Ad-dalu gordaliad Budd-dal Tai
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os oes rhaid i chi ad-dalu gordaliad Budd-dal Tai, bydd y cyngor fel arfer yn gofyn i chi ei ad-dalu mewn symiau rheolaidd. Er enghraifft, efallai y byddant yn lleihau eich Budd-dal Tai neu Fudd-dal arall yr ydych yn ei dderbyn hyd nes eu bod wedi derbyn yr arian ychwanegol yn ôl.
Mae Budd-dal Tai wedi dod i ben i’r rhan fwyaf o bobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Os yw eich Budd-dal Tai wedi dod i ben, efallai bydd angen i chi ad-dalu gordaliad.
Gwiriwch beth allwch ei wneud os yw’r cyngor yn dweud eich bod wedi derbyn gordaliad Budd-dal Tai.
Gall ad-dalu arian beri pryder, ond mae ffyrdd o wneud y taliadau’n haws eu rheoli - megis talu symiau llai dros gyfnod hir o amser.
Os oes gennych ddyledion eraill sydd â chanlyniadau mwy difrifol, dylech ad-dalu’r rheini yn gyntaf - er enghraifft, os oes posibilrwydd y gallwch golli eich cartref neu eich cyflenwad trydan. Gwiriwch os dylech ad-dalu dyledion eraill yn gyntaf.
Rhowch wybod i’r cyngor os oes gennych unrhyw ddyledion brys - efallai y byddant yn cytuno i:
aros hyd nes eich bod wedi delio â’r dyledion brys cyn cymryd unrhyw arian
cymryd symiau bychain o’ch Budd-dal Tai tra eich bod yn ad-dalu eich dyledion brys.
Os ydych yn herio penderfyniad y cyngor ynghylch eich gordaliad
Ni ddylai’r cyngor gymryd unrhyw arian hyd nes bod penderfyniad wedi’i wneud ynglŷn â’ch apêl.
Os yw’r cyngor yn cymryd arian cyn hynny, ffoniwch nhw. Dywedwch wrthynt fod canllawiau’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn nodi y dylent aros hyd nes bod eich apêl wedi’i phenderfynu. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cyngor ar GOV.UK
Os ydynt yn parhau i gymryd arian tra eich bod yn eu herio, gallwch gwyno am y cyngor ar GOV.UK.
Gwiriwch sut mae’r cyngor eisiau i chi ad-dalu’r arian
Fel arfer bydd y cyngor yn lleihau eich Budd-dal Tai hyd nes eu bod wedi derbyn yr arian ychwanegol yn ôl. Os nad ydych yn derbyn Budd-dal Tai mwyach, efallai y byddant yn:
cymryd yr arian o’ch cyflog neu fudd-daliadau eraill
gofyn i chi dalu’r arian iddynt yn uniongyrchol - er enghraifft o’ch cyfrif banc
Pan ysgrifennodd y cyngor atoch ynglŷn â’r gordaliad, byddent wedi egluro sut maen nhw am i chi dalu’r arian yn ôl. Os nad oes gennych lythyr, ffoniwch y cyngor a gofynnwch iddynt ysgrifennu i gadarnhau sut maent eisiau i chi ad-dalu’r gordaliad. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor ar GOV.UK.
Os yw’r cyngor eisiau i chi dalu allan o’ch Budd-dal Tai
Mae sut byddwch yn ad-dalu’r arian yn dibynnu a yw eich Budd-dal Tai yn cael ei dalu i chi neu i’ch landlord.
Telir eich Budd-dal Tai i chi yn uniongyrchol
Bydd y cyngor fel arfer yn cymryd swm sylfaenol o hyd at £12.75 yr wythnos. Gallant gymryd hyd at £21.25 os yw’r gordaliad oherwydd ‘twyll’ - golygir hyn eu bod o’r farn eich bod wedi rhoi gwybodaeth anghywir iddynt yn fwriadol.
Dim ond os anwybyddwyd rhan o’ch incwm wrth gyfrifo eich Budd-dal Tai y gall y cyngor gymryd mwy na’r swm sylfaenol - a elwir yn ‘anwybyddu enillion’. Os ydych yn ansicr, gwiriwch y llythyr sydd yn datgan faint o Fudd-dal Tai y byddwch yn ei dderbyn.
Telir eich Budd-dal Tai i’ch landlord
Fel arfer bydd y cyngor yn gofyn i’ch landlord dalu’r holl or-daliad iddynt mewn un taliad. Yna bydd y landlord yn gofyn i chi ad-dalu’r arian iddynt yn ogystal â’ch rhent.
Os ydych yn rhentu gan landlord preifat neu asiantaeth osod byddent yn cydnabod y gordaliad fel ‘ôl-ddyledion rhent’.
