Gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn gadael i chi gael budd-daliadau a chymorth gyda thai

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych yn ddinesydd Prydeinig, dylech wirio a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi hawlio 'arian cyhoeddus'. Mae arian cyhoeddus yn cynnwys y rhan fwyaf o fudd-daliadau, gwneud cais am dai cymdeithasol neu wneud cais digartrefedd.

Dylech hefyd wirio beth allwch chi ei wneud os gallwch chi hawlio arian cyhoeddus ond mae gennych chi bartner neu blentyn sydd ddim yn gallu gwneud hynny.

Os ydych chi’n cael trafferth oherwydd nad ydych chi’n cael hawlio arian cyhoeddus, efallai y bydd cymorth arall ar gael i chi. Efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais i gael mynediad at arian cyhoeddus.

Os ydych chi wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar

Ar gyfer rhai budd-daliadau, rhaid i chi fod wedi bod yn byw yn y DU am gyfnod penodol cyn y gallwch hawlio - er enghraifft, Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).

I hawlio llawer o fudd-daliadau eraill neu i gael cymorth gyda thai, mae angen i chi ddangos mai'r DU yw eich prif gartref a'ch bod yn bwriadu aros yma. Gelwir hyn yn ‘preswylio fel arfer’ yn y DU. Mae'n fwy anodd dangos eich bod yn preswylio fel arfer os ydych wedi cyrraedd y DU yn ddiweddar - oni bai eich bod yn byw yn Iwerddon, Jersey, Guernsey neu Ynys Manaw.

Rhaid i chi fodloni'r gofynion hyn hyd yn oed os cewch hawlio arian cyhoeddus. Os oes gennych statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol, ni fydd yn rhaid i chi fodloni’r gofynion hyn.

Gwiriwch y rheolau ar gyfer y budd-dal rydych chi am ei hawlio

Gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi hawlio arian cyhoeddus

Cewch bob amser hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o'r canlynol:

  • Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig

  • Statws preswylydd sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

  • Caniatâd amhenodol i aros - oni bai eich bod yn dod i'r DU ar fisa perthynas oedolyn dibynnol

  • Statws ffoadur neu ddiogelwch dyngarol

  • Hawl preswylio

Os nad oes gennych hawl i fod yn y DU, ni allwch hawlio arian cyhoeddus.

Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog o’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Gallwch hawlio arian cyhoeddus - mae hyn yn golygu y gallwch gael:

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Gofalwr

Fel arfer, dim ond os oes gennych 'hawl i breswylio' y cewch hawlio arian cyhoeddus arall. Gallwch gael hawl i breswylio am wahanol resymau - er enghraifft, oherwydd pethau fel eich gwaith neu eich teulu. Gallwch:

Fel arfer, gallwch newid i statws preswylydd sefydlog ar ôl i chi fod yn y DU am 5 mlynedd. Gallwch hawlio arian cyhoeddus pan fydd gennych statws preswylydd sefydlog. Gwiriwch y rheolau ynghylch newid i statws sefydlog.

Os daethoch i'r DU ar fisa perthynas oedolyn dibynnol

Efallai y bydd gennych fisa perthynas oedolyn dibynnol os oes angen i aelod o'ch teulu ofalu amdanoch chi, a chi yw ei:

  • Riant

  • Mam-gu/Tad-cu/Nain/Taid

  • Plentyn sy'n oedolyn

  • Brawd neu chwaer

Mae rheolau arbennig oherwydd roedd yn rhaid i aelod o'ch teulu lofnodi 'ymrwymiad cynhaliaeth'. Mae hon yn ffurflen sy’n dweud y byddan nhw’n eich cefnogi chi’n ariannol.

Os oes gennych chi ganiatâd amhenodol i aros fel oedolyn sy'n aelod o'r teulu, ni allwch hawlio'r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Pensiwn

  • Budd-dal Tai

  • Credydau treth

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Cymhorthdal Incwm

Ni allwch wneud cais am dŷ cyngor chwaith, na gwneud cais digartrefedd i'ch cyngor lleol.

Daw'r rheolau i ben 5 mlynedd ar ôl i chi gyrraedd - neu'n gynharach os bydd yr aelod o'r teulu a lofnododd yr ymrwymiad cynhaliaeth yn marw.

Gallwch hawlio unrhyw fudd-daliadau eraill, er enghraifft Taliad Annibyniaeth Personol neu Lwfans Gweini.

Os nad oes gennych ganiatâd amhenodol i aros yn y DU, ni allwch hawlio arian cyhoeddus. Gelwir hyn yn ‘amod heb hawl i gyllid cyhoeddus’. Dim ond os oedd yr aelod o’r teulu a lofnododd yr ymrwymiad cynhaliaeth yn ffoadur heb ganiatâd amhenodol i aros y byddwch chi yn y sefyllfa hon.

