Delio ag ôl-ddyledion treth incwm

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Ffoniwch linell gymorth treth incwm Cyllid a Thollau EF ar unwaith:

  • os ydych chi’n agosáu at y terfyn amser ar gyfer talu, sef 31 Ionawr, ac yn gwybod na allwch chi dalu eich treth

  • os ydych chi eisoes wedi methu’r terfyn amser

  • os ydych chi’n meddwl bod eich datganiad yn anghywir

Llinell gymorth treth incwm

Rhif ffôn: 0300 200 3300

Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 8pm

Dydd Sadwrn, rhwng 8am a 4pm

Mae galwadau’n costio 12c y funud o linell dir, a rhwng 3c a 45c o ffôn symudol

Mae llinellau ffôn Cyllid a Thollau EF yn brysur yn aml. Yr amser gorau i ffonio yw rhwng 8am ac 11am ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener - ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros mewn ciw.

Gofynnwch am gael siarad am ‘gytundeb amser i dalu’. Bydd cytundeb yn rhoi un ai mwy o amser i chi dalu, neu amserlen i dalu eich treth mewn rhandaliadau.

Fel arfer, mae’n haws cael cytundeb cyn y terfyn amser yn hytrach nag ar ôl i chi ei fethu. Efallai y byddwch chi’n dal i allu cael un ar ôl y terfyn amser, felly mae bob amser yn werth ffonio Cyllid a Thollau EF.

Bydd llog yn cael ei godi arnoch chi am ba hyd bynnag y bydd yn ei gymryd i chi dalu eich dyled treth incwm. Mae hyn yn dechrau o’r diwrnod cyntaf y bydd y taliad yn hwyr.

Gallwch chi weld y gyfradd treth incwm gyfredol ar GOV.UK.

Cosbau am beidio â thalu

Os na fyddwch chi’n siarad â Chyllid a Thollau EF i drefnu amser i dalu'r cytundeb, byddant yn codi cosb.

Byddwch chi’n cael cosb pan fydd eich taliad 30 diwrnod yn hwyr, ar 3 Mawrth - oni bai ei bod yn flwyddyn naid, pan godir tâl arnoch chi ar 2 Mawrth. Byddwch chi hefyd yn cael cosb arall pan fydd y taliad 6 a 12 mis yn hwyr.

Y gosb yw 5% o'r swm gwreiddiol sy'n ddyledus gennych chi i Gyllid a Thollau EF - ynghyd â llog os nad ydych chi’n talu ar unwaith. 

Os ydych chi’n hunangyflogedig ac wedi llenwi ffurflen dreth Hunanasesu i gyfrifo eich treth incwm ewch i weld faint fydd eich cosb ar GOV.UK.

Gwybodaeth y mae angen i chi ei rhoi i Gyllid a Thollau EF

Pan fyddwch chi’n ffonio Cyllid a Thollau EF am gytundeb amser i dalu, dylech chi fod yn barod i esbonio'n fanwl pam na allwch chi dalu.

Gofynnir cwestiynau personol i chi am eich gwariant a’ch cyllid. Bydd y rhain yn cynnwys faint rydych chi’n ei ennill a faint yw biliau eich cartref.

Gallwch chi ddefnyddio adnodd cyllidebu i gyfrifo hyn.  

Efallai hefyd y byddan nhw’n gofyn i chi:

  • faint mae aelodau eraill o'r teulu yn ei ennill

  • faint rydych chi'n ei wario ar ddillad neu wyliau

  • pa gynilion neu asedau eraill sydd gennych chi

Peidiwch â dyfalu os nad ydych chi’n gwybod yr ateb – gofynnwch a allwch chi ffonio’n ôl gyda’r manylion sydd eu hangen arnynt.

Dywedwch wrth Gyllid a Thollau EF os oes unrhyw amgylchiadau arbennig, er enghraifft os ydych chi wedi cael salwch difrifol neu fod un o'ch cwsmeriaid wedi mynd yn ansolfent ac nad oedd wedi eich talu.

Os bydd Cyllid a Thollau EF yn cytuno bod y rhain yn bethau nad ydych chi wedi gallu cynllunio ar eu cyfer, efallai y byddant yn fwy tebygol o roi amser i chi dalu. Gallent hyd yn oed ohirio dechrau’r cytundeb amser i dalu.

Mae'n syniad da cadw cofnod o ddyddiadau ac amseroedd unrhyw alwadau y byddwch chi’n eu gwneud i Gyllid a Thollau EF. Ceisiwch ysgrifennu enw’r person rydych chi’n siarad ag ef/hi hefyd.

Beth i'w gynnig i Gyllid a Thollau EF

Os gallwch chi, cynigiwch gyfandaliad y gallwch fforddio ei dalu ar unwaith. Rydych chi’n fwy tebygol o gael amser i dalu’r gweddill.

Dylech chi siarad â chynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gyntaf os bydd eich dyled yn dal yn fwy na £5,000 ar ôl talu cyfandaliad.

Bydd llog yn dal i gael ei godi arnoch chi tra byddwch chi ar gytundeb amser i dalu.

Gofynnwch i Gyllid a Thollau EF gadarnhau eich cytundeb yn ysgrifenedig, er mwyn i chi wybod faint y byddwch yn ei dalu i gyd.

