Edrych i weld a ddylech hawlio Credyd Cynhwysol yn lle budd-daliadau eraill
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae Credyd Cynhwysol yn disodli budd-daliadau hŷn
‘Budd-daliadau etifeddol’ yw’r enw ar y budd-daliadau hyn:
Budd-dal Tai
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)
Cymhorthdal Incwm
Credydau Treth Plant (CTC)
Credydau Treth Gwaith (WTC)
Fel arfer, ni allwch wneud hawliad newydd i gael y budd-daliadau hyn.
Gall fod angen i chi symud i’r drefn Credyd Cynhwysol yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
pan fyddwch yn cael llythyr yn dweud wrthych am ei hawlio erbyn dyddiad penodol – ‘hysbysiad mudo’ yw’r enw ar y llythyr hwn
pan fydd un o’ch budd-daliadau etifeddol yn dod i ben gan fod eich sefyllfa wedi newid
pan fyddwch yn dewis symud i’r drefn Credyd Cynhwysol beth bynnag, er nad yw’ch budd-dal etifeddol yn dod i ben ar unwaith
Bydd angen i chi wneud cais oherwydd ni allwch symud yn awtomatig i’r drefn Credyd Cynhwysol. Ar ôl i chi ddechrau hawlio Credyd Cynhwysol, ni fydd modd i chi ddychwelyd i gael budd-daliadau etifeddol.
Edrychwch i weld a ydych wedi cael hysbysiad mudo
Llythyr swyddogol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yw ‘hysbysiad mudo’. Mae’n rhoi gwybod i chi y bydd eich budd-daliadau presennol yn dod i ben, ac mae’n nodi dyddiad cau ar gyfer hawlio Credyd Cynhwysol yn eu lle.
Bydd angen i chi symud i’r drefn Credyd Cynhwysol er mwyn parhau i gael cymorth ariannol.
Edrychwch i weld sut i hawlio Credyd Cynhwysol os ydych wedi cael hysbysiad mudo.
Os oeddech yn cael credydau treth
Daeth Credydau Treth Gwaith a Chredydau Treth Plant i ben ym mis Ebrill 2025. Os oeddech yn cael y naill neu’r llall, dylech fod wedi cael hysbysiad mudo os ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Siaradwch â chynghorydd os nad ydych wedi cael hysbysiad mudo.
Edrychwch i weld a yw newid yn golygu y bydd eich budd-dal etifeddol yn dod i ben
Os yw’ch sefyllfa’n newid o ran eich gwaith, eich cartref neu’ch teulu, gallech fod ar eich ennill o hawlio Credyd Cynhwysol.
Yn sgil rhai newidiadau, bydd y budd-dal rydych chi’n ei hawlio yn dod i ben – felly, mae’n bosibl mai hawlio Credyd Cynhwysol fydd yr unig ffordd o barhau i gael cymorth ariannol. Os bydd eich budd-dal etifeddol yn dod i ben yn y ffordd hon, ni fyddwch fel arfer yn cael hysbysiad mudo. Bydd angen i chi ddewis a ydych am hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych wedi cael plentyn neu wedi mabwysiadu plentyn
Os ydych wedi cael babi neu wedi dod yn gyfrifol am blentyn, byddwch fwy na thebyg ar eich ennill o hawlio Credyd Cynhwysol, a hynny am fod credydau treth wedi dod i ben ar 5 Ebrill 2025. Nid yw’n bosibl cyflwyno hawliad newydd i gael Credydau Treth Plant.
Siaradwch â chynghorydd i weld a fyddwch ar eich ennill o hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn cael cymhorthdal incwm a bod eich plentyn yn troi’n bump oed
Bydd eich Cymhorthdal Incwm yn dod i ben os yw pob un o’r pethau a ganlyn yn berthnasol i chi:
rydych yn rhiant sengl
mae eich plentyn ieuengaf wedi troi’n bump oed
nid ydych yn ofalwr amser llawn sy’n gofalu am rywun sy’n sâl neu’n anabl
Siaradwch â chynghorydd i weld a fyddwch ar eich ennill o hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych wedi symud i gartref newydd neu os yw’ch partner wedi symud i fyw gyda chi
Os ydych yn hawlio Budd-dal Tai a’ch bod wedi symud i ardal cyngor lleol gwahanol, bydd eich Budd-dal Tai yn dod i ben. Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK.