Os ydych chi’n aros am benderfyniad gan y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Fel arfer, dim ond os oes gennych ‘hawl i breswylio‘ y cewch hawlio arian cyhoeddus. Gallwch gael hawl i breswylio am wahanol resymau - er enghraifft, oherwydd pethau fel eich gwaith neu eich teulu. Gallwch:

Os oes gennych chi unrhyw statws mewnfudo arall

Gwiriwch eich dogfennau mewnfudo, gan gynnwys:

  • eich trwydded preswylio biometrig

  • eich llythyr penderfyniad gan y Swyddfa Gartref

  • eich statws mewnfudo ar-lein, os oes gennych un

Fel arfer, chewch chi ddim hawlio arian cyhoeddus os yw'n dweud 'dim arian cyhoeddus' neu ‘heb hawl i gyllid cyhoeddus’ ar eich dogfennau. Gelwir hyn yn ‘amod heb hawl i gyllid cyhoeddus’. 

Os nad yw eich dogfennau mewnfudo yn dweud bod gennych ‘amod heb hawl i gyllid cyhoeddus’, gallwch hawlio arian cyhoeddus.

Os daethoch i’r DU fel ymwelydd, mae gennych ‘amod heb hawl i gyllid cyhoeddus’. Mae hyn yn cynnwys os gwnaethoch sganio eich pasbort mewn ‘e-gât’ a ni chawsoch unrhyw ddogfennau mewnfudo.

Os yw eich fisa wedi dod i ben

Mae'r rheolau'n dibynnu ar p'un a wnaethoch gais i newid neu ymestyn eich fisa cyn iddi ddod i ben.

Os gwnaethoch gais cyn i'ch fisa ddod i ben a'ch bod yn aros am benderfyniad, mae gennych yr un hawliau o hyd ag o dan eich hen fisa. Gwiriwch eich dogfennau i weld a gewch chi hawlio arian cyhoeddus.

Os na wnaethoch gais i newid neu ymestyn eich fisa ar amser, ni allwch hawlio arian cyhoeddus. Os oeddech eisoes yn cael budd-daliadau, mae angen i chi ddweud wrth ddarparwr eich budd-daliadau bod eich fisa wedi dod i ben - byddant yn atal eich budd-daliadau. Os na fyddwch yn dweud wrthyn nhw, bydd yn rhaid i chi dalu'r budd-daliadau'n ôl yn nes ymlaen. Gwiriwch i weld beth allwch chi ei wneud os mae eich fisa wedi dod i ben.

Gwiriwch pa fudd-daliadau sy’n cael eu cynnwys mewn arian cyhoeddus

Os na chaniateir i chi hawlio arian cyhoeddus, mae hyn yn cynnwys hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol gan y llywodraeth:

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Pensiwn

  • Budd-dal Plant

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

  • Lwfans Byw i'r Anabl (DLA)

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Gofalwr

  • Taliadau Tanwydd Gaeaf a Thaliadau Tywydd Oer

  • Taliadau Angladd

  • Grantiau Mamolaeth Cychwyn Cadarn

Hefyd, ni chewch hawlio’r budd-daliadau canlynol y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli:

  • Credydau treth – oni bai ei fod yn hawliad ar y cyd â phartner sy’n cael hawlio arian cyhoeddus

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar Incwm (ESA)

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm (JSA)

  • Cymhorthdal Incwm

Hefyd, ni chewch chi hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau canlynol gan eich cyngor lleol:

  • Budd-dal Tai

  • Gostyngiad yn y Dreth Gyngor - neu Gymorth y Dreth Gyngor neu Fudd-dal y Dreth Gyngor

  • Taliadau Lles yn ôl Disgresiwn

  • Cymorth lles neu daliadau o’r Gronfa Cymorth i Aelwydydd

Gwiriwch pa gymorth gyda thai sy'n cyfrif fel arian cyhoeddus

Os na chewch hawlio arian cyhoeddus, mae hyn yn cynnwys gwneud cais am dŷ cyngor neu wneud cais digartrefedd i'ch cyngor lleol.

Nid yw'n cyfrif fel hawlio arian cyhoeddus os ydych chi'n gwneud cais am dŷ gweithiwr allweddol - er enghraifft, os ydych chi'n nyrs.

Yn ogystal, nid yw'n cyfrif fel hawlio arian cyhoeddus os ydych chi'n cael eich cartrefu gan eich cyngor lleol am un o’r rhesymau canlynol:

  • mae iechyd neu ddatblygiad eich plentyn mewn perygl - byddwch yn cael eich cartrefu dan y 'Ddeddf Plant'

  • rydych chi'n anabl ac mae angen help arnoch - byddwch yn cael eich cartrefu dan y 'Ddeddf Gofal'

Os byddwch yn gwneud cais am arian cyhoeddus pan na chaniateir i chi wneud hynny

Fel arfer, bydd eich cais am arian cyhoeddus yn cael ei wrthod.

Efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn gwrthod unrhyw geisiadau mewnfudo a wnewch yn y dyfodol. Efallai y byddant yn gwrthod cais i:

  • ymestyn eich fisa

  • newid i fisa gwahanol

  • cael hawl barhaol i fyw yn y DU - gelwir hyn yn 'ganiatâd amhenodol i aros'

Mewn achosion prin, efallai y bydd y Swyddfa Gartref yn mynd â chi i'r llys neu'n dod â'ch fisa i ben yn gynnar.

Os ydych chi’n poeni eich bod wedi hawlio arian cyhoeddus pan nad oeddech chi’n cael gwneud hynny, siaradwch â chynghorydd.

Os na all eich partner neu'ch plentyn hawlio arian cyhoeddus

Ceir rheolau ychwanegol os gallwch chi hawlio arian cyhoeddus ond ni all eich partner neu'ch plentyn wneud hynny.

Hawlio budd-daliadau

Nid yw eich partner na'ch plentyn yn effeithio ar rai budd-daliadau. Gallwch hawlio'r budd-daliadau canlynol eich hun:

  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Gofalwr

Os na chaiff eich plentyn hawlio arian cyhoeddus, ni allwch hawlio Lwfans Byw i'r Anabl (DLA) ar ei gyfer.

Mae’r rheolau’n fwy cymhleth ar gyfer budd-daliadau eraill – er enghraifft Credyd Cynhwysol. Os ydych chi'n cael mwy o arian o fudd-daliadau oherwydd eich partner neu'ch plentyn, gallai hyn ei gwneud yn anodd iddynt ymestyn eu fisa neu gael caniatâd amhenodol i aros. Siaradwch â chynghorydd cyn i chi hawlio budd-daliadau eraill, neu os ydych chi'n poeni oherwydd eich bod eisoes wedi'u hawlio.

Gwneud cais am dŷ cyngor neu wneud cais digartrefedd

Caniateir i chi wneud cais, ond bydd yn ei gwneud yn fwy anodd i'ch partner neu'ch plant ymestyn eu fisa neu gael caniatâd amhenodol i aros. Siaradwch â chynghorydd cyn i chi wneud cais, neu os ydych chi'n poeni oherwydd eich bod eisoes wedi gwneud cais.

Gwiriwch pa gymorth gallwch chi ei gael os nad ydych chi'n cael hawlio arian cyhoeddus

Cewch hawlio budd-daliadau nad ydynt yn cyfrif fel arian cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys:

  • Lwfans Ceisio Gwaith newydd (JSA)

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth newydd (ESA)

  • Pensiwn y Wladwriaeth

  • Budd-dal profedigaeth

  • Gostyngiadau'r Dreth Cyngor yn ôl disgresiwn

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau cyhoeddus eraill - er enghraifft, gallwch anfon eich plant i ysgolion y wladwriaeth.

Os oes gennych ganiatâd i fod yn y DU, gallwch ddefnyddio'r GIG heb dalu - oni bai bod gennych fisa ymwelydd neu eich bod wedi dod i'r DU fel ymwelydd drwy ddefnyddio e-gât. Gallwch wirio’r rheolau llawn ynghylch defnyddio'r GIG os ydych chi o dramor ar wefan y GIG.

Os oes gennych ganiatâd i fod yn y DU, gallwch ddefnyddio'r GIG heb dalu - oni bai bod gennych fisa ymwelydd neu eich bod wedi dod i'r DU fel ymwelydd drwy ddefnyddio e-gât. Gallwch wirio’r rheolau llawn ynghylch defnyddio'r GIG os ydych chi o dramor.

Os oes gennych blant

Os yw eich plant yn yr ysgol, gwiriwch a allwch chi hawlio prydau ysgol am ddim.

Os oes gennych blentyn dan 4 oed neu os ydych o leiaf 10 wythnos yn feichiog, efallai y gallwch wneud cais i'r cynllun Cychwyn Iach. Mae hyn yn rhoi cerdyn wedi'i ragdalu i chi gydag arian i brynu bwyd iach fel llaeth a ffrwythau. Dim ond os yw’r ddau beth canlynol yn berthnasol y gallwch wneud cais:

  • os oes gennych blentyn sy'n ddinesydd Prydeinig - dim o reidrwydd y plentyn rydych yn hawlio ar ei gyfer

  • mae eich teulu'n ennill cyfanswm o lai na £408 bob mis ar ôl treth

Mwy o wybodaeth am y cynllun Cychwyn Iach a sut i ymgeisio

Os yw iechyd neu ddatblygiad eich plentyn mewn perygl

Cewch wneud cais am gymorth gan eich cyngor lleol. Gwiriwch i weld pa gymorth y gallwch ei gael os yw eich plentyn mewn perygl.

