Cwyno am fanciau a chymdeithasau adeiladu

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â banciau a chymdeithasau adeiladu

Weithiau mae pethau yn mynd o chwith ac fel gyda phob gwasanaeth arall, mae’n bosib y bydd angen i chi gwyno am eich banc neu gymdeithas adeiladu.

Mae gwybodaeth ar y dudalen hon am beth allwch wneud os yw pethau yn mynd o chwith, sut i gwyno i’ch banc neu gymdeithas adeiladu a beth allwch wneud os nad yw eu hymateb yn eich bodloni.

Ar y dudalen hon, cewch hyd i wybodaeth am:

Am fwy o wybodaeth am Fancio a chwyno, gweler cymorth a gwybodaeth ychwanegol.

Sut ddylai’r banc neu gymdeithas adeiladu eich trin

Yn ogystal â thelerau ac amodau eich contract gyda’r banc neu’r gymdeithas adeiladu, mae yna bethau y mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu eu gwneud yn ôl y gyfraith. Mae’n rhaid i’ch banc neu gymdeithas adeiladu ddarparu ei wasanaethau:

  • gyda gofal a sgil rhesymol. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, mae’n rhaid iddynt weithredu’n rhesymol a chadw cofnodion cywir o’ch arian.

  • ar amser. Os nad ydych yn rhoi amser penodol i chi, mae’n rhaid iddynt ddarparu’r gwasanaeth o fewn amser rhesymol. Mae’r hyn sy’n rhesymol yn dibynnu ar y gwasanaeth. Er enghraifft, dylai ddarparu gwybodaeth am benderfyniad ynghylch eich cais am fenthyciad o fewn ychydig o ddiwrnodau.

  • am y pris a gytunwyd arno. Os na chytunwyd ar bris, mae’n rhaid iddo fod yn rhesymol.

Os nad ydynt yn gwneud un o’r pethau hyn, mae’n bosib y gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Gwahaniaethu

Mae yn erbyn y gyfraith i’ch banc neu gymdeithas adeiladu i wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich hil, rhyw, anabledd, crefydd neu rywioldeb.

Os gwahaniaethir yn eich erbyn ar sail un o’r rhesymau hyn, mae’n bosib y gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol Byddwch hefyd yn gallu mynd i’r llys ond bydd angen cyngor cyfreithiol i wneud hyn.

Mae hawl gan y banc neu’r gymdeithas adeiladu wahaniaethu yn eich erbyn ar sail rhesymau eraill, er enghraifft, mae’n bosib y bydd yn eich gwrthod rhag agor rhai mathau o gyfrifon oni bai eich bod yn perthyn i grŵp oedran penodol.

Am fwy o wybodaeth am wahaniaethu, gweler ein tudalennau gwahaniaethu.

Am fwy o wybodaeth am gael cyngor cyfreithiol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Yn yr Alban, gweler Using a solicitor.

Beth i’w wneud os yw pethau yn mynd o chwith

Cyn i chi wneud cwyn, gwiriwch mai’r banc neu’r gymdeithas adeiladu sy’n gyfrifol am y broblem. Er enghraifft, nid y banc neu’r gymdeithas adeiladu sy’n gyfrifol os ydych wedi rhoi eich cerdyn banc a rhif PIN i rywun arall a’i fod yn defnyddio’r rhain i godi arian heb eich caniatâd.

Gellir datrys llawer o broblemau yn gyflym felly rhowch gyfle i’r cwmni gywiro pethau. Os na allwch ddatrys y broblem neu os ydych yn anfodlon a gwasanaeth eich banc neu eich cymdeithas adeiladu, gallwch wneud cwyn ffurfiol trwy broses gwyno’r cwmni.

Y broses gwyno

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol bod gan fanciau a chymdeithasau adeiladu broses gwyno ysgrifenedig sy’n dweud wrth gwsmeriaid sut i wneud cwyn. Dylech fod yn gallu dod o hyd i fanylion yn eich banc neu gymdeithas adeiladu neu ar eu gwefannau. Os na allwch ddod o hyd i wybodaeth am broses gwyno eich cwmni, gofynnwch iddynt ei anfon atoch.

