Os oes angen help pellach arnoch
Os nad ydych wedi dod o hyd i’r ateb i’ch problem defnyddiwr ar dudalennau Adviceguide, efallai y bydd gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu ymhellach.
Fe fydd cynghorwyr wedi eu hyfforddi yn medru rhoi cyngor i chi, fel defnyddiwr, dros y ffôn ac ar-lein.
Fe allwch gysylltu â ni yn y ffyrdd canlynol:
Ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth
I gael gwybodaeth neu gyngor, ffoniwch linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 03454 04 05 06.
Fe allwch siarad â chynghorydd trwy gyfrwng y Gymraeg ar 03454 04 05 05.
Mae’r llinell gymorth ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 9.00yb tan 5.00yp.
- Help pellach os ydych chi’n byw yng Ngogledd Iwerddon
- Am wybodaeth ar gostau galwadau ffôn, gweler Costau galwadau ffôn i’r llinell gymorth i ddefnyddwyr.
- Help pellach os ydych chi’n byw ar Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw
Ffôn testun
Ffoniwch 18001 yna rhif llinell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth, sef 03454 04 05 06.
Os hoffech chi siarad â chynghorydd trwy gyfrwng y Gymraeg, ffoniwch 18001 ac yna 03454 04 05 05.
E-bostiwch ni
Fe allwch ddefnyddio ein ffurflenni ymholiad ar-lein i’n holi ni ynghylch:
- ymholiad cyffredinol yn ymwneud â defnyddwyr
- ymholiad ynghylch ynni neu i gwyno am gwmni ynni
- ymholiad ynghylch post neu i gwyno ynghylch gwasanaeth post.
Ysgrifennwch atom ni
Fe allwch ysgrifennu atom gyda’ch ymholiad yn ymwneud ag ynni neu bost:
Citizens Advice consumer service
PO Box 833
Moulton Park
Northampton
NN3 0AN.
I ddarganfod mwy
Gwrandewch ar ein podlediad ynghylch gwaith gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Sut all wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth eich helpu chi?
Riportio problem i Safonau Masnach
Mae Safonau Masnach yn trafod problemau defnyddwyr cymhleth a gweithgareddau troseddol potensial. Mae gwasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn medru eich helpu i riportio problem i Safonau Masnach.
Os ydych chi’n byw ar Ynysoedd y Sianel neu ar Ynys Manaw, fe allwch chi gysylltu â Safonau Masnach yn uniongyrchol
Rhoi adborth ar wasanaeth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth
Fe allwch ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i gynnig adborth am y gwasanaeth yr ydych wedi ei gael gan linell gymorth defnyddwyr Cyngor ar Bopeth.
Peidiwch â defnyddio’r ffurflen adborth i:
- gael cyngor
- holi cwestiwn cyffredinol
- gynnig sylwadau ar ganolfan Cyngor ar Bopeth.
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (UK ECC)
Os oes cwyn gennych ynghylch nwyddau neu wasanaethau a brynwyd mewn gwlad arall yn Ewrop, efallai y bydd Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd yn medru eich helpu os nad ydych wedi medru datrys eich problem gyda’r masnachwr.
Canolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y Deyrnas Unedig (UK ECC)
Ffôn: 0845 040503
Gwefan: www.ukecc.net