Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Cam 5: mynd i’r llys

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Y peth gorau i’w wneud yw cael cyfreithiwr i’ch cynrychioli chi os allwch chi.

Efallai y gallwch chi ddod o hyd i help cyfreithiol am ddim neu fwy fforddiadwy cyn y gwrandawiad. Os na allwch chi gael cymorth cyfreithiol neu os na allwch chi fforddio cyfreithiwr, gallwch chi gynrychioli'ch hun yn y llys.

Fel arfer, bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal yn y llys sirol.

Gallwch chi gael ffrind neu gynghorydd i ddod i’ch cefnogi chi yn y gwrandawiad. Dysgwch fwy am fynd i’r llys heb gyfreithiwr neu fargyfreithiwr.

Gallwch chi wylio fideos ar yr hyn i'w ddisgwyl yn y llys gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Beth fydd yn digwydd yn y llys

Efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys fwy nag unwaith. Efallai y bydd y llys eisiau ymdrin â rhai materion cyn y treial i helpu’r achos i fynd yn esmwyth. 'Materion rhagarweiniol’ yw enw'r rhain. Os bydd angen gwrandawiad i benderfynu ar y materion hynny, gelwir y gwrandawiad yn ‘wrandawiad rhagarweiniol’.

Gwrandawiad cyfarwyddiadau

Fel arfer, y tro cyntaf y byddwch chi’n mynd i’r llys, byddwch chi yno am wrandawiad byr lle bydd y barnwr yn penderfynu ar y camau nesaf – bydd hyn yn cynnwys cyfarwyddiadau fel sut a phryd mae angen i chi anfon tystiolaeth. Gelwir y gwrandawiad hwn yn ‘wrandawiad cyfarwyddiadau’.

Bydd y cyfarwyddiadau yn dibynnu ar bethau fel:

  • pa fath o achos ydyw – gan gynnwys pa mor gymhleth ydyw
  • beth mae’r ddau barti yn ei ddweud – pa rannau o’r achos rydych chi’n cytuno arnyn nhw a pha rannau mae anghydfod yn eu cylch
  • am beth rydych chi’n gofyn i’r llys
  • pa mor hir fydd hi'n cymryd i wneud pethau
  • sawl tyst rydych chi’n debygol o alw

Os wnaethoch chi fethu’r dyddiad terfyn ar gyfer gwneud hawliad, bydd angen i’r llys benderfynu a fydd yn caniatáu i chi wneud yr hawliad ai peidio. Os bydd y llys yn penderfynu peidio â gadael i chi wneud hawliad hwyr, ni fydd angen iddo wneud unrhyw gyfarwyddiadau ar gyfer treial llawn ac efallai y bydd yr hawliad yn dod i ben yn y fan a’r lle.

Gwrandawiad rheoli achos ac adolygiad cyn-treial

Efallai y bydd rhaid i chi fynd i’r llys eto er mwyn i’r barnwr weld a yw’r achos yn barod ar gyfer y gwrandawiad terfynol. Yn y gwrandawiad hwn, efallai y bydd y barnwr yn gwneud mwy o gyfarwyddiadau – ‘gwrandawiad rheoli achos’ yw enw'r math hwn o wrandawiad.

Gall y barnwr benodi aseswr hefyd i ystyried eich tystiolaeth a faint o iawndal y dylech chi ei gael. Efallai y gofynnir iddo ddarparu gwybodaeth arbenigol i’r llys hefyd.

Efallai y bydd gwrandawiad arall o’r enw ‘adolygiad cyn-treial’. Nod y gwrandawiad hwn yw sicrhau bod y partïon a’r llys yn gwybod pa faterion sydd angen sylw o hyd i alluogi’r achos i fynd yn ei flaen yn esmwyth. Fel arall, gall y llys anfon ‘rhestr wirio cyn-treial’ atoch i'w chwblhau i gael yr un wybodaeth a pharatoi ar gyfer y treial.

Cael rhestr wirio cyn-treial

Fel arfer, bydd rhestr wirio cyn-treial (sydd weithiau’n cael ei galw’n ‘holiadur rhestru’) yn cael ei hatoch chi pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cyfarwyddiadau. Bydd eich atebion i’r rhestr wirio yn helpu’r llys i benderfynu pa dystiolaeth sy’n debygol o gael ei defnyddio yn y treial fel y gallan nhw sicrhau eu bod nhw’n barod.

Gallwch chi lawrlwytho’r rhestr wirio cyn-treial (Ffurflen N170) ar wefan GOV.UK neu gael un o’r llys.

Os yw'ch achos ar yr amldrac, dylech chi gynnwys ‘amserlen y treial’ gyda’r rhestr wirio pan fyddwch chi’n ei dychwelyd i’r llys. Mae hyn yn dweud pa mor hir ddylai pob rhan o’r treial ei gymryd, er enghraifft, areithiau agoriadol a chloi.

