Sut dylai beilïaid eich trin chi os ydych chi’n agored i niwed

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Dylech chi ddweud wrth y beilïaid (sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘asiantaethau gorfodi’) cyn gynted ag y gallwch chi os ydych chi mewn sefyllfa sy’n ei gwneud hi'n anodd i chi ddelio â nhw. Gallent eich ystyried yn 'agored i niwed'.

Os ydych chi’n agored i niwed, mae’n rhaid i feilïaid eich trin chi gyda mwy o ofal, gan gynnwys rhoi mwy o amser i chi ymateb i lythyrau neu ofynion. Ni ddylent ddod i mewn i'ch cartref chwaith os mai chi yw'r unig berson yno.

Edrych i weld os dylai beilïaid eich trin chi fel rhywun sy’n agored i niwed

Gallwch chi fod yn agored i niwed mewn nifer o sefyllfaoedd gwahanol, er enghraifft os:

  • ydych chi'n anabl

  • ydych chi'n ddifrifol wael

  • oes gennych chi broblemau iechyd meddwl

  • oes gennych chi blant neu rydych chi'n feichiog - yn enwedig os ydych chi'n rhiant sengl

  • yw eich oedran yn ei gwneud hi'n anodd i chi ddelio â beilïaid - fel arfer os ydych chi o dan 18 oed neu dros 65 oed

  • nad ydych chi'n siarad neu’n darllen Saesneg yn dda

Gallwch chi gael eich ystyried yn agored i niwed os ydych chi wedi bod drwy amgylchiadau llawn straen neu emosiynol yn ddiweddar. Er enghraifft, dod yn ddi-waith, wedi dioddef trosedd, neu gael rhywun agos atoch yn marw.

Dywedwch wrth y beilïaid os ydych chi’n ofalwr, yn berthynas neu’n ffrind sy’n gweithredu ar ran rhywun agored i niwed sydd â dyled. Eglurwch sut mae’r person yn agored i niwed a dylai’r beilïaid fod yn fodlon siarad â chi yn lle hynny.

Soniwch os oes gennych chi unrhyw hawl gyfreithiol i weithredu ar ran y person agored i niwed, fel atwrneiaethau.

Cysylltwch â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol os oes angen help arnoch chi i ddelio â beilïaid neu eich dyled.

Dweud wrth y beilïaid am eich sefyllfa

Cysylltwch â’r beilïaid cyn gynted ag y gallwch chi – neu gofynnwch i ofalwr, perthynas neu ffrind i gysylltu â nhw ar eich rhan.

Os ydych chi wedi derbyn llythyr oddi wrth y beilïaid, chwiliwch am rif ffôn. Mae'n well eu ffonio nhw, oherwydd dyma'r ffordd gyflymaf o gysylltu. Mae'n bwysig cysylltu â nhw'n gyflym er mwyn i chi allu eu hatal rhag ymweld ac ychwanegu ffioedd.

Os oes beilïaid yn ymweld â’ch cartref, siaradwch â nhw drwy'r blwch llythyrau neu’r ffenest ar y llawr uchaf – edrychwch sut i stopio beili wrth eich drws.

Pan fyddwch chi’n siarad â beilïaid, dylech chi wneud y canlynol:

  • dweud eich bod chi’n agored i niwed

  • egluro pam mae delio â beilïaid yn anoddach i chi na rhywun mewn sefyllfa arall

  • gofyn i'r beilïaid ganslo unrhyw ymweliadau yn y dyfodol oherwydd y gofid ychwanegol y bydd yn ei achosi i chi

  • gwneud yn siŵr eu bod yn gwybod sut gallai llythyr neu ymweliad wneud eich sefyllfa’n waeth - er enghraifft os oes gennych chi gyflwr y galon neu broblem iechyd meddwl.

Cadwch nodyn o ba bryd y gwnaethoch chi ffonio a beth y gwnaethoch chi gytuno arno, rhag ofn y bydd angen i chi gwyno’n hwyrach. Gofynnwch hefyd am enw'r person y gwnaethoch chi siarad ag ef/hi, a nodwch yr enw.

Ysgrifennwch at y beilïaid os na allwch chi eu ffonio neu os nad yw siarad â nhw o gymorth. Chwiliwch am eu cyfeiriad post ar lythyrau maen nhw wedi'u hanfon atoch chi, neu chwiliwch amdanynt ar-lein.

Dweud wrth eich credydwr os ydych chi’n agored i niwed

Yn ogystal â dweud wrth y beilïaid eich bod yn agored i niwed, dywedwch wrth bwy bynnag y mae arnoch chi arian iddynt (eich ‘credydwr’). Er enghraifft, os oes arnoch chi arian am y dreth gyngor, y cyngor fydd eich credydwr. Ni fydd nifer o gynghorau a chwmnïau yn defnyddio beilïaid os byddwch yn egluro eich bod yn agored i niwed.

Wrth siarad â’ch credydwr, gofynnwch a allwch chi dalu eich dyled mewn ffordd arall. Er enghraifft, gallech chi gynnig ei thalu mewn rhandaliadau yn hytrach na'r cyfan ar unwaith. Efallai y bydd eich credydwr yn penderfynu nad oes angen y beilïaid arnynt os gallwch eu talu'n uniongyrchol.