Os ydych wedi symud i gartref newydd yn ardal yr un cyngor lleol, gallwch barhau i gael Budd-dal Tai os oeddech yn ei hawlio yn eich enw chi.
Os oeddech yn hawlio Budd-dal Tai gyda phartner a’ch bod wedi gwahanu erbyn hyn, efallai nad oeddech yn hawlio’r budd-dal yn eich enw chi. Edrychwch i weld a yw’r llythyrau am y budd-dal wedi’u cyfeirio atoch chi – os felly, roeddech yn hawlio’r budd-dal yn eich enw chi. Gallwch hefyd ffonio’ch cyngor lleol i gadarnhau hyn – dewch o hyd i’ch cyngor lleol ar wefan GOV.UK.
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli, gallwch barhau i’w cael – ond rhaid i chi roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau eich bod wedi symud.
Siaradwch â chynghorydd i weld a fyddwch ar eich ennill o hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych chi a’ch partner yn symud i fyw gyda’ch gilydd
Gallwch barhau i gael Budd-dal Tai, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm neu Gymhorthdal Incwm pan fyddwch yn symud i fyw gyda’ch gilydd yn y sefyllfaoedd a ganlyn:
os nad yw’ch partner yn cael Credyd Cynhwysol
os nad yw’ch partner yn ennill digon o arian i’ch atal chi rhag cael eich budd-daliadau chi
I barhau i gael Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, rhaid bod gennych chi neu’ch partner blant hefyd.
Siaradwch â chynghorydd i weld a fyddwch ar eich ennill o hawlio Credyd Cynhwysol.
Os yw’ch gwaith chi neu’ch partner wedi newid
Mae’r hyn y mae angen i chi ei wneud yn dibynnu ar y budd-daliadau rydych chi’n eu hawlio a’r ffordd y mae’ch sefyllfa wedi newid o ran eich gwaith.
Os ydych chi neu’ch partner yn dechrau gweithio neu’n gweithio mwy o oriau
Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm neu Gymhorthdal Incwm, byddant yn dod i ben naill ai:
os ydych chi’n dechrau gweithio 16 neu ragor o oriau yr wythnos, neu
os yw’ch partner yn dechrau gweithio 24 neu ragor o oriau yr wythnos
Os byddwch chi’n dechrau gweithio, ni allwch ond barhau i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth mewn rhai sefyllfaoedd. Edrychwch i weld pa waith y gallwch ei wneud tra rydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os bydd eich enillion yn cynyddu, gallai swm y budd-daliadau rydych chi’n eu cael leihau. Os byddwch yn dechrau gweithio neu’n gweithio mwy o oriau, gallech gael llai o arian drwy’r budd-daliadau rydych chi’n eu hawlio. Gallech fod ar eich ennill o gael Credyd Cynhwysol – siaradwch â chynghorydd i weld a fyddwch ar eich ennill.
Os ydych chi’n rhoi’r gorau i weithio neu os yw’ch oriau’n lleihau
Ni fydd eich budd-daliadau eraill yn dod i ben oherwydd eich bod yn rhoi’r gorau i weithio neu oherwydd bod eich oriau’n lleihau. Gallech fod ar eich ennill o gael Credyd Cynhwysol – siaradwch â chynghorydd i weld a fyddwch ar eich ennill.
Os ydych chi a’ch partner yn gwahanu
Os oeddech yn hawlio Budd-dal Tai, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Ceisio Gwaith neu Gymhorthdal Incwm gyda’ch partner, edrychwch i weld a yw’r budd-daliadau yn eich enw chi.
Os yw’r llythyrau am y budd-daliadau wedi’u cyfeirio atoch chi, mae’r budd-daliadau yn eich enw chi. Os nad ydych yn sicr, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau am gadarnhad. Bydd y manylion cyswllt i’w gweld ar unrhyw lythyrau budd-daliadau sydd wedi dod i’ch llaw.
Os yw’r budd-daliadau yn eich enw chi, byddwch yn parhau i’w cael. Os nad yw’r budd-daliadau yn eich enw chi, byddant fel arfer yn dod i ben.
Os ydych yn cael Lwfans Ceisio Gwaith ac nad oes gennych blant, mae’r rheolau o ran a allwch barhau i gael y budd-dal ai peidio yn fwy cymhleth. Siaradwch â chynghorydd i weld a fydd eich Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben.
Os ydych chi neu’ch partner wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gwladol
Fel arfer, ni allwch hawlio Credyd Cynhwysol os ydych chi, a’ch partner os oes gennych bartner, eich dau wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gwladol. Fel arfer, hawlio Credyd Pensiwn yw’r peth gorau i chi ei wneud.
