Hawlio ESA (llenwi’r ffurflen ESA1 neu UCESA1)

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Pwysig

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cyffredinol yn cael ei gyflwyno ledled y DU fesul cam.

Os ydych chi'n byw mewn rhai rhannau o'r DU, bydd yn rhaid i chi hawlio Credyd Cyffredinol yn hytrach nag ESA yn seiliedig ar incwm. Yng ngweddill y DU, gallwch wneud cais newydd am ESA yn seiliedig ar incwm.

Yn y pen draw, bydd Credyd Cynhwysol yn disodli ESA yn seiliedig ar incwm ym mhobman - byddwch chi’n dal i allu hawlio ESA yn seiliedig ar gyfraniadau.

Os ydych chi mewn ardal lle mae Credyd Cynhwysol wedi disodli ESA yn seiliedig ar incwm eisoes, yr enw ar yr ESA yn seiliedig ar gyfraniadau y gallech ei gael yw’r ‘ESA math newydd' (‘new style ESA’).

Gweld a ydych chi’n byw mewn ardal lle bydd rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol

Faint mae’n cymryd i hawlio ESA

Mae’n cymryd tipyn o amser i wneud cais am y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA). O’r dechrau i’r diwedd, mae’n gallu cymryd hyd at flwyddyn i gael penderfyniad terfynol.

Cael arian yn syth bin

Os mai dyma’r tro cyntaf i chi wneud cais am ESA, byddwch chi’n cael peth arian yn syth bin os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn meddwl eich bod chi’n gymwys i gael ESA pan fyddwch chi’n gwneud cais y tro cyntaf. Bydd rhaid i chi anfon nodyn doctor gyda’ch ffurflen hawlio i ddangos nad ydych chi’n ddigon iach i weithio. Hyd yn oed os bydd y DWP yn penderfynu na fyddwch chi’n cael ESA yn y pen draw, fydd dim rhaid i chi dalu’r arian hwnnw’n ôl.

Dylai’ch taliad gyrraedd eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu o fewn 3 wythnos.

Os ydych chi’n cael tâl salwch statudol

Os ydych chi’n cael Tâl Salwch Statudol, gallwch lenwi’r ffurflen hawlio ESA hyd at 3 mis cyn i’r tâl salwch ddod i ben. Bydd hyn yn eich helpu i gael eich arian ESA yn gynt. Bydd angen i’ch cyflogwr lenwi ffurflen SSP1.

Lawrlwytho ffurflen SSP1 .

Sut i hawlio ESA

Mae 3 cham i’r broses o hawlio ESA:

  1. Llenwi ffurflen hawlio (ESA1) – mae’n rhaid i bawb wneud hyn.

  2. Cwblhau holiadur am eich iechyd a’ch galluoedd (ESA50) – mae’r rhan fwyaf o bobl yn gorfod yn gwneud hyn.

  3. Mynd am asesiad meddygol gydag ymarferydd gofal iechyd – mae’r rhan fwyaf o bobl yn gorfod gwneud hyn.

Gallai fod bwlch o sawl wythnos, neu fisoedd hyd yn oed, rhwng pob cam o’r broses.

Pwysig

Rhybudd

Os na fyddwch chi’n dychwelyd eich ffurflen ESA50 neu’n mynd i’ch asesiad meddygol, byddwch yn cael eich ystyried yn ffit i weithio. Fyddwch chi ddim yn gallu gwneud cais arall am ESA oni bai bod gennych chi gyflwr gwahanol neu gyflwr sy’n gwaethygu.

Hawlio ESA dull newydd

ESA dull newydd yw'r unig fath o ESA y gallwch chi ei hawlio os ydych chi naill ai'n

  • byw mewn ardal gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol

  • cael Credyd Cynhwysol yn barod

Gweld a ydych chi'n byw mewn ardal gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol.

I hawlio ESA dull newydd,  mae angen i chi ffonio'r DWP a gofyn iddynt anfon ffurflen hawlio atoch - dyma'r ffurflen UCESA 1.

