Apelio yn erbyn penderfyniad yn ymwneud â Budd-dal Tai mewn tribiwnlys
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae Budd-dal Tai wedi dod i ben ar gyfer y rhan fwyaf o bobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Mae dal modd i chi apelio yn erbyn penderfyniad yn ymwneud â Budd-dal Tai, hyd yn oed os yw eich Budd-dal Tai wedi dod i ben.
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad ynghylch eich Budd-dal Tai ac eich bod wedi gofyn i’ch cyngor lleol am apêl, bydd tribiwnlys yn edrych ar y penderfyniad.
Gwrandawiadau llys dros y ffôn neu drwy alwad fideo
Bydd y llys yn dweud wrthych pa fath o wrandawiad a gewch. Ewch i weld sut i baratoi ar gyfer gwrandawiad dros y ffôn neu drwy alwad fideo.
Bydd y tribiwnlys hefyd yn edrych ar y penderfyniad yn ymwneud â’ch Budd-dal Tai os ydych wedi gofyn i’ch cyngor lleol adolygu eu penderfyniad a’u bod:
heb newid eu penderfyniad
eu bod wedi newid y penderfyniad ond ei fod wedi gwaethygu’r sefyllfa - er enghraifft lleihau eich Budd-dal Tai
Mae tribiwnlysoedd yn annibynnol ar eich cyngor lleol, felly gallant newid penderfyniad y cyngor. Cânt eu rhedeg gan y Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (HMCTS) a fe’u goruchwylir gan farnwr.
Gwiriwch a yw eich apêl eisoes wedi cychwyn
Efallai bod eich cyngor lleol eisoes wedi anfon eich apêl at y tribiwnlys. Mae’n dibynnu ar yr hyn a ofynnoch iddynt ei wneud pan wnaethoch herio’r penderfyniad.
Os gwnaethoch ofyn i’r cyngor am ‘apêl’
Dylai’r cyngor anfon y gwaith papur yn syth at y tribiwnlys - bydd hyn yn cychwyn eich apêl i’r tribiwnlys. Bydd y tribiwnlys yn ysgrifennu atoch i roi gwybod eu bod wedi derbyn eich apêl.
Os na fyddwch yn clywed gan y tribiwnlys neu fod y cyngor yn anfon y gwaith papur yn ôl atoch, dywedwch wrthynt eich bod eisoes wedi apelio ac y dylent ei anfon at y tribiwnlys.
Os gwnaethoch ofyn i’r cyngor am ‘adolygiad’ neu ‘ailystyriaeth’
Bydd angen i chi ddechrau apêl newydd. Gwiriwch lythyr y cyngor er mwyn darganfod sut i apelio - efallai y bydd gofyn i chi lenwi ffurflen neu ysgrifennu llythyr. Bydd angen i chi egluro pam eich bod yn apelio ac anfon y dystiolaeth gywir - darganfyddwch beth i’w gynnwys yn eich apêl.
Cadwch gopi o’r ffurflen neu’r llythyr, a gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim – efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen apelio.
Llenwi ffurflen y tribiwnlys
Pan fydd y tribiwnlys yn derbyn eich apêl, byddant yn anfon ffurflen atoch yn gofyn a ydych yn dymuno bod yn bresennol pan fydd y barnwr yn edrych ar eich apêl - a elwir yn ‘wrandawiad llafar’.
Dylech fynychu’r gwrandawiad os gallwch. Bydd hyn yn rhoi mwy o gyfle i chi egluro eich achos ac ateb cwestiynau’r barnwr os bydd rhai ganddo.
Os na fyddwch yn mynychu’r gwrandawiad, bydd y tribiwnlys yn gwneud penderfyniad ar sail y dystiolaeth a anfonwyd gennych - a elwir yn ‘wrandawiad papur’.
Bydd angen i chi hysbysu’r tribiwnlys o’r hyn rydych am ei wneud o fewn 2 wythnos. Anfonwch y ffurflen at y cyfeiriad sydd ar y ffurflen a gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim – efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen apelio.
Anfon tystiolaeth at y tribiwnlys
Dylai’r cyngor flaenu unrhyw dystiolaeth rydych chi wedi’i rhoi iddynt - nid oes angen i chi ei hanfon eto.
Bydd y tribiwnlys yn anfon copi o’r holl dystiolaeth sydd ganddynt atoch - a elwir yn ‘pecyn apêl’. Os oes rhywun megis cynghorydd Cyngor ar Bopeth yn eich helpu gyda’ch apêl a’u bod wedi gadael i’r cyngor wybod mai nhw yw eich cynrychiolydd, efallai bydd y tribiwnlys yn anfon y pecyn apêl atyn nhw yn lle.
