Gwystlwyr

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ynglŷn â gwystlwyr

Mae’r wybodaeth hon yn esbonio’r hyn yw gwystlwr a’r hyn sy’n digwydd os nad ydych yn gallu ad-dalu’r benthyciad neu os nad ydych yn casglu’r nwyddau.

Beth yw gwystlwr

Gwystlwr yw rhywun sy’n benthyg swm o arian sy’n unol â gwerth nwyddau sy’n cael eu gadael ganddo (gwystlo). Pan ydych yn gadael nwyddau gyda gwystlwr, mae’n rhaid iddo roi derbynneb i chi a elwir yn docyn.

Mae’n rhaid i’r gwystlwr gadw’r nwyddau am o leiaf chwe mis ond gallwch eu cael yn ôl unrhyw bryd drwy dalu’r benthyciad a’r llog. Gallwch ymestyn y cyfnod drwy dalu’r llog yn unig a gwystlo’r nwyddau unwaith eto.

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn ad-dalu’r benthyciad

Os nad ydych yn ad-dalu’r benthyciad neu’n ymestyn y credyd, gall y gwystlwr werthu eich nwyddau a defnyddio’r arian i dalu’r ddyled.

Beth sy’n digwydd os ydych yn colli’r tocyn

Os ydych yn benthyg £75 neu lai, gall y gwystlwr roi ffurflen safonol i chi lenwi i ddweud eich bod wedi colli’r tocyn ond mai chi sy’n berchen ar y nwyddau. Mae’n bosib na fydd y gwystlwr yn cytuno i wneud hyn os nad ydynt yn credu mai chi sy’n berchen ar y nwyddau.

Yn Lloegr a Chymru, os ydych wedi benthyg dros £75 neu os fenthycioch lai na hyn ond nid yw’r gwystlwr yn derbyn y ffurflen safonol, bydd angen i chi fynd at yr ynadon neu gomisiynwr i dyngu llw mai eich eiddo chi yw’r nwyddau. Mae yna ffi am hyn. Mae’n rhaid i chi naill ai gasglu’r nwyddau neu drefnu cytundeb chwe mis newydd.

Yn Lloegr a Chymru, gallwch gysylltu ag ynadon yn eich llys ynadon lleol. Mae’n syniad da i ffonio’r llys yn gyntaf a gwneud trefniant, gan fod yna amser penodol pan fod ynadon yn gwneud y math hwn o waith. I chwilio am eich llys ynadon lleol, cliciwch ar wefan Gwasanaeth Llys EM.

Yn Yr Alban dylech ofyn i gyfreithiwr am gyngor ond mae’n debyg y bydd ffi am hyn. Gallwch ofyn i Ynad Heddwch os ydych yn adnabod un yn bersonol ac mae’n bosib y byddant yn fodlon eich gwarantu heb godi tâl arnoch. Cewch hyd i fwy o wybodaeth am Ynadon Heddwch yn www.jpscotland.gov.uk.

Gall cyfreithwyr a phobl eraill sydd â chymwysterau yn y gyfraith, megis gweithredwyr cyfreithiol, weithredu fel Comisiynydd Llwon.

Am fwy o wybodaeth am sut i ddod o hyd i gyfreithiwr, gweler Defnyddio cyfreithiwr.

Beth sy’n digwydd os nad ydych yn casglu’r nwyddau

Os nad ydych yn casglu’r nwyddau o fewn chwe mis ac os ydych wedi benthyg £75 neu lai, bydd y nwyddau yn eiddo i’r gwystlwr.

Os ydych wedi benthyg mwy na £75, gall y gwystlwr werthu’r nwyddau ar ddiwedd y cyfnod cytunedig. Fodd bynnag, os oedd y benthyciad yn fwy na £100, mae’n rhaid i’r gwystlwr roi rhybudd i chi o hyn er mwyn rhoi cyfle i chi gasglu’r nwyddau.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.

Mae’n bosib y bydd y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim.Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 18 Rhagfyr 2020