Gorchmynion arwystlo
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os yw eich credydwr wedi mynd â chi i'r llys am ddyled, efallai y bydd ganddo ddyfarniad llys sirol (CCJ) neu orchymyn llys arall yn eich erbyn. Mae hyn yn golygu bod y llys wedi gorchymyn i chi ad-dalu’r arian sy’n ddyledus gennych. Mae gorchymyn llys yn golygu bod rhaid i chi naill ai:
gwneud taliadau rheolaidd i'ch credydwr
talu'r ddyled gyfan erbyn dyddiad penodol
Pan fydd gan eich credydwr orchymyn llys yn eich erbyn, gallant wneud cais am orchymyn llys arall sy'n sicrhau'r ddyled yn erbyn eich cartref neu eiddo arall yr ydych yn berchen arno. Gelwir hyn yn 'orchymyn arwystlo'. Os ydych chi'n berchen ar eich eiddo ar y cyd â rhywun arall ond mai dim ond yn eich enw chi y mae'r ddyled, dim ond ar gyfer eich cyfran chi o'r eiddo y gall y credydwr gael gorchymyn arwystlo - gelwir hwn yn 'fuddiant' i chi.
Mae gorchymyn arwystlo'n ddifrifol iawn - gallech golli'ch cartref os na fyddwch yn talu'r hyn sy'n ddyledus gennych yn ôl. Ar ôl i'ch credydwr gael gorchymyn arwystlo, gallant fel arfer wneud cais i'r llys am orchymyn arall i'ch gorfodi i werthu'ch cartref. Gelwir hyn yn 'orchymyn gwerthu'.
Os bydd eich credydwr yn ceisio cael gorchymyn arwystlo neu orchymyn gwerthu, dylech gysylltu â'ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf i gael cymorth.
Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am CCJs a gorchmynion llys.
Cael lle i anadlu os oes angen mwy o amser arnoch i benderfynu beth i'w wneud
Gallai'r cynllun lle i anadlu, a gefnogir gan y llywodraeth, roi mwy o amser i chi benderfynu sut i ddelio â'ch dyled. Gallwch gael lle i anadlu ar unrhyw adeg.
Os ydych chi’n gymwys, gallech gael 60 diwrnod o le i anadlu lle na all eich credydwr:
eich troi allan
cysylltu â chi
cymryd camau i’ch gorfodi i dalu
ychwanegu llog a ffioedd at y ddyled
Os byddwch yn mynd i ôl-ddyledion pellach ar ôl i chi ddechrau eich lle i anadlu, gall eich credydwr gysylltu â chi am y rhain o hyd. Fel arfer, dim ond unwaith bob 12 mis y cewch chi le i anadlu.
Siaradwch â chynghorydd i weld a allwch chi gael lle i anadlu.
Pryd y gall credydwr wneud cais am orchymyn arwystlo
Dim ond os oes ganddo ddyfarniad llys sirol (CCJ) eisoes yn eich erbyn y gall eich credydwr wneud cais am orchymyn arwystlo. Ar ôl iddynt gael y CCJ, rhaid i'ch credydwr wneud cais i'r llys eto i gael gorchymyn arwystlo.
Newidiodd y rheolau ynghylch pryd y gall credydwr wneud cais am orchymyn arwystlo o 1 Hydref 2012 ymlaen. Dylech wirio:
y dyddiad y gwnaeth eich credydwr gais am y CCJ gwreiddiol
y dyddiad y rhoddwyd y CCJ
beth mae’r CCJ yn ei ddweud am ad-daliadau
Os cafodd eich credydwr orchymyn arwystlo cyn 1 Hydref 2012
Os cafodd eich credydwr CCJ cyn 1 Hydref 2012, dim ond os yw’r canlynol yn berthnasol y gall wneud cais am orchymyn arwystlo:
rydych wedi methu'r terfyn amser ar gyfer talu'r ddyled gyfan
rydych yn talu'r ddyled mewn rhandaliadau ac rydych wedi methu taliad
Os bydd y credydwr yn gwneud cais am orchymyn arwystlo a chithau heb fethu'r terfyn amser ar gyfer talu, dylech fynd i'r gwrandawiad llys. Gallwch roi tystiolaeth i'r barnwr i ddangos eich bod wedi glynu wrth delerau'r CCJ.
