os nad ydych am i’ch gwybodaeth gael ei rhannu.
Dysgwch fwy am sut rydym yn defnyddio, storio a rhannu eich gwybodaeth.
Sut i gwyno
Gallwch wneud cwyn os ydych yn anhapus gyda'r gwasanaeth a ddarperir.
Darllenwch ein polisi ymddygiad
Mae ein staff â'r hawl i wneud eu gwaith heb gael eu trin yn wael - dysgwch sut rydym yn ymdrin ag ymddygiad annerbyniol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.