Edrychwch i weld a allwch gael Credyd Pensiwn yn hytrach na Chredyd Cynhwysol. Os oes arnoch angen cymorth â chostau tai, gallwch hefyd hawlio Budd-dal Tai.
Os oes gennych bartner ac mai dim ond un ohonoch sydd wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gwladol
Os ydych yn hŷn na’r oedran pensiwn gwladol ond nad yw’ch partner wedi cyrraedd yr oedran pensiwn gwladol, fel arfer ni allwch wneud hawliad newydd i gael Credyd Pensiwn na Budd-dal Tai. Ni allwch ond wneud hawliad newydd i gael Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai os yw’r ddau beth a ganlyn yn berthnasol i chi:
os bu i chi neu’ch partner gyrraedd yr oedran pensiwn gwladol cyn 15 Mai 2019
os ydych wedi bod yn hawlio Budd-dal Tai neu Gredyd Pensiwn fel rhan o’r un cwpl ers cyn 15 Mai 2019
Os bydd eich budd-daliadau’n dod i ben, bydd fel arfer angen i chi wneud cais i gael Credyd Cynhwysol.
Os ydych yn hŷn na’r oedran pensiwn gwladol a’ch bod yn cael budd-daliadau eraill penodol, ni fydd modd i chi eu cael ar ôl i chi gyrraedd yr oedran pensiwn gwladol. Y budd-daliadau hyn yw:
Lwfans Ceisio Gwaith (JSA)
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Cymhorthdal Incwm
Os yw’ch partner iau yn cael un o’r budd-daliadau hyn, gall barhau i’w cael – a gall y naill neu’r llall ohonoch barhau i gael Budd-dal Tai. Bydd pob un o’r budd-daliadau hyn yn dod i ben os bydd un ohonoch yn cael hysbysiad mudo.
Gallech hefyd barhau i gael Budd-dal Tai os ydych yn byw mewn rhai mathau o lety – er enghraifft:
live in temporary accommodation
rent from a county council, charity or housing association and get care or support
Ni fydd eich hawliad Budd-dal Tai yn dod i ben os oes gennych hawl o hyd i ddechrau hawliad newydd. Edrychwch i weld pwy all wneud hawliad newydd i gael Budd-dal Tai.
Rhoi gwybod am newidiadau
Dylech roi gwybod am newid i’ch amgylchiadau cyn gynted ag y gallwch – hyd yn oed os ydych yn gallu parhau i gael eich hen fudd-daliadau. Os byddwch yn oedi cyn rhoi gwybod am newid, gallech gael taliadau sy’n ormodol neu’n rhy fach.
Os na fyddwch yn rhoi gwybod am newid a’ch bod yn cael taliadau gormodol, bydd angen i chi ad-dalu’r arian ac fe all fod rhaid i chi dalu rhywfaint o arian ychwanegol fel cosb.
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill, gallwch edrych i weld sut i roi gwybod am newid i’ch amgylchiadau ar wefan GOV.UK.
Os ydych yn cael premiwm anabledd difrifol (SDP) ar hyn o bryd
Gallech gael swm ychwanegol yn eich Credyd Cynhwysol. ‘Elfen bontio’r Premiwm Anabledd Difrifol’ yw’r enw ar y swm hwn. Mae hyn yn berthnasol os ydych yn cael Premiwm Anabledd Difrifol gydag un o’ch budd-daliadau presennol.
Byddwch yn cael elfen bontio’r Premiwm Anabledd Difrifol os byddwch yn gwneud cais i gael Credyd Cynhwysol cyn pen mis ar ôl i’r budd-dal sy’n cynnwys y Premiwm Anabledd Difrifol ddod i ben.
Ni allwch gael elfen bontio’r Premiwm Anabledd Difrifol:
os mai Budd-dal Tai oedd yr unig fudd-dal roeddech chi’n cael y Premiwm Anabledd Difrifol gydag ef
os byddwch yn symud i fyw gyda phartner sy’n hawlio Credyd Cynhwysol
os byddwch yn peidio â bod yn gymwys i gael y Premiwm Anabledd Difrifol cyn i’ch Credyd Cynhwysol ddechrau
Os ydych hefyd yn cael premiwm anabledd gyda’ch budd-dal
Gallwch gael swm ychwanegol ar ben elfen bontio’r Premiwm Anabledd Difrifol. Gallwch gael y swm ychwanegol os ydych yn cael y Premiwm Anabledd Difrifol ac un o’r premiymau a ganlyn gyda’ch budd-dal etifeddol:
premiwm anabledd
premiwm anabledd uwch
premiwm plentyn anabl neu elfen plentyn anabl
Os gwnaethoch chi gais am Gredyd Cynhwysol cyn 14 Chwefror 2024, byddwch yn cael ôl-daliad. Yn ôl y DWP dylech gael y taliad hwn erbyn Awst 2025.