Os ydych chi wedi methu rhai taliadau, ceisiwch ddal i fyny â nhw cyn y gwrandawiad. Os byddwch yn gwneud hyn, ni chewch orchymyn arwystlo.
Os cafodd eich credydwr orchymyn arwystlo ar ôl 1 Hydref 2012
Os cafodd eich credydwr CCJ ar neu ar ôl 1 Hydref 2012, gallant wneud cais am orchymyn arwystlo ar unwaith. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed os yw eich taliadau yn gyfredol o dan y CCJ.
Sut mae credydwr yn cael gorchymyn arwystlo
Mae dau gam i’r cais am orchymyn arwystlo bob amser. Yn gyntaf, rhaid i'ch credydwr gael 'gorchymyn interim' ac yna 'gorchymyn terfynol'.
Fel arfer, mae'r llys yn rhoi gorchymyn dros dro i'ch atal rhag gwerthu'ch eiddo heb i'ch credydwr wybod cyn y gellir gwneud y gorchymyn terfynol.
Os bydd llys yn rhoi gorchymyn arwystlo terfynol i'ch credydwr, mae hyn yn golygu os byddwch yn gwerthu'ch eiddo, rhaid i chi dalu'r arian yn ôl i'ch credydwr.
Os bydd eich credydwr yn cael gorchymyn arwystlo terfynol, nid yw hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi werthu'ch eiddo. Os bydd eich credydwr am eich gorfodi i werthu'ch eiddo, bydd yn rhaid iddo wneud cais i'r llys am orchymyn arall a elwir yn 'orchymyn gwerthu'.
Gallwch ddadlau yn erbyn rhoi gorchymyn arwystlo terfynol neu orchymyn gwerthu i'ch credydwr. Gallwch hefyd ofyn i’r barnwr osod amodau ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo terfynol – mae hyn yn ei gwneud yn anoddach i’r credydwr orfodi gwerthiant.
Gorchmynion arwystlo interim
Fel arfer, gwneir gorchymyn arwystlo interim gan swyddog llys heb wrandawiad. Dim ond os yw'r canlynol yn berthnasol y cynhelir gwrandawiad gyda barnwr:
rydych yn gyfredol â gorchymyn rhandaliadau a wnaed cyn 1 Hydref 2012
mae swyddog y llys o'r farn bod rheswm pam y dylai'r cais gael ei ystyried gan farnwr
Os gwneir y penderfyniad gan swyddog llys, rhaid i’ch credydwr anfon copi o’r gorchymyn interim atoch o fewn 21 diwrnod i roi'r gorchymyn.
Dylai eich credydwr hefyd anfon copi o'r gorchymyn interim at:
cyd-berchnogion yr eiddo - os oes rhai
eich priod neu bartner sifil - hyd yn oed os nad ydynt yn gyd-berchennog
eich credydwyr hysbys eraill
Os gwneir y penderfyniad gan farnwr, gallant naill ai:
gwrthod gwneud gorchymyn arwystlo interim
gwneud gorchymyn arwystlo interim
gwneud gorchymyn arwystlo interim a phennu dyddiad ar gyfer y gwrandawiad yn eich llys sirol lleol - yn y gwrandawiad bydd barnwr yn ystyried a ddylid gwneud gorchymyn arwystlo terfynol
Pan fydd eich credydwr yn gwneud cais am orchymyn arwystlo interim, bydd hefyd yn cofrestru arwystl ar eich eiddo yn y Gofrestrfa Tir. Mae hyn yn golygu na allwch werthu eich eiddo heb i'ch credydwr wybod am hynny.
Os gallwch ad-dalu'r ddyled yn llawn ar yr adeg honno, gallwch gael gwared ar yr arwystl o'r Gofrestrfa Tir.
