Gwiriwch a allwch gael Budd-dal Tai
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Efallai y gallwch gael Budd-dal Tai i helpu i dalu eich rhent os ydych ar incwm isel neu os ydych yn hawlio budd-daliadau. Mae Budd-dal Tai yn cael ei dalu gan eich cyngor lleol.
O 1 Gorffennaf 2026 dim ond os yw un o’r canlynol yn berthnasol y gallwch wneud cais newydd am Fudd-dal Tai:
rydych chi wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth – gwiriwch eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar GOV.UK
rydych yn byw mewn llety dros dro neu lety â chymorth – waeth beth fo’ch oedran
Os oes gennych fwy na £16,000 mewn cynilion, ni chewch chi Fudd-dal Tai. Yr unig eithriad yw os ydych yn cael elfen warant Credyd Pensiwn.
Mae pethau eraill a allai effeithio ar eich hawl i gael Budd-dal Tai.
Os ydych chi wedi byw y tu allan i’r DU
Bydd angen i chi roi tystiolaeth i ddangos mai’r Deyrnas Unedig, Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw yw eich prif gartref. Gelwir hyn yn ‘breswylydd arferol’. Mae’n rhaid i chi wneud hyn hyd yn oed os ydych yn ddinesydd Prydeinig.
Os nad ydych yn ddinesydd y DU
Dim ond os yw eich statws mewnfudo yn caniatáu i chi hawlio arian cyhoeddus y gallwch gael Budd-dal Tai. Mewn rhai sefyllfaoedd mae angen ‘hawl i breswylio’ arnoch chi hefyd.
Gallwch hawlio arian cyhoeddus os oes gennych unrhyw un o’r canlynol:
Dinasyddiaeth Brydeinig neu Wyddelig
statws preswylydd sefydlog o Gynllun Setliad yr UE
caniatâd amhenodol i aros – oni bai eich bod wedi dod i’r DU ar fisa ar gyfer oedolyn sy’n berthynas ddibynnol
statws ffoadur neu warchodaeth ddyngarol
hawl i breswylio
Os oes gennych statws preswylydd cyn-sefydlog gan Gynllun Setliad yr UE, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Budd-dal Tai. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio.
Os ydych wedi gwneud cais i Gynllun Setliad yr UE a’ch bod yn aros am benderfyniad, gallwch hawlio arian cyhoeddus - ond mae angen i chi hefyd ddangos bod gennych hawl i breswylio i gael Budd-dal Tai. Gwiriwch a oes gennych hawl i breswylio.
Os oes gennych unrhyw statws mewnfudo arall, gwiriwch a yw eich statws mewnfudo yn caniatáu ichi hawlio arian cyhoeddus.
Os na allwch wneud hawliad newydd am Fudd-dal Tai
Efallai y gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol yn lle hynny. Gwiriwch a allwch hawlio Credyd Cynhwysol.
Os ydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Gallwch wneud hawliad newydd ar gyfer Budd-dal Tai os ydych yn sengl neu’n byw gyda’ch partner sydd hefyd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Os ydych yn byw gyda’ch partner ac mai dim ond un ohonoch chi sydd wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gall y partner hŷn wneud hawliad newydd os yw’r ddau o’r canlynol yn berthnasol:
eu bod wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn 15 Mai 2019
eu bod wedi bod yn hawlio Credyd Pensiwn i chi fel cwpl ers cyn 15 Mai 2019
Mae hefyd eithriad os na all y partner iau gael Credyd Cynhwysol oherwydd eu statws mewnfudo. Yn y sefyllfa hon, gall y partner hŷn hawlio Credyd Pensiwn neu Fudd-dal Tai fel person sengl.
