Defnyddiwyd eich cerdyn talu heb eich caniatâd - gwerthu o bellter

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae prynu o bellter yn golygu prynu rhywbeth heb gyswllt wyneb yn wyneb. Er enghraifft, siopa dros y rhyngrwyd, oddi ar y teledu, drwy'r post, dros y ffôn neu drwy'r ffacs.

Mae'r dudalen hon yn dweud wrthych beth fedrwch chi ei wneud os defnyddiwyd eich cerdyn talu i brynu rhywbeth o bellter, heb eich caniatâd.

Gair o gyngor

Ydych chi'n gwybod pwy sydd wedi defnyddio'ch cerdyn?

A yw'n bosib mae aelod o'r teulu sydd wedi defnyddio'ch cerdyn heb eich caniatâd? Gyda defnydd twyllodrus o gardiau, mae hyn yn medru bod yn eithaf cyffredin. Os mai aelod o'r teulu sydd wedi defnyddio'ch cerdyn, meddyliwch yn ofalus cyn i chi gymryd unrhyw gamau gyda'ch banc. Efallai y bydd yn cysylltu â'r heddlu.

Cysylltwch â'ch banc ar unwaith

Os cymerwyd taliad heb ei awdurdodi o'ch cyfrif banc, i brynu rhywbeth dros y rhyngrwyd, dros y ffôn, oddi ar y teledu neu deledestun, efallai y bydd hawl gennych i gael eich arian yn ôl.

Fel arfer, fe fydd gan y banc dîm o ymchwilwyr sy'n ymchwilio i'r mater i chi. Os ydych yn honni nad oeddech wedi awdurdodi'r defnydd o'r garden, rhaid i'ch banc brofi fel arall.

Efallai y bydd y banc yn medru canslo'r taliad neu roi'r arian yn ôl i mewn i'ch cyfrif.

Os na fydd darparwr eich cerdyn yn rhoi eich arian yn ôl, riportiwch ef i Safonau Masnach.

Riportio problem i Safonau Masnach

Pan na fyddwch chi'n medru cael eich arian yn ôl

Mae yna rai contractau gwerthu o bellter sydd ddim wedi eu cynnwys o fewn y gyfraith. Ni fyddai hawl awtomatig gennych i gael eich arian yn ôl os oedd y pwrcas ariannol ar gyfer y canlynol:

  • gwasanaethau ariannol, er enghraifft, yswiriant a bancio

  • gwerthu tir neu adeiladau, ac eithrio ar gyfer rhai cytundebau rhentu

  • gwerthu tir ac adeiladu adeiladau (byddai contract i adeiladu pan fydd y tir eisoes yn eiddo i'r defnyddiwr wedi ei gynnwys)

  • cytundebau rhentu o 3 blynedd neu fwy (un flwyddyn neu fwy yn yr Alban)

  • prynu o beiriant gwerthu neu safleoedd masnachol awtomataidd

  • defnyddio gweithredwr telegyfathrebu trwy ffôn cyhoeddus

  • ocsiynau, gan gynnwys ocsiynau dros y rhyngrwyd, os nad ydych yn dewis opsiwn 'prynu nawr' ac rydych yn prynu gan fasnachwr busnes

Os defnyddiwyd eich cerdyn mewn ffordd dwyllodrus i brynu nwyddau neu wasanaethau sydd wedi eu rhestru uchod, dylech gysylltu â'ch banc o hyd. Fwy na thebyg y bydd yn ymchwilio ar eich rhan, ond efallai na fyddwch yn medru cael eich arian yn ôl.

Os ydych wedi dioddef twyll, gallwch gysylltu ag Action Fraud, sy'n cynnig cyngor, arweiniad a chefnogaeth i ddioddefwyr twyll. Gallwch gysylltu â nhw dros y ffôn ar 0300 123 2040.

Mwy am sut i riportio problem i wefan Action Fraud yn: www.actionfraud.org.uk

Mwy am ddefnyddio cardiau talu mewn ffordd dwyllodrus

Os ydych yn credu y codwyd gormod arnoch am nwyddau neu wasanaeth

Weithiau, efallai y bydd contract gennych yn barod ar gyfer nwyddau neu wasanaethau gyda chwmni, ac maen nhw'n mynd â mwy o arian na'r disgwyl o'ch cerdyn. Neu, efallai y bydd yn cymryd taliad ychwanegol ac nid ydych yn credu i chi gytuno i'r taliad yma Cysylltwch â'r cwmni i ddadlau ynghylch y taliadau ychwanegol. Os nad yw'n eich helpu, cysylltwch â'ch banc.

Camau nesaf

Os oes angen help pellach arnoch

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.