Delio â llythyr yn dweud y bydd beilïaid yn ymweld â chi

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Os nad ydych wedi talu dyled, efallai y bydd beilïaid (a elwir hefyd yn 'asiantau gorfodi') yn anfon llythyr atoch yn dweud y byddan nhw yn ymweld â'ch cartref i gasglu'r taliad.

Peidiwch ag anwybyddu’r llythyr – gelwir hyn yn ‘hysbysiad gorfodi’. Os byddwch chi’n anwybyddu’r llythyr, gall y beilïaid ymweld â’ch cartref ar ôl 7 diwrnod. Yn ogystal â chasglu’r ddyled, gallan nhw godi ffioedd arnoch ac yna gallwch wynebu fwy o ddyled.

Mae pethau y gallwch eu gwneud i’w hatal rhag dod os byddwch yn ymateb yn gyflym.

Os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi

Rhaid i feilïaid ddilyn rheolau ychwanegol os ydyn nhw’n eich ystyried yn ‘agored i niwed’. Gallech chi gael eich ystyried yn agored i niwed os:

  • os ydych chi'n anabl neu'n ddifrifol wael

  • oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • os oes gennych chi blant neu os ydych chi’n feichiog

  • os ydych chi dan 18 oed neu dros 65 oed

  • os nad ydych chi’n gallu siarad neu ddarllen Saesneg yn dda

  • os ydych chi mewn sefyllfa llawn straen fel profedigaeth ddiweddar neu ddiweithdra

Cyn i chi siarad â beilïaid, edrychwch ar y rheolau ychwanegol y dylen nhw eu dilyn os ydych chi’n agored i niwed.

Ydi beilïaid yn gallu mynd ag eiddo o’ch cartref? 

Os ydych chi’n gadael beilïaid i mewn i'ch cartref, gallan nhw fynd â'ch eiddo.

Os ydych yn gwrthod eu gadael i mewn, gallan nhw dal wneud y canlynol:

  • mynd â'ch eiddo oddi ar ffordd - fel eich car

  • siarad â chi

  • casglu arian

  • rhoi dogfennau i chi

Does dim rhaid i chi adael beilïaid i mewn i’ch cartref. Dydyn nhw ddim yn gallu gorfodi eu ffordd i mewn, ond maen nhw’n gallu dod i mewn os ydych chi wedi gadael drws heb ei gloi.

Os nad ydy beilïaid wedi dilyn y rheolau, ewch i weld sut i godi cwyn am beilïaid.

Os bydd beilïaid yn dweud eu bod yn eich troi chi allan 

Os cewch chi lythyr yn dweud bod beilïaid yn mynd i droi chi allan, darllenwch wybodaeth am sut i ddelio â chael eich troi allan gan feilïaid ar wefan Shelter.

Gwnewch yn siŵr bod yr hysbysiad gorfodi yn ddilys

Yn gyntaf, dylech sicrhau bod eich hysbysiad gorfodi yn cynnwys y wybodaeth gywir. Os nad yw’r wybodaeth yn gywir gallwch gwyno i atal beilïaid rhag ddod hyd nes bydd hysbysiad newydd wedi dod i law.

I’ch hysbysiad gorfodi fod yn ddilys, rhaid iddo fodloni’r safonau canlynol:

  • dangos eich enw a’ch cyfeiriad cywir

  • dangos pa ddyled sy’n ddyledus gennych a nodi’r swm cywir

  • egluro fod gennych 7 diwrnod o rybudd cyn y caiff y beilïaid alw

  • wedi dod gan feili cofrestredig nid casglwr dyledion - gallwch weld y Gofrestr Beilïaid ar wefan Justice

  • wedi cael ei anfon atoch fel llythyr - naill ai drwy'r post, ffacs, e-bost, drwy ei osod ar eich drws ffrynt os nad oes gennych flwch llythyrau neu drwy ei roi i chi

  • wedi cael ei ysgrifennu mewn arddull gyfreithiol benodol - gweler enghraifft o hysbysiad gorfodi ar GOV.UK

Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os nad ydych yn siŵr bod eich hysbysiad yn ddilys - gall cynghorwr edrych ar yr hysbysiad i chi.

Ar ba ddiwrnod bydd y beilïaid yn galw?

Ar ôl anfon yr hysbysiad gorfodi atoch, rhaid i’r beilïaid aros 7 diwrnod llawn cyn y gallan nhw ymweld â chi. Nid yw hyn yn cynnwys y diwrnod y cewch chi’r hysbysiad, diwrnod yr ymweliad na dydd Sul a gwyliau banc.

Er enghraifft, os cewch eich rhybudd ddydd Llun, ni all y beilïaid ymweld â chi tan ddydd Mercher yr wythnos nesaf

Os daw eich hysbysiad gorfodi gan gasglwr dyledion

Ni fydd eich hysbysiad gorfodi'n ddilys os daw oddi wrth gasglwr dyledion.  Nid oes ganddyn nhw'r un pwerau â beilïaid - dydyn nhw ddim yn gallu dod i'ch cartref i gasglu dyled. Gallwch chi eu hanfon i ffwrdd os byddan nhw yn ceisio gwneud hynny.

Hyd yn oed os byddwch chi'n anfon y casglwr dyledion i ffwrdd, os oes arnoch chi'r ddyled, bydd dal angen i chi wneud trefniadau i ddelio â'r ddyled. Os byddwch yn ei hanwybyddu, dim ond gwaethygu gwnaiff y broblem. Gwybodaeth am sut i ddelio â dyled.