Os ydych chi'n byw mewn ardal gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644

Ffôn testun: 0800 328 1344

Dydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm

Os ydych chi'n byw yn rhywle arall ac yn cael Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 9344

Dydd Llun i ddydd Gwener o 9am tan 4pm

Ffôn testun: 0800 328 1344

Dydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm

Pan fyddwch chi'n ffonio'r DWP, byddant yn trefnu cyfarfod yn y 10 diwrnod gwaith nesaf. Llenwch y ffurflen UCESA1 a mynd â hi i'r cyfarfod. Ewch ag unrhyw ddogfennau meddygol ac unrhyw beth arall maen nhw wedi gofyn amdano hefyd.

Os ydych chi'n disgwyl am ddogfennau pwysig eraill gan, er enghraifft, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gallwch eu hanfon fel i chi eu derbyn.

Mae gennych chi hyd at fis ar ôl i'r DWP gael eich ffurflen i anfon unrhyw ddogfennau eraill maent yn gofyn amdanynt. Os byddwch yn methu'r dyddiad cau, bydd eich cais yn cael ei ganlso a bydd rhaid i chi ddechrau eto.

Os ydych chi wedi methu'ch dyddiad cau neu ar fin gwneud hynny, cysylltwch â'ch Cyngor ar Bopeth lleol. Mae'n bosib y gallant eich helpu os yw'r ffurflen yn hwyr am reswm y mae'r DWP yn ei ystyried yn rheswm da. Dim ond os ydych chi wedi bod sâl, neu doedd eich meddyg ddim ar gael, er enghraifft, fydd yn cyfrif.

Cael cadarnhad bod eich dogfennau wedi cyrraedd

Rhowch eich rhif ffôn symudol yn y gornel dde ar frig eich nodyn ffitrwydd cyn ei anfon i’r DWP. Fel hyn byddant yn gallu anfon neges destun atoch i gadarnhau bod y nodyn wedi’u cyrraedd.

Hawlio ESA seiliedig ar gyfraniadau neu seiliedig ar incwm 

Gallwch ddechrau’ch cais am ESA:

  • dros y ffôn – bydd cynghorydd yn llenwi’r ffurflen hawlio ESA1 ar eich rhan yn ystod yr alwad

  • drwy lenwi ffurflen ESA1 a’i rhoi i’ch Canolfan Waith leol neu ei phostio i’r DWP

Dydych chi ddim yn gallu anfon eich cais ar-lein.

Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cais dros y ffôn – gallwch gael eich taliad cyntaf o’r ESA yn gynt drwy wneud cais fel hyn. Mae’r alwad ffôn yn para rhwng 20 a 30 munud fel arfer.

Gwybodaeth y byddwch ei hangen

Sut bynnag byddwch chi’n gwneud cais, bydd angen i chi allu rhoi gwybodaeth sy’n cynnwys:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • manylion eich salwch neu anabledd

  • manylion cyswllt eich meddyg

  • eich gwaith neu fanylion unrhyw fudd-daliadau a gewch

  • manylion y rhent neu’r morgais ar gyfer ble rydych chi’n byw

  • unrhyw gynilion neu fuddsoddiadau sydd gennych chi, neu unrhyw arian arall sy’n dod i mewn (fel budd-daliadau neu gynhaliaeth plant)

  • manylion y cyfrif banc rydych chi am i’r ESA gael ei dalu i mewn iddo

Cofiwch

Gallech fod â hawl i gael ESA yn seiliedig ar gyfraniadau neu ESA yn seiliedig ar incwm, neu’r ddau. Os gallech chi fod yn gymwys i gael y ddau, gofalwch eich bod chi’n llenwi dwy ran o’r ffurflen hawlio ESA a’ch bod yn rhoi’ch manylion chi a manylion eich partner (os oes partner gennych), fel y gallwch gael eich ystyried ar gyfer dwy ran yr ESA.

Rydw i eisiau gwneud cais dros y ffôn

Rhif ffôn ESA ar gyfer hawliadau newydd

Llinell gymorth ESA

Ffôn: 0800 055 6688

Ffôn testun: 0800 023 4888

Llinell ffôn Gymraeg: 0800 012 1888

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm

Ar ôl eich galwad ffôn

Bydd y DWP yn anfon datganiad atoch yn cadarnhau’r holl fanylion i chi eu rhoi iddynt. Byddant hefyd yn anfon amlen wedi’i rhagdalu fel y gallwch chi anfon unrhyw ddogfennau eraill sydd eu hangen arnynt, e.e. tystysgrifau meddygol, datganiadau cyfrifon cynilion.

