Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Beth i’w wneud os oes rhywun yn eich bygwth

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Dywedwch wrth yr heddlu ar unwaith os oes rhywun yn ceisio:

  • eich atal rhag rhoi tystiolaeth

  • gwneud i chi roi tystiolaeth sydd ddim yn wir

 

Mae’n cael ei ystyried yn fygythiad os ydyn nhw’n eich bygwth chi neu’n ymddwyn yn dreisgar tuag atoch chi, neu’n ceisio eich llwgrwobrwyo - er enghraifft, drwy gynnig arian i chi.

Gall yr heddlu arestio rhywun sy’n eich bygwth chi - mae hyn oherwydd eu bod yn ‘gwyrdroi cwrs cyfiawnder’. Gall yr heddlu hefyd:

  • roi larwm personol i chi

  • gadael i chi roi tystiolaeth yn ddienw

 

Os ydych chi mewn perygl, gall yr heddlu roi ‘diogelwch tyst’ i chi – mae hyn yn golygu symud i ran arall o’r wlad a chael hunaniaeth newydd.

Gallwch gael diogelwch ychwanegol os oes rhywun yn eich bygwth chi - dyma ragor o wybodaeth am ddiogelwch ychwanegol mewn llys.

Gallwch gael cefnogaeth gan y Gwasanaeth Tystion i’ch helpu i deimlo’n ddiogel yn y llys. Llenwch y ffurflen gysylltu neu ffoniwch ni ar 0300 332 1000 a gadewch neges. Bydd y Gwasanaeth Tystion yn cysylltu â chi o fewn 2 ddiwrnod gwaith.