I gael cyngor am gael gwared ar arwystl o’r Gofrestrfa Dir, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Gorchmynion arwystlo terfynol
Ar ôl i chi dderbyn gorchymyn arwystlo interim, mae gennych 28 diwrnod i wrthwynebu gorchymyn arwystlo terfynol. Rhaid i chi anfon eich gwrthwynebiad yn ysgrifenedig at y llys a’r credydwr.
Os byddwch yn anfon gwrthwynebiad, cynhelir gwrandawiad yn eich llys sirol lleol, a bydd barnwr yn penderfynu a ddylid gwneud y gorchymyn arwystlo terfynol ai peidio. Os na fyddwch yn anfon unrhyw wrthwynebiadau, bydd y barnwr yn penderfynu a ellir gwneud y gorchymyn arwystlo’n derfynol heb wrandawiad.
Os yw barnwr eisoes wedi trefnu gwrandawiad ar ôl gwneud penderfyniad am y gorchymyn arwystlo interim, rhaid i chi anfon eich gwrthwynebiad i’r llys a’r credydwr o leiaf 7 diwrnod cyn y gwrandawiad.
Dylech fynd i’r gwrandawiad. Os na allwch chi, dylech esbonio hyn i'r llys a gofyn am ddyddiad gwahanol ar gyfer y gwrandawiad. Os na fyddwch yn mynd i’r gwrandawiad, mae’r llys yn debygol o wneud y gorchymyn yn un terfynol.
Yn y gwrandawiad, bydd y barnwr yn:
edrych ar y dystiolaeth rydych chi wedi'i hanfon i ddweud pam nad ydych chi eisiau i orchymyn arwystlo gael ei wneud
edrych ar y dadleuon a wnaed gan eich credydwr
penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn arwystlo terfynol ar ôl ystyried y dystiolaeth o’r ddwy ochr
Os bydd y llys yn caniatáu gorchymyn arwystlo terfynol, gall eich credydwr aros nes i chi werthu'ch eiddo neu wneud cais i'r llys am orchymyn gwerthu os ydynt am i chi werthu'ch eiddo ar unwaith.
Efallai y gallwch ddefnyddio rhai dadleuon i berswadio’r barnwr i beidio â rhoi gorchymyn arwystlo terfynol i’ch credydwr.
Efallai y bydd y barnwr hefyd yn cytuno i osod amodau ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo - mae hyn yn atal neu'n ei gwneud yn anoddach i'ch credydwr eich gorfodi i werthu'ch eiddo.
I gael help i gyflwyno’ch dadleuon i’r llys neu i ofyn am osod amodau ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Atal gwneud gorchymyn arwystlo terfynol
Yn y gwrandawiad ar gyfer gorchymyn arwystlo terfynol, rhaid i’r llys ystyried holl amgylchiadau’r achos cyn iddo benderfynu a fydd yn gwneud y gorchymyn. Mae eich sefyllfa bersonol yn bwysig iawn.
Efallai y gallwch ddefnyddio un o’r dadleuon canlynol i berswadio’r barnwr i beidio â gwneud gorchymyn arwystlo – ond yn y rhan fwyaf o achosion, gwneir gorchymyn arwystlo terfynol.
Os na wnaeth eich credydwr gyflwyno’r gorchymyn arwystlo interim i’r bobl gywir
Pan wneir gorchymyn arwystlo interim yn eich erbyn, rhaid i'ch credydwr anfon copi o'r gorchymyn atoch o fewn 21 diwrnod.
Dylent hefyd anfon copi o’r gorchymyn at unrhyw un o’r canlynol:
cydberchnogion yr eiddo
eich priod neu bartner sifil
eich credydwyr hysbys eraill
Os na wnaeth eich credydwr gyflwyno'r gorchymyn interim i'r holl bobl angenrheidiol, ni ddylai'r llys roi gorchymyn arwystlo terfynol.
Os nad ydych wedi methu rhandaliadau
Ar gyfer dyfarniadau llys sirol a wnaed ers 1 Hydref 2012, bydd y barnwr yn ystyried a ydych yn gyfredol ag unrhyw daliadau rheolaidd. Os ydych chi wedi methu taliadau, maen nhw'n fwy tebygol o wneud gorchymyn arwystlo yn eich erbyn.
