Anfon eich ffurflen hawlio PIP

Mae'r cyngor hwn yn berthnasol i Cymru. Gweler cyngor ar gyfer Gweler cyngor ar gyfer Lloegr, Gweler cyngor ar gyfer Gogledd Iwerddon, Gweler cyngor ar gyfer Yr Alban

Mae’r ffurflen hawlio PIP yn rhan bwysig iawn o’ch cais oherwydd dyma’r cyfle chi i ddangos pam mae’ch salwch, cyflwr iechyd neu anabledd yn golygu y dylech chi gael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP).

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon y ffurflen hawlio atoch. Byddant yn ei hanfon atoch drwy’r post ar ôl i chi eu ffonio i ddechrau hawlio.

Mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu hanfon atoch – allwch chi ddim ei chael ar-lein na chael un o ganolfan gyngor. Os oes gennych chi salwch angheuol, ni fydd ffurflen hawlio’n cael ei hanfon atoch oherwydd mae’r broses hawlio'n wahanol os oes gennych chi salwch angheuol.

Cyn i chi lenwi’ch ffurflen

Cyn i chi lenwi’ch ffurflen hawlio, darllenwch ein canllaw ar sut i lenwi'r ffurflen yn gywir. Mae’n egluro beth mae pob cwestiwn yn ei olygu, mae’n cynnwys cyngor ac enghreifftiau o atebion ac mae’n dweud wrthych chi beth i’w ysgrifennu yn eich atebion.

Mae’n syniad da cael rhywun i fwrw golwg ar eich ffurflen hawlio cyn i chi ei hanfon hefyd.

Cadwch gopi o’ch ffurflen

Mae’n syniad da cadw copi o’ch ffurflen ar ôl i chi ei llenwi. Yna gallwch fynd â hi gyda chi i’ch asesiad a’i defnyddio i wneud yn siŵr nad ydych chi’n anghofio sôn am rywbeth yn eich asesiad.

Os nad oes gennych chi beiriant copïo neu sganio, dylai’ch Cyngor ar Bopeth neu lyfrgell gyhoeddus allu eich helpu, ond mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu tâl bach.

Anfonwch eich ffurflen PIP yn ôl o fewn 1 mis

Rhaid i chi anfon y ffurflen yn ôl o fewn 1 mis i’r dyddiad ar y llythyr. Bydd y dyddiad cau ar y llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n dod gyda’r ffurflen hawlio.

Os byddwch chi’n colli’r dyddiad cau, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn tybio nad ydych chi am wneud cais am PIP mwyaf. Bydd eich cais yn dod i ben.

Bydd angen i chi ddod o hyd i’r cyfeiriad i anfon eich ffurflen iddo. Dylai fod ar dudalen gefn y ffurflen neu ar yr amlen ddaeth gyda’r ffurflen. Os na allwch ddod o hyd iddo, hwyrach y bydd angen i chi ffonio’r rhif ffôn ar y llythyr ddaeth gyda’r ffurflen.

Werth gwybod

Peidiwch ag oedi cyn anfon eich ffurflen hawlio os ydych chi’n aros i’r Adran Gwaith a Phensiynau gymeradwyo estyniad neu’n aros am ddogfennau ategol (fel llythyr ysbyty neu feddyg). Dylech anfon y ffurflen fel ei bod ar amser a chynnwys llythyr yn dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau eich bod chi’n aros am ei hymateb i’ch cais am estyniad neu fod mwy o wybodaeth ar ei ffordd.

I’ch helpu, defnyddiwch y llythyr templed hwn i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau y bydd mwy o wybodaeth yn dilyn i gefnogi’ch cais.

Os ydych chi angen mwy o amser

Ffoniwch yr Adran Gwaith a Phensiynau ac esboniwch pam mae angen mwy o amser arnoch. Rhaid i chi fod yno i ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau os oes rhywun arall yn mynd i siarad ar eich rhan.

Ffôn: 0800 121 44333

Ffôn testun: 0800 121 4493

Llun i Gwener, 8am tan 6pm.

Eglurwch pam na allwch chi ddychwelyd y ffurflen ar amser a pham ei bod hi’n rhesymol i chi gael rhagor o amser.

Os oes gennych chi reswm da dros ddychwelyd y ffurflen yn hwyr, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau gytuno ar ddyddiad cau newydd dros y ffôn.

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau’n cytuno i roi mwy o amser (‘estyniad’) i chi, dylech ysgrifennu atynt serch hynny a chadarnhau eu bod wedi dweud hyn wrthych. Anfonwch gopi o unrhyw dystiolaeth – fel llythyr yn dangos eich bod chi’n mynd i’r ysbyty i gael llawdriniaeth.

I’ch helpu, defnyddiwch y llythyr templed hwn i gadarnhau i'r Adran Gwaith a Phensiynau bod gennych chi estyniad 107 KB .

Mae’n syniad da anfon copi arall o’r llythyr hwn a’ch tystiolaeth gyda’ch ffurflen hawlio PIP.

Os na allwch chi gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau o flaen llaw

Anfonwch eich ffurflen yn hwyr gyda llythyr yn egluro pam na lwyddoch chi i:

  • ddychwelyd y ffurflen ar amser

  • dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gynt

Anfonwch gopi o unrhyw brawf – er enghraifft, llythyr meddyg yn dangos eich bod chi yn yr ysbyty y mis hwnnw.

Gallwch ysgrifennu i’r cyfeiriad cyswllt ar eich llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Os yw’r Adran Gwaith a Phensiynau’n gwrthod derbyn eich ffurflen hwyr

Bydd rhaid i chi ddechrau’ch cais am PIP unwaith eto.

Gallwch herio penderfyniad yr Adran Gwaith a Phensiynau o fewn 1 mis – ‘ailystyriaeth orfodol’ yw’r enw ar hyn. Er hynny, dylech ddechrau cais newydd rhag ofn i’ch ailystyriaeth orfodol fethu.

Camau nesaf

Paratoi ar gyfer eich asesiad PIP

Help us improve our website

Take 3 minutes to tell us if you found what you needed on our website. Your feedback will help us give millions of people the information they need.

Adolygwyd y dudalen ar 17 Chwefror 2022