Os ydych yn rhentu oddi wrth rywun rydych yn ei adnabod
Ni allwch gael Budd-dal Tai os ydych chi neu’ch partner yn talu rhent i:
rhiant plentyn sy'n byw gyda chi
cyn-bartner, ar gyfer y cartref yr oeddech yn arfer byw ynddo gyda’ch gilydd
aelod agos o'r teulu sy'n byw gyda chi
Efallai y gallwch gael Budd-dal Tai os ydych yn talu rhent i:
aelod agos o'r teulu nad yw'n byw gyda chi
ffrind neu perthynas fwy pell, fel nain neu daid – hyd yn oed os ydych yn byw yn yr un cartref
rhywun a oedd yn arfer gadael i chi fyw yn yr eiddo yn ddi-rent
I gael Budd-dal Tai, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth i’r cyngor ei fod yn gytundeb rhentu ‘masnachol’ – fel un rhwng cymdeithas dai a thenant. Er enghraifft, efallai y bydd yn gofyn am gael gweld eich contract neu brawf eich bod yn talu rhent. Efallai y byddant hefyd yn gofyn am dystiolaeth arall, fel blaendal a daloch pan symudoch i mewn neu dystysgrif diogelwch nwy gan eich landlord.
Mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn penderfynu nad ydych yn gymwys os yw’n meddwl eich bod ond yn talu rhent i gael Budd-dal Tai – gelwir hyn yn ‘manteisio ar Fudd-dal Tai’. Gallai hyn fod yn enghraifft o fanteisio ar Fudd-dal Tai, er enghraifft, os ydych wedi bod yn byw gyda ffrind a dim ond newydd ddechrau talu rhent iddynt.
Os ydych yn fyfyriwr dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os ydych chi neu’ch partner wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth gallwch gael Budd-dal Tai.
Nid yw’n gwneud gwahaniaeth p’un a’i yw eich cwrs yn llawn amser neu’n rhan-amser.
Os ydych yn byw mewn llety neu neuadd breswyl sy’n eiddo i brifysgol, mae’r rheolau’n gymhleth- gallwch gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os ydych yn talu rhent fel rhan o gynllun rhanberchnogaeth
Gallwch gael Budd-dal Tai am y rhent a dalwch fel rhan o gynllun rhanberchenogaeth. Bydd angen i chi ofyn am gytundeb rhentu ysgrifenedig gyda’r sefydliad sy’n rhedeg y cynllun, os nad oes gennych un yn barod.
Os oes gennych forgais ar gyfer gweddill yr eiddo, efallai y gallwch gael benthyciad gan y llywodraeth i helpu i dalu llog y morgais. Yr enw ar fenthyciad y llywodraeth yw ‘cymorth ar gyfer llog morgais’ (SMI).
Er mwyn cael cymorth ar gyfer llog morgais (SMI), mae’n rhaid eich bod yn derbyn Credyd Pensiwn.
Gwiriwch a allwch gael cymorth ar gyfer llog morgais (SMI).
Os oeddech chi neu’ch partner yn arfer bod yn berchen ar y cartref rydych yn ei rentu
Gallwch gael Budd-dal Tai os gwnaethoch werthu eich cartref dros 5 mlynedd yn ôl.
Os gwnaethoch werthu eich cartref yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, gallwch gael Budd-dal Tai o hyd os bu’n rhaid i chi ei werthu er mwyn i chi allu parhau i fyw yno – er enghraifft os oedd y benthyciwr morgeisi eisiau adfeddiannu eich cartref.
Os ydych chi’n denant i’r Goron, mae gennych denantiaeth hwy nag 21 mlynedd neu gytundeb cydberchnogaeth
Fel arfer ni allwch gael Budd-dal Tai.
Efallai y gallwch gael cymorth i dalu’ch rhent drwy Gredyd Pensiwn.
Gwiriwch a allwch gael Credyd Pensiwn.
Os ydych yn rhentu o gartref gofal, cwmni, ymddiriedolaeth neu urdd grefyddol
Ni allwch gael Budd-dal Tai os:
ydych yn talu rhent i gartref gofal
rydych chi neu’ch partner yn rhentu eich cartref gan eich cyflogwr fel rhan o’ch swydd – er enghraifft, os ydych yn gweithio i westy ac yn byw ar y safle
rydych yn rhan o urdd grefyddol sy’n talu eich costau byw
Mae’n bosibl y gallwch gael Budd-dal Tai os ydych yn talu rhent i gwmni rydych chi, eich partner neu berthynas agos sy’n byw gyda chi yn gweithio iddo – gan gynnwys fel cyfarwyddwr.
I gael Budd-dal Tai, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth i’r cyngor ei fod yn gytundeb rhentu ‘masnachol’ – fel un rhwng cymdeithas dai a thenant. Er enghraifft, efallai y bydd yn gofyn am gael gweld eich contract neu brawf eich bod yn talu rhent. Efallai y byddant hefyd yn gofyn am dystiolaeth arall, fel blaendal a daloch pan symudoch i mewn neu dystysgrif diogelwch nwy gan eich landlord.