Ychydig iawn o ecwiti sydd yn eich eiddo, os o gwbl
Ecwiti yw swm yr elw y byddech yn ei wneud ar eich cartref ar ôl i chi werthu'r eiddo a thalu'ch morgais. Os nad oes llawer o ecwiti yn yr eiddo, neu os nad oes ecwiti o gwbl, ni fyddai eich credydwr yn cael ei arian yn ôl pe bai'n cael ei werthu.
Nid yw credydwyr eraill yn gofyn am orchymyn arwystlo
Os oes gennych fwy nag un credydwr, efallai fod y lleill wedi cytuno i adael i chi ad-dalu eu dyledion mewn rhandaliadau, yn hytrach na gofyn am orchymyn arwystlo. Efallai y gallwch ddadlau na ddylid gorfod rhoi gorchymyn arwystlo i un credydwr os nad yw'r un o'r lleill yn credu ei fod yn angenrheidiol - yn enwedig os oes arnoch chi fwy o arian i'r credydwyr eraill.
Mae gorchymyn arwystlo yn annheg ar bobl eraill sy’n byw gyda chi
Efallai y gallwch ddadlau y byddai'n effeithio'n ddifrifol ar bobl eraill sy'n byw gyda chi pe byddai'n rhaid i chi werthu'ch cartref. Er enghraifft, meddyliwch am yr effaith y gallai hyn ei chael ar unrhyw blant, pobl hŷn neu bobl anabl rydych chi’n byw gyda nhw.
Os ydych chi'n berchen ar yr eiddo gyda rhywun arall ond mai dim ond yn eich enw chi y mae'r ddyled, gallwch ddadlau nad yw'n deg i'r cyd-berchennog werthu'r eiddo.
Mae gorchymyn arwystlo yn annheg ar eich credydwyr eraill
Os oes gennych gredydwyr eraill, gallech ofyn iddynt wrthwynebu gorchymyn arwystlo terfynol oherwydd byddai’n annheg iddynt. Os ydych chi'n debygol o gael eich gwneud yn fethdalwr, gallech ddadlau y byddai gorchymyn arwystlo'n rhoi mantais annheg i'r credydwr ar draul credydwyr 'di-warant' eraill. Mae’r rhain yn bobl eraill y mae arnoch chi arian iddyn nhw ond nad oes ganddyn nhw ffordd glir o’i gael yn ôl. Er enghraifft, ni all credydwyr di-warant wneud i chi werthu'ch tŷ i'w talu'n ôl.
Beth allwch chi ei wneud unwaith y gwneir gorchymyn arwystlo terfynol
Os bydd y llys yn penderfynu caniatáu gorchymyn arwystlo terfynol, efallai y gallwch:
gwneud cais i’r gorchymyn gael ei ‘neilltuo’
gofyn am osod amodau ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo
newid y gorchymyn arwystlo
Gwneud cais i’r gorchymyn gael ei neilltuo
Os oes gorchymyn arwystlo terfynol wedi’i wneud, efallai y gallwch wneud cais i’r llys ei neilltuo. Mae hyn yn golygu bod y ddyled yn mynd yn ôl i gam y dyfarniad a bydd yn rhaid i'ch credydwr wneud cais arall i'r llys os yw am gymryd camau pellach. Gall hyn roi mwy o amser i chi ad-dalu eich dyled.
Dim ond os ydych chi'n credu nad oedd y llys wedi ystyried eich amgylchiadau'n iawn y gallwch wneud hyn. Rhaid i chi wneud y cais hwn cyn gynted â phosibl ar ôl i’r gorchymyn arwystlo gael ei wneud yn derfynol.
Llwythwch ffurflen gais N244 y llys ar GOV.UK.