Gwiriwch fod y pecyn apêl yn cynnwys yr holl dystiolaeth a roesoch i’r cyngor.
Dylech anfon at y tribiwnlys:
unrhyw dystiolaeth sydd heb ei chynnwys yn y pecyn apêl - eglurwch na chafodd ei hanfon gan y cyngor
unrhyw dystiolaeth newydd na wnaethoch ei hanfon at y cyngor
Anfonwch y dystiolaeth o fewn mis i dderbyn y pecyn apêl. Dylech anfon y dystiolaeth hyd yn oed os ydych wedi methu’r dyddiad cau. Sicrhewch eich bod yn egluro pam eich bod wedi anfon y dystiolaeth yn hwyr - bydd y tribiwnlys yn dal i edrych arni os bydd yn cytuno na allech fod wedi ei hanfon yn gynharach.
Anfonwch y dystiolaeth at y cyfeiriad ar y pecyn apêl.
Mae’n bwysig anfon unrhyw dystiolaeth newydd cyn y gwrandawiad- os byddwch yn ei gyflwyno ar y diwrnod, gallai’r barnwr aildrefnu’r gwrandawiad er mwyn cael amser i’w darllen.
Os yw’r cyngor yn newid eu penderfyniad cyn y gwrandawiad
Byddant yn ysgrifennu atoch chi a’r tribiwnlys i ddweud eu bod wedi newid eu penderfyniad.
Os bydd y newid o fudd i’ch sefyllfa, bydd y tribiwnlys yn canslo eich gwrandawiad- a elwir yn ‘apêl sydd wedi darfod’. Bydd llythyr y cyngor yn cynnwys cyfarwyddiadau ar beth i’w wneud os nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad newydd ac eich bod eisiau apelio.
Os yw’r newid yn gwaethygu eich sefyllfa - er enghraifft os yw’n lleihau eich Budd-dal Tai - bydd y gwrandawiad yn parhau fel y trefnwyd. Dylech fynychu’r gwrandawiad o hyd ar y diwrnod a benodwyd gan y tribiwnlys.
Os yw eich apêl wedi’i chanslo
Efallai y bydd y tribiwnlys yn canslo eich apêl os na fyddwch yn gwneud rhywbeth y gofynnwyd i chi, megis anfon dogfen benodol. Efallai y byddant yn ei chanslo am reswm arall - er enghraifft, os nad ydynt o’r farn y byddwch yn llwyddiannus. Os byddant yn gwneud hyn, byddant yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu bod eich apêl wedi’i ‘ddileu’.
Gallwch ofyn iddynt ailystyried apêl sydd wedi’i dileu - a elwir yn ‘adfer apêl’.
Bydd angen i chi wneud cais o fewn mis wedi i’r tribiwnlys ysgrifennu atoch i roi gwybod am y canslo. Os oes angen mwy o amser arnoch, eglurwch yn eich llythyr pam y gwnaethoch fethu’r dyddiad cau.
Ysgrifennwch at y tribiwnlys gan nodi:
eich enw llawn a chyfeiriad
eich rhif Yswiriant Gwladol
y penderfyniad rydych yn apelio yn ei erbyn
y dyddiad y canslwyd eich apêl
pam na wnaethoch yr hyn a ofynnodd y tribiwnlys i chi ei wneud - os mai dyna’r rheswm dros ganslo eich apêl
pam na ddylai eich apêl fod wedi’i chanslo - os oedd rheswm arall dros ei ganslo
Pam yr ydych o’r farn y dylid adfer eich apêl
Anfonwch ef at y cyfeiriad sydd wedi’i nodi ar y llythyr a oedd yn rhoi gwybod fod eich apêl wedi’i chanslo. Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim – efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen apelio.
Os bydd y tribiwnlys yn cytuno, byddant yn ysgrifennu atoch i gadarnhau dyddiad ar gyfer y gwrandawiad newydd.
Os na fydd y tribiwnlys yn cytuno y dylid ailagor eich apêl, efallai y gallwch herio’r penderfyniad mewn tribiwnlys gwahanol, a elwir yn Uwch Dribiwnlys.
Dim ond os oedd y tribiwnlys cyntaf wedi camddehongli’r gyfraith neu wedi gwneud camgymeriad - a elwir yn ‘gwall cyfreithiol’ - y gellir gwneud hyn. Mae’n anodd gwybod a oes camgymeriad cyfraith wedi bod, felly cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf er mwyn darganfod a allwch herio penderfyniad y tribiwnlys.
