Cael cymorth gyda phroblem gwahaniaethu'n ymwneud â thai
Os nad ydych yn siŵr os yw’ch problem yn achos o wahaniaethu, neu os oes angen cymorth arnoch i weithredu, mae yna sefydliadau sy'n gallu'ch helpu.
Cysylltu â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf
Mae’n syniad da cysylltu â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf gyntaf – gallant eich helpu gyda’ch problem gwahaniaethu ac unrhyw broblemau eraill sydd gennych chi.
Er enghraifft, os cynyddodd eich landlord eich rhent pan ddaethoch chi’n anabl, gall cynghorydd eich helpu i gwyno am wahaniaethu. Gall hefyd eich cynghori ar broblemau ariannol a achosir gan wario mwy ar rent.
Cysylltu â llinell gymorth EASS
Hefyd, gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) os oes gennych broblem yn ymwneud â gwahaniaethu – gall y gwasanaeth hwn eich helpu i ganfod ffordd ymlaen, ond nid yw’n gallu rhoi cyngor cyfreithiol.
Llinell gymorth EASS
Ffôn: 0808 800 0082
Trosglwyddydd testun: 0808 800 0084
Dydd Llun - Dydd Gwener, 9am tan 7pm
Dydd Sadwrn, 10am tan 2pm
Mae galwadau i’r rhifau hyn am ddim.
Hefyd, gallwch gysylltu â llinell gymorth EASS trwy gwblhau ffurflen ar-lein neu siarad ar-lein â chynghorydd. Ewch i dudalen gyswllt EASS i gael y manylion cyswllt.
Os yw’n well gennych ysgrifennu llythyr, dyma’r cyfeiriad:
Rhadbost
Llinell gymorth EASS
FPN6521
Peidiwch ag anfon unrhyw ddogfennau gyda’ch llythyr – bydd EASS yn gofyn am unrhyw wybodaeth sydd ei hangen wrth ymateb.
Gallwch ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) i gysylltu ag EASS - edrychwch i weld sut mae defnyddio'r gwasanaeth BSL.
Os ydych yn gynghorydd
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn darparu Cymorth Cynghorydd EHRC, sef llinell gymorth ar gyfer cynghorwyr a chyfreithwyr.