Gall fod yn anodd iawn neilltuo’r gorchymyn arwystlo. I gael cyngor ar beth i’w wneud, gan gynnwys help i lenwi’r ffurflen llys, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Gofyn am osod amodau ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo
Efallai y gallwch ofyn i'r barnwr atal eich credydwr rhag eich gorfodi i werthu'ch eiddo ar unwaith. Gelwir hyn yn ‘osod amodau’. Er enghraifft, gallwch ofyn am naill ai i:
beidio â gwerthu eich eiddo tra bo'ch plant yn dal i fod yn yr ysgol
gohirio'r gorchymyn terfynol cyn belled â'ch bod yn cadw at gynllun ad-dalu y cytunwyd arno
Efallai y bydd amodau eraill y gallwch ofyn amdanynt, yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol.
I gael help arbenigol i gyflwyno’ch dadleuon i’r llys neu i ofyn am osod amodau ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Newid y gorchymyn arwystlo terfynol
Os oes amodau ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo, efallai y gallwch ofyn i’r llys eu newid os bydd eich amgylchiadau ariannol yn newid.
Er enghraifft, efallai y bydd y gorchymyn arwystlo'n dweud bod yn rhaid i chi dalu'ch credydwr yn ôl mewn rhandaliadau. Gallwch ofyn i’r llys newid swm y rhandaliadau neu’r dyddiad y mae’n rhaid talu’r rhandaliad terfynol.
Cael mwy o wybodaeth am newid gorchymyn llys ar gyfer dyled.
I gael cyngor ar sut i newid gorchymyn arwystlo, gan gynnwys help i lenwi ffurflen y llys, cysylltwch â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf.
Beth sy'n digwydd os oes gorchymyn gwerthu
Pan fydd eich credydwr wedi cael gorchymyn arwystlo terfynol, gall wneud cais am orchymyn gwerthu. Gorchymyn llys yw hwn sy’n eich gorfodi i werthu eich eiddo a defnyddio’r arian a wnewch o’r gwerthiant i dalu eich dyled gorchymyn arwystlo.
Cynhelir gwrandawiad llys arall ac mae'n bwysig iawn eich bod yn mynychu. Bydd y llys yn penderfynu a ddylid gwneud gorchymyn gwerthu ai peidio.
Ni all credydwr gael gorchymyn gwerthu os yw'r canlynol yn berthnasol:
mae arnoch chi lai na £1,000 - gan gynnwys unrhyw gostau llys
mae eich dyled yn dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr - gwiriwch pa ddyledion sy'n dod o dan y Ddeddf Credyd Defnyddwyr
Mae gorchymyn gwerthu yn ddifrifol iawn ac yn gyfreithiol gymhleth. Dylech gysylltu â’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth agosaf cyn gynted ag y bo modd os bydd eich credydwr yn ceisio cael gorchymyn gwerthu yn eich erbyn.
Gallwch hefyd weld a allwch chi gael cymorth cyfreithiol fforddiadwy.
Os gorchmynnwyd i chi dalu eich dyled mewn rhandaliadau
Ni all credydwr gael gorchymyn gwerthu os yw'r canlynol yn berthnasol:
gwnaed y dyfarniad llys sirol ar neu ar ôl 1 Hydref 2012
gofynnwyd i chi dalu mewn rhandaliadau
mae eich taliadau’n gyfredol
Os ydych chi wedi methu unrhyw daliadau, ceisiwch eu talu cyn i chi orfod mynd i'r llys - bydd hyn yn atal eich credydwr rhag cael gorchymyn gwerthu.
Pam fod credydwr yn penderfynu gwneud cais am orchymyn gwerthu
Ar ôl iddyn nhw gael gorchymyn arwystlo, efallai y bydd eich credydwr yn cytuno i aros i chi werthu'ch cartref pan fyddwch chi'n barod. Efallai y bydd credydwyr eraill yn gwneud cais am orchymyn gwerthu ar unwaith. Gallant wneud hyn hyd yn oed os oes arnoch chi swm cymharol fach o arian iddynt o'i gymharu â gwerth eich cartref.
