Faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd y gallwch ei gael
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Pan fyddwch yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) dull newydd am y tro cyntaf, byddwch fel arfer yn cael:
£95.55 bob wythnos os ydych chi’n 25 oed neu’n hŷn
£75.65 bob wythnos os ydych chi o dan 25 oed
Tua thri mis ar ôl i chi wneud eich hawliad, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fel arfer yn asesu eich gallu i weithio. Bydd angen i chi lenwi ffurflen i roi gwybod iddi sut mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio. Yna byddwch yn cael asesiad meddygol o’r enw ‘asesiad gallu i weithio’.
Yn dibynnu ar faint mae eich cyflwr yn effeithio arnoch chi, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich rhoi naill ai yn y 'grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith' neu'r 'grŵp cymorth'.
Mae’r grŵp rydych ynddo yn effeithio ar faint o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth a gewch. Byddwch yn cael un o’r symiau canlynol:
£95.55 yr wythnos - os ydych yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith
£145.90 yr wythnos – os ydych yn y grŵp cymorth
Does dim ots beth yw eich oedran – mae’r symiau yr un fath i bawb ym mhob grŵp.
Pryd efallai na fydd angen asesiad arnoch
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ysgrifennu atoch i ddweud a oes angen asesiad arnoch. Os nad oes angen un arnoch, byddwch yn cael eich rhoi’n syth naill ai yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith neu yn y grŵp cymorth.
Efallai na fydd angen asesiad arnoch os:
ydych yn derfynol wael
ydych wedi hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth o’r blaen a bod eich hawliad diwethaf wedi dod i ben lai na 12 wythnos yn ôl
yw eich iechyd wedi gwaethygu a bod eich hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth blaenorol wedi dod i ben am iddo gyrraedd y terfyn blwyddyn, ond eich bod bellach yn y 'grŵp cymorth'
Os ydych chi'n derfynol wael
Os nad yw eich meddyg yn disgwyl i chi fyw mwy na blwyddyn, dylai'r Adran Gwaith a Phensiynau eich rhoi yn y grŵp cymorth pan fyddwch yn hawlio am y tro cyntaf. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael £145.90 bob wythnos ar unwaith.
Os na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich rhoi yn y grŵp cymorth, gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gwiriwch sut y bydd incwm arall yn effeithio ar eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Efallai y bydd eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn cael eu lleihau os ydych yn cael mathau eraill o incwm.
Os ydych yn cael pensiwn neu daliad yswiriant iechyd
Bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth dull newydd yn cael ei leihau os ydych yn cael mwy na £85 yr wythnos o’r ffynonellau canlynol:
pensiwn galwedigaethol neu bersonol
taliad yswiriant iechyd parhaol
y Gronfa Diogelu Pensiynau neu’r Cynllun Cymorth Ariannol
Er mwyn gwirio faint fydd yn cael ei gymryd o’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth:
Cyfrifwch faint rydych yn ei gael bob wythnos – gwiriwch eich datganiadau
Tynnwch £85
Cyfrifwch hanner yr hyn sydd gennych ar ôl – bydd hyn yn cael ei dynnu oddi ar eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
Mae Charlie yn cael £975 bob mis o bensiwn.
I weld faint mae’n ei gael bob wythnos, mae angen iddo gyfrifo faint mae’n ei gael mewn blwyddyn a rhannu â 52.
£975 wedi’i luosi â 12 yw £11,700.
£11,700 wedi’i rannu â 52 yw £225.
Mae pensiwn Charlie yn £225 bob wythnos. Nawr mae angen i Charlie gyfrifo faint fydd yn cael ei dynnu oddi ar ei Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
£225 llai £85 ydy £140.
Mae hanner £140 yn £70.
Bydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Charlie yn gostwng £70 bob wythnos.
Os ydych yn cael lwfans cynghorydd
Gwiriwch faint yw eich lwfans cynghorydd net. Eich ‘lwfans net’ yw’r swm sydd gennych ar ôl talu costau fel teithio neu ofal plant er mwyn cyflawni eich gwaith fel cynghorydd. Dim ond os yw eich lwfans net yn fwy nag 16 gwaith yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tynnu arian oddi ar eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. £12.71 yr awr yw’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar hyn o bryd.
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfrifo faint i’w gymryd o’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Byddant yn:
Lluosi’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ag 16
Talgrynnu’r canlyniad i fyny i’r 50c neu’r £1 agosaf
Tynnu’r rhif wedi’i dalgrynnu o’ch lwfans net
Lleihau eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth o’r swm sydd ar ôl
Mae Lucy yn cael £210 bob wythnos ar ôl talu am drafnidiaeth gyda’i lwfans cynghorydd.
I weld faint fydd ei thaliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn lleihau, dylai luosi £12.71 ag 16 sydd yn hafal i £203.36. Dylid talgrynnu hyn i £203.50.
Yna dylai Lucy dynnu £203.50 o’i lwfans cynghorydd o £210.
Mae hyn yn gadael £6.50. Dyma’r swm bydd Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Lucy yn cael ei ostwng ag ef yn wythnosol.
Os ydych yn cael budd-daliadau eraill
Ni chewch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar yr un pryd â:
Lwfans Gofalwr
Lwfans Mamolaeth
Pensiwn Gwraig Weddw neu Lwfans Rhiant Gweddw
Taliad Cymorth i Ofalwyr
Fel arfer, mae'n werth hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth hyd yn oed os ydych chi'n cael un o'r budd-daliadau hyn. Byddwch yn cael pa swm bynnag yw’r un uchaf.
Os yw eich taliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn anghywir
Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau a dywedwch wrthynt pam eich bod yn meddwl bod y swm yn anghywir.
Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 169 0310
Ffôn testun: 0800 169 0314
Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os na fydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn newid eu penderfyniad, gallwch herio swm eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.
Os nad ydych yn siŵr a ydych yn cael y swm cywir o Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, siaradwch â chynghorydd.
Adolygwyd y dudalen ar 22 Hydref 2026