Newid i fesurydd dŵr
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Rydych chi naill ai’n talu eich bil dŵr ar sail cyfradd sefydlog neu ar sail faint o ddŵr rydych chi’n ei ddefnyddio, sydd wedi’i fesur gan fesurydd dŵr.
Mae’r dudalen hon yn esbonio eich hawl i gael mesurydd wedi’i osod a’r manteision ac anfanteision o newid i fesurydd.
Eich hawl i gael mesurydd wedi’i osod
Mae’r hawl gennych chi bod yr hyn a godir arnoch chi am eich dŵr ar sail yr hyn yr ydych chi’n ei ddefnyddio. Mae hyn yn golygu bod yr hawl gennych chi i gael mesurydd wedi’i osod yn rhad ac am ddim, oni bai nad yw’n ymarferol neu ei fod yn afresymol o ddrud i wneud hyn. Gallwch chi ofyn i gael mesurydd os yw eich contract meddiannaeth am chwe mis neu fwy.
Os ydych chi’n ystyried newid i fesurydd dŵr, dylech gysylltu â’ch cwmni dŵr. Gallech chi wneud hyn dros y ffôn, neu efallai y gallwch chi wneud cais ar eu gwefan.
Os na allwch chi gael mesurydd dŵr wedi’i osod am unrhyw reswm, efallai y gall eich cwmni dŵr eich rhoi ar dariff rhatach i arbed arian.
Mewn rhai ardaloedd, mae’r cwmni dŵr yn cyflwyno mesuryddion dŵr yn gyffredinol i’w cwsmeriaid, felly bydd pawb yn cael mesurydd.
Os byddwch chi’n gofyn am fesurydd, dylai cwmni ei osod o fewn tri mis. Gall y cyfnod hwn fod yn chwe mis mewn ardaloedd lle mae mesuryddion am ddim yn cael eu cynnig am y tro cyntaf.
Pryd mae’n syniad da ystyried newid i fesurydd dŵr?
Gallai newid i fesurydd dŵr fod o fudd i chi os nad ydych chi’n defnyddio llawer o ddŵr.
Efallai y byddai hefyd yn werth newid i fesurydd os oes gan eich eiddo werth trethiannol uchel. Y rheswm am hyn yw bod rhai biliau dŵr yn seiliedig ar werth ardrethol yr eiddo. Cyn mis Ebrill 1990, rhoddwyd gwerth ardrethol i bob eiddo yng Nghymru a Lloegr, ar sail faint y gellid ei gael am roi’r eiddo ar osod. Rheol gyffredinol dda yw y gallech chi dalu llai os oes llai o bobl yn eich eiddo nag sydd o ystafelloedd gwely.
Os byddwch chi’n newid i fesurydd dŵr, bydd y cwmni’n dod i ddarllen eich mesurydd. Ni fyddwch chi’n gwybod yn union beth fydd yn cael ei godi arnoch chi ym mhob bil oherwydd gallai faint o ddŵr y byddwch chi’n ei ddefnyddio gynyddu petai fwy o bobl yn dod i fyw gyda chi neu os byddwch chi’n prynu unrhyw gyfarpar newydd sy’n defnyddio dŵr.
Chi fydd yn gyfrifol am dalu am unrhyw ddŵr sy’n gollwng. Fodd bynnag, ni fydd cwmni dŵr fel arfer yn codi tâl am y gollyngiad cyntaf mewn pibell gyflenwi o dan y ddaear.
Mae gan lawer o gwmnïau dŵr gyfrifianellau defnydd dŵr ar eu gwefan, i’ch helpu i gyfrifo faint rydych chi’n debygol o’i dalu os oes gennych fesurydd. Defnyddiwch gyfrifiannell y mesurydd dŵr ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW) i weld faint allech chi ei arbed.
Os byddwch chi’n gweld nad ydych yn well eich byd ar ôl newid i fesurydd, gallwch fel arfer newid yn ôl o fewn deuddeg mis i’r ffordd y talwyd y bil o’r blaen. Ni allwch chi wneud hyn os ydych chi wedi symud i eiddo lle mae mesurydd eisoes wedi cael ei osod, neu os oes mesuryddion dŵr wedi cael eu cyflwyno yn gyffredinol ar gyfer pawb yn eich ardal.
Os ydych chi’n ddeiliad contract
Os ydych chi’n ddeiliad contract, gallwch ofyn am fesurydd o hyd.
Os oes gennych gontract cyfnod penodol o lai na chwe mis, rhaid i chi ofyn am ganiatâd y landlord. Os yw eich contract cyfnod penodol yn hirach na chwe mis, does dim angen i chi gael caniatâd eich landlord i gael mesurydd ond efallai y bydd eich datganiad ysgrifenedig yn gofyn i chi ofyn am eu caniatâd i wneud newidiadau i’r eiddo.
Efallai y bydd angen cyngor arnoch os nad yw eich landlord yn cytuno i chi gael mesurydd, gan y gallai unrhyw anghytundeb achosi problemau wrth adnewyddu eich contract.
Help gyda’ch biliau dŵr
Mae Watersure yn gynllun sy’n helpu rhai pobl gyda’u biliau dŵr. I wneud cais am y cynllun, rhaid eich bod ar fudd-daliadau a bod angen i chi ddefnyddio llawer o ddŵr naill ai am resymau meddygol neu oherwydd bod gan eich cartref nifer penodol o blant oed ysgol. Mae angen i chi hefyd fod ar fesurydd dŵr neu’n aros i un gael ei osod.
Y camau nesaf
Gwybodaeth ddefnyddiol arall
Ewch i weld pa gwmni dŵr sy’n cyflenwi eich ardal chi ar wefan y Cyngor Defnyddwyr Dŵr (CCW).
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.