Mae pa un a yw credydwr yn barod i aros ai peidio yn dibynnu ar ba mor gyflym y mae am gael ei arian yn ôl. Gallent hefyd ystyried un neu fwy o’r pethau canlynol:
os gallwch dalu'r arian yn ôl mewn ffordd arall o fewn cyfnod rhesymol - er enghraifft, efallai y gallwch wneud taliadau rheolaidd neu godi cyfandaliad i glirio'r ddyled (os rhoddodd eich credydwr amser i chi dalu'r arian yn ôl pan wnaed y gorchymyn arwystlo terfynol ac na wnaethoch gadw at y cytundeb, mae'n debyg y byddant yn gwneud cais am orchymyn gwerthu)
os oes morgeisi eraill neu fenthyciadau wedi'u gwarantu i'w talu o'r elw o'r gwerthiant - os oes angen talu dyledion eraill yn gyntaf, efallai na fydd eich credydwr yn ennill unrhyw beth drwy wneud i chi werthu'ch cartref
faint o ecwiti sydd yn yr eiddo - ecwiti yw faint o elw y byddech chi'n ei wneud ar eich cartref pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu a'r morgais yn cael ei dalu (os nad oes llawer o ecwiti yn yr eiddo, neu ddim ecwiti o gwbl, efallai na fydd yn werth i'r credydwr eich gorfodi i'w werthu)
os ydyn nhw’n meddwl nad ydych chi wedi talu’r ddyled er y gallech ei thalu
os credant mai eich gorfodi i werthu eich eiddo yw'r unig ffordd o gael eu harian yn ôl
Anfon eich tystiolaeth i’r llys
Os bydd eich credydwr yn penderfynu gwneud cais am 'orchymyn gwerthu', gofynnir i chi fynd i wrandawiad llys. Mae’n bwysig iawn eich bod yn mynd i’r gwrandawiad er mwyn i chi allu dweud wrthynt am eich sefyllfa.
Bydd y llys yn anfon y canlynol atoch:
copi o’r ffurflen hawlio a lenwyd gan y credydwr
ffurflen ‘cydnabyddiad cyflwyno’
Bydd gennych 14 diwrnod i anfon y ffurflen cydnabyddiad cyflwyno yn ôl i’r llys, ynghyd ag unrhyw dystiolaeth ysgrifenedig. Dylech hefyd anfon copi o’r ffurflen a’r dystiolaeth at eich credydwr.
Os oes angen mwy o amser arnoch i anfon eich tystiolaeth, ysgrifennwch at eich credydwr. Gallwch ofyn am hyd at 14 diwrnod arall.
Os na fyddwch yn anfon eich ffurflen cydnabyddiad cyflwyno yn ôl i'r llys, ni fyddwch yn gallu cymryd rhan yn y gwrandawiad llys.
Os byddwch yn methu’r dyddiad cau ar gyfer dychwelyd eich ffurflen, gallwch ofyn i’r llys am fwy o amser. Bydd angen i chi lenwi ffurflen N244 a thalu £275 - lawrlwythwch ffurflen gais N244 y llys ar GOV.UK.
Gwiriwch a allwch chi gael help gyda ffioedd llys ar GOV.UK.
Sut y dylai eich credydwr ateb eich tystiolaeth
Ar ôl i chi anfon eich tystiolaeth, bydd gan eich credydwr 14 diwrnod i ymateb gyda rhagor o dystiolaeth i gefnogi ei achos. Efallai y bydd eich credydwr yn gofyn i chi am hyd at 28 diwrnod arall i ymateb.
Os nad ydych yn cytuno i roi mwy o amser i'ch credydwr ymateb i'ch tystiolaeth, gallant ofyn i'r llys. Os bydd y llys yn cytuno, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y costau a achosir gan y broses hon.
Os nad ydych yn siŵr a ddylech ganiatáu i'ch credydwr gael mwy o amser, siaradwch â'ch cyfreithiwr os oes gennych un. Gallwch hefyd siarad â chynghorydd.
Cael cymorth arbenigol cyn mynd i’r llys
Gall y sefyllfa gyfreithiol fod yn gymhleth iawn ac efallai y gallwch gyflwyno nifer o ddadleuon cyfreithiol a phersonol pam na ddylid gwerthu'r eiddo.
