Benthyciadau Undebau Credyd
Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban
Mae undeb credyd yn gwmni cydweithredol hunangymorth ac mae ei aelodau'n cyfuno eu cynilion i roi credyd i'w gilydd ar gyfradd llog isel. Er mwyn bod yn rhan o undeb credyd mae’n rhaid i chi rannu nodwedd gyffredin â’r aelodau eraill. Dyma rywbeth y mae gan bob un ohonoch yn gyffredin megis:
yn byw neu’n gweithio yn yr un ardal
yn gweithio i’r un cyflogwr
yn perthyn i'r un eglwys, undeb llafur neu gymdeithas arall
Mae gan bob undeb credyd ei nodwedd gyffredin ei hun, ond bydd hyn fel arfer yn seiliedig ar yr enghreifftiau uchod. Efallai y bydd gan undeb credyd fwy nag un nodwedd gyffredin os yw ei reolau’n caniatáu hynny. Mae hyn yn golygu y gellir cyfuno nodwedd gyffredin sy'n seiliedig ar sefydliad cymunedol lleol, fel cymdeithas tenantiaid neu glwb cymdeithasol sy'n gysylltiedig â gweithle, â nodwedd gyffredin sy'n seiliedig ar fyw neu weithio mewn ardal. Felly, os ydych chi'n byw y tu allan i ardal y mae undeb credyd yn ei gwasanaethu, mae dal yn bosibl i chi ymuno â hi os ydych chi'n denant mewn cymdeithas dai sy'n gysylltiedig â'r undeb credyd neu os ydych chi'n gweithio i gwmni cenedlaethol y mae ei weithle lleol yn gysylltiedig â'r undeb credyd.
Os oes aelod o'ch teulu yn aelod o undeb credyd yn barod, fel arfer gall perthnasau eraill sy'n byw yn yr un cyfeiriad ymuno hefyd.
Cael benthyciad gan undeb credyd
Mae undebau credyd yn codi cyfradd llog isel - dim mwy na 3% y mis. Gallwch gyfrifo faint fyddai benthyciad undeb credyd yn ei gostio i chi drwy ddefnyddio'r gyfrifiannell benthyciadau ar wefan Cymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL) yn www.abcul.coop.
Fel arfer mae benthyciadau undebau credyd yn rhatach na benthyciadau diwrnod cyflog neu gredyd cartref.
I gael rhagor o wybodaeth am gredyd cartref, ewch i Credyd cartref (benthyciadau carreg y drws).
Os na fyddwch chi’n ad-dalu benthyciad undeb credyd, efallai y bydd yr undeb credyd yn canslo eich aelodaeth ac yn mynd â chi i’r llys. Ewch i weld beth y gallant ei wneud i gael eu harian yn ôl.
Os ydych chi’n cael trafferth talu benthyciad undeb credyd neu ddyled arall, gallwch gael cymorth gan eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol.
Ble i ddod o hyd i undeb credyd
Gallwch chi gael gwybodaeth am undebau credyd ar wefan Cymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL) yn www.findyourcreditunion.co.uk neu wefan ACE Credit Union Services yn www.acecus.org.
Yn yr Alban, gallwch chi gael gwybodaeth am undebau credyd drwy fynd i weld gwefan aelodau’r Scottish League of Credit Unions yn www.scottishcu.org.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ad-dalu eich benthyciad
Cysylltwch â'r Undeb Credyd – dylai eich helpu i ddelio â'ch ad-daliadau. Er enghraifft, efallai y bydd yn cynnig gwneud y canlynol:
lleihau neu ohirio eich taliadau am gyfnod cyfyngedig
rhoi’r gorau i ychwanegu llog at y benthyciad am gyfnod cyfyngedig
eich helpu chi i lunio cynllun i dalu'r hyn sy’n ddyledus
Dylai'r Undeb Credyd roi amser i chi ystyried eich opsiynau a chael help gyda'ch dyled.
Dylai rewi eich cyfrif os ydych chi'n aros i'ch amgylchiadau wella. Er enghraifft, efallai eich bod yn aros am daliad cyntaf eich cyflog neu fudd-daliadau.
Os bydd yr Undeb Credyd yn rhewi eich cyfrif, mae’n syniad da defnyddio’r amser yma i gael cyngor ar ddyledion. Siaradwch â chynghorwr os nad ydych chi’n siŵr sut i ad-dalu eich benthyciad.
Os yw'r Undeb Credyd yn cynnig cynllun talu newydd i chi
Dylech chi feddwl yn ofalus a ydych chi’n gallu fforddio'r taliadau misol - gallwch chi gyfrifo eich cyllideb i weld a yw'r taliadau'n fforddiadwy.
Rhagor o gymorth a gwybodaeth
Helpwr Arian
Mae gwefan Helpwr Arian yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol am fenthyca a rheoli eich arian.
Cymdeithas Undebau Credyd Prydain (ABCUL)
ACE Credit Union Services
Scottish League of Credit Unions
Help us improve our website
Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.
Adolygwyd y dudalen ar 20 Chwefror 2020