Mae angen i chi ddilyn yr holl gyfarwyddiadau ac amserlen y treial. Os na fyddwch chi’n gwneud hynny, gallai’r llys:

  • gyfrif hyn yn eich erbyn pan fydd yn gwneud ei benderfyniad terfynol
  • penderfynu peidio â chlywed eich achos
  • gwrthod gadael i chi ddefnyddio tystiolaeth neu ddadleuon penodol

Os na fyddwch chi’n dilyn amserlen y treial a bod y treial yn cael ei ohirio, gallai’r llys eich gorchymyn i dalu costau’r ochr arall.

Gwrandawiad terfynol

Os oes rhaid i chi fynd i’r llys ar gyfer treial llawn, bydd y barnwr yn cychwyn trwy benderfynu unrhyw beth a fydd yn dylanwadu ar weddill y treial. Er enghraifft, efallai y bydd un ochr wedi methu â dilyn y cyfarwyddiadau neu’r rheolau roedden nhw i fod eu dilyn cyn y treial.

Y treial yw’r gwrandawiad terfynol a dyma pryd fydd y llys yn clywed tystiolaeth y ddau barti ac yn gwneud penderfyniad ar eich achos. Gan mai chi sy’n gwneud yr hawliad, bydd y llys yn disgwyl i chi neu'ch cynrychiolydd gyflwyno'ch tystiolaeth yn gyntaf.

Os ydych chi’n cynrychioli'ch hun, bydd angen i chi fod yn barod i ymdrin â’ch tystion eich hun a thystion y parti arall.

Rhoi'ch tystiolaeth - ‘y dystiolaeth flaenaf‘

Bydd rhaid i chi ac unrhyw un sydd wedi rhoi datganiad tyst roi tystiolaeth yn y blwch tystion ar lw.

Os na all tyst fod yn bresennol a’ch bod chi eisiau dibynnu ar ei ddatganiad tyst, bydd angen i chi ofyn i’r llys am ganiatâd i ddibynnu arno (o leiaf 7 diwrnod cyn y treial fel rheol). Gelwir hyn yn ‘dystiolaeth ail-law’. Mae’r rheolau ar hyn yn Rhan 33 y Rheolau Trefniadaeth Sifil yn GOV.UK.

Gofynnir i chi ac unrhyw dyst gadarnhau ei enw, ei gyfeiriad, ei lofnod a chynnwys ei ddatganiad tyst. Dyma'r ‘dystiolaeth flaenaf’.

Fel arfer, ni allwch chi ofyn unrhyw gwestiynau i’ch tystion eich hun gan y bydd y llys yn ystyried y dylai’r holl wybodaeth fod yn y datganiad tyst, felly mae’n bwysig gwneud yn siŵr bod eich datganiadau'n cynnwys popeth rydych chi ei angen.

Os oes unrhyw gamgymeriadau yn y datganiad tyst, gallwch chi ofyn i’r barnwr adael i’r tyst egluro’r pwynt – fel dweud beth yw’r camgymeriad, pam gafodd ei wneud a beth yw’r sefyllfa gywir.

Croesholi

Ar ôl i chi neu'ch tyst gadarnhau'ch datganiad tyst, bydd yr ochr arall neu ei chynrychiolydd yn gallu eich holi. Gelwir hyn yn ‘groesholi’.

Byddwch chi neu'ch cynrychiolydd yn cael cyfle i ofyn cwestiynau i dystion yr ochr arall hefyd. Eich nod yw cefnogi'ch achos eich hun, dangos unrhyw gamgymeriadau mae’r parti arall wedi’i wneud a dangos pwyntiau sy'n destun anghydfod.

Ailholi

Efallai y cewch chi gyfle i ofyn rhai cwestiynau ychwanegol i’ch tystion eich hun os bydd y llys yn gadael i chi wneud hynny. Efallai y bydd hyn yn cael ei ganiatáu mewn achosion lle rydych chi eisiau i’r tyst drafod pwynt a gododd yn ystod y croesholi.

Gallwch chi wylio fideos ar yr hyn i'w ddisgwyl yn y llys gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Cael penderfyniad gan y llys

Efallai y byddwch chi’n cael penderfyniad ar yr un diwrnod, neu ar ddiwrnod arall os bydd y llys yn credu ei fod angen mwy o amser i benderfynu. Bydd y llys yn gwneud ei benderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth gan y ddwy ochr.

Bydd y llys yn dweud ei benderfyniad ar wahanol agweddau ar eich achos, er enghraifft:

  • a oes gennych chi nodwedd warchodedig
  • a oedd rhywun wedi gwahaniaethu yn eich erbyn
  • a oes gan yr ochr arall amddiffyniad effeithiol – ar gyfer gwahaniaethu anuniongyrchol neu wahaniaethu sy'n deillio o anabledd os oes modd cyfiawnhau’r gwahaniaethu 

Bydd y llys yn penderfynu a yw pob rhan o’ch achos yn fwy tebygol o fod wedi digwydd neu o fod yn wir na pheidio. Er enghraifft, efallai y bydd rhaid iddyn nhw benderfynu a ydych chi’n fwy tebygol na pheidio o fod ag anabledd. Y term am hyn yw profi 'yn ôl pwysau tebygolrwydd’.