Os yw’r Uwch Dribiwnlys yn cytuno y gellir ailagor eich apêl, bydd y gwrandawiad yn parhau fel y trefnwyd.
Mynychu’r gwrandawiad
Ni fydd y gwrandawiad mor ffurfiol â gwrandawiadau llys eraill a dim ond oddeutu 40 munud y dylai bara. Gallwch ddod â nodiadau gyda chi i’ch atgoffa o’r hyn yr ydych am ei ddweud. Dylech hefyd ddod ag unrhyw waith papur a anfonwyd atoch gan y tribiwnlys.
Nid oes angen cyfreithiwr arnoch ond gallwch ddod â rhywun gyda chi. Os ydych am iddynt siarad ar eich rhan yn y gwrandawiad, bydd angen i chi hysbysu’r tribiwnlys mai nhw yw eich ‘cynrychiolydd’. Cysylltwch â’ch Cyngor ar Bopeth agosaf os ydych am gael cynghorydd i siarad ar eich rhan yn ystod y gwrandawiad.
Darganfyddwch fwy am beth fydd yn digwydd yn y gwrandawiad a chael cymorth gyda chostau teithio ar GOV.UK.
Darganfod beth yw penderfyniad y tribiwnlys
Os byddwch yn mynychu’r gwrandawiad, fel arfer byddwch yn cael gwybod beth yw’r penderfyniad ar y diwrnod. Byddant hefyd yn rhoi copi ysgrifenedig i chi cyn i chi adael. Os bydd angen mwy o amser ar y barnwr i benderfynu, neu eich bod yn absennol o’r gwrandawiad, byddant yn ysgrifennu atoch i roi gwybod am eu penderfyniad.
Os ydych yn anghytuno â’r penderfyniad
Dim ond os yw’r tribiwnlys wedi camddehongli’r gyfraith neu eu bod wedi gwneud camgymeriad y gellir herio penderfyniad y tribiwnlys.
Bydd y tribiwnlys yn anfon gwybodaeth ar sut y gallwch herio eu penderfyniad gyda’ch llythyr penderfyniad. Nid oes tâl am herio’r penderfyniad.
Bydd angen i chi gychwyn yr apêl o fewn mis wedi i chi dderbyn eich llythyr penderfyniad.
Os yw’r tribiwnlys yn cytuno â’ch apêl, bydd rhaid i chi apelio i dribiwnlys arall - a elwir yn Uwch Dribiwnlys. Byddwch yn derbyn manylion ar sut i apelio gyda’ch llythyr penderfyniad.
Mae posibilrwydd y bydd angen cymorth arbenigol arnoch i herio penderfyniad y tribiwnlys. Ceisiwch gymorth gan eich Cyngor ar Bopeth agosaf.
Os oes bron i fis wedi pasio ers derbyn eich llythyr penderfyniad
Dechreuwch yr apêl cyn gynted â phosibl. Gallwch dderbyn cyngor tra eich bod yn aros i’r tribiwnlys ateb - a gallwch newid eich meddwl os byddwch yn penderfynu peidio ag apelio yn ddiweddarach.
Gallwch ddechrau’r apêl drwy ofyn i’r tribiwnlys am ‘ddatganiad o resymau’ - llythyr yw hwn yn egluro’r penderfyniad.
Yn eich llythyr mae angen i chi gynnwys:
y dyddiad y cynhaliwyd gwrandawiad eich apêl
dyddiad y penderfyniad - gallwch ddod o hyd i hwn yn eich llythyr penderfyniad
eich bod yn gofyn am ddatganiad o resymau
Anfonwch ef at y cyfeiriad sydd wedi’i nodi ar y llythyr a roddodd wybod i chi beth oedd penderfyniad eich tribiwnlys cyntaf. Gofynnwch i Swyddfa'r Post am brawf postio am ddim – efallai y bydd angen i chi ddangos pryd y gwnaethoch anfon eich ffurflen apelio.
Gallwch orfod aros ychydig o fisoedd cyn derbyn eich datganiad o resymau, felly dylech gael cyngor yn y cyfamser.
Os oes dros fis wedi mynd heibio ers y penderfyniad
Efallai y bydd dal modd i chi apelio os oes rheswm cryf dros pam na allech chi fod wedi gwneud hynny'n gynt. Gall fod yn anodd cael y tribiwnlys i ganiatáu i chi apelio, felly rydym yn argymell eich bod yn gofyn am gymorth. Gofynnwch i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf eich helpu i ofyn am apêl newydd.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Hydref 2026