Os ydych yn cael elfen bontio’r Premiwm Anabledd Difrifol, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn lleihau’r swm dros gyfnod – felly, yn y pen draw, ni fyddwch ond yn cael yr hyn y byddech fel arfer yn ei gael drwy’r drefn Credyd Cynhwysol.
Edrychwch i weld faint y gallech ei gael drwy’r drefn Credyd Cynhwysol
Os byddwch yn gwneud cais i gael Credyd Cynhwysol:
bydd unrhyw fudd-daliadau etifeddol rydych chi’n eu cael yn dod i ben
ni fydd modd i chi ddychwelyd i gael unrhyw rai o’r budd-daliadau etifeddol yn y dyfodol – hyd yn oed os ydych yn apelio yn erbyn penderfyniad am fudd-daliadau
Hyd yn oed os nad yw’ch budd-dal etifeddol yn dod i ben ar unwaith, dylech edrych i weld a fyddwch ar eich ennill o hawlio Credyd Cynhwysol.
Gallwch ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau i weld faint o arian y gallech ei gael drwy’r drefn Credyd Cynhwysol. I gael ateb cywir, bydd angen manylion arnoch ynghylch:
eich incwm – gan gynnwys unrhyw enillion neu fudd-daliadau
eich rhent a’ch costau byw
eich cynilion a’ch buddsoddiadau – a elwir yn ‘gyfalaf’
Os oes arnoch angen cymorth i ddeall y gwahaniaeth rhwng eich hen fudd-daliadau a hawlio Credyd Cynhwysol, siaradwch â chynghorydd. Gall eich cynorthwyo i gyfrifo’r hyn y byddech yn ei gael o hawlio Credyd Cynhwysol.
Os byddwch ar eich colled o gael Credyd Cynhwysol
Gallai fod yn well aros cyn symud i’r drefn Credyd Cynhwysol os nad yw’ch budd-dal presennol yn dod i ben.
Dylech aros hyd nes i chi gael hysbysiad mudo cyn gwneud cais. Y rheswm am hyn yw y gallech gael mwy o arian drwy’ch taliadau Credyd Cynhwysol i’ch atal rhag bod ar eich colled. ‘Gwarchodaeth drosiannol’ yw’r enw ar hyn.
Dechrau hawliad i gael Credyd Cynhwysol
Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol, byddwch fel arfer yn cael un taliad y mis a bydd fel arfer rhaid i chi reoli’ch hawliad ar-lein.
Fel arfer, bydd yn cymryd pum wythnos i gael y taliad cyntaf drwy’r drefn Credyd Cynhwysol – ond gallai gymryd yn hirach.
Os nad yw’ch hen fudd-daliadau wedi dod i ben, gallwch barhau i’w cael am bythefnos ar ôl i chi wneud cais i gael Credyd Cynhwysol. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r taliadau ychwanegol ac ni fyddant yn effeithio ar swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael. Mae hyn yn berthnasol i’r budd-daliadau a ganlyn:
Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)
Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm (ESA)
Cymhorthdal Incwm
Budd-dal Tai
Ni fyddwch ond yn cael y taliadau ychwanegol am bythefnos os ydych yn parhau i fod yn gymwys i gael y budd-dal perthnasol. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r taliadau ychwanegol ac ni fyddant yn effeithio ar swm y Credyd Cynhwysol y byddwch yn ei gael.
Os na fydd gennych ddigon o arian i fyw tra rydych yn aros i gael y taliad cyntaf drwy’r drefn Credyd Cynhwysol, gallwch ofyn i gael blaendaliad. Benthyciad yw’r blaendaliad – bydd rhaid i chi ei ad-dalu.
Fel arfer, bydd rhaid i chi wneud cais i gael Credyd Cynhwysol ar-lein ar wefan GOV.UK. Dechreuwch eich cais i gael Credyd Cynhwysol.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 11 Mawrth 2021