Os bydd eich amgylchiadau'n newid a'ch bod chi’n meddwl na allwch chi dalu'r swm y cytunwyd arno, bydd angen i chi gysylltu â Chyllid a Thollau EF cyn i chi fethu'r rhandaliad. Os byddwch chi’n aros tan ar ôl i chi fethu'r rhandaliad, bydd Cyllid a Thollau EF yn canslo'ch cytundeb ac yn hawlio'r taliad yn llawn.

Os gwrthodir cytundeb i chi

Nid yw cytundebau amser i dalu yn cael eu rhoi i bawb - bydd Cyllid a Thollau EF yn ystyried eich amgylchiadau unigol chi.

Gofynnwch am gael eich cyfeirio at rywun uwch a gofynnwch am ymateb llawn yn ysgrifenedig. Os cewch chi eich gwrthod a’ch bod yn credu na chafodd eich achos ei ystyried yn briodol, dilynwch y camau ar GOV.UK i gwyno.

Os ydych chi'n meddwl bod y swm a godwyd arnoch chi’n anghywir

Os ydych chi'n meddwl bod eich datganiad yn anghywir, dylech chi ffonio llinell gymorth treth incwm Cyllid a Thollau EF a gofyn iddynt ei esbonio.

Llinell gymorth treth incwm

Rhif ffôn: 0300 200 3300

Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm

Ar gau ar benwythnosau a gwyliau banc

Mae galwadau’n costio 16c y funud o linell dir, a rhwng 3c a 65c o ffôn symudol

Mae llinellau ffôn Cyllid a Thollau EF yn brysur yn aml. Yr amser gorau i ffonio yw rhwng 8am ac 11am ar ddydd Mercher, dydd Iau a dydd Gwener - ond efallai y bydd yn rhaid i chi aros mewn ciw.

Mae llawer o resymau pam y gallai'r dreth y gofynnir i chi ei thalu fod yn anghywir. Gallai fod oherwydd:

  • eich bod chi wedi gwneud camgymeriad ar eich ffurflen dreth

  • eich bod chi wedi rhoi'r gorau i fod yn hunangyflogedig, ond heb ddweud wrth Gyllid a Thollau EF

  • eich bod chi wedi methu â ffeilio ffurflen dreth, felly mae eich treth incwm wedi'i hamcangyfrif - mae Cyllid a Thollau EF yn galw hyn yn 'benderfyniad'

  • nid ydynt wedi ystyried taliad blaenorol gennych chi

  • mae eich elw chi wedi gostwng, felly mae unrhyw daliadau ar gyfrif sydd wedi'u cynnwys yn eich bil yn rhy uchel

Cysylltwch â'r elusen TaxAid os ydych chi'n ennill llai nag £20,000 y flwyddyn ac yn methu â datrys eich problem gyda Chyllid a Thollau EF. Mae’r cymorth ar eu gwefan ar gael i bawb, faint bynnag rydych chi’n ei ennill.

Llinell gymorth TaxAid

Rhif ffôn: 0345 120 3779

Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 5pm

Mae galwadau’n costio 16c y funud o linell dir, a hyd at 65c o ffôn symudol

Os gwnaethoch chi gamgymeriad

Os yw'r swm yn anghywir oherwydd eich bod chi wedi gwneud camgymeriad, fel arfer nid yw'n ddigon i ddweud wrth Gyllid a Thollau EF am hyn dros y ffôn. Bydd angen i chi gywiro’r camgymeriad gan ddefnyddio’r ffurflenni priodol neu drwy gywiro eich ffurflen dreth ar-lein. Bydd Cyllid a Thollau EF yn dweud wrthych chi pa un i'w defnyddio.

Os gwnaeth CThEF gamgymeriad

Efallai y gallwch chi apelio yn erbyn penderfyniad treth incwm os yw'n ymddangos bod Cyllid a Thollau EF wedi gwneud camgymeriad. Mae’n wel siarad â chynghorwr yn eich canolfan Cyngor ar Bopeth leol yn gwneud hyn, neu siarad â chyfrifydd.

Gallwch chi ohirio talu tra bydd yr apêl yn mynd yn ei blaen, ond codir llog arnoch chi

Camau eraill y gall Cyllid a Thollau EF eu cymryd

Gall Cyllid a Thollau EF gymryd camau gorfodi pellach os nad ydych chi wedi talu eich treth incwm ac os nad ydych chi wedi cytuno â nhw i'w thalu.

Mae'n anghyffredin cael eich erlyn neu eich anfon i garchar am efadu treth, ond gall Cyllid a Thollau EF wneud y canlynol: 

  • cymryd eich eiddo, gan gynnwys cerbydau, i'w werthu mewn arwerthiant (gelwir hyn yn 'atafaelu')

  • tynnu arian yn uniongyrchol o'ch cyfrif banc, os yw eich dyled yn £1,000 neu fwy

  • cymryd camau cyfreithiol

  • eich gwneud yn fethdalwr, neu gau eich busnes

Nid yw Cyllid a Thollau EF yn gwneud y pethau hyn mewn trefn - maen nhw’n cymryd y camau sy’n fwyaf tebygol o weithio yn eu barn nhw, ar sail maint eich dyled chi.

Os ydych chi'n cael trafferth talu eich treth incwm a bod angen rhagor o gymorth arnoch chi, gallwch chi siarad â chynghorwr Cyngor ar Bopeth, neu gysylltu â TaxAid.

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.