Pa gymorth a budd-daliadau ychwanegol y gallwch eu cael os ydych yn cael y Lwfans Byw i'r Anabl
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Os ydych yn cael y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn, efallai y gallwch gael arian ychwanegol o fudd-daliadau eraill neu gymorth gyda theithio, er enghraifft, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu treth cerbyd.
Bydd angen i chi gael eich llythyr penderfyniad ynglŷn â’r Lwfans Byw i'r Anabl cyn y gallwch wneud cais am y cymorth ychwanegol hwn – anfonir hwn atoch pan gewch chi benderfyniad ynglŷn â’ch cais am y Lwfans Byw i'r Anabl.
Efallai y byddwch yn gallu cael budd-daliadau eraill hefyd. Gweld pa fudd-daliadau eraill y gallwch eu cael.
Taliadau uwch o’r budd-daliadau rydych eisoes yn eu cael
Gallwch gael taliadau uwch o’r budd-daliadau canlynol os ydych yn cael y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn:
Budd-dal Tai
Credyd Cynhwysol
Credyd Treth Plant
Daeth credydau treth i ben i bawb ar 5 Ebrill 2025. Os dechreuoch eich cais am y Lwfans Byw i'r Anabl cyn y dyddiad hwn, efallai y gallwch gael cyfandaliad ar gyfer unrhyw gredydau treth y gwnaethoch eu methu tra oeddech yn aros am benderfyniad.
Os ydych yn cael y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn, byddwch hefyd yn cael eich eithrio rhag y 'cap ar fudd-daliadau' sy'n cyfyngu ar faint o fudd-daliadau y gall aelwyd eu cael.
Gwiriwch pwy sy’n talu eich budd-daliadau a chysylltwch â nhw (dylai eu manylion cyswllt fod ar unrhyw lythyrau y byddant yn eu hanfon atoch). Dywedwch wrthynt eich bod yn cael y Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn a gofynnwch iddynt ba gymorth arall y mae hyn yn rhoi hawl i chi ei gael – mae'n syniad da cael eich llythyr penderfyniad wrth law pan fyddwch yn ffonio.
Mae’n well gwneud hyn cyn gynted â phosibl ar ôl cael penderfyniad ynglŷn â’r Lwfans Byw i'r Anabl.
Ni fydd cael y Lwfans Byw i'r Anabl yn lleihau unrhyw rai o'ch budd-daliadau eraill felly mae bob amser yn well gofyn pa fudd-daliadau ychwanegol y mae gennych hawl iddynt.
Gweld a allwch chi gael y Lwfans Gofalwr
Budd-dal i bobl sy'n gofalu am rywun ag anabledd neu gyflwr iechyd yw'r Lwfans Gofalwr.
Bydd gennych siawns dda o gael y Lwfans Gofalwr os yw'r canlynol i gyd yn berthnasol:
rydych yn ennill llai na £196 yr wythnos
rydych yn cael yr elfen ofal y Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd ganol neu uwch
rydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos (cyfanswm) yn gofalu am eich plentyn
Darllenwch fwy am hawlio’r Lwfans Gofalwr ar GOV.UK.
Cael cymorth teithio
Os ydych yn cael yr elfen symudedd ar y gyfradd uwch, gallwch gael:
eich eithrio rhag talu treth cerbyd (ni fydd rhaid i chi dalu)
cerbyd motability, er enghraifft car, cadair olwyn fodur neu sgwter
Gwneud cais am grant gan elusen Cronfa'r Teulu
Elusen yw Cronfa’r Teulu sy’n cefnogi teuluoedd â phlant dan 18 oed sy’n anabl neu’n ddifrifol wael.
Efallai y gallwch wneud cais am gymorth os ydych chi ar incwm isel ac yn gofalu am blentyn sy’n anabl neu'n ddifrifol wael gartref.
Ewch i weld a ydych yn gymwys a sut mae gwneud cais ar wefan Cronfa’r Teulu.
Os ydych chi'n cael trafferth gydag arian
Mae pethau y gallwch chi eu gwneud i arbed arian ar eich costau byw arferol. Cael gwybod beth i'w wneud os oes angen help arnoch chi gyda chostau byw.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd talu eich biliau, gallwch gael help. Rhagor o wybodaeth am gael help gyda'ch biliau.
Y camau nesaf
Sut mae hawlio’r Lwfans Byw i'r Anabl ar gyfer eich plentyn.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.