Ceisiwch gael cyngor arbenigol cyn gynted â phosibl. Os gallwch chi, ewch â chynrychiolydd cyfreithiol gyda chi i’r gwrandawiad llys, fel cynghorydd arbenigol. Efallai y gallwch gael help gyda'ch costau cyfreithiol.
Sut mae’r llys yn penderfynu rhoi gorchymyn gwerthu
Gall y llys orchymyn gwerthiant os:
mae'r eiddo a'r ddyled yn eich enw chi yn unig
mae gan yr eiddo gydberchnogion ac mae'r ddyled yn enw y ddau ohonoch
mae'r eiddo mewn perchnogaeth ar y cyd ond mae'r ddyled yn eich enw chi yn unig - ond gallai fod yn fwy anodd i'ch credydwr gael gorchymyn gwerthu
Os oes cyd-berchnogion ar yr eiddo ond mai dim ond yn eich enw chi y mae'r ddyled, efallai y byddai'n fwy anodd i'r credydwyr gael gorchymyn gwerthu. Mae hyn yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod pob cyd-berchennog yn mynd i’r gwrandawiad llys ar gyfer y gorchymyn gwerthu, er mwyn iddynt allu egluro eu sefyllfa. Mae hyn yn cynnwys gŵr neu wraig nad ydynt yn gyd-berchennog, ond sy’n byw yn yr eiddo ac a allai fod â hawl i gyfran o’i werth – gelwir hyn yn ‘fuddiant llesiannol’.
Gall y llys benderfynu ei bod yn annheg gorfodi rhywun nad oedd yn gyfrifol am y ddyled i adael ei gartref.
Bydd hefyd yn edrych ar fuddiannau’r teulu cyfan ac yn penderfynu a yw’r rhain yn bwysicach na rhai’r credydwr. Dyma rai o’r pethau y bydd yn eu hystyried:
os oes digon o ecwiti yn yr eiddo i dalu'r morgais a'r ddyled gorchymyn arwystlo - os nad oes, efallai na fyddai'n werth eich gorfodi i werthu'ch cartref
y rhesymau pam y gwnaethoch brynu eich cartref - er enghraifft, os yw'n gartref i'r teulu neu os yw person hŷn neu anabl yn byw yno
lles unrhyw blant - er enghraifft, beth fyddai effaith symud, neu os yw plentyn yn sâl neu'n anabl
os oes ffyrdd eraill y gallwch dalu'r ddyled yn ôl, er enghraifft drwy orchymyn rhandaliadau, gorchymyn gweinyddu neu orchymyn atafaelu enillion
Os oes unrhyw un o’r pethau hyn yn berthnasol i chi, dylech sicrhau bod y llys yn gwybod amdanynt.
Gallwch ddal i gynnig taliad ar yr adeg honno a gofyn i’r llys beidio â gorchymyn gwerthiant cyn belled â’ch bod yn cadw i fyny gyda’r taliadau. Dylech ddarparu datganiad ariannol llawn o’ch amgylchiadau. Gallwch ofyn i’r llys ohirio’r gorchymyn ar gyfer achos gwerthu neu ‘ohirio’ y gorchymyn. Mae gorchymyn gohiriedig yn golygu y bydd oedi gyda'r gorchymyn gwerthu - er enghraifft, nes bydd eich plant wedi tyfu i fyny.
Defnyddiwch gyfrifiannell cyllidebu i greu datganiad ariannol i'w roi i'ch credydwyr.
Os bydd y llys yn rhoi gorchymyn gwerthu
Os gwneir y gorchymyn gwerthu ac na chaiff ei ohirio, byddwch fel arfer yn cael 28 diwrnod i dalu'r ddyled neu i adael yr eiddo. Os na fyddwch yn talu'r ddyled neu'n gadael yr eiddo o fewn 28 diwrnod, gall eich credydwr wneud cais am orchymyn i'ch gorfodi i adael yr eiddo. Gelwir hyn yn ‘warant meddiant’.
