Gwaith y gallwch ei wneud wrth gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Tra byddwch yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) efallai y gallwch wneud rhai mathau o waith. 

Gallwch:

  • wneud gwaith cyflogedig o fewn terfynau enillion penodol - a elwir yn 'waith a ganiateir'

  • gwneud gwaith domestig yn eich cartref eich hun, er enghraifft coginio neu lanhau

  • gwirfoddoli i elusen neu fudiad gwirfoddol 

  • gofalu am berthynas neu dderbyn taliadau am ofalu am rywun arall sy'n byw gyda chi, er enghraifft fel gofalwr maeth

  • ymgymryd â lleoliad gwaith a gymeradwywyd gan y llywodraeth - profiad gwaith ymarferol di-dâl gyda chyflogwr yw hwn

  • cymryd rhan yn y 'cynllun masnachu prawf' sy'n helpu pobl i fod yn hunangyflogedig

  • gweithio fel cynghorydd

  • gweithio fel aelod o Dribiwnlys Haen Gyntaf yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF – gall hyn fod hyd at 1 diwrnod llawn neu 2 hanner diwrnod yr wythnos

  • gwneud gwaith brys i amddiffyn rhywun neu atal difrod difrifol i eiddo neu dda byw

Does dim rhaid i'r gwaith a wnewch fod yn ddi-dâl, ond os ydych chi'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm a'ch bod yn ennill arian bydd yn effeithio ar faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi.

Gwaith a ganiateir

Mae hwn yn waith cyflogedig y gallwch ei wneud os nad ydych yn ennill mwy na:

  • £20 yr wythnos - a elwir yn derfyn isaf ar gyfer gwaith a ganiateir

  • £183.50 yr wythnos ac rydych yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos - gelwir hyn yn derfyn uwch ar gyfer gwaith a ganiateir

Gallwch ennill £183.50 yr wythnos heb gyfyngiad ar nifer yr oriau os yw'n gwaith:

  • yn cael eich goruchwylio gan rywun o gyngor lleol neu fudiad gwirfoddol

  • fel rhan o raglen driniaeth a wneir dan oruchwyliaeth feddygol tra byddwch yn yr ysbyty neu'n mynd i'r ysbyty'n rheolaidd fel claf allanol

Gallwch wneud unrhyw fath o waith a ganiateir ond dim ond un y cewch ei wneud ar y tro. Mae’n iawn symud o un math o waith a ganiateir i fath arall.

Mae'n bwysig rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw waith a ganiateir neu os byddwch yn newid y gwaith a ganiateir. 

Er mwyn rhoi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau, llenwch ffurflen gwaith a ganiateir ar GOV.UK. Postiwch hi i’r cyfeiriad ar frig unrhyw un o’ch llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim - efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen.

Os byddwch yn mynd dros y terfyn uchaf ar gyfer gwaith a ganiateir

Bydd eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben a bydd angen i chi ailymgeisio. 

Dylech wirio faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch cyn i chi wneud unrhyw waith a allai fynd â chi dros y terfyn a ganiateir.

Gwaith y gall eich partner ei wneud

Mae'r gwaith y gall eich partner ei wneud yn dibynnu ar y math o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi.

Os nad ydych chi'n siŵr pa fath o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi, gallwch ofyn i'r Adran Gwaith a Phensiynau drwy:

  • ysgrifennu i’r cyfeiriad ar eich llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

  • ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith

Canolfan Byd Gwaith

Ffôn: 0800 169 0310

Ffôn testun: 0800 169 0314

Llinell Gymraeg: 0800 328 1744

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). 

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm

Mae galwadau am ddim o ffonau symudol a llinellau tir.

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth math newydd neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau

Ni fydd gwaith eich partner yn effeithio ar eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os ydych yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm

Os yw eich partner yn gwneud llai na 24 awr o waith cyflogedig mewn wythnos

Bydd eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm yn cael eu lleihau er mwyn ystyried eu hincwm. Gallwch wirio faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth gewch chi pan fyddwch chi'n derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm.

Os yw eich partner yn gwneud 24 awr neu fwy o waith cyflogedig mewn wythnos

Ni fyddwch yn gallu cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail incwm. Mae'n bwysig rhoi gwybod i'r Adran Gwaith a Phensiynau os bydd oriau gwaith eich partner yn newid.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 06 Ebrill 2020