Os ydych chi’n hawlio arian, bydd y llys yn penderfynu ar y swm – gallai’r swm hwn fod yn wahanol i’r hyn i chi ofyn amdano. Byddan nhw’n dweud wrthych chi pryd a sut byddwch chi’n cael eich talu.

Mewn achosion yn seiliedig ar wahaniaethu anuniongyrchol, os bydd y diffynnydd yn profi nad oedd wedi bwriadu eich trin chi’n anffafriol, ni all y llys ystyried dyfarnu iawndal i chi hyd nes y bydd wedi ystyried yr atebion eraill sydd ar gael iddo – fel gwaharddebau. Mae’r rheolau ar hyn yn adran 119 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Os na fydd y diffynnydd yn eich talu chi, bydd rhaid i chi fynd i’r llys i ofyn iddyn nhw ‘orfodi’r dyfarniad’. Dysgwch fwy am ‘orfodi dyfarniad’ yn GOV.UK.

Os ydych chi’n hawlio gwaharddeb, bydd y llys yn penderfynu a ddylid ei gwneud, pa delerau i’w cynnwys ynddi – fel a ddylai ddweud bod rhaid i landlord wneud addasiadau rhesymol o fewn 14 diwrnod. Bydd yn penderfynu hefyd am ba hyd y dylai bara.

Costau

Os yw'ch achos ar y trac hawliadau bychain, fel arfer ni fydd rhaid i chi dalu costau cyfreithiol yr ochr arall hyd yn oed os na fyddwch chi’n ennill eich achos. Os byddwch chi’n ennill, ni fyddwch chi’n gallu hawlio unrhyw gostau cyfreithiol ond gallai’r llys orchymyn yr ochr arall i dalu'ch treuliau parod – fel ffi’r llys neu dreuliau teithio rhesymol. Darllenwch fwy yn Rheol 27.14 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Os yw'ch achos wedi’i ddyrannu naill ai i’r trac cyflym neu’r amldrac, mae'r rheolau'n wahanol. Bydd y llys yn penderfynu:

  • a oes rhaid i un parti dalu costau’r parti arall
  • swm y costau
  • pryd mae’n rhaid talu’r costau

Fel rheol, bydd y parti sy’n colli yn cael ei orchymyn i dalu costau’r parti sy’n ennill, ond gall y llys benderfynu gwneud gorchymyn gwahanol .

Wrth benderfynu pa gostau i’w gorchymyn, bydd y llys yn ystyried:

  • ymddygiad y partïon – gan gynnwys a ddilynon nhw unrhyw brotocol cyn-achos
  • a yw parti wedi llwyddo gyda rhan o’i achos, hyd yn oed os nad oedd wedi llwyddo gyda'r achos i gyd
  • unrhyw gynnig i setlo a wnaed gan barti sy’n cael ei ddwyn i sylw’r llys ac na chafodd ei wneud ‘heb ragfarn’ 

Mae ymddygiad y partïon yn cynnwys:

  • sut iddyn nhw ymddwyn cyn ac yn ystod yr achos ac a wnaethon nhw ddilyn rheolau’r llys
  • a oedd hi’n rhesymol i barti godi, mynd ar ôl neu wadu honiad neu fater penodol
  • sut mae parti wedi mynd ar ôl neu amddiffyn ei achos neu honiad neu fater penodol
  • os oedd hawlydd sydd wedi ennill ei hawliad yn gyfan neu ran o’i hawliad wedi gorliwio rhan ohono

Gall y llys orchymyn un parti i dalu rhan o gostau’r parti arall neu ddim ond y costau sy’n berthnasol i ran benodol o’r achos.

Mae’r rheolau ar gostau yn cael sylw yn Rheol 44 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Os nad ydych chi’n hapus â phenderfyniad y llys

Efallai y gallwch chi apelio – bydd angen i chi wneud hyn o fewn 21 diwrnod i benderfyniad y llys. Bydd rhaid i chi dalu ffi hefyd.

Bydd yr apêl ond yn cael ei hystyried os gwnaeth y barnwr gamgymeriad cyfreithiol. Fel arfer, ni allwch chi gyflwyno tystiolaeth newydd.

Mae angen i chi ofyn i’r llys am ganiatâd i apelio. Byddan nhw’n gwrthod os na fyddan nhw’n credu eich bod chi’n debygol o lwyddo. Mae’r rheolau ar apelau yn Rheol 52 y Rheolau Trefniadaeth Sifil.

Os ydych chi eisiau apelio, gallwch chi gael cyngor cyfreithiol gan arbenigwr – mae’n gymhleth iawn a dylech chi ofyn i gynghorydd cyfreithiol a oes gennych chi achos da.

Previous
A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.