Os caiff eich Budd-dal Tai ei atal neu ei leihau
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae Budd-dal Tai wedi dod i ben ar gyfer y rhan fwyaf o bobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth
Mae’n bosibl eich bod yn dal i gael Budd-dal Tai os yw un o’r canlynol yn wir:
rydych wedi cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth
rydych yn byw mewn llety dros dro neu lety â chymorth
Os ydych yn dal i dderbyn Budd-dal Tai a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ar sail incwm
Mae’n bosibl bod eich Budd-dal Tai wedi parhau os ydych hefyd yn derbyn Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) ar sail eich incwm a bod yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) o’r farn bod angen rhywun arnoch i’ch helpu i hawlio Credyd Cynhwysol. Gelwir yr unigolyn hwn yn ‘apwyntai’.
Os ydych yn y sefyllfa yma, dylai’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) anfon hysbysiad trosglwyddo atoch chi neu eich apwyntai yn y dyfodol. Gwiriwch beth ddylech ei wneud os ydych wedi derbyn hysbysiad trosglwyddo.
Os na wnaethoch dderbyn hysbysiad trosglwyddo, neu os yw eich Budd-dal Tai wedi dod i ben yn annisgwyl, siaradwch â chynghorydd.
Os ydych yn parhau i allu derbyn Budd-dal Tai, mae posibilrwydd y bydd eich cyngor lleol yn ei atal neu yn ei leihau os:
ydych wedi dweud wrthynt fod eich amgylchiadau wedi newid
maen nhw’n meddwl eich bod wedi cael gormod o Fudd-dal Tai - a elwir yn ‘ordaliad’
maen nhw’n gwirio faint o Fudd-dal Tai y dylech chi fod yn ei dderbyn - a elwir weithiau yn ‘adolygu eich hawliad’
Dylai’r cyngor roi gwybod i chi cyn gwneud unrhyw newidiadau i’ch taliadau. Gallwch gwyno os nad ydynt yn cysylltu â chi pan ddylent wneud hynny - neu gallwch herio eu penderfyniad os ydych o’r farn ei fod yn anghywir.
Dylech herio penderfyniad y cyngor o fewn mis i’r dyddiad y cawsoch eich hysbysu ohono. Os oes mwy na mis wedi mynd heibio yna bydd angen i chi ddangos nad oeddech yn gallu herio’r penderfyniad yn gynharach.
Gwiriwch pam mae eich taliadau wedi newid
Gwiriwch lythyr y cyngor er mwyn darganfod pam eu bod wedi newid eich taliadau. Er enghraifft, gallant fod o’r farn:
eich bod yn ennill mwy o arian
eich bod wedi rhoi’r gorau i dderbyn budd-dal arall a oedd yn effeithio ar eich Budd-dal Tai
bod rhywun wedi symud i mewn atoch a allai eich helpu i dalu rhent
bod plentyn sydd yn cyd-fyw â chi wedi troi yn 18 oed ac yn ennill arian
Ffoniwch y cyngor os ydych yn ansicr ynghylch pam bod eich Budd-dal Tai wedi ei atal neu ei leihau. Dylech hefyd ofyn iddynt anfon llythyr atoch ynghylch eu penderfyniad os nad ydych eisoes wedi derbyn un. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich cyngor ar GOV.UK.
Cofnodwch ddyddiad ac amser eich galwad yn ogystal ag enw’r person y siaradoch ag ef - efallai y bydd angen i chi brofi eich bod wedi ei holi ynghylch eich taliadau.
Os y gwnaethoch ddweud wrth y cyngor bod eich amgylchiadau wedi newid
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i’r cyngor am newid, byddant yn penderfynu a oes gennych hawl o hyd i gael Budd-dal Tai a faint y dylech ei dderbyn.
Gwiriwch a yw rheswm y cyngor yn cyfateb i’r hyn a ddywedoch wrthynt. Os ydych o’r farn eu bod wedi cofnodi’r newid anghywir neu wedi gwneud y penderfyniad anghywir, darganfyddwch sut i herio’r penderfyniad.
Os yw’r cyngor o’r farn eich bod wedi derbyn gordaliad
Byddant yn lleihau neu’n atal eich Budd-dal Tai hyd nes eu bod wedi derbyn yr arian ychwanegol yn ôl.
Gallwch ofyn i’r cyngor newid eu penderfyniad os nad ydych o’r farn y dylech ad-dalu’r arian.
Hyd yn oed os oes rhaid i chi ad-dalu’r arian, efallai y bydd modd i chi wneud y taliadau yn haws i ddelio â nhw - er enghraifft drwy dalu symiau bach dros gyfnod o amser.
Gwiriwch a oes rhaid i chi ad-dalu gordaliad.
Os yw’r cyngor yn adolygu eich hawliad
Os yw’r cyngor o’r farn bod eich amgylchiadau wedi newid, efallai y byddant yn atal taliadau eich Budd-dal Tai tra eu bod yn gwirio faint y dylech ei dderbyn. Gelwir hyn yn ‘atal’ eich hawliad.
Gallai’r cyngor atal eich hawliad tra eu bod yn chwilio am dystiolaeth bod eich amgylchiadau wedi newid - er enghraifft, os ydynt yn credu eich bod wedi dechrau derbyn pensiwn drwy eich gwaith.
Ni ddylai’r cyngor atal eich hawliad os bydd hynny’n golygu na fyddwch yn gallu talu am hanfodion, megis bwyd neu wresogi. Os ydych yn credu y byddwch yn ei chael hi’n anodd talu am hanfodion, llenwch declyn cyllidebu ac argraffwch y canlyniadau. Ffoniwch y cyngor a gofynnwch iddynt beidio ag atal eich hawliad. Gallwch ddefnyddio canlyniadau’r teclyn cyllideb i egluro pam na fyddai modd i chi dalu am hanfodion.
Pan fydd y cyngor wedi adolygu eich hawliad a phenderfynu faint o Fudd-daliad Tai y dylech ei dderbyn, dylent ysgrifennu atoch i egluro’r newidiadau. Os ydych yn meddwl bod eu penderfyniad yn anghywir, darganfyddwch sut i herio penderfyniad y cyngor.
Gallwch gwyno hefyd os yw’r cyngor wedi gwneud rhywbeth arall o’i le - er enghraifft os:
ydynt yn oedi’n ormodol wrth gysylltu â chi neu wrth orffen adolygu eich hawliad - dylech gysylltu â’r cyngor os nad ydych wedi clywed ganddynt o fewn 4 wythnos
ydynt wedi atal neu leihau eich taliadau heb roi gwybod i chi
nad oeddent wedi cael tystiolaeth cyn iddynt atal neu leihau eich taliadau
Darganfyddwch sut i gwyno am eich cyngor ar GOV.UK.
Derbyn cymorth ychwanegol tra bod eich Budd-dal Tai wedi ei atal neu ei leihau
Efallai y gallwch dderbyn cymorth gyda phethau megis bwyd neu eitemau ar gyfer y cartref - er enghraifft gwely neu bopty. Gwiriwch pa gymorth y gallwch ei gael yn eich ardal chi.
Os ydych chi’n pryderu am ddyled tra bod eich Budd-dal Tai wedi’i atal neu ei leihau, darganfyddwch sut i ddechrau delio â dyledion neu gofynnwch i’ch Cyngor ar Bopeth agosaf am gymorth i benderfynu ar eich camau nesaf.
Adolygwyd y dudalen ar 16 Hydref 2026