Os yw eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) yn dod i ben oherwydd y terfyn blwyddyn

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os ydych chi yn y grŵp gweithgaredd cysylltiedig â gwaith, bydd unrhyw Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) math newydd rydych yn ei gael yn dod i ben ar ôl blwyddyn. Ni fydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben os ydych chi yn y grŵp cymorth - edrychwch ar eich llythyr dyfarnu os nad ydych chi’n siŵr. 

Gwiriwch beth allwch chi ei wneud os bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi ysgrifennu atoch i ddweud wrthych pryd y bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben a pham. Bydd y llythyr hefyd yn dweud wrthych sut gallwch chi apelio yn erbyn y penderfyniad.

Os nad ydych chi wedi cael asesiad meddygol eto

Os nad yw'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi eich asesu ar ôl 365 diwrnod, byddant yn stopio eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Os ydych o’r farn y dylech chi fod yn y grŵp cymorth, dylech herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Dydy’r terfyn amser o 365 diwrnod ar gyfer talu ddim yn berthnasol os dylech chi fod yn y grŵp cymorth. Os nad ydych chi'n siŵr, gwiriwch ym mha grŵp y dylech chi fod ynddo.

Gallwch wirio sut i herio’r penderfyniad i roi'r gorau i dalu’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau na ddylai eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth fod wedi dod i ben oherwydd nad ydych wedi cael eich asesu. Dylech ddechrau eich her o fewn 1 mis ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau ysgrifennu atoch i ddweud y bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben.

Os yw eich cyflwr wedi gwaethygu neu os oes gennych gyflwr newydd

Gallwch barhau i gael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth os yw eich cyflwr yn golygu y byddech yn cael eich rhoi yn y grŵp cymorth yn awr. Os nad ydych chi'n siŵr, gwiriwch ym mha grŵp y dylech chi fod ynddo.

Os bydd eich cyflwr yn newid cyn i'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ddod i ben

Gallwch wirio sut mae herio’r penderfyniad i stopio’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Dylech ddechrau eich her o fewn 1 mis ar ôl i’r Adran Gwaith a Phensiynau ysgrifennu atoch i ddweud y bydd eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn dod i ben.

Anfonwch unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod eich cyflwr wedi newid ers i’r Adran Gwaith a Phensiynau eich asesu ddiwethaf  - er enghraifft, llythyrau gan eich meddyg. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn fwy tebygol o newid y penderfyniad os ydych wedi anfon tystiolaeth atynt. 

Ar ôl i chi herio'r penderfyniad, efallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich gwahodd i asesiad gallu i weithio. Mae hyn er mwyn gweld a ddylech chi fod yn y grŵp cymorth. Gallwch wirio sut mae paratoi ar gyfer yr asesiad gallu i weithio.

Os bydd eich cyflwr yn newid ar ôl i’ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ddod i ben

Os byddwch yn cael eich rhoi yn y grŵp cymorth yn awr, gallwch ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ailgychwyn eich hawliad Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Dywedwch wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) am eich cyflwr drwy naill ai:

  • ysgrifennu i’r cyfeiriad ar eich llythyrau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

  • ffonio’r Ganolfan Byd Gwaith

Canolfan Byd Gwaith

Ffôn: 0800 169 0310

Ffôn testun: 0800 169 0314

Llinell Gymraeg: 0800 328 1744

Relay UK - os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio'r hyn rydych am ei ddweud: 18001 yna 0800 169 0310

Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Nid oes tâl ychwanegol i'w ddefnyddio. Dysgwch sut i ddefnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.

Fideo Relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL). 

Gallwch ddysgu sut i ddefnyddio fideo Relay ar YouTube.

Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am tan 5pm

Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.

Efallai y bydd y DWP yn gofyn i chi lenwi ffurflen hawlio newydd.

Os byddant yn gwrthod dechrau eich ESA eto, gwiriwch sut i herio penderfyniad y DWP. Dylech ddechrau eich her o fewn mis i’r penderfyniad.

Os nad oes gennych incwm neu os oes gennych incwm isel

Efallai y gallwch hawlio Credyd Cynhwysol - gwiriwch a allwch hawlio Credyd Cynhwysol.

Os yw eich Lwfans Cyflogaeth a Chymorth eisoes wedi dod i ben

Os nad oes gennych incwm neu os oes gennych incwm isel, efallai y gallwch wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Gallwch wirio a allwch chi hawlio Credyd Cynhwysol.

Os oes 12 wythnos neu fwy wedi mynd heibio ers i'ch Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ddod i ben, efallai y gallwch wneud cais newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Gallwch wirio a allwch wneud cais newydd am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth.

Yn ogystal, gallwch wirio pa gymorth arall y gallwch ei gael os ydych yn cael trafferth talu eich costau byw.

Adolygwyd y dudalen ar 27 Hydref 2026