Os ydych chi’n meddwl bod eich hysbysiad gorfodi wedi dod gan gasglwr dyledion ac rydych yn poeni am ddelio â nhw cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol.

Gwnewch yn siŵr bod arnoch chi’r ddyled

Ni fydd arnoch chi’r ddyled:

  • os mae'n eiddo i rywun arall - er enghraifft os yw eich enw'n debyg i'r sawl sydd mewn dyled

  • os ydych chi eisoes wedi talu'r holl ddyled

Os nad ydych yn siŵr, ewch i weld os oes arnoch chi’r ddyled.

Os nad oes arnoch chi’r ddyled

Ni all beilïaid ddod i’ch cartref na chymryd unrhyw gamau yn eich erbyn os gallwch brofi nad oes arnoch chi’r ddyled.

Casglwch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch i ddangos nad ydych yn gyfrifol am y ddyled. Anfonwch y dystiolaeth at y beilïaid gyda llythyr yn egluro nad oes arnoch chi’r arian. Mae eu cyfeiriad ar yr hysbysiad gorfodi.

Ewch i weld pa dystiolaeth y gallwch ei hanfon i brofi nad oes arnoch chi ddyled.

Os oes arnoch chi’r ddyled

Efallai y gallwch herio’r ddyled hyd yn oed os yw'n ddyledus gennych. Gall hyn gymryd amser hir - felly nid dyma’r opsiwn gorau os ydych yn chwilio am ateb cyflym i atal y beilïaid rhag galw.

Os gallwch chi fforddio talu eich dyled, y peth gorau i'w wneud yw ffonio'r beilïod ar unwaith i dalu. Bydd hyn yn eu hatal rhag ymweld a bydd modd i chi osgoi talu ffioedd ychwanegol. Mae eu rhif ffôn ar yr hysbysiad gorfodi.

Gofynnwch i'r beilïaid anfon derbynneb atoch pan fyddwch yn talu - mae'n bwysig cael un rhag ofn y bydd angen i chi brofi'n ddiweddarach eich bod wedi talu.

Os na allwch fforddio talu eich dyled gyfan neu unrhyw beth o gwbl, gallwch geisio trafod telerau gyda'r beilïaid i dalu swm llai neu ddileu'r ddyled. Rhagor o wybodaeth am drafod telerau eich dyled gyda beilïaid.

Os ydy beilïaid yn casglu mwy nag un ddyled

Os oes gwahanol feilïaid yn casglu dyledion, efallai y gallwch atal rhai o'r beilïaid rhag dod i'ch cartref. 

Dylai’r beili a ddechreuodd gasglu dyled gennych chi yn gyntaf gael ei dalu’n gyntaf. Os daw’r beilïaid eraill i’ch cartref i fynd â’ch eiddo neu’ch arian byddai’n dal i gael ei ddefnyddio i dalu’r beili cyntaf. Mae hyn yn golygu na fyddai’r beilïaid eraill yn cael eu talu. 

Dylech gysylltu â’r beilïaid a ddechreuodd gasglu eu dyled ar ôl y beili cyntaf – dywedwch y canlynol wrthyn nhw:

  • bod gennych fwy nag un ddyled

  • bod beili arall wedi dechrau casglu ei ddyled gennych chi yn gyntaf

  • bydd unrhyw eiddo neu arian y byddan nhw yn ei gymryd gennych yn cael ei ddefnyddio i dalu'r beili a ddechreuodd gasglu ei ddyled gyntaf

Efallai y bydd y beili'n cytuno i roi'r gorau i gasglu'r ddyled os ydy o’n meddwl na fydd yn cael ei dalu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd yn rhaid i'ch credydwr gasglu'r ddyled mewn ffordd wahanol.

Holwch i weld pa feili ddechreuodd gasglu ei ddyled gyntaf 

Efallai y bydd angen i chi edrych i weld pa ddyled gawsoch chi gyntaf - bydd sut byddwch chi'n gwneud hyn yn dibynnu ar y math o ddyled sydd gennych chi. 

Dylech wirio dyddiad yr hysbysiad gorfodi os yw eich dyled ar gyfer unrhyw un o’r canlynol: 

  • y dreth gyngor

  • tocynnau Parcio

  • treth 

  • taliadau cynhaliaeth plant

Os oes gennych fath arall o ddyled, gallwch ofyn i’r llys pryd y gwnaethon nhw ddweud wrth y beili am ei chasglu. Cysylltwch â’r llys os yw eich dyled ar gyfer unrhyw un o’r canlynol: 

  • dyfarniadau’r llys sirol

  • dirwyon llys ynadon

  • dyledion a gasglwyd gan swyddog gorfodaeth yn yr uchel lys

Gallwch ddod o hyd i’ch cyngor lleol ar GOV.UK.

Os bydd y beili’n eich herio ynghylch yr hyn yr ydych wedi'i ddweud wrtho siaradwch â chynghorwr.

Paratoi ar gyfer ymweliad gan feili

Os nad ydych chi wedi gallu talu eich dyled na sefydlu trefniant talu a bod y beilïaid yn dod i'ch cartref, does dim rhaid i chi eu gadael i mewn.

Gallwch eu hatal rhag dod i mewn a chymryd eich eiddo drwy wneud y canlynol:

  • dweud wrth bawb yn eich cartref i beidio â gadael y beilïaid i mewn

  • cadw eich drysau ar glo - gallan nhw ddod i mewn drwy unrhyw ddrws heb ei gloi

  • parcio neu gloi eich car mewn garej i ffwrdd o’ch cartref

Y camau nesaf 

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.