Os oes angen arian arnoch ar frys

Efallai y gallwch gael help gan gronfa galedi o'r enw 'Cronfa Cymorth Dewisol'.

Gallwch ddefnyddio’r gronfa i dalu am dreuliau brys neu i ddelio ag argyfwng, gan gynnwys:

  • costau byw - er enghraifft, bwyd, dillad neu nwy a thrydan

  • eitemau'r cartref - er enghraifft, popty neu oergell

  • newidiadau i'ch cartref fel y gallwch chi neu berthynas barhau i fyw yno

Gwiriwch wefan Llywodraeth Cymru i weld sut mae gwneud cais i’r Gronfa Cymorth Dewisol

Os ydych chi'n anabl ac angen help

Cewch wneud cais i'ch cyngor lleol am help a gofal. Bydd angen i chi ddangos nad yw'n rhesymol i chi ddychwelyd i wlad arall i gael help a gofal. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK

Os ydych chi wedi gwneud cais am loches

Efallai y gallwch gael tai ac arian tra byddwch yn aros am benderfyniad ynghylch eich cais. Edrychwch i weld pa gymorth lloches y gallwch ei gael a sut i wneud cais ar GOV.UK

Cael gwared ar amod heb hawl i gyllid cyhoeddus

Efallai y gallwch wneud cais i gael gwared ar yr amod os ydych chi ar fisa partner, rhiant neu Wladolyn Prydeinig (Tramor). Gallwch wneud cais:

  • os na fydd gennych ddigon o arian i fwydo eich hun na'ch teulu - na fforddio rhywle i fyw; neu

  • os gallai lles eich plentyn gael ei niweidio oherwydd eich incwm isel.

Os ydych chi’n barod i wneud cais, gallwch gael y ffurflen i ddileu’r amod heb hawl i gyllid cyhoeddus ar GOV.UK Gallwch ddod o hyd i gyngor ar sut i wneud cais ymhellach i lawr ar dudalen GOV.UK, gan ddechrau lle mae’n dweud 'Evidence required'.

Os oes angen help arnoch i wneud cais neu os nad ydych yn siŵr a ddylech wneud cais, gofynnwch am help gan gynghorydd arbenigol.

Os oes gennych fisa partner a'ch bod wedi profi cam-drin domestig

Gallwch chi a'ch plant wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros os yw eich perthynas â'ch partner wedi dod i ben oherwydd cam-drin domestig. Gwiriwch beth yw cam-drin domestig

Fel arfer, gallwch hefyd wneud cais i gael budd-daliadau tra'ch bod yn gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros. Gelwir hyn yn gwneud cais o dan yr ‘Amddifadrwydd Trais Domestig’ (DDV).

Gwiriwch y rheolau ynghylch gwneud cais am ganiatâd amhenodol i aros os ydych chi wedi profi cam-drin domestig

Ymestyn fisa partner neu fisa rhiant os ydych chi'n cael trafferth gydag arian

Os nad oes gennych chi ddigon o arian i fyw arno, gallai hyn effeithio ar y canlynol hefyd:

  • sut rydych yn gwneud cais i ymestyn eich fisa

  • pryd gewch chi wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros

Os oes gennych fisa partner neu fisa rhiant, byddwch naill ai ar y ‘llwybr 5 mlynedd’ neu’r ‘llwybr 10 mlynedd’ i setlo yn y DU. Mae hyn yn effeithio ar ba bryd y cewch wneud cais am ganiatâd amhenodol i aros.

Os nad ydych chi'n siŵr pa lwybr rydych chi arno, gwiriwch y llythyr a ddaeth gyda'ch fisa neu'ch trwydded. Os nad yw'n nodi'r llwybr, mae'n debyg eich bod ar y llwybr 5 mlynedd.

Os ydych ar y llwybr 5 mlynedd, bydd angen i chi gael rhywfaint o incwm neu gynilion pan fyddwch yn gwneud cais i ymestyn eich fisa neu am ganiatâd amhenodol i aros. Gelwir hyn yn ‘ofyniad ariannol’. Mae angen i chi fodloni’r gofyniad ariannol hyd yn oed os bydd yr amod heb hawl i gyllid cyhoeddus yn cael ei ddileu.

Os nad ydych yn bodloni'r gofyniad ariannol, bydd angen i chi wneud cais i symud i'r llwybr 10 mlynedd yn lle hynny. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i chi aros yn hwy cyn y gallwch gael caniatâd amhenodol i aros. Siaradwch â chynghorydd os ydych chi eisiau symud i’r llwybr 10 mlynedd.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 05 Awst 2022