Delio â llythyr yn dweud y bydd beilïaid yn ymweld â chi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych chi wedi talu dyled, efallai y byddwch chi'n cael llythyr gan feilïaid (neu 'asiantau gorfodi') yn dweud y byddan nhw'n ymweld â'ch cartref i gasglu taliad.

Peidiwch ag anwybyddu'r llythyr – mae'n cael ei alw'n 'hysbysiad gorfodi'. Os byddwch chi'n anwybyddu'r llythyr, bydd y beilïaid yn gallu ymweld â'ch cartref ar ôl 7 diwrnod. Yn ogystal â chasglu taliad am y ddyled, maen nhw'n gallu codi ffioedd arnoch chi, felly efallai y bydd arnoch chi fwy o arian yn y pen draw.

Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i'w hatal nhw rhag dod os byddwch chi'n gweithredu'n gyflym.

Cyn i chi siarad â beilïaid, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylen nhw eu dilyn:

  • os ydych chi'n anabl neu'n ddifrifol wael

  • os oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi'n feichiog

  • os ydych chi'n iau nag 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi'n siarad neu'n darllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi o dan straen, oherwydd profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra efallai

Efallai y gallwch chi gael mwy o amser i ddelio â'r hysbysiad gorfodi.

Os yw beilïaid yn dweud eu bod nhw'n eich troi allan

Os byddwch chi'n cael llythyr yn dweud y bydd beilïaid yn eich troi allan, dysgwch sut i ddelio â chael eich troi allan gan feilïaid ar wefan Shelter.

Edrychwch a yw'r hysbysiad gorfodi yn ddilys

Yn y lle cyntaf, dylech sicrhau bod eich hysbysiad gorfodi yn cynnwys y wybodaeth iawn. Os nad yw'n cynnwys y wybodaeth iawn, gallwch gwyno i atal y beilïaid rhag ymweld â chi hyd nes y bydd hysbysiad newydd wedi'i anfon.

Er mwyn i'ch hysbysiad fod yn ddilys, rhaid iddo:

  • ddangos eich enw a'ch cyfeiriad cywir

  • dangos pa ddyled sydd gennych chi a nodi'r swm cywir

  • esbonio bod gennych chi 7 diwrnod tan mae'r beilïaid yn gallu ymweld â chi

  • dod o feili cofrestredig yn hytrach na chasglwr dyledion – gallwch edrych ar y Gofrestr Beilïaid ar wefan Justice

  • bod wedi'i anfon atoch chi trwy lythyr – naill ai drwy'r post, ffacs, e-bost, trwy gael ei osod ar eich drws ffrynt os nad oes gennych chi focs llythyrau neu drwy gael ei roi i chi

  • bod wedi'i ysgrifennu mewn arddull gyfreithiol benodol – mae enghraifft o hysbysiad gorfodi yn GOV.UK

Cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth agosaf os nad ydych chi'n siŵr a yw'ch hysbysiad yn ddilys - bydd cynghorwr yn gallu gwirio'r hysbysiad i chi.

Ceisiwch asesu pa ddiwrnod y bydd y beilïaid yn ymweld â chi

Ar ôl anfon yr hysbysiad gorfodi atoch chi, rhaid i'r beilïaid ddisgwyl 7 diwrnod llawn cyn y gallan nhw ymweld â chi. Nid yw hyn yn cynnwys y diwrnod rydych chi'n derbyn yr hysbysiad, diwrnod yr ymweliad, dyddiau Sul na gwyliau banc.

Er enghraifft, os byddwch chi'n cael eich hysbysiad ar ddydd Llun, ni fydd y beilïaid yn gallu ymweld â chi tan ddydd Mercher yr wythnos ganlynol.

