Neidio i’r llywio Neidio i’r cynnwys Neidio i’r troedyn

Morgeisi a benthyciadau wedi’u gwarantu

Mae’r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru

Ynglŷn â morgeisi a benthyciadau wedi’u gwarantu

Mae’r dudalen hon yn esbonio’r hyn yw morgais a’r mathau eraill o fenthyciadau wedi’u gwarantu. Mae’n esbonio’r hyn mae broceri credyd yn eu gwneud a faint o dâl allant godi am eu gwasanaethau.

Morgeisi

Morgais yw benthyciad a gewch gan eich banc neu gymdeithas adeiladu i brynu tŷ neu eiddo arall. Mae’r morgais fel arfer am gyfnod hir, fel arfer hyd at 25 blynedd, ac rydych yn ei ad-dalu mewn rhandaliadau misol. Pan ydych yn llofnodi’r cytundeb morgeisi, rydych yn cytuno rhoi’r eiddo fel diogelwch. Mae hyn yn golygu os nad ydych yn talu’r rhandaliadau, mae’r hawl gan y benthyciwr i gymryd yr eiddo wrthoch chi a’i werthu. Fodd bynnag, ni all wneud hyn heb fynd i’r llys yn gyntaf.

Am fwy o wybodaeth am yr hyn i’w wneud os ydych yn mynd i drafferthion wrth dalu eich morgais, gweler Problemau gyda’ch morgais.

Os ydych yn ei chael hi’n anodd talu eich morgais, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd arbenigol, er enghraifft mewn Canolfan Cyngor ar Bopeth. I chwilio am fanylion eich CAB agosaf, gan gynnwys y rheiny sy’n rhoi cyngor drwy e-bost, cliciwch ar CAB agosaf.

Mathau o forgeisi

Mae yna ddau fath o forgais:

  • morgais ad-dalu, lle mae eich ad-daliad rheolaidd yn cael ei ddidynnu o swm y benthyciad (y cyfalaf) a’r llog felly mae’r benthyciad cyfan yn cael ei dalu erbyn diwedd cyfnod y morgais
  • morgais llog yn unig, lle mae eich ad-daliad rheolaidd yn cael ei ddidynnu o’r llog yn unig. Ar ddiwedd y morgais, rydych yn ad-dalu’r cyfalaf mewn cyfandaliad gan ddefnyddio eich cynilion neu’r polisi yswiriant a gawsoch gyda’r morgais. Er enghraifft, cynllun gwaddol neu bensiwn.

Mae cost y morgais yn dibynnu ar raddfa’r llog. Mae yna lawer o wahanol fathau o gyfraddau llog megis graddfa sefydlog neu newidiol. Mae’n werth cymryd amser i gymharu’r mathau a phenderfynu ar ba un sy’n ateb eich anghenion chi. Defnyddiwch y cyfleuster cymharu morgeisi ar wefan Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn www.moneyadviceservice.org.uk.

Benthyciadau wedi’u gwarantu

Gallwch gael benthyciadau ychwanegol sydd wedi’u gwarantu ar eich cartref ar gyfer pethau megis gwelliannau i’ch cartref. Gellir galw hyn yn ail forgais, ail gost neu gost ychwanegol. Maen nhw i gyd yn golygu’r un peth.

Mae pob benthyciad wedi’i warantu yn rhoi hawliau tebyg i’r benthyciwr. Mae ganddo’r hawl i adfeddiannu eich cartref os nad ydych yn ad-dalu. Os yw cartref yn cael ei adfeddiannu, bydd yr arian o’r gwerthiant yn cael ei rannu ymhlith y benthycwyr yn ôl y drefn a roddwyd y benthyciadau.

Os ydych yn cael benthyciad wedi’i warantu, fel arfer bydd angen i chi dalu ffioedd cyfreithiol, gweinyddol, prisio ac eraill felly chwiliwch am y cynllun gorau cyn penderfynu.