Mae’n bosibl y bydd eich cyngor lleol yn penderfynu nad ydych yn gymwys os yw’n meddwl eich bod ond yn talu rhent i gael Budd-dal Tai – gelwir hyn yn ‘manteisio ar Fudd-dal Tai’. Gallai hyn fod yn enghraifft o fanteisio ar Fudd-dal Tai, er enghraifft, os ydych chi wedi bod yn byw yn eich cartref ers peth amser a bod eich cwmni newydd ddechrau codi rhent arnoch chi.
Os yw eich landlord yn ymddiriedolaeth, mae’r rheolau’n gymhleth – gallwch gael cymorth gan eich Cyngor ar Bopeth lleol.
Os ydych yn byw mewn llety dros dro neu llety â chymorth
Gallwch wneud hawliad newydd ar gyfer Budd-dal Tai - beth bynnag yw eich oedran
Fel arfer, ystyrir bod eich cartref yn llety â chymorth os:
mai cyngor sir, elusen neu gymdeithas dai yw eich landlord ac eu bod yn darparu gofal neu gefnogaeth i chi.
ydych chi yn cael llety gan eich cyngor sir, elusen neu gymdeithas dai oherwydd bod angen gofal arnoch neu gefnogaeth.
Os ydych yn fyfyriwr sy’n byw mewn tai dros dro neu â chefnogaeth
Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth gallwch hawlio Budd-dal Tai. Nid yw’n gwneud gwahaniaeth p’un a’i yw eich cwrs yn llawn amser neu’n rhan-amser.
Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch fel arfer gael Budd-dal Tai os ydych chi’n astudio’n rhan amser.
Os ydych yn astudio’n llawn amser, dim ond mewn sefyllfaoedd penodol y gallwch chi gael Budd-dal Tai.
Os nad ydych chi mewn addysg uwch (fel cwrs gradd neu hyfforddiant athrawon)
Gallwch hawlio Budd-dal Tai os ydych o dan 22 oed a bod eich cwrs wedi dechrau cyn i chi droi’n 21.
Os ydych yn cael budd-daliadau
Gallwch gael Budd-dal Tai os ydych yn cael:
Credyd Cynhwysol, oni bai bod eich Credyd Cynhwysol yn cynnwys swm ar gyfer costau tai.
budd-dal anabledd fel Taliad Annibyniaeth Bersonol neu Lwfans Gweini
Os oes gennych chi blant
Gallwch gael Budd-dal Tai os:
rydych yn rhiant sengl
rydych yn ofalwr maeth sengl ac mae gennych blentyn wedi’i leoli yn eich gofal
rydych chi a'ch partner yn fyfyrwyr amser llawn ac mae gennych chi blant
Os ydych yn anabl
Gallwch gael Budd-dal Tai os:
yw’r cyngor yn penderfynu bod gennych ‘allu cyfyngedig i weithio’ a’ch bod wedi bod â’r gallu cyfyngedig hwn ers 28 wythnos – os cawsoch asesiad ar gyfer Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) neu Gredyd Cynhwysol byddant yn defnyddio’r un canlyniadau
rydych yn fyddar ac yn cael Lwfans Myfyrwyr Anabl
rydych wedi’ch cofrestru â nam difrifol ar y golwg neu’n ddall
Os cymeroch amser i ffwrdd o’ch cwrs oherwydd eich bod yn sâl neu yn gofalu am rhywun
Fel arfer gallwch gael Budd-dal Tai unwaith nad ydych bellach yn sâl neu’n gofalu am rywun, cyn belled â’ch bod yn aros i fynd yn ôl i’ch cwrs. Ni allwch gael Budd-dal Tai os ydych yn byw mewn llety sy’n eiddo i’r brifysgol neu neuaddau preswyl.
Os ydych yn byw gyda phartner nad yw’n fyfyriwr
Os yw eich partner yn hawlio Budd-dal Tai, gallant eich cynnwys yn eu cais.
Camau nesaf
Gwiriwch sut i hawlio Budd-dal Tai.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Hydref 2026