Critical illness insurance
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae yswiriant salwch difrifol yn rhoi cyfandaliad i chi os byddwch yn cael diagnosis mathau penodol o salwch neu anableddau.
Mae’r mathau o salwch sy’n cael eu cynnwys yn gyflyrau hirdymor a difrifol iawn fel arfer, fel trawiad ar y galon neu strôc, colli breichiau neu goesau, neu glefydau fel canser, sglerosis ymledol neu glefyd Parkinson.
Os ydych chi ar eich colled oherwydd eich bod chi wedi bod yn sâl, mae cael swm mawr o arian i’w wario ar bethau fel costau bob dydd, talu eich morgais neu’ch treuliau meddygol yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn. Gallwch chi ddefnyddio’r arian mewn unrhyw ffordd yr ydych yn dymuno, nid oes yn rhaid i chi ei wario ar unrhyw beth penodol.
Efallai y byddwch chi yn cael incwm arall sy’n dod i mewn pan fyddwch yn sâl, fel budd-daliadau’r wladwriaeth neu dâl salwch gan eich cyflogwr. Ond, efallai na fydd hwn yn talu am bopeth y bydd ei angen arnoch chi. Mae’n syniad da ystyried faint y byddai ei angen arnoch chi i fyw pe baech yn mynd yn ddifrifol wael ac a fyddai angen ychydig arian ychwanegol arnoch chi i roi hwb i’ch incwm.
Ceir mathau eraill o yswiriant salwch y gallwch chi eu trefnu, fel yswiriant diogelu incwm. Mae salwch difrifol yn tueddu i fod yn ffordd llai drud o ddiogelu eich incwm yn erbyn salwch ac anabledd, ond mae rhai anfanteision a chyfyngiadau iddo.
Dylech gymharu salwch difrifol gyda mathau eraill o yswiriant salwch cyn i chi benderfynu ei brynu. Am ragor o wybodaeth am y rhain, trowch at Help a gwybodaeth bellach.
Yr hyn y bydd angen i chi ei ystyried cyn i chi drefnu yswiriant salwch difrifol
Cyn i chi ystyried trefnu yswiriant salwch difrifol, atebwch y cwestiynau canlynol:
A oes gwir angen yswiriant salwch difrifol arnaf i?
Edrychwch:
a oes gennych chi yswiriant salwch wedi’i gyfuno gyda pholisi yswiriant arall yn barod, fel polisi yswiriant bywyd, neu gyda’ch morgais, sy’n eich diogelu ar gyfer salwch difrifol
pa fudd-daliadau y bydd eich cyflogwr yn eu talu os na fyddwch chi’n gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd
os oes gennych chi gynilion y gallwch eu defnyddio yn lle yswiriant.
Ai hwn yw’r math gorau o yswiriant salwch i mi?
Edrychwch ar yr holl wahanol fathau o yswiriant salwch i weld pa un fyddai fwyaf addas i chi. Er enghraifft, mae yswiriant diogelu incwm fel arfer yn cynnwys mwy o o ddewis o ran mathau o salwch a chyflyrau nag yswiriant salwch difrifol, ac fe allai eich diogelu chi am gyfnod hirach os na fyddwch yn gallu gweithio. Ond, mae’n debygol y bydd yn costio mwy nac yswiriant salwch difrifol i chi.
Am ragor o wybodaeth am yswiriant diogelu incwm, trowch at yswiriant Diogelu incwm.
A oes gennych chi ddigon o arian i dalu am yswiriant salwch?
Mae costau (neu bremiymau) yswiriant salwch difrifol yn gallu bod yn eithaf uchel ac efallai na fydd yn rhaid i chi ei ddefnyddio fyth. Ni fyddwch yn cael unrhyw arian yn ôl os na fyddwch chi fyth yn gwneud hawliad.
Am ragor o wybodaeth am hyn, trowch at Yswiriant salwch.
A oes unrhyw eithriadau?
Nid yw polisïau yswiriant salwch difrifol yn cynnwys pob math o salwch. A gyda’r mathau o salwch y maent yn eu cynnwys, rhaid i chi fod yn ddifrifol sâl neu’n hollol anabl cyn y gallwch hawlio.
Yn ychwanegol i hyn, efallai na fydd mathau penodol o salwch yn cael eu cynnwys, y byddwch chi neu aelod o’ch teulu wedi eu cael o’r blaen.
Bydd angen i chi edrych ar y polisi yswiriant yn ofalus i weld y swm a fydd yn cael ei dalu os byddwch chi’n mynd yn sâl.
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn i chi drefnu yswiriant salwch difrifol
Bydd angen i chi wybod yr union swm y byddwch yn ei gael os byddwch yn gwneud hawliad. Pan fyddwch yn gwneud hawliad ar bolisi yswiriant salwch difrifol, dim ond un taliad y byddwch yn ei gael. Gallai hwn fod yn swm mawr iawn o arian, gan ddibynnu ar faint yr ydych chi wedi dewis yswirio eich hun amdano. Ond, efallai na fydd yn para os na fyddwch yn gallu gweithio am amser hir iawn, neu os na fyddwch yn gweithio fyth eto efallai. Ar y llaw arall, gall yswiriant diogelu incwm bara am ba mor hir ag y byddwch chi ei angen.
Am ragor o wybodaeth am yswiriant diogelu incwm, trowch at Yswiriant diogelu incwm.