Darllen mwy am beth sy'n digwydd os bydd eich credydwr yn cael gwarant meddiant.
Sut mae gorchymyn arwystlo yn effeithio ar y bobl rydych chi’n byw gyda nhw
Os ydych yn berchen ar eich eiddo ar y cyd â rhywun a bod y ddyled yn eich enw chi, gall y llys wneud gorchymyn arwystlo ar yr eiddo cyfan.
Os yw’r ddyled yn eich enw chi yn unig a bod yr eiddo mewn enwau ar y cyd, dim ond ar y rhan o’r eiddo yr ydych yn berchen arno y gall y llys wneud gorchymyn arwystlo.
Gall pobl eraill sy'n byw gyda chi nad ydynt yn berchen ar yr eiddo ddweud bod ganddynt 'fuddiant llesiannol' yn yr eiddo. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r llys ystyried sut y bydd gorchymyn arwystlo neu orchymyn gwerthu yn effeithio arnynt.
Mae angen i’r llys ystyried sut y bydd gwneud gorchymyn arwystlo yn effeithio ar yr holl bobl sy’n byw gyda chi ac a fydd yn achosi caledi neu ddioddefaint iddynt. Gallai hyn ei gwneud yn anoddach i’r credydwr gael gorchymyn arwystlo neu orchymyn gwerthu. Dyna pam ei bod yn bwysig iawn bod y llys yn gwybod am y bobl hyn.
Mae hefyd yn bwysig iawn bod y bobl rydych chi’n byw gyda nhw yn cael gwybod am y gwrandawiadau llys. Dylid rhoi cyfle i gyd-berchennog, gŵr, gwraig neu bartner sifil fynd i’r gwrandawiad llys a dweud wrth y barnwr sut y bydd gorchymyn arwystlo yn effeithio arnynt hwy neu ar unrhyw aelodau o’r teulu sy’n byw gyda hwy.
Efallai y bydd y person rydych chi’n byw gyda nhw eisiau dweud wrth y llys
pam na ddylent golli eu cartref pan nad yw'r ddyled yn ddyledus ganddynt
os oes plant, neu berson hŷn neu anabl sy'n byw yn yr eiddo - gallwch ofyn i'r llys osod amod ynghlwm wrth y gorchymyn arwystlo sy'n dweud na ellir gwerthu'r eiddo nes bydd y plant wedi tyfu i fyny
mae angen iddynt aros yn agos i'r gwaith neu'r ysgol, ac a fyddai'n anodd dod o hyd i dai addas eraill yn yr ardal
a ydynt wedi talu'r blaendal i brynu'r cartref
os ydyn nhw wedi bod yn gwneud y taliadau morgais
Talu gorchymyn arwystlo
Os byddwch yn talu'r swm sy'n ddyledus gennych dan y gorchymyn arwystlo, gallwch wneud cais i'r llys am i'r gorchymyn gael ei 'rhyddhau' - mae hyn yn golygu nad yw'r gorchymyn yn bodoli mwyach. Gofynnwch i’r llys am ‘dystysgrif boddhad’ ar eich dyfarniad llys sirol a chynnwys tystiolaeth o dalu.
Gallwch ddefnyddio’r dystysgrif i newid y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon. Dylai hyn ei gwneud yn haws i chi gael credyd.
Fel arfer, bydd credydwyr yn dweud wrth y Gofrestrfa Tir bod y gorchmynion arwystlo interim a therfynol wedi cael eu rhyddhau.
Darllen mwy am newid cofnod yn y Gofrestr Dyfarniadau, Gorchmynion a Dirwyon.
Cael help gyda biliau a chyllidebu
Os ydych chi'n ceisio lleihau eich gwariant, neu os ydych chi'n cael problemau gyda'ch taliadau, fe allech chi gael help gyda'ch biliau. Gallech hefyd ddefnyddio cyfrifiannell i gyfrifo eich cyllideb i weld yn union ble mae eich arian yn mynd bob mis.
Rhagor o gymorth
Adolygwyd y dudalen ar 25 Tachwedd 2026