Gwneud yn siŵr bod beilïaid yn eich trin chi’n iawn

Os ydych chi wedi cael eich ystyried yn agored i niwed, dylai beilïaid:

  • fyth dod i mewn i'ch cartref os mai chi yw'r unig berson yno

  • roi amser ychwanegol i chi wneud cynnig i dalu i'w hatal rhag ymweld - gofynnwch iddynt ohirio eich achos

  • fyth cymryd na bygwth cymryd unrhyw beth sy'n helpu gyda'ch iechyd

  • wneud yn siŵr y gallwch chi gyfathrebu â nhw - er enghraifft drwy anfon llythyrau mewn braille neu ddod â chyfieithydd pan fyddant yn ymweld

Os daw beilïaid i mewn i’ch cartref, efallai y byddant yn gwneud rhestr o unrhyw beth y gallent ei gymryd i’w werthu i dalu eich dyled. Caiff hyn ei alw’n ‘cymryd rheolaeth’ o’ch eiddo. Os yw beili yn clampio’ch car mae hyn hefyd yn golygu eu bod nhw wedi cymryd rheolaeth ohono.

Gallwch chi atal beilïaid rhag cymryd rheolaeth o’ch eiddo drwy dalu eich dyledion yn llawn - mae'n well gwneud hyn os gallwch chi fforddio gwneud hynny.

Os na allwch chi fforddio talu’n llawn, gall beilïaid gymryd rheolaeth o’ch eiddo. Gallwch chi atal beilïaid fynd â’ch eiddo drwy wneud ‘cytundeb nwyddau a reolir’. Edrychwch i weld sut i wneud cytundeb nwyddau a reolir.

Ni ddylai beilïaid fynd ag unrhyw un o'ch eiddo pan fyddant yn dod i'ch cartref am y tro cyntaf. Dylent roi amser ychwanegol i chi gael cyngor ar ddyledion ar ôl iddynt gymryd rheolaeth o'ch eiddo. Dylent adael i chi wneud hyn cyn iddynt fynd ag unrhyw un o'ch eiddo. Os oes angen cyngor arnoch chi am ddyledion, gallwch chi siarad â chynghorwr.

Weithiau gall beilïaid godi ffioedd am ddod i mewn i’ch cartref – caiff hyn ei alw’n ‘orfodaeth’. Dim ond os yw'r ddau ganlynol yn berthnasol y gall beilïaid godi ffioedd gorfodi:

  • maent wedi cymryd eich eiddo dan reolaeth

  • maent wedi rhoi amser i chi gael cyngor ar ddyledion ar ôl iddynt gymryd rheolaeth o'ch eiddo ond cyn iddynt eu symud

Edrychwch i weld pa ffioedd mae beilïaid yn gallu eu codi.

Gallwch chi gwyno os yw beilïaid yn torri’r rheolau hyn - this should make them treat you properly in the future. You might also be able to get their licence taken away. This will get rid of the bailiffs and their fees, though you’ll still have to deal with your debt.

- dylai hyn wneud iddynt eich trin chi'n iawn yn y dyfodol. Efallai y byddwch chi hefyd yn gallu sicrhau bod eu trwydded yn cael ei chymryd oddi arnynt. Bydd hyn yn cael gwared ar y beilïaid a’u ffioedd, er y bydd yn rhaid i chi ddelio â’ch dyled o hyd.

Os oes gennych chi blentyn o dan 18 oed

Ni chaniateir i feilïaid ddod i mewn i'ch cartref os ydynt yn gwybod nad oes neb dros 16 oed yno.

Ni ddylent hyd yn oed ofyn cwestiynau o'r drws os mai'r unig bobl sydd yno yw pobl o dan 12 oed. Os ydynt yn parhau i geisio siarad â'ch plant, dylech chi gwyno am y beilïaid. 

Os bydd beilïaid yn dod i mewn i'ch cartref, ni ddylent gymryd unrhyw beth sydd ei angen arnoch chi i ofalu am blant o dan 18 oed. Mae hyn yn cynnwys teganau a gemau plant.

Profi eich bod yn agored i niwed os nad yw beilïaid yn eich credu chi

Efallai y bydd beilïaid yn gofyn am dystiolaeth eich bod yn agored i niwed. Os gallwch chi, mae’n werth ceisio profi eich sefyllfa wrthynt. Hyd yn oed os byddai'n well gennych chi beidio â rhannu'r pethau hyn, gall fod yn werth chweil os yw'n gwneud i’r beilïaid eich trin yn well.

Gallech chi anfon copi o’r canlynol atynt:

  • llythyr meddyg sy’n egluro unrhyw salwch neu anabledd

  • llythyr oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau neu’r gwasanaethau cymdeithasol am unrhyw fudd-daliadau rydych chi’n eu derbyn 

  • bil y dreth gyngor sy’n dangos yr oedolion sy’n byw yn eich cartref

Anfonwch gopïau yn hytrach na dogfennau gwreiddiol. Mae'n syniad da gofyn am 'brawf postio' yn swyddfa’r post pan fyddwch chi'n anfon eich dogfennau. Mae prawf postio am ddim a byddwch chi’n gallu dangos i’r beilïaid pryd wnaethoch chi anfon eich dogfennau atynt.

Wrth i chi chwilio am eich dogfennau a’u hanfon, ffoniwch y beilïaid a gofynnwch  iddynt roi eich cyfrif ar stop. Gallai hyn eu hatal rhag ymweld â chi neu eich ffonio chi nes iddynt dderbyn eich dogfennau. Dylai’r beilïaid gytuno i hyn os ydych chi’n dweud wrthynt eich bod chi'n anfon tystiolaeth i brofi eich bod chi’n agored i niwed.

Os nad yw beilïaid yn credu eich tystiolaeth

Gallwch chi gwyno am y beilïaid os ydych chi wedi anfon tystiolaeth ond eu bod nhw dal ddim yn eich trin chi fel rhywun agored i niwed. Gall cwyno wneud iddynt adael llonydd i chi.

Gallwch chi hefyd gysylltu â’ch canolfan Cyngor ar Bopeth leol. Weithiau, mae  beilïaid yn fwy tebygol o wrando os ydynt yn clywed am eich sefyllfa oddi wrth un o’n cynghorwyr.  

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.