After you get refugee status

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi wedi hawlio lloches ac yn cael statws ffoadur, bydd y Swyddfa Gartref yn creu cyfrif Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI). Bydd hyn yn rhoi tystiolaeth ar-lein i chi o'ch statws mewnfudo – sydd hefyd yn cael ei alw’n ‘eFisa’.

Bydd y Swyddfa Gartref yn anfon rhif cwsmer UKVI a chyfarwyddiadau atoch chi ynglŷn â sut i'w ddefnyddio i gael mynediad i'ch cyfrif.

Mae statws mewnfudo ar-lein yn disodli’r BRPau. Dim ond tan 31 Rhagfyr 2024 y bydd eich BRP yn ddilys. Ar ôl y dyddiad hwn, bydd angen i chi ddefnyddio eich cyfrif UKVI i brofi eich statws mewnfudo. Gallwch chi gael help i sefydlu statws ar-lein.

Gallwch chi ddefnyddio BRP dilys neu statws ar-lein i gadarnhau eich: 

  • hunaniaeth

  • hawl i astudio

  • hawl i unrhyw wasanaethau cyhoeddus neu fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt

Bydd cymorth lloches a chymorth 'adran 4' yn dod i ben 56 diwrnod ar ôl i chi gael caniatâd i aros. Byddwch yn cael llythyr i gadarnhau pryd y daw’r cymorth lloches i ben.

Os oes unrhyw un o'ch manylion personol yn anghywir ar eich eFisa, gallwch riportio gwall eFisa ar GOV.UK.

Bydd hyn yn golygu y byddwch yn:

  • stopio cael eich lwfans arian parod

  • gorfod symud tŷ - os ydych chi wedi cael rhywle i fyw fel ceisiwr lloches

Unwaith y byddwch chi wedi cael statws ffoadur, byddwch yn cael caniatâd i weithio yn y DU - mewn unrhyw broffesiwn ac ar unrhyw lefel sgiliau. Os nad ydych yn barod neu'n gallu chwilio am waith ac nad oes gennych lawer o incwm neu ddim incwm o gwbl, gallwch chi wneud cais am fudd-daliadau yn lle hynny.

Bydd yn rhaid i chi hefyd feddwl am agor cyfrif banc a chael rhif Yswiriant Gwladol.

Pan gewch chi statws mudwr, bydd y Swyddfa Gartref yn dweud wrth Migrant Help. Sefydliad yw Migrant Help sy’n gallu eich helpu i ddod o hyd i dŷ, hawlio budd-daliadau a gwneud apwyntiad yn y Ganolfan Waith. Byddant yn cysylltu â chi o fewn 1 diwrnod gwaith ar ôl cael gwybod am eich statws mudwr.

If you need extra support

Contact your local Citizens Advice  for help with benefits and housing, and to get details of local charities, English language schools and community groups.

Dod o hyd i gartref newydd

Os ydych chi wedi bod yn byw yn rhywle fel rhan o gael cymorth lloches, bydd yn rhaid i chi symud o fewn 56 diwrnod i'r dyddiad ar eich llythyr penderfyniad.

Dylai eich darparwr llety anfon llythyr atoch chi yn rhoi o leiaf 7 diwrnod o rybudd o ran pryd y mae'n rhaid i chi symud allan.

Os na chewch chi o leiaf 7 diwrnod o rybudd, gall Migrant Help ofyn i’r Swyddfa Gartref adael i chi aros yn eich llety am hirach.

Gallwch chi gysylltu â Migrant Help naill ai drwy:

Os ydych chi’n byw gyda ffrindiau neu deulu’n barod

Nid oes angen i chi symud. Os yw eich ffrindiau neu'ch teulu yn hawlio budd-daliadau i'w helpu i dalu rhent, gallai olygu eu bod yn cael llai.

Os oes angen help arnoch chi i gael tŷ

Cysylltwch â’ch cyngor lleol neu swyddfa dai cyn gynted â phosib. Nid yw’r Swyddfa Gartref yn darparu llety i ffoaduriaid, ond bydd eich cyngor lleol yn gallu trafod eich opsiynau gyda chi.