Mae’n bwysig eich bod yn dechrau ei ad-dalu er mwyn i chi gael aros yn eich cartref - gallwch gael cymorth i ddelio ag ôl-ddyledion rhent.
Os ydych yn rhentu gan y cyngor, byddant yn ychwanegu’r gordaliad i’ch cyfrif rhent. Nid yw’r gordaliad yn cyfrif fel ôl-ddyledion rhent, felly ni all y cyngor eich troi allan - ond bydd dal gofyn i chi ad-dalu’r ddyled. Gallwch gael cymorth i ddelio â’r dyledion neu ofyn i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf eich helpu chi.
Os yw’r cyngor eisiau i chi dalu mewn ffordd wahanol
Mae cyfyngiad ar y swm y gall y cyngor ei gymryd allan o’ch cyflogau neu fudd-daliadau - mae’n ddibynnol ar faint rydych yn ennill yn wythnosol neu’n fisol.
Talu o’ch cyflogau
Efallai bydd y cyngor yn cymryd arian o’ch cyflog os ydych yn gweithio i gwmni sydd â 10 neu fwy o weithwyr. Nid oes rhaid iddynt ofyn am ganiatâd.
Bydd eich cyflogwr yn talu’r cyngor gan gymryd yr arian o’ch cyflog.
Dylech dderbyn 2 lythyr yn eich hysbysu o’r swm y bydd eich cyflogwr yn ei gymryd - 1 gan y cyngor a’r llall gan eich cyflogwr.
Bydd y cyngor yn cyfrifo pa ganran o’ch cyflog i’w gymryd. Bydd y swm o arian y byddant yn ei gymryd yn ddibynnol ar faint rydych yn ei ennill. Os nad ydych yn meddwl y gallwch fforddio talu, gallwch ofyn i’r cyngor leihau’r swm y maen nhw’n cymryd oddi wrthych.
Os ydych yn ennill hyd at £100 yr wythnos neu hyd at £430 y mis, fel arfer ni fydd y cyngor yn cymryd dim oddi wrthych.
| Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol | Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol | Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau |
|---|---|---|
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£100.01 i £160 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£430.01 i £690 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
3% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£160.01 i £220 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£690.01 i £950 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
5% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£220.01 i £270 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£950.01 i £1,160 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
7% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£270.01 i £375 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£1,160.01 i £1,615 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
11% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£375.01 i £520 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£1,615.01 i £2,240 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
15% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£520.01 neu fwy |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£2,240.01 neu fwy |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
20% |
Gall y cyngor gymryd mwy o arian oddi wrthych os yw’r gordaliad oherwydd ‘twyll’. Yr hyn a olygir gan dwyll yw bod y cyngor o’r farn eich bod wedi rhoi gwybodaeth anghywir iddynt yn fwriadol.
Os yw’r gordaliad oherwydd twyll
Bydd y cyngor yn cymryd canran fwy o’ch cyflog. Gallant hefyd gymryd arian os ydych yn ennill £100 neu lai’r wythnos (£430 neu lai’r mis).
Fel arfer ni fydd y cyngor yn cytuno i leihau’r swm maen nhw’n ei gymryd, ond efallai y gallwch gael cymorth ychwanegol i dalu am bethau eraill.
| Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol | Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol | Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau |
|---|---|---|
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£100 neu lai |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£430 neu lai |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
5% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£100.01 i £160 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£430.01 i £690 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
6% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£160.01 i £220 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£690.01 i £950 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
10% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£220.01 i £270 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£950.01 i £1,160 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
14% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£270.01 i £375 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£1,160.01 i £1,615 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
22% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£375.01 i £520 |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£1,615.01 i £2,240 |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
30% |
|
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n wythnosol
£520.01 neu fwy |
Faint rydych yn ennill os cewch eich talu’n fisol
£2,240.01 neu fwy |
Y swm a dynnwyd o’ch cyflogau
40% |
Os byddwch yn gadael eich swydd
Mae’n rhaid i chi ddweud wrth y cyngor os ydych wedi gadael - gan nodi pwy yw eich cyflogwr newydd, os oes gennych un.
Talu o’ch Credyd Cynhwysol
Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn lleihau eich taliad Credyd Cynhwysol o hyd at 15% o’ch ‘lwfans safonol’.
Eich lwfans safonol yw’r swm sylfaenol o Gredyd Cynhwysol rydych chi’n ei gael, ac eithrio symiau ychwanegol a elwir yn ‘elfennau’ - er enghraifft, ‘elfen costau tai’.
Gwiriwch beth allwch chi ei wneud os caiff eich Credyd Cynhwysol ei leihau neu ei atal.
Talu o fudd-daliadau eraill
Ni all y cyngor gymryd arian o Fudd-dal Plant neu Lwfans Gwarcheidwad.