Os yw'ch hysbysiad gorfodi wedi dod o gasglwr dyledion

Ni fydd eich hysbysiad gorfodi yn ddilys os yw wedi dod o gasglwr dyledion. Nid oes ganddyn nhw'r un pwerau â beilïaid – ni allan nhw ddod i'ch cartref i gasglu dyled. Gallwch eu hanfon nhw i ffwrdd.

Hyd yn oed os byddwch chi'n anfon y casglwr dyledion i ffwrdd, os oes arnoch chi'r ddyled, bydd rhaid i chi wneud trefniadau i ddelio â hi. Os byddwch chi'n anwybyddu'r ddyled, bydd y broblem ond yn gwaethygu. Dysgwch sut i ddelio â dyled.

Os ydych chi'n meddwl bod eich hysbysiad gorfodi wedi dod o gasglwr dyledion a'ch bod chi'n poeni am ddelio â nhw, cysylltwch â'ch cyngor ar Bopeth agosaf.

Edrychwch i weld a oes arnoch chi'r ddyled

Ni fydd arnoch chi'r ddyled:

  • os yw'n eiddo i rywun arall – er enghraifft, os yw'ch enw chi'n debyg i enw'r person sydd arno'r arian

  • os ydych chi wedi talu'r ddyled yn barod

Os nad ydych chi'n siŵr a oes arnoch chi'r ddyled, dysgwch sut i wirio a oes arnoch chi'r arian.

Os nad oes arnoch chi'r ddyled

Ni all beilïaid ddod i'ch cartref na chymryd unrhyw gamau yn eich erbyn chi os allwch chi brofi nad oes arnoch chi'r ddyled.

Casglwch gymaint o dystiolaeth a allwch chi i ddangos nad chi sy'n gyfrifol am y ddyled. Anfonwch y dystiolaeth hon at y beilïaid gyda llythyr yn esbonio nad oes arnoch chi'r arian. Gallwch ddod o hyd i'w cyfeiriad ar yr hysbysiad gorfodi.

Edrychwch pa dystiolaeth y gallwch chi ei hanfon i brofi nad oes arnoch chi ddyled.

Delio â'r ddyled os oes arnoch chi'r arian

Efallai y gallwch chi herio'ch dyled hyd yn oed os oes arnoch chi'r arian. Nid dyma'r opsiwn gorau os ydych chi eisiau atal y beilïaid rhag ymweld â chi – mae'n gallu cymryd amser hir.

Os ydych chi'n gallu fforddio talu'ch dyled, y peth gorau i'w wneud yw ffonio'r beilïaid ar unwaith i dalu. Bydd hyn yn eu hatal nhw rhag ymweld â chi a gallwch osgoi talu ffioedd ychwanegol. Gallwch ddod o hyd i'w rhif ar yr hysbysiad gorfodi.

Gofynnwch i'r beilïaid anfon derbynneb atoch chi pan fyddwch chi'n talu – mae'n bwysig cael y dderbynneb rhag ofn y byddwch chi angen profi yn ddiweddarach eich bod chi wedi talu.

Os na allwch chi fforddio talu'ch dyled i gyd neu unrhyw beth o gwbl, gallwch geisio trafod gyda'r beilïaid fel eich bod yn talu swm llai o faint neu gael y ddyled wedi'i dileu. Darllenwch fwy am drafod eich dyled gyda beilïaid.

Paratoi ar gyfer ymweliad gan feilïaid

Os nad ydych chi wedi gallu talu'ch dyled na llunio trefniant talu a bod y beilïaid yn dod i'ch cartref, does dim rhaid i chi eu gadael nhw i mewn.

Gallwch eu hatal nhw rhag dod i mewn a chymryd eich eiddo trwy:

  • ddweud wrth bawb yn eich cartref am beidio â'u gadael nhw i mewn

  • peidio â gadael unrhyw ddrysau ar agor (maen nhw'n gallu mynd i mewn trwy unrhyw ddrws agored)

  • parcio neu gloi eich car mewn garej i ffwrdd o'ch cartref

Camau nesaf

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.