Am fwy o wybodaeth am gymharu cynlluniau, gweler Cael y ddêl orau ar gredyd.

Morgeisi Islamaidd (Cynlluniau prynu cartref)

O ran morgais Islamaidd, a elwir hefyd yn gynllun prynu cartref, nid ydych yn talu llog. Yn hytrach, mae’r benthyciwr yn codi tâl arnoch am fenthyg yr arian i brynu eich eiddo. Gallai dderbyn y tâl hwn mewn sawl ffordd, er enghraifft, drwy godi rhent arnoch. Mae mwy o wybodaeth ynghylch morgeisi Islamaidd ar gael ar wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn www.moneyadviceservice.org.uk.

Cynlluniau rhyddhau ecwiti

Mae rhyddhau ecwiti yn ffordd o godi arian o werth eich cartref heb eich gorfodi i symud allan. Caiff y benthyciad ei ad-dalu’n hwyrach, fel arfer ar ôl i chi farw neu symud yn barhaol i gartref gofal. Caiff y morgais a’r llog ei ad-dalu pan gaiff yr eiddo ei werthu. Mewn cynlluniau eraill, rydych yn gwerthu eich cartref i gyd neu ran ohono i’r benthyciwr sy’n eich caniatáu i fyw fel tenant yn yr eiddo.

Mae’r cynllun rhyddhau ecwiti yn talu cyfandaliad neu incwm rheolaidd i chi. Pan nad oes ei angen arnoch, caiff yr eiddo ei werthu ac mae’r cwmni yn derbyn ei gyfranddaliad o’r elw.

Caiff cynlluniau rhyddhau ecwiti eu hanelu at bobl hŷn neu bobl sydd wedi ymddeol sy’n berchen ar eu cartrefi ac sydd wedi talu eu morgeisi yn llawn.

Os ydych yn meddwl am godi arian trwy gynllun rhyddhau ecwiti, mynnwch gyngor gan ymgynghorydd ariannol annibynnol yn gyntaf. Sicrhewch fod eich ymgynghorydd ariannol yn cael ei reoli gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (FSA). Gallwch wirio hyn ar wefan yr FSA yn www.fsa.gov.uk yn www.fsa.gov.uk.

Am fwy o wybodaeth am gynlluniau rhyddhau ecwiti, ewch at wefan y Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn: www.moneyadvieservice.org.uk.

Am fwy o wybodaeth am ble i ddod o hyd i ymgynghorydd ariannol annibynnol, gweler Sut i gynyddu eich incwm.

Broceri credyd

Brocer credyd yw rhywun sy’n trefnu benthyciadau ac sy’n codi tâl arnoch am y gwasanaeth hwn. Os ydych yn defnyddio brocer i drefnu morgais ac os yw’r brocer yn cael ei reoli gan Awdurdod y Gwasanaethau Ariannol (FSA), nid oes terfyn ar faint allant godi am eu gwasanaethau.

I wybod oes yw brocer wedi cael ei awdurdodi neu beidio, gallwch wirio’r gofrestr ar wefan yr FSA yn www.fsa.gov.uk.

Cymorth a gwybodaeth ychwanegol

Yn Adviceguide

Am fwy o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd o fenthyg arian a chael credyd, gweler Mathau o fenthyciadau.

Mae’n bosib y bydd y wybodaeth ganlynol yn Adviceguide yn gynorthwyol:

Y Gwasanaeth Cyngor Am Arian

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Am Arian yn wasanaeth annibynnol, rhad ac am ddim. Ar ei wefan (www.moneyadviceservice.org.uk) mae yna lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch benthyg arian a rheoli eich arian.

Rhowch glic ar y wefan am fwy o wybodaeth ynghylch:

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?
Pam nad oedd y cyngor yn fuddiol?

Dywedwch fwy wrthym am pam nad oedd ein cyngor yn helpu.

A oedd y cyngor hwn yn fuddiol?

Diolch i chi, cyflwynwyd eich adborth.