Gallant gymryd arian oddi wrth unrhyw fudd-dal arall er mwyn ad-dalu eich gordaliad Budd-dal Tai.
Fel arfer, bydd y cyngor yn cymryd traean o’ch taliad budd-dal wythnosol. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn ysgrifennu atoch i’ch hysbysu o’r swm y byddant yn ei gymryd o’ch budd-dal ac am ba hyd.
Talu’r cyngor yn uniongyrchol
Os nad ydych yn derbyn unrhyw fudd-daliadau ac nad yw’r cyngor yn cymryd unrhyw arian o’ch cyflog, bydd angen i chi ad-dalu’r cyngor yn uniongyrchol.
Bydd llythyr y cyngor yn egluro’r gwahanol ffyrdd y gallwch dalu’r arian, er enghraifft drwy ddefnyddio bancio ar-lein.
Os na allwch fforddio’r taliadau
Mae pwy y dylech gysylltu ag ef yn dibynnu ar sut rydych chi’n ad-dalu’r arian.
Os ydych yn ad-dalu’r arian drwy eich taliadau Budd-dal Tai
Gofynnwch i’ch cyngor lleol wneud un o’r canlynol:
canslo rhan o’r gordaliad neu’r gordaliad cyfan
caniatáu i chi dalu symiau llai dros gyfnod hirach o amser.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cyngor ar GOV.UK.
Bydd angen i chi ddangos na fyddech yn gallu fforddio hanfodion megis bwyd neu drydan os byddai rhaid i chi dalu mwy.
Fel arfer, ni fyddant yn newid eich taliadau os ydynt o’r farn bod y gordaliadau oherwydd ‘twyll’ - golyga hyn eu bod o’r farn eich bod wedi rhoi’r wybodaeth anghywir iddynt yn fwriadol.
Cyn i chi ofyn a allwch newid eich taliadau, cyfrifwch beth y gallwch fforddio ei dalu. Mae’n haws eu cael i newid eich taliadau os gallwch ddangos eich bod wedi gwirio faint y gallwch ei fforddio.
Os nad ydych yn gallu fforddio ad-dalu unrhyw beth o gwbl, gallwch ofyn i’r cyngor ganslo rhan o’r gordaliad neu’r gordaliad cyfan. Mae’n anarferol i’r cyngor gytuno i hyn. Efallai y byddant yn cytuno os yw’n anhebygol iawn y byddwch fyth yn gallu ad-dalu’r gordaliad. Er enghraifft, efallai y bydden nhw’n canslo’r gordaliad os oes gennych anabledd difrifol sy’n golygu ei bod yn anhebygol y byddwch yn ennill mwy yn y dyfodol.
Cyn i chi gysylltu â’r cyngor, gwiriwch a allwch gasglu tystiolaeth ychwanegol i ddangos pa mor anodd y byddai talu’r hyn maen nhw’n ofyn amdano. Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch doctor ysgrifennu llythyr os bydd yr ad-daliadau’n peri anhawster oherwydd eich iechyd.
Os ydych yn ad-dalu’r arian drwy Gredyd Cynhwysol neu fudd-dal arall
Bydd angen i chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) neu eich cyngor lleol - mae’n dibynnu os ydych eisiau canslo, lleihau neu oedi eich taliadau.
Os ydych chi eisiau canslo eich gordaliadau
Os nad ydych yn gallu fforddio ad-dalu unrhyw beth o gwbl, gallwch ofyn i’ch cyngor lleol ganslo cyfran neu eich holl or-daliad. Mae’n anarferol i’r cyngor gytuno i hyn. Efallai y byddant yn cytuno os yw’n anhebygol iawn y byddwch fyth yn gallu ad-dalu’r gordaliad. Er enghraifft, efallai y bydden nhw’n canslo’r gordaliad os oes gennych anabledd difrifol sy’n golygu ei bod yn anhebygol y byddwch yn ennill mwy yn y dyfodol.
Cyn i chi gysylltu â’r cyngor, gwiriwch a allwch gasglu tystiolaeth ychwanegol i ddangos pa mor anodd y byddai talu’r hyn maen nhw’n ofyn amdano. Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch doctor ysgrifennu llythyr os bydd yr ad-daliadau’n peri anhawster oherwydd eich iechyd.
Fel arfer, ni fydd y cyngor lleol yn canslo eich taliadau os yw’r gordaliad oherwydd ‘twyll’ - golyga hyn eu bod o’r farn eich bod wedi rhoi’r wybodaeth anghywir iddynt yn fwriadol.
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cyngor ar GOV.UK.