Dilynwch bob cam o’r broses gwyno. Mae’n rhaid i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu archwilio eich cwyn a rhoi ymateb clir i chi o fewn wyth wythnos. Mae’n bosib y bydd yn anfon y canlynol atoch:

  • ymateb cychwynnol sy’n rhoi cyfle i chi fynd yn ôl at y cwmni os ydych yn anfodlon â’i ateb

  • ymateb terfynol, sef ymateb olaf y cwmni neu

  • ymateb sy’n dweud wrthych fod wyth wythnos wedi mynd heibio a bod gennych yr hawl i fynd at FOS. Gall hyn ddigwydd pan fod y cwmni yn parhau i archwilio’ch cwyn ac nid yw’n gallu rhoi ymateb i chi eto. Bydd yn rhaid i chi benderfynu p’un ai i roi mwy o amser i’r cwmni neu fynd â’ch cwyn at y FOS.

Os nad yw’r cwmni yn anfon ymateb atoch o fewn wyth wythnos neu os ydych yn dal yn anhapus, mae’n bosib y gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Os nad ydych yn siŵr ynglŷn â beth i’w wneud ar unrhyw gam o’r broses gwyno, mynnwch gymorth gan wasanaeth gynghori megis Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Awgrymiadau ar sut i gysylltu â’r banc neu gymdeithas adeiladu

Gallwch wneud cwyn yn bersonol, ar y ffôn neu’n ysgrifenedig drwy lythyr neu e-bost. Mae hyn yn dibynnu ar sut ydych yn bancio. Dyma rhai awgrymiadau:

  • cysylltwch â’r banc neu’r gymdeithas adeiladu cyn gynted â phosibl er mwyn datrys y broblem

  • cadwch gofnod o ddyddiad eich cysylltiad. Mae’n bosib y gallai fod yn bwysig os hoffech fynd â’r cwyn ymhellach nes ymlaen

  • casglwch yr holl wybodaeth am y broblem, er enghraifft, cyfriflenni banc, bonion siec a gohebiaeth gyda’r cwmni

  • os ydych yn cwyno yn bersonol yn y banc, cymerwch gopi o unrhyw ddogfennau a gofynnwch i siarad â’r person sy’n gyfrifol am ddelio â’ch cyfrif neu reolwr y gangen. Cadwch gofnod o bwy siaradodd â chi a’r hyn a ddywedwyd. Dylech hefyd anfon llythyr dilynol at y banc fel bod yna gofnod cywir o’r sgwrs

  • os ydych yn gwneud cwyn ysgrifenedig, ysgrifennwch y gair ‘cwyn’ ar frig y llythyr. Dylech sicrhau ei fod yn mynd at y person cywir. Anfonwch gopïau o ddogfennau (nid y gwreiddiol) gyda’r llythyr

  • esboniwch y broblem yn glir. Nodwch yr holl ffeithiau gan gynnwys dyddiadau pwysig ac enwau unrhyw un o’r cwmni a siaradodd â chi. Bydd hyn yn helpu’r cwmni i ddeall y broblem a’i archwilio’n llawn

  • dywedwch wrth y cwmni yr hyn yr hoffech iddynt wneud er mwyn datrys y broblem, gan gynnwys unrhyw iawndal yr hoffech i’r cwmni eich talu

  • cadwch gopi o’ch llythyron rhag ofn y byddwch eu hangen nes ymlaen. Mae’n bosib yr hoffech anfon llythyron drwy ddanfoniad wedi’i gofnodi fel bod yna gofnod ohonynt.

Mynd â’ch cwyn at Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)

Os ydych yn cwyno i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu ac nid ydynt yn delio â’ch cwyn neu os ydych yn anfodlon gyda’r ymateb, gallwch ofyn i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) i ddelio â’r anghydfod.

Mae yna rai rheolau sylfaenol i chi gofio cyn mynd i’r FOS:

  • dim ond ar ôl cwyno i’r banc neu’r gymdeithas adeiladu y gallwch fynd at y FOS

  • mae gan fanc neu gymdeithas adeiladu wyth wythnos i ddelio â’r cwyn

  • mae’n rhaid i chi gwyno i’r FOS o fewn chwe mis o gael ymateb terfynol eich banc neu gymdeithas adeiladu neu o ddiwedd yr wyth wythnos os nad yw wedi ymateb.

