Herio penderfyniad am ESA - ailystyriaeth orfodol

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Gallwch chi herio’r rhan fwyaf o benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan DWP am eich ESA yn cynnwys:

  • nad ydych chi’n cael ESA

  • cael eich rhoi yn y grŵp gweithgarwch cysylltiedig â gwaith ac nid y grŵp cymorth

  • cael cosb

Mae 2 gam i herio penderfyniad.

  1. Rhaid i chi ofyn i’r DWP edrych ar y penderfyniad eto. ‘Ailystyriaeth orfodol’ yw’r enw ar hyn.

  2. Os byddwch chi’n dal i anghytuno ar ôl yr ailystyriaeth orfodol, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol. Allwch chi ddim apelio i dribiwnlys nes i chi gael canlyniad ailystyriaeth orfodol ar bapur gan y DWP.

Os nad ydych chi am herio'r penderfyniad, mae'n werth holi a allech chi gael budd-daliadau eraill. Os ydych chi dros 18 oed, gallwch ddefnyddio teclyn cyfrifo budd-daliadau Turn2us i weld pa fudd-daliadau allwch chi eu cael.

Sut mae gofyn am ailystyriaeth orfodol

Gallwch ddefnyddio ffurflen CRMR1 ar GOV.UK i wneud cais am ailystyriaeth orfodol, neu gallwch ffonio neu ysgrifennu llythyr. Defnyddiwch y manylion cyswllt ar eich llythyr penderfyniad.

Mae’n well gofyn ar bapur oherwydd gallwch gadw copi eich hun o’ch llythyr. Wedi dweud hynny, os yw’r dyddiad cau’n nesáu, mae’n well ffonio’n gyntaf ac yna cadarnhau’ch galwad ffôn ar bapur.

Gwnewch nodyn o'r dyddiad ac amser ac enw'r person i chi siarad ag ef, ac anfonwch lythyr yn cadarnhau hyn cyn gynted â phosib.

Mae gennych fis o ddyddiad y penderfyniad i ofyn am ailystyriaeth orfodol. Bydd y dyddiad ar frig y llythyr a oedd yn rhoi gwybod i chi am y penderfyniad.

Os byddwch yn methu'r dyddiad cau

Mae'n dal werth i chi ofyn am ailystyriaeth orfodol, cyn belled â'ch bod yn gwneud hynny o fewn 13 mis o'r penderfyniad.

Bydd angen i chi gael rheswm da iawn dros fethu'r dyddiad cau, er enghraifft, roeddech chi'n sâl neu yn yr ysbyty, yn ymdopi â phrofedigaeth neu wedi cael argyfwng gartref.

Ysgrifennwch i DWP i egluro pam na wnaethoch chi ymateb o fewn y dyddiad cau gwreiddiol. Byddant yn penderfynu a ydynt yn fodlon derbyn eich cais hwyr am ailystyriaeth ai peidio.

Yr estyniad hiraf y gallech chi ei gael yw 12 mis o ddiwedd eich dyddiad cau cyntaf. Mae DWP yn annhebygol iawn o dderbyn ceisiadau hwyrach na hynny. Hira’n byd yw’r oedi, anodda’n byd yw ei gyfiawnhau i DWP. Os ydych chi angen cyflwyno cais hwyr, byddai’n syniad da cael cyngor gan eich Cyngor ar Bopeth lleol.

Os yw'r DWP yn gwrthod derbyn eich cais hwyr, gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad mewn tribiwnlys, cyn belled ag i chi wneud y cais o fewn 13 mis i'r penderfyniad gwreiddiol.

Hwyrach y byddwch chi’n teimlo eich bod chi eisoes wedi dweud popeth wrth DWP am eich anabledd neu salwch yn barod, ac y byddwch yn synnu neu’n grac am y penderfyniad. 

Peidiwch â gadael i hyn eich stopio – os ydych chi o’r farn nad oes modd yn y byd i chi weithio oherwydd eich salwch neu’ch anabledd, dylech ofyn am ailystyriaeth. Os na fyddwch chi’n pasio’r asesiad i ddechrau, dydy hynny ddim yn golygu na fydd eich achos yn llwyddo y tro nesaf

Beth i ddweud yn eich ffurflen neu'ch llythyr

Yn eich ffurflen neu'ch llythyr, eglurwch pam eich bod chi’n anghytuno â’r penderfyniad.

Dylai’ch llythyr penderfyniad gan DWP gynnwys datganiad ysgrifenedig yn egluro’r rhesymau am benderfyniad DWP.

Ewch drwy’r datganiad o resymau a cheisiwch:

  • roi mwy o wybodaeth i DWP am y pwyntiau penodol rydych chi’n anghytuno â nhw

  • cael mwy o dystiolaeth feddygol sy’n berthnasol i’r pwyntiau hynny

Enghraifft

Efallai bydd eich llythyr penderfyniad yn dweud nad ydych chi wedi sgorio unrhyw bwyntiau am anhawster symud, ond bydd eich datganiad ysgrifenedig o resymau yn rhoi rhagor o fanylion. Er enghraifft, gallai ddweud eu bod yn derbyn na allwch chi gerdded mwy na 200 metr, ond nad ydyn nhw’n derbyn na allwch chi gerdded mwy na 50 metr. Dylech gael mwy o dystiolaeth feddygol ynghylch hyn i ddangos na allwch chi gerdded mwy na 50 metr.