Os ydych eisiau oedi neu leihau eich gordaliadau
Ffoniwch ganolfan gyswllt Rheoli Dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Cyn i chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), gwiriwch a allwch gasglu tystiolaeth ychwanegol er mwyn profi pa mor anodd y byddai talu’r hyn maen nhw’n ofyn amdano. Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch doctor ysgrifennu llythyr os bydd y gordaliadau yn peri anhawster oherwydd eich iechyd.
Canolfan gyswllt rheoli dyledion yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP)
Rhif Ffôn: 0800 916 0647
Rhif neges destun: 0800 916 0651
Relay UK - os na allwch chi glywed neu siarad ar y ffôn, gallwch deipio eich neges: 18001 yna 0800 328 1344
Gallwch ddefnyddio Relay UK gydag ap neu ffôn testun. Ni chodir tâl ychwanegol am ei ddefnyddio. Gallwch ddysgu sut mae defnyddio Relay UK ar wefan Relay UK.
Fideo relay - os ydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL).
Gallwch gael gwybod sut mae defnyddio gwasanaeth Video Relay ar YouTube.
Galw o dramor: +44 (0)161 904 1233
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 7.30pm
Sadwrn, 9am i 4pm
Mae galwadau am ddim o’r rhan fwyaf o ffonau symudol a llinellau tir.
Os ydych yn ad-dalu’r arian yn uniongyrchol neu drwy eich cyflog
Gofynnwch i’ch cyngor lleol wneud un o’r canlynol:
canslo rhan o’r gordaliad neu’r gordaliad cyfan
caniatáu i chi dalu symiau llai dros gyfnod hirach o amser
Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt y cyngor ar GOV.UK.
Bydd angen i chi ddangos na fyddech yn gallu fforddio hanfodion megis bwyd neu drydan os byddai’n rhaid i chi dalu mwy.
Fel arfer, ni fyddant yn newid eich taliadau os yw eich gordaliad oherwydd ‘twyll’ - mae hyn yn golygu eu bod o’r farn eich bod wedi rhoi’r wybodaeth anghywir iddynt yn fwriadol.
Cyn i chi ofyn a allwch newid eich taliadau, cyfrifwch beth allwch fforddio ei dalu. Mae’n haws i’w cael i newid eich taliadau os gallwch ddangos eich bod wedi gwirio faint y gallwch ei fforddio.
Os na allwch fforddio ad-dalu unrhyw beth o gwbl, gallwch ofyn i’r cyngor canslo rhan o’r gordaliad neu’r gordaliad cyfan. Mae’n anarferol i’r cyngor gytuno i hyn. Efallai y byddent yn cytuno os yw’n anhebygol iawn y byddwch fyth yn gallu ad-dalu eich gordaliad. Er enghraifft, efallai y byddent yn canslo eich gordaliad os oes gennych anabledd difrifol sy’n golygu nad yw’n debygol y byddwch yn ennill mwy yn y dyfodol.
Cyn i chi gysylltu â’r cyngor, gwiriwch a allwch gasglu tystiolaeth ychwanegol i ddangos pa mor anodd y byddai talu’r hyn maen nhw’n ofyn amdano. Er enghraifft, gallwch ofyn i’ch doctor ysgrifennu llythyr os bydd yr ad-daliadau’n peri anhawster oherwydd eich iechyd.
Pan fyddwch yn ffonio, cofnodwch ddyddiad ac amser eich galwad yn ogystal ag enw’r person y siaradoch ag ef. Efallai y bydd angen y manylion hyn os bydd rhywbeth yn mynd o’i le ac na chaiff eich ad-daliadau eu newid.
Os bydd y cyngor neu’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cytuno, dylent ysgrifennu atoch i gadarnhau beth sydd wedi newid. Gwiriwch y llythyr er mwyn sicrhau eu bod wedi cofnodi’r newid cywir.
Os nad yw’r cyngor yn fodlon newid sut rydych yn talu
Gallwch gwyno wrth eich cyngor os ydych chi’n credu bod eu penderfyniad i beidio â newid sut rydych yn talu yn annheg. Darganfyddwch fanylion cyswllt eich cyngor ar GOV.UK.
Cymorth ychwanegol tra rydych yn ad-dalu’r arian
Efallai y bydd modd i chi dderbyn cymorth gyda phethau, megis bwyd neu eitemau sydd eu hangen arnoch ar gyfer eich cartref - er enghraifft gwely neu bopty. Gwiriwch pa gymorth y gallwch chi ei gael yn eich ardal chi.
Os ydych yn pryderu am ddyledion tra bod eich Budd-dal Tai wedi ei atal neu ei leihau, gallwch gael cymorth i ddelio â dyled neu ofyn i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf i’ch helpu i benderfynu beth i’w wneud.
Adolygwyd y dudalen ar 19 Hydref 2026