Bydd angen i chi wybod yn union pa fathau o salwch y mae’r polisi yn eu cynnwys. Dim ond nifer arbennig o fathau o salwch penodol iawn fydd yn cael eu cynnwys. Edrychwch dros ddogfennau’r polisi yswiriant yn ofalus iawn i wneud yn siŵr eich bod yn gwybod pa rai. Mae rheolau sy’n nodi bod yn rhaid i ddogfennau’r polisi fod wedi cael eu hysgrifennu mewn Saesneg clir, hawdd i’w darllen, er mwyn i chi allu deall y diogelwch y byddwch yn ei gael.
Bydd angen i chi wybod yn union pa mor sâl neu pa mor ddifrifol y mae’n rhaid i’ch anabledd fod cyn y gallwch wneud hawliad. Er enghraifft, mae’n debygol na fydd rhai cyfnodau cynnar mathau cyffredin o ganser yn cael eu cynnwys, neu efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn hollol anabl cyn y byddwch yn cael unrhyw arian.
Bydd angen i chi wybod a yw cyflyrau meddygol sydd gennych chi yn barod yn cael eu cynnwys. Mathau o salwch yw’r rhain y byddwch chi wedi eu cael o’r blaen. Bydd yswirwyr yn ystyried hanes meddygol eich teulu a bydd rhai polisïau yn cynnwys cyflyrau meddygol sydd gennych chi yn barod, ond ni fydd polisïau eraill yn fodlon eu cynnwys. Os bydd hanes meddygol eich teulu yn golygu y bydd amodau ynghlwm wrth eich penderfyniad i brynu’r polisi, dylai eich yswiriwr esbonio’r rhain i chi cyn i chi ymrwymo i’r polisi.
Yr hyn y mae’n rhaid i chi ei ddweud wrth eich yswiriwr cyn i chi drefnu yswiriant salwch difrifol
Rhaid i chi roi manylion llawn eich hanes meddygol chi a’ch teulu i’ch yswiriwr. Os byddwch yn gadael unrhyw beth allan ac yna’n ceisio gwneud hawliad, efallai y bydd eich yswiriwr yn gwrthod talu.
Os oes gennych chi gyflwr meddygol sydd eisoes yn bodoli, edrychwch am yswiriwr a fydd yn barod i’w gynnwys, er y bydd yn rhaid i chi dalu mwy am y polisi efallai. Ystyr cyflwr meddygol sydd eisoes yn bodoli yw cyflwr yr ydych chi wedi ei gael o’r blaen.
Nid oes yn rhaid i chi drafod gwybodaeth bersonol neu sensitif gyda’r unigolyn sy’n gwerthu’r polisi i chi. Gallwch ofyn am gael anfon y wybodaeth at swyddog meddygol yr yswiriwr yn uniongyrchol.
Sut i brynu yswiriant salwch difrifol
Gallwch chi brynu polisi yswiriant salwch difrifol:
gan gynghorydd ariannol annibynnol, sy’n gallu edrych ar yr holl bolisïau sydd ar gael a dewis yr un mwyaf addas i chi. Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am y cyngor hwn
gan gwmni yswiriant yn uniongyrchol.
I gael gwybod mwy am gael cyngor ariannol annibynnol, trowch at Cael cyngor ariannol.
Os ydych chi eisiau prynu yswiriant salwch difrifol gan gwmni yswiriant yn uniongyrchol, gallwch chi ddefnyddio gwefan gymharu. Mae’n debygol na fyddwch yn gallu prynu’r yswiriant ar-lein oherwydd y bydd angen i chi gael eich asesu gan y cwmni er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn addas. Ond byddwch chi’n gallu gwneud cais am ddyfynbris ar-lein neu gael manylion cynghorwyr yswiriant y gallwch chi siarad gyda nhw.
Gallwch chi weld mwy am sut a ble i brynu yswiriant salwch difrifol ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Ariannol sef www.moneyadviceservice.org.uk.
Efallai y byddwch chi’n cael cynnig yswiriant salwch difrifol pan fyddwch yn cael morgais. Ond, mae’n debygol y bydd y polisi y byddwch yn cael ei gynnig yn cael ei redeg gan eich benthycwr morgais hefyd. Efallai y bydd polisi arall ar gael sy’n rhatach ac sy’n fwy addas i’ch anghenion chi. Cyn i chi ymrwymo, edrychwch sut y mae’n cymharu gyda pholisïau tebyg.
Sut y mae yswiriant salwch difrifol yn costio
Mae’r costau o drefnu yswiriant salwch difrifol yn amrywio o un person i’r llall a bydd y pethau canlynol yn effeithio arnynt:
eich oedran – yr hynaf y byddwch chi pan fyddwch yn prynu’r polisi, y mwy y byddwch yn debygol o’i dalu, gan bod y risg y byddwch yn mynd yn sâl yn codi
eich rhyw – mae dynion yn gwneud ychydig yn fwy o hawliadau na menywod, felly efallai y byddant yn talu mwy
eich iechyd – os yw eich iechyd yn dda, byddwch yn talu llai i yswirio eich hun
eich swydd – os ydych chi’n gwneud swydd sy’n cynnwys risg, byddwch yn talu mwy am yswiriant
eich hobïau a’ch ffordd o fyw – os ydych chi’n cymryd rhan mewn hobïau peryglus, neu os ydych chi’n ysmygu, er enghraifft, byddwch yn talu mwy am yswiriant
Canslo eich polisi yswiriant
Fel arfer, mae gennych chi 30 diwrnod i ganslo eich polisi a chael ad-daliad llawn os na fyddwch chi wedi gwneud hawliad.
Ar ôl 30 diwrnod, dylech chi fod yn gallu canslo eich polisi o hyd, ond efallai na fyddwch chi’n cael ad-daliad o unrhyw rai o’r premiymau yr ydych chi wedi eu gwneud. Bydd angen i chi edrych ar amodau a thelerau eich polisi.
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.