Mae aros yn yr un ardal yn dibynnu ar bethau fel:

  • ers faint rydych chi wedi byw yno

  • os oes gennych chi deulu yn yr ardal

  • os ydych chi mewn perygl o ddod yn ddigartref

Mae'n werth gwybod bod rhestrau aros hir am lety - efallai y cewch chi eich rhoi mewn gwely a brecwast neu hostel dros dro.

Getting help if you’re homeless

If you’re worried about becoming homeless, you can call the homeless charity Shelter on 0808 800 4444.

Shelter also has advice for refugees on getting help if you’re homeless.

Os oes angen help arnoch chi i dalu blaendal tenantiaeth, gallwch chi chwilio am gynlluniau helpu i rentu drwy’r elusen dai Crisis.

Gweithio

Os ydych chi’n barod i chwilio am waith, gallwch chi chwilio ar-lein.

Cysylltwch ag UK NARIC os oes gennych chi gymwysterau o'ch gwlad gartref - bydd angen i chi ddod o hyd i'w lefel gyfatebol yn y DU i ddod o hyd i swydd debyg yma. Mae'n costio o leiaf £55.20 i wneud hyn.

Pan gewch chi gynnig swydd, bydd angen i chi brofi eich hawl i weithio yn y DU. Darllenwch sut i brofi eich hawl i weithio.

Hawlio budd-daliadau

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau yn y DU er y byddwch yn stopio derbyn Cymorth Lloches.

Efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau fel:

  • Credyd Cynhwysol - os ydych chi'n ddi-waith, yn rhy sâl i weithio neu ar gyflog isel

  • Credyd Pensiwn - os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth

  • Budd-dal Tai - os oes angen help arnoch chi i dalu rhent a’ch bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth neu os ydych chi mewn tŷ dros dro neu dy â chymorth

  • benthyciad integreiddio i ffoaduriaid - i helpu i dalu am flaendal rhent, eitemau cartref, addysg a hyfforddiant ar gyfer gwaith

Gallwch chi edrych i weld os ydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK.

Bydd angen rhif Yswiriant Gwladol arnoch chi i hawlio budd-daliadau - byddwch wedi gwneud cais am un yn eich cyfweliad gyda'r Swyddfa Gartref y tro cyntaf i chi geisio am loches. Bydd ei angen arnoch chi hefyd i dalu treth a chofrestru gyda meddyg.

Gallwch chi weld pa fudd-daliadau gallwch chi eu derbyn drwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.

Cael rhif Yswiriant Gwladol

Fel arfer, byddwch yn derbyn eich rhif Yswiriant Gwladol drwy'r post yn syth ar ôl i chi gael statws ffoadur.

Os nad ydych chi wedi derbyn rhif Yswiriant Gwladol, ffoniwch y llinell gwneud cais am rif Yswiriant Gwladol. Gofynnwch a ydyn nhw wedi rhoi rhif Yswiriant Gwladol i chi - os nad ydyn nhw wedi gwneud hynny, gofynnwch beth sydd angen i chi ei wneud i gael un.

Agor cyfrif banc

Nawr bod gennych chi statws mewnfudo, mae gennych hawl i agor cyfrif banc yn y DU. Mae'n gwneud pethau fel talu am fwyd a biliau yn llawer haws.

Dylai fod yn broses hawdd os oes gennych chi brawf o'ch statws mewnfudo. Gallwch chi ddangos eich llythyr penderfyniad iddynt neu roi cod rhannu iddynt os oes gennych chi statws mewnfudo ar-lein. Gall y banc hefyd wirio gyda’r Swyddfa Gartref i gadarnhau bod gennych chi ganiatâd i aros yn y DU.

Gallwch chi weld eich statws mewnfudo a chael cod rhannu ar GOV.UK.

Teithio y tu allan i’r DU

Os nad oes gennych basbort, gallwch chi wneud cais am ddogfen deithio. Mae hyn yn gadael i chi adael a dychwelyd i'r DU.

Gallwch chi wneud cais am ddogfen deithio ar GOV.UK.

Cael mwy o help

You can find a guide for new refugees on the Sanctuary Wales website.

It includes guidance on things like:

  • employment and benefits

  • housing and services

  • education

  • healthcare

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 27 Medi 2019