Am fwy o wybodaeth am FOS gweler Cymorth a gwybodaeth ychwanegol.

Defnyddio cwmni rheoli hawliadau

Mae cwmnïau rheoli hawliadau, a adnabyddir fel aseswyr hawliadau, yn sefydliadau sy’n codi tâl arnoch i’ch helpu i fynd â’ch cwyn at yr Ombwdsmon.

Nid oes rhaid i chi dalu rhywun i’ch helpu i wneud cwyn. Mae cymorth rhad ac am ddim ar gael. Mae gan Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS) [link to heading Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol yn yr adran Cymorth a gwybodaeth ychwanegol] linell gymorth y gallwch ei ffonio i wirio p’un ai bod eich cwyn yn addas neu beidio a’ch helpu i lenwi unrhyw ffurflenni. Bydd hyn yn costio pris galwad ffôn.

Neu gallwch gael cymorth a chyngor rhad ac am ddim yn eich Canolfan Cyngor ar Bopeth.

I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Os ydych yn penderfynu defnyddio cwmni rheoli hawliadau, gwiriwch eich bod yn deall holl delerau ac amodau’r cytundeb a faint yw cost y gwasanaeth cyn i chi lofnodi unrhyw beth. Os ydych yn ansicr, darllenwch y cytundeb a mynnwch gyngor cyn i chi ei lofnodi.

Yn Lloegr a Chymru, mae’n rhaid bod cwmniau rheoli hawliadau wedi cael eu hawdurdodi gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder. Gallwch wirio p’un ai bod cwmni rheoli hawliadau wedi cael ei awdurdodi neu beidio drwy edrych ar wefan Rheoliadau Hawliadau yn www.claimsregulation.gov.uk.

Mynd i’r llys

Os nad yw’r Ombwdsmon yn gallu datrys eich problem, mynd i’r llys yw’r unig opsiwn arall sydd gennych. Fodd bynnag, dylai hyn fod eich ateb olaf.

Cyn eich bod yn mynd i’r llys, mae’n rhaid i chi feddwl p’un ai bod gennych ddigon o dystiolaeth neu beidio. Bydd hefyd yn rhaid i chi ddarganfod p’un ai bod gan eich banc neu gymdeithas adeiladu arian neu beidio.

Prin iawn y mae rhywun yn mynd â banc neu gymdeithas adeiladu i’r llys. Os ydych yn meddwl am wneud hyn, mynnwch gyngor cyfreithiol gan arbenigwr.

Os ydych yn penderfynu mynd â’r mater i’r llys cyn cwyno i’r Ombwdsmon, ni fyddwch yn gallu cwyno i’r Ombwdsmon nes ymlaen.

Am fwy o wybodaeth am fynd i’r llys, yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon, gweler Hawliadau Bychain neu, yn Yr Alban, gweler Beth yw hawliad bach.

Newid banc neu gymdeithas adeiladu

Os ydych yn anhapus â’r gwasanaeth a gynigwyd i chi gan eich banc neu eich cymdeithas adeiladu, gallech hefyd feddwl am ddefnyddio cwmni arall yn ogystal â chwyno. Cyn i chi drosglwyddo, mae’n syniad da i wirio gwasanaethau a chyfleusterau banciau a chymdeithasau adeiladu er mwyn sicrhau eu bod yn ateb eich anghenion.

Am fwy o wybodaeth am symud i fanc neu gymdeithas adeiladu arall, gweler Agor a newid cyfrif banc.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan, mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch cyfrifon banc a chynnyrch ariannol eraill. Rhowch glic ar: www.moneyadvice.org.uk.

Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol (FOS)

Os ydych wedi defnyddio gweithdrefn gwyno eich banc neu gymdeithas adeiladu ac nid ydyw’n gallu eich helpu, gallwch gwyno i Wasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol.

Cysylltwch â llinell gymorth Gwasanaeth yr Ombwdsmon Ariannol ar 0300 123 9 123 neu ewch at: www.financial-ombudsman.org.uk

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.