Dylech ofyn hefyd am gopi o adroddiad eich asesiad meddygol yn eich llythyr, os nad ydych chi wedi gofyn amdano’n barod.

Gallech gael cymorth gan gynghorydd yn eich Cyngor ar Bopeth lleol, ond bydd angen i chi wneud hyn yn syth bin oherwydd bod gan rai swyddfeydd Cyngor ar Bopeth amseroedd aros hir am apwyntiadau.

Cofiwch

Postiwch eich llythyr gan ddefnyddio ‘recorded delivery’ neu gofynnwch am brawf postio yn Swyddfa’r Post a chadwch y dderbynneb. Gall hyn eich helpu os yw DWP yn dweud nad ydych chi wedi cysylltu cyn y dyddiad cau neu os bydd y llythyr yn mynd ar goll.

Os na chawsoch chi ddatganiad o resymau

Os yw’ch llythyr yn dweud eich bod chi’n gallu gofyn am ddatganiad o resymau, dylech ofyn amdano – ffoniwch y rhif ar y llythyr penderfyniad i wneud hyn. Bydd mis gennych chi i wneud y cais ond dylech wneud hyn cyn gynted â phosibl.

Os ydych chi’n gofyn i DWP am ddatganiad ysgrifenedig o resymau, dylech gael mwy o amser i ofyn am ailystyriaeth orfodol. Dylai’r llythyr a gewch gyda’r datganiad o resymau roi’ch dyddiad cau newydd i chi.

Oherwydd bod angen i chi ofyn am eich datganiad ysgrifenedig o resymau dros y ffôn, cofiwch nodi gyda phwy wnaethoch chi siarad a phryd.

Cael mwy o dystiolaeth feddygol

Mae’n bwysig cael mwy o dystiolaeth feddygol i gefnogi’ch achos. Bydd hyn yn helpu DWP i ddeall mwy am sut mae’ch cyflwr yn effeithio arnoch chi.

Efallai y bydd eich meddyg teulu neu ymgynghorydd wedi ysgrifennu llythyr syml amdanoch chi’n barod, ond efallai nad yw’n rhoi digon o wybodaeth am eich cyflwr. Gallwch ofyn iddynt anfon tystiolaeth fanylach amdanoch chi, yn cynnwys gwybodaeth am sut mae’ch cyflwr yn effeithio ar eich gallu i weithio.

Mae’n bosibl y bydd eich meddyg yn codi tâl arnoch chi i ddarparu tystiolaeth ychwanegol.

Cofiwch

Os na allwch chi gael y dystiolaeth hon o fewn mis cyn y dyddiad cau, na phoener – gallwch ei hanfon maes o law. Ond rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod chi’n anfon eich cais am ailystyriaeth orfodol ar amser.

Gan amlaf, rhywun yn DWP (penderfynwr) fydd yn ailystyried y penderfyniad. Mae’n bosibl y bydd y person yn eich ffonio i weld a oes gennych chi rywbeth i’w ychwanegu, neu os gallwch chi roi mwy o dystiolaeth.

Ar ôl i’r swyddog eich ffonio, bydd gennych chi fis i anfon unrhyw dystiolaeth ychwanegol. Os na fyddwch chi’n gwneud hynny, bydd yn bwrw ymlaen ac yn gwneud penderfyniad ar sail y wybodaeth a’r dystiolaeth sydd ganddo eisoes.

Mae DWP yn dweud eu bod yn cymryd cyhyd ag sydd ei angen i gwblhau ailystyriaeth orfodol. Gallai hyn fod cyn lleied â 14 diwrnod mewn achosion syml, ond gall gymryd llawer hirach hefyd.

Cael canlyniad eich ailystyriaeth

Bydd DWP yn ysgrifennu atoch ac yn dweud wrthych a ydyn nhw wedi newid eu penderfyniad, neu a ydyn nhw’n cadw at y penderfyniad gwreiddiol. Enw’r llythyr sy’n cael ei anfon atoch yw Hysbysiad Ailystyriaeth Orfodol.

Os ydyn nhw wedi newid y penderfyniad gwreiddiol, byddwch yn cael taliad ESA wedi’i ôl-ddyddio, yn mynd yn ôl i ddyddiad y penderfyniad gwreiddiol.

Os ydych chi’n anfodlon â’u penderfyniad o hyd, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol. Bydd eich llythyr penderfyniad yn cynnwys gwybodaeth am sut i apelio.

Gallech gael cymorth gan gynghorydd yn eich Cyngor ar Bopeth lleol, ond bydd angen i chi wneud hyn yn syth bin oherwydd bod gan rai swyddfeydd Cyngor ar Bopeth amseroedd aros hir am apwyntiadau.

Camau nesaf

Eich arian a'ch budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 06 Ebrill 2020