Rhaid i chi anfon unrhyw beth maen nhw wedi gofyn amdano o fewn mis i’r alwad. Fel arall, bydd eich hawliad yn dod i ben a bydd angen i chi ddechrau’r broses ymgeisio eto. Gwnewch gopïau i’w cadw ac anfonwch y dogfennau gwreiddiol drwy ‘recorded delivery’ os oes modd.

Os ydych chi wedi neu ar fin colli’r dyddiad cau ar gyfer anfon dogfennau, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Mae’n bosib y gallan nhw eich helpu os yw’r ffurflen yn hwyr a bod yna reswm da, e.e. os ydych chi wedi bod yn sâl neu os nad yw’ch meddyg wedi bod ar gael.

Cael cadarnhad bod eich dogfennau wedi cyrraedd

Rhowch eich rhif ffôn symudol yn y gornel dde ar frig eich nodyn ffitrwydd cyn ei anfon i’r DWP. Fel hyn byddant yn gallu anfon neges destun atoch i gadarnhau bod y nodyn wedi’u cyrraedd.

Rydw i eisiau gwneud cais ysgrifenedig

Cael y ffurflen hawlio

Gallwch lawrlwytho copi o'r ffurflen ESA1.

Neu gallwch ffonio a gofyn i gopi o’r ffurflen gael ei phostio atoch. Os byddwch chi’n ffonio i ofyn am ffurflen, rhaid i chi ei dychwelyd o fewn mis i’ch galwad ffôn wreiddiol.

Llinell gymorth ESA

Ffôn: 0800 055 6688

Ffôn testun: 0800 023 4888

Llinell ffôn Gymraeg: 0800 012 1888

Ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener o 8am tan 6pm

Anfon y ffurflen hawlio

Mae’r ffurflen yn dweud wrthych pa ddogfennau eraill sydd angen i chi eu hanfon. Mae rhestr wirio yn Rhan 24 fel y gallwch chi wneud yn siŵr eich bod chi wedi cynnwys popeth sydd ei angen.

Anfonwch y ffurflen a chynifer o’r dogfennau ag sydd gennych ar unwaith. Os ydych chi’n aros i gael dogfennau pwysig eraill gan, er enghraifft, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gallwch eu hanfon fel rydych chi’n eu cael nhw.

Mae gennych chi hyd at fis ar ôl i’r DWP gael eich ffurflen i anfon unrhyw ddogfennau eraill sydd eu hangen arnyn nhw. Os byddwch chi’n colli’r dyddiad cau hwn, bydd eich cais yn cael ei ganslo a bydd rhaid i chi ddechrau eto.

Os ydych chi wedi neu ar fin colli’r dyddiad cau ar gyfer anfon dogfennau, cysylltwch â'ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Mae’n bosib y gallan nhw eich helpu os yw’r ffurflen yn hwyr am reswm da, e.e. os ydych chi wedi bod yn sâl neu os nad yw’ch meddyg wedi bod ar gael.

Cael cadarnhad bod eich dogfennau wedi cyrraedd

Rhowch eich rhif ffôn symudol yn y gornel dde ar frig eich nodyn ffitrwydd cyn ei anfon i’r DWP. Fel hyn byddant yn gallu anfon neges destun atoch i gadarnhau bod y nodyn wedi’u cyrraedd.

Beth sy’n digwydd nesaf

Ar ôl i chi gyflwyno’ch ffurflen hawlio, bydd y DWP naill ai’n:

  • penderfynu nad ydych chi’n gymwys i gael ESA

  • anfon holiadur (ESA50) atoch i’w lenwi sy’n gofyn cwestiynau manylach am eich iechyd a’ch gallu

  • penderfynu o’ch ffurflen ESA1 nad ydych chi’n ffit i weithio (bod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’) a’ch bod yn gallu cael ESA (anaml iawn y bydd hyn yn digwydd – mae’n rhaid i’r rhan fwyaf o bobl lenwi’r ffurflen ESA50)

Paratoi ar gyfer y camau nesaf

Llenwi’r ffurflen ESA50 am eich iechyd a’ch gallu

Beth i’w wneud os nad ydych chi’n cael ESA

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 07 Ebrill 2020