Mae’r cyngor yn dweud eich bod wedi cael gordaliad Budd-dal Tai

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os yw eich cyngor lleol o’r farn eich bod wedi cael gormod o Fudd-dal Tai (a elwir yn ‘ordaliad’), fel arfer byddant yn lleihau neu’n atal eich taliadau hyd nes y byddant wedi cael yr arian ychwanegol yn ôl.

Efallai y gallwch ofyn i’r cyngor leihau’r swm y mae’n rhaid i chi ei ad-dalu, er enghraifft os ydyn nhw wedi gwneud camgymeriad. Gallech hefyd ofyn am gael ad-dalu’r arian mewn symiau llai, er enghraifft os na fyddai digon o arian gennych i fyw arno pe baech yn talu mwy.

Mae Budd-dal Tai wedi dod i ben i’r rhan fwyaf o bobl o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth

Os yw eich Budd-dal Tai wedi dod i ben, gallai eich cyngor lleol barhau i gysylltu â chi i ddweud bod angen i chi ad-dalu rhywfaint o arian.

Gwiriwch a wnaeth y cyngor gamgymeriad

Efallai fod y cyngor yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad oherwydd bod rhywfaint o’r wybodaeth sydd ganddynt yn anghywir. Er enghraifft, efallai eu bod yn meddwl:

  • eich bod yn ennill mwy nag yr ydych mewn gwirionedd

  • bod gennych ystafell sbâr

  • y dylai rhywun arall fod yn helpu i dalu’r rhent

Dylai’r cyngor ysgrifennu atoch i egluro pam eu bod yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad. Os na wnânt hynny, ffoniwch nhw a gofynnwch am esboniad. Nid oes rhaid i chi gytuno â’u rhesymau. Dywedwch wrthyn nhw y byddwch yn cysylltu â nhw eto wedi i chi ystyried y wybodaeth. Dylech hefyd ofyn iddynt anfon llythyr atoch yn cadarnhau pam eu bod yn meddwl eich bod wedi cael gordaliad.

Cofnodwch ddyddiad ac amser eich galwad, yn ogystal ag enw’r unigolyn y siaradoch ag ef. Efallai y bydd angen y manylion hyn arnoch os byddwch yn herio’r gordaliad.

Os oes angen cymorth arnoch, siaradwch â chynghorydd. Gall siarad â’r cyngor ar eich rhan.

Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael y swm cywir

Gallwch herio penderfyniad y cyngor. Bydd angen i chi egluro pam rydych yn meddwl na chawsoch ormod o arian.

Os ydych wedi cael gormod o arian drwy gamgymeriad

Darllenwch y llythyr am y gordaliad, neu ffoniwch y cyngor, i gael gwybod a ydynt am i chi ad-dalu’r gordaliad. Weithiau ni fyddant yn gofyn i chi ad-dalu’r arian os ydynt yn gwybod mai eu bai nhw oedd y gordaliad.

Os nad eich bai chi oedd y gordaliad ac os na allech fod wedi gwybod eich bod yn cael gormod o arian, dylech herio’r gofyniad i ad-dalu. Er enghraifft, gallech herio’r penderfyniad os oedd y cyngor:

  • wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrifo eich taliadau

  • heb gofnodi eich gwybodaeth, neu newid yn eich amgylchiadau yr oeddech wedi rhoi gwybod iddynt amdano, yn gywir

  • heb gywiro camgymeriad yr oeddech wedi rhoi gwybod iddynt amdano

Os ydynt am i chi ad-dalu’r arian, gwiriwch sut i herio’r penderfyniad.

Os na wnaeth y cyngor gamgymeriad

Fel arfer, bydd angen i chi ad-dalu’r arian os na wnaethoch chi roi gwybod i’r cyngor am rywbeth yr oedd yn rhaid i chi roi gwybod amdano – er enghraifft, os:

  • bu gostyngiad i’ch rhent

  • gwnaethoch ennill mwy – er enghraifft, oherwydd i chi weithio oriau ychwanegol

  • bu newid i’ch budd-daliadau eraill

  • symudodd rhywun i mewn neu allan o’ch cartref

  • dechreuodd rhywun dderbyn Lwfans Gofalwr, Taliad Cymorth i Ofalwr neu elfen gofalwr Credyd Cynhwysol am ofalu amdanoch.

Os oes rhaid i chi dalu’r arian yn ôl

Dywedwch wrth y cyngor os na allwch fforddio ad-dalu unrhyw arian o gwbl. Bydd angen i chi ddangos na fyddai modd i chi dalu am hanfodion megis rhent neu drydan. Llenwch declyn cyllideb ac argraffwch y canlyniadau i’ch helpu i ddangos i’r cyngor na fyddai gennych arian dros ben.

Os gallwch fforddio ad-dalu rhywfaint o’r arian, gwiriwch a allwch wneud y taliadau’n haws eu rheoli – er enghraifft, drwy dalu symiau llai dros gyfnod o amser.

Adolygwyd y dudalen ar 16 Hydref 2026