Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cynhaliaeth Plant - os oes arnoch daliadau cynhaliaeth

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Mae'r ddau riant â chyfrifoldeb cyfreithiol dros gostau ariannol magu eu plant. Os ydych yn gwahanu, fel arfer y rhiant heb ofal bob dydd dros y plant sy'n gyfrifol am dalu cynhaliaeth.

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi trefnu cynhaliaeth dan Gynlluniau Cynhaliaeth Plant 1993, 2003 neu 2012 ac rydych yn colli taliadau, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru cymryd camau gorfodi yn eich erbyn i geisio gwneud i chi dalu'r hyn sy'n ddyledus.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi ei wneud os ydych yn colli taliadau cynhaliaeth ac yn mynd i ddyled.

Ôl-ddyledion os oes gennych drefniant sy'n seiliedig ar y teulu

Os ydych wedi dod i drefniant sy'n seiliedig ar y teulu, nid yw'r Asiantaeth Cynnal Plant na'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru ymyrryd os nad ydych yn medru talu'r cynhaliaeth yr oeddech wedi cytuno iddo. Ceisiwch drafod gyda'r rhiant arall i ad-dalu'r ôl-ddyledion mewn ffordd fedrwch chi ei fforddio. Fe allai hyn fod mewn rhan-daliadau, neu fel un taliad mawr yn nes ymlaen.

Os nad yw'r trefniant yn gweithio allan, mae'r rhiant arall yn medru cyflwyno cais i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant i drefnu cynhaliaeth.

Ôl-ddyledion os yw'ch amgylchiadau wedi newid

Dywedwch wrth yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a allai fod wedi arwain at yr ôl-ddyledion. Er enghraifft, os yw'ch enillion yn gostwng o leiaf 25 y cant, gallwch ofyn am ostyngiad yn swm y taliadau cynhaliaeth yr ydych yn eu talu.

Sicrhewch fod yr arian sydd arnoch chi yn gywir

Sicrhewch fod y cais am ôl-ddyledion yn gywir. Dylech hefyd edrych dros gyfrifiad y cynhaliaeth i sicrhau nad ydych yn talu gormod. Os yw'r ffigurau'n anghywir, gofynnwch am adolygiad neu apeliwch. Ar wefan Opsiynau Cynhaliaeth Plant mae yna declyn cyfrifo taliadau cynhaliaeth fedrwch chi ei ddefnyddio i weld faint o arian ddylech chi fod yn ei dalu.

Os ydych yn talu cynhaliaeth trwy Direct Pay

Os ydych wedi cytuno i dalu taliadau cynhaliaeth yn uniongyrchol i'r rhiant arall trwy gynllun Direct Pay ond yn cronni ôl-ddyledion, ceisiwch drafod gyda'r rhiant arall yn gyntaf.

Gofynnwch am gael ad-dalu'r ôl-ddyledion mewn rhan-daliadau neu yn llawn yn nes ymlaen. Os nad yw'r rhiant arall yn cytuno i hyn, gall gysylltu â'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a fydd yn ceisio eich cael chi i dalu.

Os nad ydych yn talu, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ystyried a yw am:

  • eich symud chi at y gwasanaeth Collect and Pay
  • gymryd camau i wneud i chi dalu. Yr enw ar y rhain yw mesurau gorfodi.

Os ydych chi wedi talu taliadau cynhaliaeth fel y cytunwyd ond mae'r rhiant arall yn dweud nad ydych chi wedi talu, fe fydd yn rhaid i chi ddangos tystiolaeth eich bod chi wedi talu, cyn y bydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cymryd y camau hyn.

Rydych chi'n talu cynhaliaeth trwy'r gwasanaeth Collect and Pay

Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn rhoi trefniadau yn eu lle gyda'r gwasanaeth Collect and Pay, fe fyddan nhw'n casglu arian gennych ac yn ei drosglwyddo at y rhiant arall. Os nad ydych chi'n talu yn ôl y gorchymyn, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn cymryd mesurau gorfodi i wneud i chi dalu.

Ôl-ddyledion os ydych chi wedi dadlau yn erbyn penderfyniad ynglyn â thaliadau cynhaliaeth

Os ydych chi wedi dadlau yn erbyn penderfyniad ynghylch taliadau cynhaliaeth neu'n apelio, mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn medru atal y broses o adennill ôl-ddyledion hyd nes bod canlyniad y ddadl neu'r apêl yn wybyddus.

Fe allai hyn ddigwydd os yw'n debygol, ar ôl yr adolygiad neu'r apêl, y cewch eich gorchymyn i dalu llai o gynhaliaeth. Os yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn atal y broses o adennill ôl-ddyledion, fe fyddan nhw'n dweud wrth y rhiant arall.

Mae arnoch chi daliadau cynhaliaeth i fwy nag un person

Os oes arnoch chi daliadau cynhaliaeth i fwy nag un person, fe all yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant benderfynu sut i rannu'r taliad yr ydych yn ei gynnig fel rhandaliad rhwng unrhyw rieni y mae y mae arnoch daliadau cynhaliaeth iddynt. Fe allwch chi ddweud pwy fyddai'n well gennych eu gweld yn cael y rhandaliad.

Os nad oes ots gennych pwy sy'n cael yr arian, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn ysgrifennu at bawb y mae arnoch daliadau cynhaliaeth iddynt ac yn gofyn os ydyn nhw'n barod i dderbyn llai. Nid oes rhaid i riant dderbyn y cynnig. Fe fydd unrhyw rieni eraill sy'n derbyn y cynnig yn cael y rhandaliad wedi ei rannu rhyngddynt.

Os yw rhiant yn gwrthod y cynnig o randaliad, fe fydd yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn dal i geisio gwneud i chi dalu'r hyn sy'n ddyledus iddynt.

Methdaliad

Os ydych wedi mynd yn fethdalwr, fe fyddwch yn dal i fod yn atebol yn gyfreithiol am ad-dalu'r ôl-ddyledion onid yw'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant wedi cytuno i'w dileu. Dim ond mewn rhai amgylchiadau y gellir dileu ôl-ddyledion.

Mae'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn oedi neu'n gwneud camgymeriad wrth gasglu ôl-ddyledion

Os ydych chi ar eich colled yn ariannol am i'r Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant oedi neu wneud camgymeriad wrth gyfrifo ôl-ddyledion neu eu casglu, gallwch gyflwyno cais am iawndal gan yr Asiantaeth Cynnal Plant neu'r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant. Caiff ceisiadau am iawndal eu hystyried fesul achos.

Other useful information

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.